Llyr Gruffydd: Yn amlwg, mae'r canlyniadau hyn yn dweud stori erchyll iawn wrthym. Cymru yw’r wlad sy'n perfformio waethaf yn y DU eto, mae sgorau Cymru’n waeth nawr nag yr oeddent ddegawd yn ôl ac rydym bellach y tu ôl, wrth gwrs, i gyfartaledd y DU nag yr oeddem yn 2006. Felly, oni fyddech yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, bod hwn yn amlygiad damniol o berfformiad Llafur a bod y system addysg...
Llyr Gruffydd: Wel, diolch i chi am eich ateb. Nid wyf yn siŵr a yw’n dweud llawer mwy wrthym, yn arbennig am y gwasanaethau a fydd yn cael eu colli mewn wythnos neu ddwy. Yn dilyn y traed moch a waned o sefyllfa GHA Coaches dros yr haf, wrth gwrs, y peth olaf y mae ei angen arnom yw rhagor o ansicrwydd ynghylch y gwasanaethau dros y Nadolig a chyfnod y flwyddyn newydd. Nawr, rwy’n deall bod proses...
Llyr Gruffydd: Diolch i chi am eich ateb. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, fod adroddiad Ffederasiwn y Busnesau Bach ym mis Hydref yn dangos yn glir yr effaith mae hyn yn ei chael ar fusnesau bach—er enghraifft, busnesau’n gorfod cau yn gynt a cholli busnes oherwydd bod yn rhaid teithio’n bellach i fancio’r arian. Ac mae’r British Bankers Association hefyd wedi dangos yn glir fod benthyca i fusnesau...
Llyr Gruffydd: 1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cau banciau ar fusnesau Cymru? OAQ(5)0322(FM)[W]
Llyr Gruffydd: Yn dilyn penderfyniad y Comisiynydd Traffig i ddirymu trwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus RJ's o Wem, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau bysiau yng ngogledd-ddwyrain Cymru? EAQ(5)0096(EI)[W]
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i’r Cadeirydd am ei datganiad a’i chroesawu hi, wrth gwrs, i’w rôl? Dyma’i datganiad ffurfiol cyntaf i’r Cynulliad yma ac rwy’n diolch iddi am hynny ac yn edrych ymlaen at gydweithio â hi fel aelod o’r pwyllgor. A gaf innau hefyd ategu’r diolch i Gerard Elias QC, fel y clywsom ni wedi’i benodi yn 2010? Fel aelod o bwyllgor safonau’r Cynulliad diwethaf, mi...
Llyr Gruffydd: Rwy’n cytuno ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n canmol dewrder yr unigolion sydd yn siarad mas yn yr achosion yma ac, wrth gwrs, mi ddangosodd ymchwiliad Waterhouse i ni yn y flwyddyn 2000 nad oedd plant bryd hynny wedi cael eu credu, ac nad oedd pobl wedi gwrando arnyn nhw. Beth wnaeth hynny, wrth gwrs, oedd gosod chwyddwydr ar wasanaethau eiriolaeth yma yng Nghymru, sydd yn rhan bwysig...
Llyr Gruffydd: Mae hi’n mynd i fod yn dipyn o her hefyd, wrth gwrs, i sicrhau bod yr athrawon sydd gennym heddiw wedi’u harfogi ar gyfer delifro’r cwricwlwm newydd yma. Rwy’n gwybod bod bod yn rhan o ysgol arloesi, efallai, yn mynd i fod yn help i nifer i ddod drwy’r broses yna mewn modd mwy naturiol na fyddai’n digwydd mewn sefyllfa y tu hwnt i’r ysgolion arloesi. Ond, mae hefyd yn bwysig,...
Llyr Gruffydd: Rwy’n falch eich bod chi’n cydnabod bod rhai o’r ysgolion sydd ddim yn ysgolion arloesi yn teimlo efallai ychydig y tu fas i’r broses yma, oherwydd mae Cyngor y Gweithlu Addysg, er enghraifft, wedi rhybuddio bod yna berig bod yna system ddwy haen yn datblygu a allai fod yn achosi rhaniadau. Felly, rwy’n croesawi’r ffaith eich bod chi’n cydnabod hynny a’ch bod chi’n bwriadu...
Llyr Gruffydd: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rŷm ni yn y broses o ddiwygio’r cwricwlwm yma yng Nghymru, gyda nifer o ysgolion yn edrych ar feysydd penodol, o’r cwricwlwm ei hun i ddatblygiad proffesiynol. Mae’r fframwaith cymhwysedd digidol, wrth gwrs, wedi gweld golau dydd. Mae gennym ni dros 100 o ysgolion arloesi yng Nghymru yn gweithredu mewn dulliau gwahanol drwy bedwar consortia...
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i gefnogi galwadau am ymchwiliad cam 2 gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i’r pryniant arfaethedig o Ddŵr Dyffryn Dyfrdwy gan Severn Trent Water? Yn amlwg, ceir goblygiadau enfawr i gwsmeriaid ac i swyddi, yn enwedig yn y gogledd-ddwyrain, yn ogystal â goblygiadau ehangach i’r diwydiant dŵr yma yng Nghymru. A wnewch chi hefyd gefnogi'r...
Llyr Gruffydd: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau dŵr yng Nghymru? OAQ(5)0302(FM)[W]
Llyr Gruffydd: A gaf i ofyn pa asesiad o oblygiadau Brexit ar statws Cymru fel gwlad sy’n rhydd o GM y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud? A gaf i ofyn ichi ymrwymo i amddiffyn y statws hwnnw mewn unrhyw drafodaethau?
Llyr Gruffydd: Y realiti yw, wrth gwrs, Ysgrifennydd Cabinet, fod y Llywodraeth wedi torri’r gyllideb gyfalaf ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd. Mae hynny, wrth gwrs, yn mynd i roi hyd yn oed mwy o bwysau ar yr angen i ddatblygu strategaethau amgen a gweithio gyda thirfeddianwyr, er enghraifft, i gadw dŵr yn yr ucheldiroedd ac yn y blaen. Ond, wrth gwrs, mae’r Llywodraeth wedi bod yn sôn am hynny ers...
Llyr Gruffydd: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith Brexit ar bolisi amgylcheddol yng Nghymru? OAQ(5)0064(ERA)[W]
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad ac ategu'r diolch eto, wrth gwrs, i’r Athro Diamond a’r grŵp fuodd wrthi yn paratoi'r adroddiad a’r argymhellion? Rwy’n croesawu eich datganiad chi. Mae’n dda gweld y broses nawr yn symud at weithredu'r argymhellion. Mae hynny yn rhywbeth rwy’n siŵr y byddem ni i gyd yn ei groesawu. Rwyf hefyd yn croesawu’r pwynt...
Llyr Gruffydd: A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar fwriad Dŵr Severn Trent i brynu Dŵr Dyffryn Dyfrdwy? Rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, fod yna gonsyrn ynglŷn â’r 190 o swyddi—rhai o bosib yn mynd i gael eu colli, eraill yn mynd i gael eu trosglwyddo i Loegr. Rŷm ni eisoes hefyd wedi clywed am yr 80 o gwmnïau lleol sydd yn rhan o gadwyn gyflenwi Dŵr Dyffryn Dyfrdwy, a’r...
Llyr Gruffydd: Un o’r elfennau canolog, wrth gwrs, o ddiwygio’r cwricwlwm, yw rôl yr ysgolion arloesi. Ond mae yna gonsýrn yn cael ei fynegi’n gynyddol nawr bod ysgolion sydd ddim yn ysgolion arloesi yn teimlo eu bod nhw y tu fas i’r broses yna. Mae’r undebau athrawon yn sicr wedi dweud mai breuddwyd gwrach yw sefyllfa lle mae’r trefniant newydd yn cael ei adeiladu gan y proffesiwn ar gyfer y...
Llyr Gruffydd: Un o ysgogiadau’r polisi gofal plant am ddim, wrth gwrs, yw’r amlygrwydd a roddir bellach i atal ac ymyrryd yn gynnar—amlygrwydd y dylid ei groesawu, dylwn ddweud—ac o ystyried bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd yn ein harwain i’r cyfeiriad hwnnw, sydd unwaith eto yn rhywbeth y byddwn yn ei groesawu—. Ond o ystyried hynny, pa drafodaethau a gawsoch...
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y nifer o blant sy'n byw mewn tlodi?