James Evans: Fe fyddwch yn falch o glywed bod cadeirydd y grŵp trawsbleidiol wedi mynd â munud o fy araith, felly fe fyddwch yn falch o wybod hynny. Rwy'n falch iawn o gael cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Mae dros 200,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes, gyda dros 0.5 miliwn o bobl mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2. Ar y ffigurau hynny'n unig, dylem i gyd fod â diddordeb brwd yn y...
James Evans: Hoffwn ddiolch i Jayne Bryant am ofyn y cwestiwn hwn. Mae eich ffigurau eich hun yn awgrymu, Weinidog, fod tua 30 y cant o'r gwastraff a gynhyrchir ar ffermydd yn blastig gradd isel, a gall fod yn anodd iawn i ffermwyr gael gwared arno. Yr hyn yr hoffwn ei wybod yw pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sefydlu mentrau cydweithredol a gweithio gyda ffermwyr fel y gallant helpu i...
James Evans: Weinidog, mae polisi economaidd cryf Llywodraeth y DU ers 2010, a chael cynllun economaidd hirdymor, wedi helpu i sicrhau'r setliad gorau y mae Cymru wedi'i gael erioed: gwerth £18 biliwn o gyllid eleni. Ac oherwydd polisïau economaidd cryf Llywodraeth y DU, mae gennym y gronfa ffyniant bro, y gronfa adfywio cymunedol, bargeinion dinesig a thwf, porthladdoedd rhydd, buddsoddiad mewn ynni...
James Evans: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwyf wedi clywed gan lawer o fy etholwyr eu bod yn ei chael hi'n anodd iawn cael yswiriant yn y blynyddoedd dilynol ar ôl llifogydd. Nid yw peth o'r eiddo wedi dioddef llifogydd hyd yn oed, ond daw o fewn ardal y cod post, ac felly caiff ei ystyried yn eiddo lle mae'r risg o lifogydd yn uchel. Mae gan y bobl hyn lawer llai o ddewis o ddarparwyr yswiriant,...
James Evans: Fel y gŵyr pob un ohonom, mae coed yn bwysig iawn ar gyfer mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Ond gyda phenderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru i brynu fferm Gilestone yn fy nghymuned, credaf fy mod newydd eich clywed yn dweud, Weinidog, nad ydych yn plannu ar dir cynhyrchiol. Felly, hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd gennych, ac ar gyfer y gymuned yn fy etholaeth, nad ydych yn...
James Evans: 7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cymunedau sy'n cael eu taro gan lifogydd dro ar ôl tro? OQ58208
James Evans: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i adeiladu mwy o dai?
James Evans: Na, diolch. Fe ddywedwch fod y cyhoedd wedi pleidleisio dros hyn yn eich maniffestos, ond nid oes dim yn eich maniffestos i ddweud y byddwn yn cael 96 yn fwy o Aelodau. Daeth Plaid Cymru yn drydydd yn yr etholiad diwethaf—nid yn gyntaf, nid yn ail, ond yn drydydd—felly nid wyf yn credu bod gan neb ar yr ochr honno i'r Siambr fandad ar gyfer newid. Rydym ni ar y meinciau hyn yn ymddiried...
James Evans: Efallai na fyddwch yn hoffi clywed yr hyn sydd gennyf i'w ddweud, ond rwy'n siŵr y bydd rhai o bobl Cymru yn ei hoffi. Wel, wel, wel. Mae bron i flwyddyn wedi bod ers y diwrnod y sefais yn y Siambr hon a thraddodi araith yn erbyn galwadau Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, bryd hynny, am fwy o bwerau i'r Senedd hon. Nawr, rydym yn ôl yma eto yn trafod cael mwy o wleidyddion....
James Evans: Rwyf i wrth fy modd heddiw am ein bod ni'n cael y cyfle unwaith mewn oes hwn i ddathlu bywyd o wasanaeth a roddir i bobl Prydain Fawr a'r Gymanwlad gan unigolyn anhygoel, rhywun sydd wedi rhoi dyletswydd a gwasanaeth ac ymroddiad uwchlaw pob peth arall. Yr unigolyn hwnnw yw Ei Mawrhydi, y Frenhines Elisabeth II. Am 70 o flynyddoedd, mae'r Frenhines wedi ein gwasanaethu â theilyngdod, a bydd...
James Evans: Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith ariannu mwy o Aelodau o'r Senedd ar wasanaethau cyhoeddus rheng flaen?
James Evans: Diolch, Lywydd, ac fe wnaf aros i Aelodau adael y Siambr iddi gael tawelu ychydig.
James Evans: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n credu bod y ddadl hollbwysig hon heddiw ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn un o'r dadleuon pwysicaf a gawsom yn y Senedd, ac mae'n drueni fod cynifer o Aelodau newydd adael y Siambr a ninnau'n trafod pwnc mor bwysig.
James Evans: Mae gan lawer o bobl yn y Siambr hon brofiad personol o ymdrin â phroblemau iechyd meddwl. Rwyf wedi dioddef problemau iechyd meddwl fy hun yn y gorffennol, a chredaf ei bod yn bwysig iawn fod mwy o bobl yn siarad am broblemau iechyd meddwl, er mwyn inni allu dadstigmateiddio iechyd meddwl a chaniatáu i bobl ofyn am y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Mae'r problemau sy'n wynebu...
James Evans: Diolch am eich datganiad, Weinidog. Dros yr wythnos ddiwethaf, rwyf wedi cael fy llethu gan alwadau ffôn, negeseuon e-bost a sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch penderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru i brynu Fferm Gilestone yn Nhalybont-ar-Wysg. Mae gennyf fi, a llawer o fy etholwyr, gwestiynau dilys iawn ynghylch prynu a gosod y fferm i berchnogion Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Mae ganddynt...
James Evans: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brynu Fferm Gilestone yn Nhalybont-ar-Wysg? TQ622
James Evans: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyngor y mae ysgolion yn ei roi i blant ar y defnydd o gyfryngau cymdeithasol?
James Evans: Diolch, Trefnydd. Mae gan reoliadau ffosffad sydd wedi'u gosod gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn ardaloedd cadwraeth arbennig afonydd broblemau mawr ledled Cymru o hyd, ac rydym ni'n agos iawn at argyfwng mewn llawer o'n diwydiannau, gyda'n proffesiwn adeiladu bron â phallu'n gyfan gwbl mewn rhai rhannau o Gymru. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch...
James Evans: Mae'n braf clywed cynifer o Aelodau yn cytuno â mi, Llywydd. Gyda llawer o wardiau yn fy etholaeth i yn cau oherwydd prinder staff, siawns na fyddai'n well gwario'r £16 miliwn hwnnw i fynd i'r afael â'n problemau gweithlu ac nid rhoi mwy o benolau ar seddi yma?
James Evans: Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Mae llawer o bobl ym mhob rhan o fy etholaeth i wedi cysylltu â mi yn ystod y dyddiau a'r wythnosau diwethaf yn pryderu'n fawr am yr amseroedd aros hir a hirfaith yn yr holl ysbytai cyffredinol dosbarth sy'n gwasanaethu trigolion fy etholaeth i. Hoffai llawer ohonyn nhw weld ysbyty cyffredinol dosbarth yn cael ei adeiladu yn fy etholaeth i,...