Jenny Rathbone: Diau y bydd gwrthdystiad Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth a lobïo’r Senedd heddiw wedi cael eu boddi gan ddigwyddiadau eraill. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod bod y Pwyllgor Dethol ar Waith a Phensiynau yn Nhŷ’r Cyffredin wedi dod o hyd i ateb i’r broblem hon, er mwyn galluogi menywod i hawlio eu pensiwn yn gynnar ar gyfradd is. Beth y gallwch ei...
Jenny Rathbone: Un o'r rhesymau pam y mae cynifer ohonom yn wynebu gadael yr Undeb Ewropeaidd ag anesmwythyd o'r fath yw bod cymaint o ryfela wedi bod yn Ewrop. Mae'n ganmlwyddiant y Somme, lle y bu farw miliwn o bobl, ac ni all neb bellach gofio pa fudd oedd i hynny. Felly, yn amlwg, rwyf yn cefnogi ein lluoedd arfog sy’n ein cadw'n ddiogel ac yn amddiffyn ein rhyddid, ond mae'n rhaid inni wneud popeth...
Jenny Rathbone: Rydym newydd gael dechrau trafodaeth bwysig iawn ar y penderfyniad tyngedfennol a brawychus a wnaed ddydd Iau diwethaf. Tybed a yw'n bosibl, cyn toriad yr haf, cynnwys tair dadl arall ynglŷn â meysydd penodol sy'n deillio o’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd? Un ohonynt yw dyfodol ein pysgodfeydd, a sut y gallwn eu hamddiffyn yn wyneb y ffaith nad oes gennym ond un cwch ar hyn o...
Jenny Rathbone: Mae’n rhaid i ni gydnabod bod Cymru eto i ddioddef graddau’r toriadau a brofwyd yn Lloegr. Yn Lloegr, torwyd cyllidebau cynghorau 10 y cant mewn termau arian parod dros y pum mlynedd diwethaf ond yng Nghymru yn gyffredinol maent wedi codi 2.5 y cant. Mae hynny oherwydd bod cyllid ar gyfer ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol wedi’i glustnodi, gan osgoi’r toriadau a welwyd mewn...
Jenny Rathbone: Mae'n ddiddorol clywed y ddadl gan David Rowlands, sy’n ddadl o blaid aros yn yr UE, oherwydd, wrth gwrs, os ydym yn ystyried bod yr M4 yn rhwydwaith traws-Ewropeaidd, efallai y gallem gael rhywfaint o gyfraniad gan y Gwyddelod mewn rhyw ffordd. Ond, beth bynnag, gan roi hynny o'r neilltu, rwy’n croesawu'n fawr y trylwyredd, y tryloywder a'r gofal y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i...
Jenny Rathbone: Wel, mae ein hanes yn amlwg yn rhagorol, ac mae colegau fel Coleg Caerdydd a'r Fro sy'n darparu addysg bellach ragorol mewn amrywiaeth o bynciau yn sicrhau bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael gwaith. Pa waith ydym ni’n ei wneud i sicrhau ein bod yn datblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn mynd i fod eu hangen yn y dyfodol fel nad ydym yn gorfod dibynnu ar ddenu pobl o wledydd...
Jenny Rathbone: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyfraddau cyflogaeth diweddaraf yng Nghymru o’u cymharu â gweddill y DU? OAQ(5)0067(FM)
Jenny Rathbone: Yn gyntaf, mae angen i mi ddatgan buddiant fel buddsoddwr yn Awel, sef menter gymdeithasol sy’n darparu ynni gwynt ar y tir yn nyffryn Aman. Rwyf am gofnodi mai’r mis diwethaf oedd y mis cyntaf mewn gwirionedd i ni gyflenwi mwy o ynni solar ar draws y DU nag ynni glo, ac felly rydym ar groesffordd yn awr. Mae pob un o’r cwmnïau ynni yn dechrau deffro i’r ffaith fod angen iddynt newid...
Jenny Rathbone: Gwnaf. Beth bynnag, dim ond dweud fy mod yn credu bod angen i ni gydnabod pan ffurfiwyd yr Undeb Ewropeaidd—i gadw ffasgiaeth rhag dychwelyd ac i gynrychioli’r dyfodol democrataidd sydd angen i ni i gyd ei gael. Mae angen i ni arwain ar Ewrop, nid ei gadael.
Jenny Rathbone: Yn wir, mae ymgyrchoedd yn datgelu cymeriad, a phobl sy’n byw yn y gorffennol yw’r rhai sy’n gadael, nid y rhai sy’n aros. Rwyf yn y sefyllfa ryfedd heddiw o gytuno â George Osborne, sy’n dweud, os ydych yn gyfoethog ac nad ydych yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, yna gallwch fforddio chwarae gyda’r syniad o rygnu ymlaen am oes a fu, pan oedd Prydain yn rheoli’r tonnau, a’r...
Jenny Rathbone: Ddoe, Ysgrifennydd y Cabinet, fe glywoch chi a minnau gan bobl sydd â diabetes am y gwelliannau sydd wedi digwydd yn y gwasanaethau ledled Cymru. Mae hynny i’w ganmol ac i’w ddathlu—y gwaith a wnaeth eich rhagflaenydd, Mark Drakeford, ar weithredu’r cynlluniau diabetes. O ganlyniad, rydym yn awr yn destun eiddigedd hyrwyddwyr negeseuon diabetes yn Lloegr, am fod gan bob bwrdd iechyd...
Jenny Rathbone: Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog ar gyfer gwella mynediad at fferyllwyr cymunedol?
Jenny Rathbone: A wnaiff y Gweinidog ddarparu amserlen fanwl o'r cynlluniau ar gyfer Metro De Cymru?
Jenny Rathbone: Pa rôl y gall ynni adnewyddadwy a gynhyrchwyd yng Nghymru ei chwarae yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu'r economi?
Jenny Rathbone: Diolch yn fawr iawn, a chroeso, Weinidog. Hoffwn dalu teyrnged—rydych wedi dweud bod rhyw gymaint o wastraff bwyd yn dal i ymddangos mewn ailgylchu du, sydd yn amlwg yn fater iechyd mawr, yn ogystal ag yn hoff iawn gan y gwylanod—i’r gwaith y mae Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff yn ei wneud i ddargyfeirio bwyd rhag gorfod mynd i safleoedd tirlenwi a chael ei ddefnyddio’n gynhyrchiol gan...
Jenny Rathbone: Rwy’n cytuno â chi y dylem fod yn canolbwyntio ar lwyddiant ein tîm ein hunain. Rydych wedi crybwyll eisoes y bydd parth cefnogwyr yn Abertawe a Chaerdydd, ac rwy’n falch iawn o longyfarch cyngor Caerdydd ar ddenu’r nawdd i gael parth cefnogwyr ym mharc Bute ar gyfer y tri digwyddiad. Roeddwn am sôn wrthych pa mor bwysig yw ei wneud yn ddigwyddiad sy’n ystyriol o deuluoedd fel y...
Jenny Rathbone: Mae'n braf clywed, Brif Weinidog, eich bod yn cydnabod bod hwn wir yn fygythiad byd-eang i iechyd a chyfraddau goroesi dynol o achosion cyffredin. Rydym ni wedi tybio erioed y byddem yn goroesi’n rhwydd y clefydau cyffredin a allai achosi marwolaeth erbyn hyn. Mae'r Athro O'Neill yn galw am weithredu byd-eang ar hyn, o ran gorddefnyddio gwrthfiotigau mewn anifeiliaid yn ogystal â...
Jenny Rathbone: 7. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad O’Neill ar y bygythiad i iechyd dynol sy’n deillio o orddefnyddio gwrthfiotigau? OAQ(5)0007(FM)
Jenny Rathbone: Carwyn Jones.