Delyth Jewell: Gwn fod y darlun hwnnw'n llwm, Ddirprwy Lywydd, ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n cael ei ddweud droeon yn y ddadl hon yw nad oes angen iddi fod felly. Mae Cymru yn allforiwr ynni net ac mae potensial datblygu ynni adnewyddadwy yn enfawr. Mae'r argyfyngau presennol yn gwneud yr achos dros y newid hwn yn fwy pwysig byth. Y tu hwnt i gymhwyso angenrheidiau ynni fel trydan, cynhesrwydd, cynhyrchu...
Delyth Jewell: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r ddadl hon yn ofnadwy o amserol. Mae'r crisis costau byw yn golygu poen anferthol ar gyfer pobl gyffredin, fel sy'n codi dydd i ddydd yn y Senedd, a hynny ar adeg o grisis newid hinsawdd, crisis natur, ac wrth gwrs, ymlediad gwrthdaro rhyngwladol. Mewn sawl ffordd, mae'r sialensiau hyn sy'n wynebu ein byd, sialensiau sy'n effeithio ar bawb, er mewn ffyrdd...
Delyth Jewell: Roedd y fasged 'i mewn' ar y ddesg y mae Prif Weinidog y DU bellach yn cuddio oddi tani yn llawn i'r ymylon, ond yn hytrach na wynebu'r heriau economaidd gyda difrifoldeb, gwnaeth Truss ffafrio'r ffantasi o economeg o'r brig i lawr gyda thoriadau treth ar gyfer y cyfoethog. Mae hi wedi cael ei gorfodi i wyrdroi bron pob mesur, ond mae'r niwed i'r economi yma i aros. O ganlyniad uniongyrchol,...
Delyth Jewell: Diolch, Gweinidog. Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers blynyddoedd i wahardd plastig untro. Fe wnes i alw am hyn yn gyntaf yn 2019. Mae hyn heddiw yn gam pwysig ymlaen, a rhywbeth i'w groesawu, yn sicr. Achos mae plastig wedi plethu i fod yn rhan annatod o'n bywydau—o becynnau bwyd, ein dillad ni, y ffyrdd mae pobl yn glanhau, y pethau rŷn ni’n bwyta, mae plastig ym mhobman. Roeddwn i'n...
Delyth Jewell: Gweinidog, roeddwn i eisiau holi am effaith camesgor ar iechyd meddwl. Mae'r disgwyliad cymdeithasol rhyfedd hwn o hyd i ni beidio â siarad am gamesgor, ac mae pobl yn galaru am y bywydau bach oedd yn rhan o'u byd nhw am gyfnod byr. Maen nhw'n galaru'r eiliadau na chawson nhw erioed gyda'i gilydd. Ac mae eu galar yn rhywbeth mae disgwyl i'r rhieni hynny ei brosesu'n breifat ac yna bwrw...
Delyth Jewell: Diolch am hwnna, Gweinidog. Mae data diweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn paentio darlun pryderus o hiliaeth o fewn y system gyfiawnder. Gan nad oedd y wybodaeth yma ar gael yn gyhoeddus, fe wnaethon nhw gasglu hyn trwy geisiadau rhyddid gwybodaeth. Fe wnaethon nhw ddarganfod bod pobl ddu a hil gymysg fwy na phedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu harestio na phobl wyn, ac mae...
Delyth Jewell: 6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i leihau gwahaniaethu ar sail hil o fewn y system gyfiawnder? OQ58495
Delyth Jewell: Diolch, Gweinidog. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru nawr, rwy'n gobeithio, yn symud tuag at agenda mwy uchelgeisiol o ran mynd i'r afael â'r argyfwng natur. Mae'r dadleuon am y maes hwn yr ydyn ni wedi eu cael yn y Siambr, rwy'n credu, wedi dangos bod pob un ohonom ni wedi cydnabod pwysigrwydd hanfodol gwarchod ac adfer bioamrywiaeth i Gymru, ond y byd ehangach hefyd. Ac rwy'n falch iawn...
Delyth Jewell: Mae pobl Blaenau Gwent ac ar draws y Cymoedd wedi dioddef yn anghymesur o gamlywodraethu'r Torïaid. Mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol i fethiant neu, yn hytrach, i bolisïau bwriadol Llywodraethau olynol y DU sy'n parhau i sianelu cyfoeth a buddsoddiad i Lundain tra bod cymunedau yn ne Cymru yn cael y nesaf peth i ddim. Mae'n debyg mai Llywodraeth Truss yw'r gwaethaf eto. Enillodd y Torïaid...
Delyth Jewell: Beth yw dadansoddiad y Prif Weinidog o'r effaith y bydd cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y DU ar dreth yn eu cael ar gyllideb Llywodraeth Cymru?
Delyth Jewell: Rwy'n gwneud cais am ddatganiad y Llywodraeth yn amlinellu strategaeth codi trethi Llywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda. Y llynedd, gofynnais i'r Gweinidog cyllid a oedd y Llywodraeth o blaid ennill pwerau i gyflwyno bandiau treth incwm newydd, pŵer sydd gan yr Alban. Roeddwn i'n gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn ymchwilio i hyn, ond, hyd y gwn i, does dim wedi cael ei ddweud am hyn yn...
Delyth Jewell: Nid yw argyfyngau'n cilio pan fo'n anghyfleus iddynt barhau. Os ydym yn eu hanwybyddu, nid ydynt yn diflannu, ac nid yw'r argyfwng costau byw yn argyfwng sydd wedi pylu yn ei arwyddocâd, fel y gwnaeth un darlledwr ei roi, oherwydd digwyddiadau'r wythnos diwethaf, ac ni fu toriad yn y cythrwfl a'r panig a deimlid gan bobl ledled y DU pan roddodd Llywodraeth San Steffan doriad iddi hi ei hun...
Delyth Jewell: Gyda thristwch ofnadwy y clywodd Cymru am farwolaeth Eddie Butler. Yn gawr addfwyn, roedd Eddie yn gapten ar Glwb Rygbi Pont-y-pŵl, bu'n gapten ar dîm Cymru a chwaraeodd i'r Barbariaid a'r Llewod, ond fel sylwebydd y daeth Eddie nid yn unig yn enw cyfarwydd ond yn bresenoldeb cyfarwydd ar ddyddiau gemau. Yn ein buddugoliaethau a'n siomedigaethau, roedd llais melodig Eddie yn ein tywys ni,...
Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Fe fyddwch chi'n ymwybodol o adroddiad diweddar yr Education Policy Institute, sy'n dweud bod dim cynnydd wedi bod o ran lleihau'r bwlch rhwng disgyblion o wahanol gefndiroedd cymdeithasol dros y ddegawd diwethaf. Mae'r adroddiad yn dweud bod y disgyblion tlotaf ddwy flynedd y tu ôl i'w cyfoedion o gefndiroedd mwy llewyrchus, ar gyfartaledd. Rwy'n gwybod eich bod chi'n...
Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Mae'r ail gwestiwn a'r olaf yr hoffwn ei ofyn yn ymwneud â mater arall—grymuso cymunedau. Mae'n ymwneud â sawl portffolio, gan gynnwys newid hinsawdd yn ogystal â materion gwledig. Ond gan ganolbwyntio ar y portffolio hwn, gwelwyd dicter cymunedol yn Llanbradach yn ddiweddar ar ôl i gwmni preifat ddinistrio coetir clychau’r gog hardd a oedd yn bwysig i lawer o bobl....
Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. Hoffwn innau roi fy nymuniadau gorau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd a gobeithio y caiff wellhad buan. Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed allyriadau sero net erbyn 2050, a thrwy ein cytundeb cydweithio, mae'n archwilio cyngor a allai ddod â hyn ymlaen, o bosibl, i 2050. Yr argyfyngau hinsawdd a natur, wedi’u cydblethu fel y maent, yw’r bygythiadau mwyaf sy'n...
Delyth Jewell: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd er mwyn ceisio lleihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion ysgol o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol? OQ58412
Delyth Jewell: Hoffwn longyfarch Côr CF1 am ennill cystadleuaeth Côr y Byd yn Eisteddfod Llangollen wythnos diwethaf. Er mwyn ennill y teitl, wnaeth y côr ganu caneuon gan gynnwys trefniant o 'Dros Gymru'n Gwlad', 'Gwinllan a Roddwyd i’n Gofal' a hefyd cân werin Ffrangeg a gweddi mewn Rwsieg—repertwâr oedd yn briodol o ryngwladol ar gyfer gŵyl fel hon. Cafodd CF1 ei sefydlu yn 2002 dan arweiniad...
Delyth Jewell: Diolch am hynny, Weinidog. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyfrifoldeb byd-eang yn gam i'w groesawu, yn enwedig o ran bioamrywiaeth, newid hinsawdd, datblygu economaidd cynaliadwy a hawliau cyflogaeth o ran polisi masnach. Fodd bynnag, mae masnach fyd-eang yn cael effeithiau eraill, llai diriaethol ar fywydau pobl ledled y byd. Mae'r cytundebau masnach rhyngwladol hyn yn effeithio ar...
Delyth Jewell: 10. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio i sicrhau bod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang yn cael ei ymgorffori yn ei pholisi masnach? OQ58361