Jane Hutt: Llywydd, mae gen i dri newid i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Rwyf wedi ymestyn datganiad y prynhawn yma ar recriwtio athrawon, ac yn ddiweddarach y prynhawn yma bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad llafar ar yr wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Brexit. Hefyd, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i leihau cwestiynau yfory i Gomisiwn y Cynulliad i 15 munud. Mae'r busnes ar gyfer y...
Jane Hutt: Wel, mae'r rhain yn gwestiynau pwysig, ac rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor wedi eu hystyried wrth edrych ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol arfaethedig hwn. Mae'n bwysig cydnabod y byddai'r cynigion hyn yn cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi annomestig dros bum mlynedd ar gyfer seilwaith ffeibr llawn llawn o fis Ebrill eleni, a gellir ei ôl-ddyddio, wrth gwrs, i 1 Ebrill 2017 ar gyfer...
Jane Hutt: Rwy’n croesawu’r cyfle hwn i egluro cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau am ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ac am yr adroddiad y mae wedi ei lunio. Mae'r pwyllgor o'r farn nad oes unrhyw rwystr i'r Cynulliad dderbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol.
Jane Hutt: Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig) ar 4 Gorffennaf yn dilyn cyhoeddiad yn natganiad hydref 2016 y Canghellor. Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau i gyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi annomestig dros bum mlynedd ar gyfer seilwaith ffeibr llawn newydd, ac mae hyn i ysgogi cyflwyniad seilwaith band eang ffeibr llawn newydd a chyfathrebu 5G...
Jane Hutt: Diolch, Joyce Watson. A gaf i ddweud, o ran ymateb i'ch cwestiwn cyntaf, fod lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a bod grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid, yn amlwg, yn dangos yr ymrwymiad hwnnw? Rydym wedi nodi cyhoeddiad yr Adran dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig o ran cynyddu’r ddedfryd uchaf ar gyfer creulondeb anifeiliaid yn Lloegr o chwe mis i bum...
Jane Hutt: Diolch i Angela Burns am y ddau gwestiwn hynny. Efallai, mewn ymateb i'r un cyntaf, y gallwn i achub ar y cyfle i egluro na fydd Betsi Cadwaladr yn gorwario £50 miliwn eleni, ond mae'r bwrdd wedi nodi risg sylweddol na fyddant o bosibl yn cyflawni’r diffyg o £26 miliwn y maent wedi’i gynllunio. Ond maen nhw'n defnyddio eu trefniadau llywodraethu yn briodol i fynd i'r afael â...
Jane Hutt: Mae Mike Hedges yn codi pwyntiau pwysig ynglŷn â chysylltedd trafnidiaeth. Rwyf newydd sôn am y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol. Mewn gwirionedd, unrhyw fesur ar gyfer gwella ein seilwaith trafnidiaeth ledled Cymru gyfan—. Yn amlwg, mae Dinas Ranbarth Bae Abertawe yn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol hwnnw. Ac wrth gwrs, mae'r ffaith bod arian eisoes ar gael drwy'r...
Jane Hutt: Wel, rwy'n credu y byddem ni i gyd yn ymuno â chi, Simon Thomas, wrth longyfarch yr enghraifft wych hon o berson ifanc yn cymryd awenau yr ymgyrch hon—apêl baner Elly ar gyfer ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg. Mae'n amlwg yn gwneud cynnydd o ran yr achos busnes, a chredaf fod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, sydd yma, wedi clywed eich cais am yr wybodaeth ddiweddaraf, ac rwy'n siŵr y bydd...
Jane Hutt: Diolch, Andrew R.T. Davies. Wrth gwrs, o ran ymestyn ffordd gyswllt dwyrain y bae, rwy'n credu y dylem groesawu'r cysylltiad sydd gennym ni nawr drwy ffordd gyswllt dwyrain y bae. Mae'n cael effaith enfawr, fel yr oeddem ni’n gwybod y byddai, o ran y buddsoddiad hwnnw. Wrth gwrs, mae'r holl gynlluniau trafnidiaeth yn ddarostyngedig i'r cynllun trafnidiaeth cenedlaethol, a hefyd, wrth gwrs,...
Jane Hutt: Diolch, Llywydd. Nid oes gennyf i unrhyw newidiadau i'w wneud i fusnes yr wythnos hon, ac mae busnes y tair wythnos nesaf wedi’i nodi yn y datganiad busnes a'r cyhoeddiad sydd ymysg papurau’r cyfarfod ac sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Jane Hutt: Wel, rwy’n credu mai dyma pam y mae hi mor bwysig fod yr ymateb i’r ddadl hon heddiw a’r ymateb i’r ymgynghoriad yn cael eu hystyried yn llawn, ac rwy’n credu ei bod hi hefyd yn bwysig cofio—. Rwyf am wneud sylw ar y cynllun maes parcio—wrth gwrs, eich gwelliant 6 oedd hwnnw—ond hefyd y ffaith, fel y dywedoch, fod arian wedi cael ei ddyrannu i gefnogi mentrau peilot i brofi...
Jane Hutt: Felly, yn olaf, yn y tymor hwy, byddwn yn edrych i weld a allai newidiadau mwy sylfaenol i’r system ardrethi annomestig fod o fudd i wasanaethau lleol ac economi Cymru. Rwy’n siŵr y bydd Adam Price wedi croesawu’r newyddion diweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am ei gynlluniau ddoe, lle’r ydym yn edrych yn fwy manwl ar ddulliau amgen yn lle trethi...
Jane Hutt: Wel, rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i’r ddadl hon, ac mae’n adeg bwysig i ddatblygu polisi mewn perthynas ag ardrethi annomestig. Rwy’n cydnabod y profiad sydd gennym ni yma yn y Siambr, yn ogystal â’r safbwyntiau polisi a fynegwyd heddiw. Mae ardrethi annomestig yn cyfrannu dros £1 biliwn y flwyddyn i ariannu gwasanaethau lleol hanfodol yng Nghymru ac ailddosberthir yr holl...
Jane Hutt: Yn ffurfiol.
Jane Hutt: Hoffwn ddiolch i'r Aelod am dynnu sylw at waith da Gôl. Rwy'n credu bod mater y cod ymddygiad yn berthnasol iddo ef yn ogystal ag i eraill yn y Siambr hon.
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Simon Thomas. O ran eich pwynt cyntaf: pwynt pwysig iawn o ran y ffaith ein bod wedi bod dros yr wythnosau diwethaf—mewn gwirionedd, rwy'n credu, ers dechrau sesiwn yr hydref hwn; mae hwn wedi bod yn fater a godwyd â mi, rwy’n credu, yn yr wythnos gynnar honno. Roedden nhw’n gwestiynau amserol yr ymatebwyd ar sail ein swyddogaeth, ein perthynas a'n pwerau o ran y...
Jane Hutt: Gallaf yn bendant sicrhau'r Aelod y byddaf yn gofyn am gyngor ar y sefyllfa hon, ac yna gallaf roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y materion a pha gamau gweithredu perthnasol y gellid eu cymryd.
Jane Hutt: Wel, rydych chi wedi tynnu sylw at fater sy'n fater gweithredol yn bennaf, ond mae'n bwysig eich bod chi wedi tynnu sylw ato heddiw, Darren Millar, o ran Cyfoeth Naturiol Cymru.
Jane Hutt: Diolch i Huw Irranca-Davies am dynnu ein sylw at y mentrau hollbwysig hyn, a mentrau lleol ydyn nhw yn aml iawn, sy’n dysgu oddi wrth ei gilydd. Fe wnaethoch chi sôn am Wings Cymru, sydd unwaith eto yn dylanwadu ar gymunedau ac awdurdodau cyfagos. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni, nid yn unig fel Llywodraeth Cymru, ond drwy weithio gyda'n partneriaid yn y trydydd sector, yn ogystal â...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Llyr. O ran eich pwynt pwysig cyntaf am y ffigurau diweddaraf ar y defnydd o welyau ysbyty yn y gogledd, mae hwn yn fater y byddaf yn ei ddwyn i sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon. Dim ond o ran y ffigurau ar oedi wrth drosglwyddo gofal, sydd, wrth gwrs, yn gallu cael effaith o ran y defnydd a wneir o’r gwelyau hynny, rydym mewn sefyllfa dda yn...