Carolyn Thomas: —ac adeiladu gweithlu sefydlog os ydym am adeiladu sefydliad sy'n gallu hunanwella. Yr adborth a gefais gan weithwyr iechyd proffesiynol yw bod morâl yn isel, eu bod wedi blino, a bod cylch dieflig lle mae'r rhai presennol, cyn gynted ag y caiff mwy o staff eu recriwtio, yn gadael oherwydd yr oriau hir a'r pwysau. Mae hyn yn digwydd dro ar ôl tro ar draws sawl maes cyflogaeth lle y...
Carolyn Thomas: A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod yn cefnogi'r argymhellion a wnaeth Ken Skates yn gynharach? Roeddwn i'n meddwl eu bod yn dda iawn. Rwy'n croesawu'r ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud: hyfforddi nyrsys newydd, darparu bwrsariaethau, adeiladu ysgol feddygol newydd ym Mangor, ceisio goresgyn y prinder staff y mae Brexit a'r pandemig wedi'u creu, gan gynnwys cymhlethdodau gyda...
Carolyn Thomas: Diolch. Mae'n wych clywed hynny—roedd yn ateb gwych. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i glywed gan ddisgyblion Ysgol Cystennin ym Mochdre ar sawl achlysur, ac mae eu hangerdd dros fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn ysbrydoledig. Gwnaeth y disgyblion gyflwyniad craff yn ystod Wythnos Newid Hinsawdd ynglŷn â'r effaith ddinistriol y mae olew palmwydd anghynaliadwy yn ei chael ar ein...
Carolyn Thomas: Iawn. Diolch am yr ateb, Gwnsler Cyffredinol. Mae pysgota anghyfreithlon nid yn unig yn niweidiol i economi Cymru, mae hefyd yn gostus i'n hamgylcheddau arfordirol. Mae technegau pysgota heb eu rheoleiddio yn effeithio ar fioamrywiaeth a chynefinoedd morol, gan arwain at orbysgota, sy'n tanseilio ymdrechion i sicrhau stociau pysgod cynaliadwy. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i...
Carolyn Thomas: 2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am erlyniadau mewn perthynas â physgota anghyfreithlon? OQ58126
Carolyn Thomas: 2. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau nad yw bwydydd sy'n cynnwys olew palmwydd anghynaliadwy yn cael eu gweini ar ystâd y Senedd? OQ58149
Carolyn Thomas: Diolch, Lywydd. Rwyf wedi rhoi munud yr un o fy amser i Huw, Delyth a Sam Kurtz. Boed eich bod yn hedfan o gwmpas ar Ddiwrnod Gwenyn y Byd neu os ydych ar fin cwblhau No Mow May, mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn canolbwyntio ar ddathlu a dysgu am fioamrywiaeth, ac ers cael fy ethol y llynedd, mae lefel y ddealltwriaeth yn y Senedd hon wedi creu argraff arnaf. Ond mae gwreiddiau fy niddordeb...
Carolyn Thomas: Hoffwn ddiolch i Jack am gyflwyno’r ddadl bwysig hon i’r Senedd ac am ei ymgyrch ragorol, ochr yn ochr â Cyfeillion y Ddaear Cymru, i sicrhau bod y mater hwn yn cael ei drafod. Rwyf wedi sôn o’r blaen yn y Siambr hon am y polisïau Thatcheraidd y mae Cymru a’r DU yn parhau i dalu’r pris amdanynt, boed hynny ar ffurf argyfwng tai neu drychineb dadreoleiddio bysiau—mae...
Carolyn Thomas: O'r gorau. Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwyf wedi siarad â llawer o ganolfannau ailgartrefu sy'n cael trafferth gyda chapasiti, wedi'u heffeithio gan ddiffyg lle i gŵn a achubwyd oherwydd yr amser y mae'n ei gymryd rhwng ymafael ynddynt a chynnal achos adran 20 i allu eu trosglwyddo. Mae canolfannau achub yn gorfod cadw cŵn a achubwyd am ymhell dros flwyddyn mewn rhai achosion, ac...
Carolyn Thomas: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi canolfannau ailgartrefu anifeiliaid i ymdopi â phwysau cynyddol yn dilyn pandemig COVID-19? OQ58106
Carolyn Thomas: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae aelwydydd yn y gogledd yn wynebu argyfwng costau byw na welwyd mo'i debyg o'r blaen heb fod unrhyw fai arnyn nhw eu hunain. Mae costau o ddydd i ddydd yn codi wrth i chwyddiant godi. Gyda chwyddiant ar ei lefel uchaf ers mis Mawrth 1982, pan oedd yn 9.1 y cant, mae'r atebion a gynigiwyd gan ASau Ceidwadol wedi bod yn sarhaus. Dywedwyd wrthym am gael gwell...
Carolyn Thomas: 6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith costau byw cynyddol ar bobl yng ngogledd Cymru? OQ58086
Carolyn Thomas: Mae'n ddrwg gennyf. Mae'n ddrwg gennyf, dywedais nad oeddwn am—. Felly, gwn fod Ysbyty Brenhinol Alexandra yn gobeithio cael buddsoddiad yn hynny, i helpu i leddfu'r pwysau ar yr uned mân anafiadau—[Torri ar draws.] Mân anafiadau. Ond gwn fod problem oherwydd y gostyngiad o 11 y cant yn y cyllid cyfalaf gan Lywodraeth y DU—[Torri ar draws.] Na, rwy'n siarad, rwy'n gofyn cwestiwn.
Carolyn Thomas: Iawn. Diolch.
Carolyn Thomas: Felly, rwy’n gofyn i’r Gweinidog a yw’r diffyg cyllid cyfalaf hwnnw, gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru, yn cael effaith ar ein gallu i adeiladu gwasanaethau ychwanegol i dynnu’r pwysau oddi ar rai ysbytai penodol. Diolch.
Carolyn Thomas: Diolch. Nid oeddwn am siarad ar y pwnc hwn, ond fe wnaf yn awr, felly gobeithio bod yr hyn a ddywedaf yn iawn. Yn aml, gofynnir i mi a wyf yn credu bod y bwrdd iechyd yn rhy fawr. Ac mae fy synnwyr cyffredin, fy adwaith greddfol, yn dweud, 'Ydy, mae'n rhy fawr.' Mae'n ardal enfawr—[Torri ar draws.] Synnwyr cyffredin. Ond rwy'n hoffi holi pobl, felly gofynnais i weithwyr iechyd proffesiynol,...
Carolyn Thomas: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â'r rhai sy'n gweithio mewn ysgolion sy'n poeni ynglŷn â bodloni disgwyliadau ar gyfer atebolrwydd mewn perthynas ag Estyn, a chyflwyno'r cwricwlwm yng Nghymru wrth ymrafael â materion capasiti. Gwn fod pryder gwirioneddol ynghylch y prinder staff sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig athrawon gwyddoniaeth,...
Carolyn Thomas: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae etholiadau llywodraeth leol Cymru wedi dangos bod mandad clir ledled Cymru ar gyfer polisïau blaengar i fynd i’r afael â’r materion mawr y mae ein cymdeithas yn eu hwynebu, ac efallai mai newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf. Weinidog, sut y bwriadwch sicrhau bod yr argyfwng hinsawdd a natur yn uchel ar agenda Cabinetau awdurdodau newydd Cymru, mor...
Carolyn Thomas: 3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur? OQ58051
Carolyn Thomas: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â phrinderau yn y proffesiwn addysgu? OQ58052