Canlyniadau 121–140 o 400 ar gyfer speaker:Gareth Davies

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canser gynaecolegol (28 Med 2022)

Gareth Davies: Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma ar bwnc mor bwysig ym mywydau llawer o fenywod yng Nghymru. Ac er y gall godi aeliau fod dyn yn siarad am iechyd menywod, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i wella bywydau menywod yng Nghymru drwy fynd i'r afael â'r rhwystrau i sgrinio serfigol, ac osgoi marwolaethau diangen oherwydd canser...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (28 Med 2022)

Gareth Davies: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Er bod cyfarwyddyd ar gyfer gwasanaethau bysiau yn sir Ddinbych, mae diffyg arweiniad ar gyfer gwasanaethau tacsi, sydd, fel y gwyddoch, wedi'u trwyddedu gan awdurdodau lleol sy'n darparu fframweithiau rheoleiddio i gwmnïau lynu wrthynt. Cysylltodd gweithredwr tacsi lleol o'r Rhyl â mi i ddweud ei fod yn pryderu am ddiffyg strategaeth gan Lywodraeth Cymru...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (28 Med 2022)

Gareth Davies: 6. Sut y bydd sefydlu cyd-bwyllgorau corfforaethol yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn Sir Ddinbych? OQ58429

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Darpariaeth y Blynyddoedd Cynnar — Ehangu Dechrau’n Deg (27 Med 2022)

Gareth Davies: Diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog, er i chi gyhoeddi eich cynllun i'r cyfryngau 48 awr cyn trafod y cynigion ar lawr y Senedd hon, i le yr ydych chi wedi cael eich ethol. Ond roedd hi'n dda eich gweld chi yn y gogledd ddydd Gwener, felly mae hynny'n beth cadarnhaol. Gan droi at eich cyhoeddiad heddiw, hoffwn i ddechrau ar bwynt technegol, os caf i. Mae gennyf i...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyflogau Staff Gofal Cymdeithasol (27 Med 2022)

Gareth Davies: Diolch am yr ateb yna, Trefnydd. Y rheswm rwy'n gofyn y cwestiwn hwn heddiw yw am y rheswm bod y gaeaf ar y gorwel i ni nawr, ynghyd ag argyfwng costau byw, ac mae ein gweithwyr gofal cymdeithasol ymhlith rhai o'r gweithwyr ar y cyflog isaf yn y farchnad lafur, er gwaethaf eu hymroddiad a'r gwahaniaeth y maen nhw'n ei wneud i bobl ddydd ar ôl dydd. Felly, Trefnydd, gyda hynny mewn golwg, a...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyflogau Staff Gofal Cymdeithasol (27 Med 2022)

Gareth Davies: 9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflogau staff gofal cymdeithasol? OQ58428

11. Dadl Plaid Cymru: Costau byw (21 Med 2022)

Gareth Davies: Rwyf wedi eistedd yma'n gwrando ar y ddadl hon am yr awr ddiwethaf gyda diddordeb, a dim ond unwaith gan Carolyn Thomas y clywais gyfeiriad at ryfel Vladimir Putin yn erbyn Rwsia, ac yn enwedig gyda'r geiriau iasoer gan Arlywydd Rwsia y bore yma, yn rhoi coed ar dân y rhyfel eto gydag Wcráin ac yn creu tensiynau gyda'r gorllewin. Felly, onid ydych yn barod i wneud unrhyw gyfeiriad o gwbl at...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Rhagoriaeth Addysgol yn Sir Ddinbych (20 Med 2022)

Gareth Davies: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel efallai y byddwch chi'n gwybod, dros yr haf, derbyniodd Ysgol Gatholig Crist y Gair yn y Rhyl adroddiad damniol gan Estyn yn dilyn arolygiad, sydd wedi arwain at orfodi mesurau arbennig ar yr ysgol. Nawr, mae'r ysgol yn dal i fod yn ifanc iawn ar ôl cael ei hagor yn 2020 yn unig ar ôl uno hen ysgolion Ysgol Mair a Bendigaid Edward Jones. Ac mae hyn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Rhagoriaeth Addysgol yn Sir Ddinbych (20 Med 2022)

Gareth Davies: 1. Beth yw cynllun Llywodraeth Cymru i sicrhau rhagoriaeth addysgol yn sir Ddinbych? OQ58379

1. Cynnig o gydymdeimlad a theyrngedau i Ei Mawrhydi Y Frenhines (11 Med 2022)

Gareth Davies: Hoffwn ddiolch i chi am roi'r cyfle i mi siarad heddiw ar adeg mor bwysig ac arwyddocaol yn hanes ein gwlad, ac yn wir am adalw'r Senedd heddiw i roi cyfle i Aelodau dalu eu teyrngedau i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. Ac ar ran pobl Dyffryn Clwyd, hoffwn dalu teyrnged i'w Mawrhydi a diolch o waelod calon iddi am ei 70 mlynedd o wasanaeth stoicaidd i bobl Cymru, y Deyrnas Unedig, ac yn...

4. Cwestiynau Amserol: Plant a Phobl Ifanc sy'n Derbyn Gofal ( 6 Gor 2022)

Gareth Davies: Galwodd y Ceidwadwyr Cymreig am adolygiad cyffredinol o wasanaethau plant ledled Cymru, a soniodd fy nghyd-Aelod amdano—Andrew R.T. Davies—ddoe ddiwethaf yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Fe'i codais yn y datganiad busnes. Mae Jane Dodds wedi sôn amdano mewn cwestiwn amserol heddiw, Ddirprwy Weinidog. Ac fel y nododd Jane Dodds, mae adolygiad yn cael ei gynnal yn Lloegr, yr Alban ac yng...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Sefydliadau Gofal Preswyl ( 6 Gor 2022)

Gareth Davies: Mae'n siomedig gweld bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiddymu'r ddarpariaeth breifat ar gyfer plant yma yng Nghymru, o gofio ei bod yn ffurfio 80 y cant o'r sector. Yr hyn y dylai'r Llywodraeth fod yn canolbwyntio arno yw dod â'r plant mewn gofal allan o'r system i gartrefi sefydlog. A all y Gweinidog amlinellu pa broses sydd ar waith i gyfarfod â'r sector gofal preswyl preifat i blant a...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 5 Gor 2022)

Gareth Davies: Hoffwn i ofyn am ddatganiad brys y prynhawn yma gan y Dirprwy Weinidog  Gwasanaethau Cymdeithasol, ynglŷn â'i hadolygiad o wasanaethau plant yng Nghymru. Roeddwn i'n arswydo o weld manylion achos Logan Mwangi—daeth bywyd ifanc i ben mor fuan wth law y rhai a oedd i fod i garu a gofalu amdano. Er fy mod i'n falch o weld cyfiawnder yn cael ei gyflawni yn erbyn y drygioni a gipiodd bywyd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn Nyffryn Clwyd ( 5 Gor 2022)

Gareth Davies: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Wrth gwrs, wrth inni nodi pen-blwydd y gwasanaeth iechyd gwladol yn saith deg a phedwar heddiw, hoffwn ddiolch i'r staff rheng flaen sy'n gweithio'n galed, yn y gorffennol a'r presennol, sydd wedi cefnogi anghenion meddygol y genedl a helpu i achub bywydau. Ond, Prif Weinidog, heb fod unrhyw fai ar y staff rheng flaen gweithgar hyn, nid yw gwasanaethau...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn Nyffryn Clwyd ( 5 Gor 2022)

Gareth Davies: 2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn Nyffryn Clwyd? OQ58331

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 (29 Meh 2022)

Gareth Davies: Mae'n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Nid yw fy ngwybodaeth am Eurovision gystal â'ch un chi, Natasha, ond nid oedd fy enw i lawr i siarad am hyn yn wreiddiol, ond rwy'n falch fy mod o'r diwedd wedi penderfynu cyfrannu heddiw. I'r rhai sy'n ei ddilyn, mae Eurovision yn ennyn ymdeimlad o ddathliad, diwylliant, cystadleuaeth, creadigrwydd, cyfeillgarwch, oll wedi'u...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol — 'Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru' (29 Meh 2022)

Gareth Davies: Ddirprwy Lywydd, diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Fel aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cefais fy syfrdanu gan gyfraniadau a thystiolaethau'r rhai yr effeithir arnynt gan argyfyngau amseroedd aros yma yng Nghymru. Nid yw'r rhwystredigaeth y mae fy nghyd-Aelodau yn y GIG yn ei mynegi yn ymwneud yn unig â'r ffaith nad ydynt yn gallu gwneud eu gwaith, ac yn wir,...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (29 Meh 2022)

Gareth Davies: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi ffermwyr yn Nyffryn Clwyd?

7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Haf o Hwyl 2022 (28 Meh 2022)

Gareth Davies: Diolch am eich datganiad ar yr Haf o Hwyl 2022 y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Rwy'n croesawu mesurau sy'n cefnogi lles ein plant a'n pobl ifanc yma yng Nghymru, yn enwedig gan annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a chwaraeon, gan gael plant allan o'r tŷ yn ystod misoedd yr haf i wella eu lles corfforol a meddyliol. Ond mae angen i ni sicrhau, pa le bynnag y mae...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Entrepreneuriaid Ifanc (28 Meh 2022)

Gareth Davies: Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb yna, Prif Weinidog. Ymwelais yn ddiweddar â thafarn y Llew Glas yng Nghwm, ger Dyserth yn sir Ddinbych, sydd â pherchnogion newydd ers yn gynharach y mis hwn. Y dafarn hon, yn ôl pob sôn, yw'r ail dŷ rhydd hynaf yng Nghymru, wedi cael ei hailagor gan entrepreneuriaid ifanc, Jonathan White, 27 oed, a Megan Banks, 25 oed, sydd wedi gweithio'n lleol yn y diwydiant...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.