Luke Fletcher: Wrth gwrs.
Luke Fletcher: Da iawn, Mike. Un peth arall i'w ychwanegu at y rhestr o ofynion y mae Plaid Cymru yn gofyn amdanynt. Rwyf am gloi gyda hyn. Mewn seminar a gefais yn y brifysgol gyda Richard Wyn Jones, dywedodd yn gellweirus efallai y dylai fod cerflun o Thatcher y tu allan i'r Senedd—fe ofynnaf i'r Aelodau fod yn amyneddgar gyda mi ar hyn. [Chwerthin.] Heb os, roedd Thatcher yn ffactor a gyfrannodd at...
Luke Fletcher: Iawn, wel, mae'n amlwg nad oeddech yn gwrando'n ddigon da, Gareth, gan fod Sioned wedi crybwyll hynny yn ei chyfraniad. Rwyf fi am ddweud wrthych am roi'r gorau i wyro'r sgwrs drwy'r amser. Rydym wedi gweld Prif Weinidog y DU yn dadlau o blaid economeg o'r brig i lawr, toriadau treth, cael gwared ar y cap ar fonysau bancwyr, a gyda llaw, dim treth ffawdelw o gwbl ar gwmnïau ynni, sy’n...
Luke Fletcher: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau a’r Gweinidog a gyfrannodd at y ddadl hon. Heddiw, rydym wedi clywed llawer o ystadegau, ffigurau a chyfrifon sy’n nodi graddau brawychus yr argyfwng costau byw, ond ni all dim o hyn gyfleu na disgrifio effaith yr amddifadedd a’r tlodi hwn ar y rhai sy’n ei brofi. Mae mwy na phedwar o bob 10 oedolyn yng Nghymru—sef 43 y cant o...
Luke Fletcher: Dydw i ddim yn gwadu hynny o gwbl.
Luke Fletcher: I mi, o wybod nawr, yn enwedig nawr o ystyried yr argyfwng costau byw, y bydd prydau ysgol am ddim yn gyffredinol mewn ysgolion cynradd, mae'n foment o fyfyrio, yn foment i gofio fy mhrofiadau fy hun yn yr ysgol, ac yn foment i gofio hefyd y frwydr hir i gyrraedd y pwynt hwn yn y lle cyntaf. Rwy'n falch nad yw Plaid Cymru erioed wedi ildio ar y polisi hwn. O edrych ar y sefyllfa bresennol,...
Luke Fletcher: Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Fe fyddaf yn gryno. Deallaf fod y Llywodraeth yn cael ei thynnu i bob cyfeiriad gan Aelodau o ran yr hyn y dylent fod yn gwario arno, ac mae nifer o flaenoriaethau i'w hystyried. Hoffwn ddadlau'r achos dros gynyddu taliadau'r lwfans cynhaliaeth addysg. Roedd yn rhyddhad enfawr i deuluoedd pan gafodd ei gyflwyno yn ôl yn 2004. Mae'n parhau i fod yn rhyddhad...
Luke Fletcher: I ddechrau, wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ni allwn ganolbwyntio ar ddatgarboneiddio'r economi yn unig. Mae'n rhan bwysig, ydy, ond mae arnom angen newid ehangach hefyd yn y ffordd y mae ein heconomi'n gweithio a sut yr awn ati i fyw ein bywydau o ddydd i ddydd. Mae arnom angen trawsnewid ac ad-drefnu'r system economaidd bresennol yn sylweddol er mwyn mynd i'r afael yn effeithiol...
Luke Fletcher: Diolch am yr ateb hwnnw, Gweinidog.
Luke Fletcher: Y gwir amdani yw bod tlodi plant wedi aros yn frawychus o uchel dros y degawd diwethaf. Er i fy nghydweithiwr, Liz Saville Roberts, ddweud wrth Brif Weinidog y DU yng nghwestiynau'r Prif Weinidog heddiw y dylai ddileu'r terfyn dau blentyn ac adfer y cynnydd o £20 i bob teulu sydd â hawl i les—gyda llaw, rhaid imi ddweud ei fod yn ymateb gwael arall ganddo ar y mater hwn—rwy'n awyddus i...
Luke Fletcher: Diolch am eich ateb, Weinidog, a byddwn yn gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny yn fawr. Wrth gwrs, fel y dywedais, mae sawl rheswm dros y prinder staff ym maes lletygarwch. O brofiad, mae angen i gyflogau ym maes lletygarwch wella, mae angen i’w cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith wella, mae angen i sicrwydd gwaith yn ogystal ag amodau’r gweithle wella, fel y gwelsom yn adroddiad...
Luke Fletcher: Diolch, Ddirprwy Lywydd. O ystyried mai dyma'r sesiwn gwestiynau olaf i lefarydd yr economi cyn toriad yr haf, a'r ffaith y bydd llawer ohonom yn ymgysylltu â’r sector lletygarwch mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, roeddwn yn meddwl y byddem yn edrych ar y sector hwnnw. Mae'r darlun ar gyfer lletygarwch yn parhau i fod yn weddol ansicr. Fel y gŵyr y Gweinidog, rwy'n siŵr, nid yn unig ein...
Luke Fletcher: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiadau bod lefelau tlodi plant wedi codi yng Nghymru yn ystod y pandemig er eu bod wedi gostwng yng ngweddill gwledydd y DU? TQ657
Luke Fletcher: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siŵr y gall y Gweinidog ddyfalu beth yr wyf ar fin tynnu ei sylw ato. Codais gyda chi yr wythnos diwethaf fy mhryderon ynghylch cyflymder Pen-y-bont ar Ogwr o fynd ati o ran addysg cyfrwng Cymraeg. O edrych ar gynllun strategol y Gymraeg mewn addysg a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, maen nhw'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gosod y...
Luke Fletcher: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Yn sicr, mae'n dda i weld bod cynnydd yn y maes hwn.
Luke Fletcher: O'r cychwyn cyntaf, hoffwn ailadrodd cefnogaeth Plaid Cymru i'r warant i bobl ifanc, a'n hawydd, yn debyg i un y Ceidwadwyr Cymreig, i weithio'n adeiladol gyda'r Llywodraeth ar hyn. Yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw hwn, credaf ei bod yn bwysig bod pobl ifanc yn teimlo bod cyfle yng Nghymru, ac mae hyn, wrth gwrs, yn chwarae rhan i sicrhau hynny. Wrth gwrs, rydym ar hyn o bryd yn...
Luke Fletcher: Diolch i John Griffiths am ildio cyfran o'i amser. Mae hon yn ddadl bwysig i'w chael, a chytunaf yn llwyr fod gwybodaeth yn darparu llwybr allan o dlodi. Mae'r Aelodau'n gwybod hyn amdanaf eisoes, ond roeddwn yn cael prydau ysgol am ddim a'r lwfans cynhaliaeth addysg pan oeddwn yn tyfu i fyny a chyn imi ddod i fyd gwleidyddiaeth, roeddwn yn gweithio mewn bar. Nid wyf yn siŵr a yw John yn...
Luke Fletcher: Diolch, Lywydd. Can biliwn o bunnoedd y flwyddyn—dyna faint y mae'r Financial Times yn amcangyfrif bod peidio â bod yn rhan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau wedi ei gostio i'r DU. Ar ben hynny, mae £40 biliwn yn llai o refeniw i'r Trysorlys y flwyddyn ac mae'r DU ar ei hôl hi o'i chymharu â gweddill y G7 o ran adfer o'r pandemig. Dyna lle rydym ni arni. Mae peidio â bod yn rhan o'r...
Luke Fletcher: Nod cynllun cymorth tanwydd y gaeaf Llywodraeth Cymru yw cefnogi'r rheini sydd fwyaf bregus, ac mae'n cael ei werthfawrogi gan y rhai sy'n ei dderbyn, fel y nododd Carolyn. Ond mae fy mhryder yn ymwneud â'r rhai nad ydynt yn ei dderbyn. Mae fy etholwr Michelle yn ofalwr anabl di-dâl llawn amser i'w gŵr anabl. Maent yn dibynnu ar eu taliadau annibyniaeth personol a'i lwfans gofalwr i...
Luke Fletcher: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb ac i Aelodau o bob rhan o'r Siambr am eu cyfraniadau. Credaf fod cytundeb trawsbleidiol, gobeithio, fod angen gweithredu yma. Rwyf bob amser yn clywed llawer am Arthur. Nid wyf wedi cyfarfod ag Arthur eto, ond credaf fod y pwynt a wnaeth Jane, a Jack hefyd, ynghylch digartrefedd a phobl ddigartref a chanddynt anifeiliaid...