Sarah Murphy: Diolch, Weinidog. Yn ystod ymgyrch yr etholiad, cyfarfûm â llawer o bobl sy'n gwerthfawrogi'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r pandemig, ac yn enwedig ymagwedd ragofalus y Prif Weinidog tuag at lacio cyfyngiadau symud, gan eu bod yn ofnus ac yn bryderus iawn ynghylch llacio'r cyfyngiadau symud yn rhy gyflym. Roedd yr ardal rwy'n ei chynrychioli, Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl,...
Sarah Murphy: Diolch, Weinidog. Yn ôl Cyngres yr Undebau Llafur, dywed un o bob pedwar gweithiwr yng Nghymru fod monitro a gwyliadwriaeth yn y gwaith wedi cynyddu ers dechrau argyfwng COVID-19. Mae hyn yn cynnwys olrhain a logio gweithwyr wrth iddynt symud gyda strapen arddwrn, gan gynnwys pan fyddant yn mynd i'r toiled; gorfodi gyrwyr i wneud dŵr mewn poteli gan fod algorithm wedi gosod nifer amhosibl o...
Sarah Murphy: 3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith technoleg arloesol ar y gweithlu? OQ56729
Sarah Murphy: 8. Beth yw asesiad presennol y Gweinidog o ledaeniad amrywiolyn delta ym Mhen-y-bont ar Ogwr? OQ56742
Sarah Murphy: Diolch. Hoffwn enwebu Huw Irranca-Davies, os gwelwch yn dda.
Sarah Murphy: Ar y dechrau, fe wnaf ddatgan buddiant fel aelod balch o undebau llafur Unite, Unsain, Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu ac Undeb GMB. Diolch, Jack, am gyflwyno'r ddadl fer hanfodol hon heddiw, ac ategaf bopeth rydych wedi'i ddweud. Ni allai'r sefyllfa fod yn gliriach: nid oes gan Lywodraeth Dorïaidd y DU unrhyw fwriad i sefyll dros y gweithwyr, felly yn eu habsenoldeb rhaid inni ymladd diswyddo...
Sarah Murphy: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl ifanc sy'n chwilio am gyfleoedd cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant?
Sarah Murphy: Yn fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rwy'n falch iawn ein bod wedi gweld awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i ddiogelu datblygiadau tai a busnesau ym Mhorthcawl rhag effaith newid hinsawdd. Fel rhan o'r rhaglen rheoli risgiau arfordirol, mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi buddsoddi £6.4 miliwn ar y cyd mewn amddiffynfeydd...
Sarah Murphy: Roedd yn—[Anghlywadwy.]—ymweld ag Ysbyty Tywysoges Cymru yn fy etholaeth i, Pen-y-bont ar Ogwr, yr wythnos diwethaf, a chyfarfod â'r staff anhygoel. Maen nhw wedi bod yn aruthrol drwy gydol y pandemig, a gwn fod pawb yn y fan yma heddiw yn eu cydnabod, yn eu gwerthfawrogi ac yn diolch iddyn nhw am eu dewrder, am yr aberthau y maen nhw wedi eu gwneud, ac am eu hymrwymiad cyson i ofal...
Sarah Murphy: Diolch, Llywydd, a llongyfarchiadau i chi a David ar gael eich ethol yn Llywydd a Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, cysylltodd busnesau ledled Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl â mi i ddiolch am y ffordd yr ydych chi a'ch Llywodraeth wedi ymdrin â phandemig y coronafeirws drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig i gydnabod y cymorth ariannol sydd wedi ei roi ar...