Peter Fox: Yn amlwg, roeddem yn disgwyl i'r rhethreg wleidyddol lifo heddiw. [Torri ar draws.] Mae Aelod Blaenau Gwent, o dan hynna i gyd, rwy'n siŵr yn bryderus iawn am wasanaethau cyhoeddus ym Mlaenau Gwent ac ni wnaeth gyfeirio at hynny. Er enghraifft, yr hyn sy'n arbennig o heriol ar hyn o bryd yw'r pwysau yn—[Torri ar draws.]
Peter Fox: Diolch Llywydd. Roeddwn i'n siarad am wasanaethau cyhoeddus lleol. Er enghraifft, mae'n gyfnod arbennig o heriol i lywodraeth leol, fel y gwyddoch chi, gyda'r pwysau cynyddol ar wasanaethau sydd ganddyn nhw, ac mae'r galw i'w deimlo'n arbennig ym maes gofal cymdeithasol, mewn gwasanaethau oedolion a phlant. Yn sir Fynwy, er enghraifft, mae'r angen am ofal sydd heb ei ddiwallu dros 2,000 awr...
Peter Fox: Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n falch eich bod chi'n cydnabod pa mor allweddol yw cludiant yn hyn o beth. Mae'r angen i ail-lunio'r systemau trafnidiaeth ledled Cymru yn bwysig, ac mae hi'n amlwg yn eglur iawn mhob un o'r pedwar fframwaith economaidd rhanbarthol, pan welsom ni gyhoeddi'r rhain yn ddiweddar. Os caf i ganolbwyntio ar gynllun metro de Cymru, mae gan hwnnw'r...
Peter Fox: Trefnydd, a gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf ysgrifenedig am y cynnydd sy'n cael ei wneud i wella'r cyfle i fanteisio ar addasiadau tai i bobl sy'n byw gyda chlefyd motor niwron a chyflyrau dirywiol eraill? A diolch i'r Aelodau a aeth i'r digwyddiad MND yn gynharach heddiw a gwrando ar bobl a oedd yn dioddef a'r pwysau sydd arnyn nhw. Fel y dywedais i eisoes, rwy'n croesawu'r ymgysylltu...
Peter Fox: Diolch, Lywydd. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, mae ein gwlad wedi uno mewn galar am ein diweddar frenhines, y Frenhines Elizabeth II. Roedd y cyfnod hefyd yn hynod drist yn fy etholaeth i ar ôl colli cyn-ddirprwy arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Bob Greenland. A hoffwn dalu teyrnged i'r dyn gwych hwn, un o gewri'r teulu llywodraeth leol. Yn aml, mae pobl fel Bob, sydd wedi...
Peter Fox: Diolch am hynny, Weinidog. Mae hynny'n gysur. Mae'r sector pysgota a genweirio'n rhan bwysig o economi cefn gwlad Cymru. Mae pysgota afon yn unig yn cyfrannu tua £20 miliwn y flwyddyn i'r economi, ac yn cynnal tua 700 o swyddi. Ar ben hynny, mae'r dwristiaeth ychwanegol y mae ein dyfroedd yn ei denu yn darparu budd i ardaloedd lleol. Mae pysgota hefyd yn hobi boblogaidd i nifer o bobl, sy'n...
Peter Fox: Diolch, Weinidog. Rwy’n dal i fod ychydig yn bryderus gan nad ymddengys fod gan Lywodraeth Cymru strategaeth glir ar sut y maent yn mynd i gefnogi busnesau yn benodol i symud ymlaen ar adeg anodd iawn. Gwn eich bod eisoes yn adolygu dyfodol ardrethi annomestig yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weld eich awgrymiadau maes o law, ond gwyddom hefyd, ar hyn o bryd, fod ardrethi'n uwch yma yng...
Peter Fox: Diolch, Weinidog. Credaf mai’r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi’i brofi, drwy ei thrafodaethau a’i gweithredu ar borthladdoedd rhydd gyda Llywodraeth Cymru, yw eu bod yn barod i siarad a gweithio gyda chi. Felly, rwy'n siŵr y gall hynny ddigwydd gyda'r parthau eraill hefyd. Lywydd, rydym wedi clywed llawer am yr argyfwng ynni dros y misoedd diwethaf, ac rwy'n croesawu cynllun rhyddhad...
Peter Fox: Diolch, Lywydd. Weinidog, gwn i bethau fynd braidd yn danbaid yn y Siambr ddoe, felly hoffwn fynd yn ôl i ganolbwyntio ar sut y gallwn helpu economi Cymru a busnesau Cymru i symud ymlaen. Yn eich datganiad ddoe, fe wnaethoch awgrymu nad oeddech yn cefnogi’r syniad o barthau buddsoddi, er fy mod yn derbyn y byddwch yn cael mwy o sgyrsiau gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynglŷn...
Peter Fox: 3. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi datblygiad y sector pysgota? OQ58449
Peter Fox: Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Y gwir amdani yw bod y datganiad ariannol yn cyflawni toriad yn y dreth i 1.2 miliwn a mwy o bobl yng Nghymru, sy'n golygu eu bod nhw'n cadw mwy o'u harian eu hunain—rhywbeth sy'n anodd i Lywodraeth Cymru ei dderbyn—yn ystod y cyfnod anodd hwn. Fe wnaeth hyd yn oed Syr Keir Starmer groesawu diddymu'r cynnydd mewn yswiriant gwladol a'r toriad yng nghyfradd...
Peter Fox: A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad, er nad oedd llawer o'i gynnwys yn syndod heddiw? Rydym ni o'r farn mai'r ffordd orau o gael pobl drwy'r cyfnod anodd hwn, a brwydro yn erbyn chwyddiant, yw drwy ennyn twf economaidd yn ogystal â rhoi cefnogaeth uniongyrchol. Nid am economeg rhaeadru yw hyn, mae'n ymwneud â hybu perfformiad ar ochr gyflenwi ein heconomi ni drwy leihau'r...
Peter Fox: Diolch i'r Aelod dros Orllewin Casnewydd am godi'r mater. Fel y dywedwyd, gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith negyddol, ac mae yn cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd ein cymunedau. Ar y gorau mae'n niwsans, ac ar ei waethaf mae'n fygythiol ac yn drafferthus i bobl ac eiddo. Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod yn broblem arbennig yn ardal cyngor Sir Fynwy yn ddiweddar, ac mae...
Peter Fox: A gaf fi ddiolch i chi, Jenny, am roi cyfle imi ddweud ychydig eiriau? Ac a gaf fi hefyd dalu teyrnged i'ch gwaith ar amryw o faterion cyfiawnder cymdeithasol ers ichi gael eich ethol, ac am eich rôl fel cadeirydd ein gweithgor trawsbleidiol ar brydau ysgol am ddim, gweithgor rwy'n falch iawn o fod yn rhan ohono? Mae prydau ysgol yn rhan ddyddiol o ddeiet llawer o blant wrth gwrs ac felly...
Peter Fox: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw'r Aelod dros Orllewin Clwyd, Darren Millar. Afraid dweud bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn—a dweud y lleiaf—i deuluoedd a chymunedau ledled Cymru a thu hwnt, ac mae'r argyfwng costau byw yn faich enfawr arall sy'n wynebu bron bob teulu a gynrychiolir gennym, ac nid wyf am chwarae gwleidyddiaeth plaid yn...
Peter Fox: Diolch, Weinidog. Gŵyr pob un ohonom yn y Siambr hon fod yr haf hwn wedi bod yn eithriadol o boeth a sych am gyfnod hir o amser; yn wir, mae’n debygol mai mis Mawrth i fis Awst eleni fydd y cyfnod o chwe mis sychaf ond dau ers i gofnodion ddechrau ym 1865. Er gwaethaf cynnydd diweddar mewn glawiad, cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gynharach y mis hwn fod pob rhan o Gymru wedi newid i...
Peter Fox: 6. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella diogelwch dŵr yng Nghymru? OQ58387
Peter Fox: Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Dim ond dau beth. Treth yw hon—nid ardoll mohono—a braint Llafur yw cyflwyno trethi, ac maen nhw'n gwneud hynny'n gyffredinol. Dyna pam rydym ni mor wahanol ar y llwyfan yma, yn sicr yma yng Nghymru. Byddwn i'n gofyn pa werthuso rydych chi eisoes wedi'i wneud o gynlluniau gwario awdurdodau lleol a chyllidebau ynghylch datblygu economaidd a thwristiaeth,...
Peter Fox: Bu i'r newyddion torcalonnus bod ein Brenhines annwyl, Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II wedi marw ysgwyd pobl ein cenedl i'r byw, fel y gwnaeth ar draws y Gymanwlad ac, yn wir, y byd. Ar ran miloedd o bobl ar draws etholaeth Mynwy, rwy'n estyn hefyd gydymdeimlad diffuant i'r Brenin a'r teulu brenhinol ar yr adeg dristaf hon. Roeddem i gyd yn ofni y byddai'r amser trist hwn yn dod...
Peter Fox: Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw fel aelod o’r Pwyllgor Cyllid, a chefnogaf y sylwadau a wnaed gan Gadeirydd ein pwyllgor, ac yn croesawu hefyd ein Haelodau o’r Senedd Ieuenctid yma heddiw. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi wynebu cyfres o heriau enfawr, o'r pandemig i'r pwysau chwyddiant presennol, ac wrth gwrs, yr argyfwng costau byw. Mae'n bwysicach...