Heledd Fychan: Ar ôl degawd o lymder, mae ysgolion wedi gwneud yr holl arbedion y gallant eu gwneud, ac mae prif athrawon yn rhybuddio y bydd yr unig bethau sydd ar ôl i'w torri yn cael effaith uniongyrchol a sylweddol ar blant a phobl ifanc. Mae arolwg newydd NAHT Cymru yn dangos bod y mwyafrif o ysgolion yn dweud y bydd yn rhaid iddynt ddiswyddo athrawon neu ddod â chytundebau i ben oherwydd argyfwng...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. Gwn i chi ymweld yn ddiweddar ag Ysgol Uwchradd Llanishen, lle codwyd gyda chi cost trafnidiaeth fel un o'r rhwystrau sy'n effeithio ar bresenoldeb dysgwyr yn yr ysgol. Mae hon yn broblem barhaus sydd wedi ei chodi gyda mi, ac yn rhywbeth rydych wedi dweud yn flaenorol eich bod yn cydweithio efo'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd arno. Serch hynny, deallaf gan y dysgwyr mai...
Heledd Fychan: 1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dysgwyr yng Nghanol De Cymru y mae eu mynediad at addysg wedi ei effeithio gan yr argyfwng costau byw? OQ58751
Heledd Fychan: Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw costau trafnidiaeth yn effeithio ar bresenoldeb dysgwyr yn yr ysgol?
Heledd Fychan: Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Dyna un safbwynt sydd yn hollol groes i'r hyn rydyn ni yn teimlo fel plaid, ac mi fyddwn ni hefyd yn gwrthwynebu heddiw. Weinidog, fel y gwyddoch eisoes, mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu’r defnydd o gynigion cydsyniad deddfwriaethol fel mater o egwyddor. Credwn y dylai penderfyniadau ar faterion datganoledig o hyd gael eu trafod, eu craffu a’u cymeradwyo gan...
Heledd Fychan: Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gyda'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Iechyd ar newidiadau i wasanaeth ambiwlans Cymru a beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol ar gyfer cleifion. Dros y penwythnos, cysylltodd nifer o etholwyr â fi yn pryderu am y newidiadau sydd bellach yn cael eu gweithredu i wasanaeth ambiwlans Cymru, a dim cerbydau ymateb cyflym nawr yn...
Heledd Fychan: A gaf fi ddiolch i Vikki Howells am gyflwyno'r cwestiwn hwn? Yn amlwg, rydym yn rhannu'r un rhanbarth, ac rwyf innau hefyd wedi cael nifer o etholwyr yn codi'r pryderon yma. Hoffwn gysylltu fy hun â'i holl sylwadau a chwestiynau, ac yn sicr, mae'n amser gofidus iawn gan ei fod yn fusnes mor werthfawr, fel rydych wedi dweud, Vikki. Ar bwynt ychydig yn wahanol, bydd colli'r ffatri hon hefyd yn...
Heledd Fychan: Diolch, Dirprwy Weinidog. Mae hynny'n galonogol iawn. Mae'r argyfwng chwyddiant presennol hwn nid yn unig yn effeithio ar unigolion a chartrefi ar ffurf yr argyfwng costau byw, ond hefyd wrth gwrs ar lawer o fusnesau, yn enwedig y rhai yn y sector diwylliant, sy'n wynebu argyfwng costau busnes. Er enghraifft, rhybuddiodd Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, fod yr ŵyl...
Heledd Fychan: Diolch, Llywydd. Ar 8 Medi eleni, dewiswyd 2,000 o artistiaid a gweithwyr celfyddydol ar gyfer cynllun peilot incwm sylfaenol i'r celfyddydau yn Iwerddon. Bydd pob artist neu weithiwr yn derbyn €325 yr wythnos am dair blynedd fel rhan o brosiect ymchwil fydd yn casglu data gan gyfranogwyr i asesu effaith y cynllun ar eu hallbwn creadigol a'u lles, gyda'r nod o'i gyflwyno i bob artist fel...
Heledd Fychan: Diolch i'r Gweinidog am y cyfle i fod yn trafod yr adroddiad pwysig yma heddiw. Hoffwn gysylltu fy hun â sylwadau'r Gweinidog a Sam Kurtz o ran Aled Roberts. Yn sicr, dwi'n siŵr y bydd pob Aelod yma'n cytuno â mi fod ei waith wedi cael ei barchu a'i edmygu'n fawr ar draws y Senedd. Mae'r cynnydd a amlinellir yn yr adroddiad hwn yn dyst i'w eiriolaeth ragorol dros y Gymraeg, ac mae'n bwysig...
Heledd Fychan: Nid wyf, mewn unrhyw ffordd, am dynnu sylw oddi ar y cyfleoedd sy’n cael eu cyflwyno gan Gymru yn ennill eu lle yng Nghwpan y Byd; mae'n arddangosfa wych—dyma'r arddangosfa fwyaf rydyn ni erioed wedi'i chael, ac rwy'n credu ei bod hi’n iawn ein bod ni’n buddsoddi yn hyn. Fodd bynnag, rwyf am roi ar gof a chadw nad ydw i’n credu y dylai cwpan y byd fod yn digwydd yn Qatar. Rydw i'n...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw.
Heledd Fychan: Cafodd gofal plant am ddim cyffredinol ei gydnabod fel y cyfartalwr mwyaf gan Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Er bod ehangu mynediad at ofal plant rhad ac am ddim o fudd uniongyrchol i blant yn eu blynyddoedd ffurfiannol nhw, mae hefyd—fel gwnaethoch chi ei gydnabod—fuddion ehangach iddo wrth fynd i'r afael â thlodi. Fel y gwyddom ni, mae'n tynnu rhai o'r...
Heledd Fychan: Diolch, Dirprwy Weinidog. Mae gofal plant yn elfen bwysig o’r cytundeb cydweithio, a dwi’n falch iawn o groesawu’r datganiad heddiw. Mae’r ffeithiau rydych chi wedi cyfeirio atynt yn dangos pam bod hyn mor bwysig, a’r effaith y mae ehangu yn ei chael yn barod. Dwi’n gwybod am waith achos, cyn hyn, am bobl a fyddai wedi elwa’n fawr ar yr hyn rydych chi wedi bod yn ei rannu gyda...
Heledd Fychan: Diolch, Prif Weinidog. Cysylltodd rhiant sengl â mi yr wythnos diwethaf, mae ganddi blant oed ysgol gynradd sydd â diabetes, awtistiaeth ac ADHD. Mae'r fam yn gweithio fel cynorthwyydd ysgol, ac mae hi wedi cael rhybudd troi allan, sydd wedi dod i ben, gan fod y landlord yn gwerthu'r tŷ. Dywedodd y cyngor lleol wrthi am chwilio am lety rhent preifat, ond y rhataf y gall ddod o hyd iddo yw...
Heledd Fychan: 2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru i sicrhau cartref i bawb sydd angen un yn sgil yr argyfwng costau byw? OQ58722
Heledd Fychan: Felly fy apêl i'r Gweinidog heddiw yw: parhewch â'r gwaith gwych rydych eisoes yn ei wneud, ond ewch y cam pellach hwnnw hefyd drwy osod mewn cyfraith yr hawl i gynnyrch mislif am ddim, ble bynnag rydych chi yng Nghymru. Mae cynlluniau gweithredu'n wych ond gallant golli momentwm wrth gystadlu â blaenoriaethau eraill. Dyma'r unig ffordd i wireddu'n llawn ein huchelgais gyffredin i sicrhau...
Heledd Fychan: Efallai bydd rhai ohonoch yn meddwl pam fod angen deddfu ar y mater hwn, pan fod gennym gynllun gweithredu cadarnhaol ar waith yn barod. Wel, fel y gwyddom ni oll, yn y Senedd hon, mae deddfu yn gwneud gwahaniaeth, ac yn gyrru neges gref sydd yn gallu cael effaith mwy pellgyrrhaeddol ar arferion a disgwyliadau diwylliannol. Mae yna enghreifftiau lu ble arweiniodd newid ddeddfwriaethol at...
Heledd Fychan: Mae gennyf gywilydd i gyfaddef nad oedd tlodi mislif yn rhywbeth roeddwn i wedi bod yn ymwybodol iawn ohono cyn dod yn gynghorydd yn 2017. Roedd yn fater a godwyd gan fy nghyd-gynghorydd Plaid Cymru ar gyngor Rhondda Cynon Taf, Elyn Stephens, pan ofynnodd i ni fel grŵp gefnogi hysbysiad o gynnig roedd hi am ei gyflwyno, yn annog y cyngor i edrych ar ddarparu cynnyrch mislif am ddim ym mhob...
Heledd Fychan: Diolch yn fawr iawn i chi, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r rhai ohonoch a fydd yn aros ar gyfer y ddadl heddiw. Hoffwn gadarnhau fy mod wedi rhoddi munud o fy amser i—