Peredur Owen Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd. Cyn i mi ddechrau, hoffwn ddiolch i Ken Skates, Comisiynydd y Senedd dros gyllideb a llywodraethu, a swyddogion y Senedd a ddaeth i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 5 Hydref i drafod cynigion y Comisiwn, a hefyd am yr wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd yn dilyn ein cais yn fuan ar ôl y cyfarfod hwnnw. Hefyd, hoffwn nodi ar ddechrau fy nghyfraniad fod y gwaith o graffu ar...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Weinidog. Fel y dywedwch, roedd yr hyn a ddatgelwyd dros y penwythnos am un cyn-aelod o heddlu Gwent a'i gydweithwyr yn peri gofid mawr. Mae'n ffiaidd fod deunydd hiliol, gwreig-gasaol a rhywiaethol wedi'i ganfod ar ffôn heddwas. Ar ôl cyfarfod ag aelodau o ffederasiwn yr heddlu ddoe, rwy'n gwybod eu bod hwythau hefyd yn ffieiddio at yr honiadau difrifol hyn. Os oes diwylliant o'r...
Peredur Owen Griffiths: 2. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo cydlyniant cymunedol yn dilyn honiadau difrifol a wnaed am Heddlu Gwent? TQ683
Peredur Owen Griffiths: Pa gefnogaeth y mae'r Llywodraeth yn ei darparu ar gyfer busnesau yn Nwyrain De Cymru sy'n dal i deimlo effeithiau pandemig COVID?
Peredur Owen Griffiths: Yn anffodus i chi i gyd, nid Luke Fletcher ydw i, fel y dywedodd Delyth, ond rwyf am archwilio'r contract economaidd. Drwy'r contract economaidd, rhaid i fusnesau ddangos gweithredu presennol mewn meysydd megis cryfder economaidd a gallu i addasu, gwaith teg, hyrwyddo llesiant a dod yn garbon isel a gallu i ddygymod â newid hinsawdd. Yn ddelfrydol, byddai'r contract economaidd yn helpu i...
Peredur Owen Griffiths: Diolch. Mae'n ddrwg gennyf os yw'n disgyn rhwng dau Weinidog, fel petai. Byddwn yn ddiolchgar iawn am unrhyw wybodaeth. Diolch yn fawr iawn. Y mis diwethaf, roedd hi'n Fis Hanes Pobl Ddu. Datgelodd adroddiad amserol gan Gyngres yr Undebau Llafur a gyhoeddwyd y mis hwnnw fod hiliaeth a gwahaniaethu tuag at weithwyr du yn dal i fod yn rhemp yn y DU. Mae'r ystadegau ar ddigwyddiadau hiliol yn y...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Lywydd. Mae disgwyl i bensiynwyr yn y DU fod oddeutu £442 y flwyddyn yn waeth eu byd o fis Ebrill ymlaen yn dilyn cyfradd bensiwn is a thoriad mewn cymorth ar gyfer biliau ynni. O ystyried bod dros 75 y cant o bobl dros 65 oed a arolygwyd gan Age UK ym mis Ionawr eleni yn poeni am yr argyfwng costau byw cynyddol, ac ers hynny, fod cyfradd chwyddiant a chost biliau ynni wedi parhau i...
Peredur Owen Griffiths: Diolch. A gaf i gynnig y gwelliant yn enw Siân?
Peredur Owen Griffiths: Mae'n bleser cael y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon eto a hyrwyddo achos cyn-filwyr yng Nghymru. Mae'n achos sydd, er gwaethaf y gwelliannau mewn hawliau a gwasanaethau i gyn-filwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, angen hyrwyddwr o hyd. Mae'r argyfwng tai sy'n bodoli yng Nghymru yn effeithio'n anghymesur ar gymuned ein lluoedd arfog. Mae ymchwil gan y Lleng Brydeinig Frenhinol wedi canfod...
Peredur Owen Griffiths: Diolch am yr ateb.
Peredur Owen Griffiths: Mae pobl yn ofni'r posibilrwydd o fethu fforddio'r pethau sylfaenol y gaeaf hwn, ac nid oes ganddynt lawer o ffydd y bydd Prif Weinidog hynod gyfoethog yn gwneud unrhyw beth drostynt. Yn absenoldeb cymorth digonol gan San Steffan, mae angen defnyddio'r cronfeydd sydd gan awdurdodau lleol wrth gefn ar gyfer diwrnodau glawog. Yn anffodus, mae gennych awdurdodau lleol fel Cyngor Bwrdeistref...
Peredur Owen Griffiths: 1. Pa adnoddau ariannol ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i awdurdodau lleol i'w helpu i ddelio â'r argyfwng costau byw? OQ58608
Peredur Owen Griffiths: Trefnydd, roedd y ffigyrau a gafodd eu rhoi i fy swyddfa yn amlygu'r problemau capasiti o fewn GIG Cymru. Mae ymddiriedolaeth ambiwlansys Cymru yn colli mwy na 2,000 awr y mis yn rheolaidd oherwydd ambiwlansys yn aros y tu allan i un ysbyty yn unig yn fy rhanbarth i. Mae'r ffaith mai'r ysbyty hwn yw ysbyty blaenllaw y Faenor hyd yn oed yn fwy problematig, gan fod hyn i fod i gyflwyno...
Peredur Owen Griffiths: Rwy'n croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ei ymchwiliad i gomisiynu cartrefi gofal. Rwyf hefyd yn croesawu'r cyfle i siarad ar y pwnc yn y Senedd. Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw clir at yr heriau sy'n wynebu maes cymhleth comisiynu cartrefi gofal i bobl hŷn, gyda'r bwriad o wella'r system fel ei bod yn fwy teg i bawb. Mae'n deg dweud bod yr heriau...
Peredur Owen Griffiths: Diolch am yr ateb.
Peredur Owen Griffiths: Cwyn gyffredin yn ystod cymorthfeydd stryd yw cyflwr y rhwydwaith bysiau. Mae’r gwasanaeth hwn yn achubiaeth i gynifer o bobl ac mae hynny’n arbennig o wir ym Mlaenau Gwent, lle mae perchnogaeth ceir yn isel a lle ceir cyfran uwch o bobl hŷn nag mewn llawer o etholaethau eraill. Yn anffodus, pe baech am deithio ar fws rhwng Aber-bîg a Chwm—taith 10 munud mewn car—byddai’n cymryd...
Peredur Owen Griffiths: 2. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru? OQ58587
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr iawn iti, Luke, am ddod â hwn ger ein bron heddiw a gadael i fi gyfrannu yn y ddadl yma sydd, dwi'n gwybod, yn bwysig iawn, iawn i ti.
Peredur Owen Griffiths: Clywsom gan Heledd yn awr am y—. Ac rwyf am ddilyn ymlaen o'r hyn yr oedd Heledd yn ei ddweud: mae'r elusen Barnardo's Cymru'n mynd cyn belled â disgrifio'r lwfans cynhaliaeth addysg fel rhaff achub i lawer o'r bobl ifanc y maent yn eu helpu. Maent yn mynd cyn belled â dweud y gall olygu'r gwahaniaeth rhwng gofalwr ifanc yn gallu neu'n methu mynd i fyd addysg. Yn anffodus, mae llawer o'r...
Peredur Owen Griffiths: Clywsom yn barod heddiw sut y mae'r argyfwng costau byw a'r argyfwng tai yn cael mwy o effaith ar rai rhannau o gymdeithas neu gymunedau nag eraill. Fel llefarydd Plaid Cymru ar bobl hŷn a chymunedau, rwy'n ymwybodol o ba mor anodd y gall y gaeaf fod ar yr adegau gorau i bobl hŷn, ac yn sicr nid yw hon yn un o'r adegau gorau. Mae pobl hŷn yng Nghymru ymhlith y rhai sydd fwyaf tebygol o...