Canlyniadau 1381–1400 o 2000 ar gyfer speaker:David Melding

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Gorsaf Bŵer Aberddawan
(24 Ion 2017)

David Melding: Roedd gen i ddiddordeb mawr, Brif Weinidog, yn yr ateb yna gan nad wyf i wedi gweld y data, ac roeddwn i’n meddwl y byddai angen rhyw lefel o fuddsoddiad i leihau’r allyriadau hyn, a oedd dros ddwywaith y terfyn Ewropeaidd a gytunwyd. Felly, rwy’n siŵr pe gallech chi roi'r wybodaeth honno yn y Llyfrgell neu ei dosbarthu i'r Aelodau, y byddem yn ddiolchgar dros ben. Ond y peth yw...

9. 9. Dadl Fer: Cywiro'r Cam — Honiadau Hanesyddol yn ymwneud â Disgyblion yn Ysgolion Preswyl y Royal Cambrian a Llandrindod ar gyfer Plant Byddar (18 Ion 2017)

David Melding: Ddirprwy Lywydd, a gaf fi dalu teyrnged i Julie Morgan am yr araith dra huawdl ac emosiynol honno, a hefyd am yr holl waith a wnaeth dros y blynyddoedd dros blant, a’i gwaith cyfredol ar gyfer y grŵp hollbleidiol ar blant? Rwyf hefyd wedi cael y fraint o gyfarfod â Cedric Moon, ac rwy’n talu teyrnged iddo yntau hefyd, yn yr achos hwn, am ddwyn ein sylw at y mater hwn, ond hefyd am ei...

5. 5. Dadl Plaid Cymru: Ceblau’r Grid Cenedlaethol (18 Ion 2017)

David Melding: Rwy’n croesawu’r ddadl hon ar bwnc pwysig iawn, mewn gwirionedd. Rhyddhaodd lledaeniad y cyflenwad trydan yn y 1920au a’r 1930au lawer o bobl rhag llawer o waith caled, ond fe farciodd ein tirwedd a’i thrawsnewid mewn ffordd hyll. Er bod y beirdd rhamantaidd yn ystyried bod Cymru yn un o’r ardaloedd mwyaf dyrchafedig a phrydferth, yn rhy aml yn awr, rhaid i ni edrych ar yr hyn a...

6. 4. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cymru (17 Ion 2017)

David Melding: Diolch, Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ganmol pawb a fu’n ymwneud ag ennyn cefnogaeth ar gyfer y Bil hwn a'i wneud yn Fil gwell? Rydym wedi clywed ei bod wedi bod yn broses hir. Rwy’n arbennig o awyddus i sôn am yr Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns, yr Arglwydd Bourne yn Nhŷ'r Arglwyddi, a'r Prif Weinidog am, rwy’n credu, ei grefft llywodraeth wirioneddol i wneud dyfarniad y byddwch yn...

6. 4. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cymru (17 Ion 2017)

David Melding: Diolch—[Torri ar draws.]

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Perthynas Cymru â’r Undeb Ewropeaidd
(17 Ion 2017)

David Melding: Brif Weinidog, rwy’n credu mai Brexit eglur oedd y canlyniad mwyaf tebygol erioed, o ystyried yr hyn y pleidleisiodd pobl drosto yn y refferendwm, ond mae’n rhaid i ni ganolbwyntio’n bennaf ar yr hyn sy’n digwydd wedyn. A ydych chi’n cytuno â mi y dylem ni geisio cael trefniadau sy'n seiliedig ar barch at ein cymdogion yn yr UE? Ni ddylai fod unrhyw elfen o ddymuno i’r UE...

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Sector Addysg Uwch Cymru (11 Ion 2017)

David Melding: Rwy’n credu y gellir arddangos perthnasedd addysg uwch yng Nghymru drwy’r cyhoeddiad diweddar gan Brifysgol Caerdydd ei bod yn mynd i wario £23 miliwn ar adeilad mathemateg a chyfrifiaduraeth newydd a £32 miliwn ar lety newydd i fyfyrwyr. Yn wir, mae wyneb Caerdydd wedi’i drawsnewid yn y 10 neu 20 mlynedd diwethaf, a llawer ohono drwy fuddsoddiad ein prif brifysgol, ac rwy’n falch...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cyfleoedd i Ddisgyblion
(11 Ion 2017)

David Melding: Weinidog, a gaf fi ganmol Llywodraeth Cymru am hyrwyddo nod Gyrfa Cymru. Credaf ei bod yn fenter ardderchog a chredaf ei bod bellach yn denu aelodau o blith y rhan fwyaf o ysgolion Cymru ac yn arwain at ddewisiadau mwy gwybodus ynglŷn â gyrfaoedd ac o ran nodi’r sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr wrth iddynt baratoi i gamu i fyd gwaith. Ond deallaf fod problemau wedi bod yn ystod yr ychydig...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Portffolio’r Amgylchedd
(11 Ion 2017)

David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn falch iawn o’ch clywed yn cyfeirio yn y ddadl ddoe ar y gyllideb derfynol at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ond mae’n rhaid i mi ddweud, pan oedd cyllideb yr amgylchedd gerbron y pwyllgor, roedd yn ymddangos i mi, wrth i ni graffu ar linell y gyllideb, fod y Ddeddf wedi’i defnyddio lawer mwy i...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
‘Dyfodol Ynni Craffach i Gymru’
(10 Ion 2017)

David Melding: Brif Weinidog, rwyf innau hefyd yn cymeradwyo'r adroddiad ardderchog hwn. Credaf ei bod yn bwysig iawn bod pwyllgorau’n gweithio'n galed ac yn myfyrio ar waith pwyllgorau blaenorol. Gwn y bydd y pwyllgor olynol yn dychwelyd at hyn. Ond uchelgais yw hwn, a’r uchelgais hwnnw yr ydym ni eisiau iddo gael ei adlewyrchu, rwy’n credu, yn rhaglen y Llywodraeth. Ceir cyfle gwirioneddol yma,...

7. 5. Dadl Plaid Cymru: Troi Allan Aelwydydd â Phlant (14 Rha 2016)

David Melding: Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r cynnig hwn—pwysig iawn. Dyma’r tymor pan fyddwn yn draddodiadol yn edrych ar anghenion y mwyaf agored i niwed o ran tai ond rwy’n credu ei bod yn wers y dylid ei hystyried drwy gydol y flwyddyn. Fel y nodwyd eisoes, rwy’n meddwl bod y rhan fwyaf o achosion o droi allan yn cael eu cyflawni gan landlordiaid cymdeithasol ac mae Shelter yn amcangyfrif...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Rhaglen Atal Trais Caerdydd
(14 Rha 2016)

David Melding: A gaf fi ychwanegu at y ganmoliaeth i’r rhaglen hon, gan nad oes unrhyw amheuaeth y gallwn ddefnyddio data’n effeithiol iawn i weld lle y gellir sicrhau bod ymddygiad yn newid o ganlyniad i fân newidiadau yn y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau neu’r hyn a ganiatawn yn yr amgylchedd trefol, er enghraifft, pa un a oes gennych wydrau gwydr neu wydrau plastig? Mae llawer o bethau yno...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Uwchgynhadledd Meiri C40
(14 Rha 2016)

David Melding: Mae’n eithaf clir mai’r neges yma yw bod ardaloedd trefol angen aer glân o’r ansawdd gorau posibl er mwyn bod yn wirioneddol ddeniadol i’r boblogaeth leol, ond hefyd o ran denu mewnfuddsoddiad a’u hiechyd economaidd. Mae yna ffyrdd y gallwn reoli hynny yn awr, hyd yn oed cyn ein bod yn gwahardd ceir diesel yn ffurfiol. Mae’n bwysig iawn ein bod, yng Nghymru, yn gweld yr...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Uwchgynhadledd Meiri C40
(14 Rha 2016)

David Melding: 8. Beth yw'r goblygiadau i Lywodraeth Cymru yn dilyn yr Uwchgynhadledd Meiri C40, pan ymrwymodd Paris, Athen, Madrid a Dinas Mecsico i statws rhydd rhag diesel erbyn 2025? OAQ(5)0076(ERA)

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (14 Rha 2016)

David Melding: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr amcanestyniad tai amgen yn adroddiad Holmans?

7. 6. Datganiad: Codau Cyfraith Cymru (13 Rha 2016)

David Melding: A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod wedi dysgu rhywbeth bod cyfreithiau Hywel Dda yn dyddio o 962, a soniodd Dai hefyd am hyn, ond bu farw Hywel yn 950? Ond mae'n debyg ei fod wedi cymryd peth amser i fynachod Hendy-gwyn ar Daf greu'r llawysgrif. Ond, beth bynnag, mae'n ymddangos bod gwneud cyfraith ac ymdrin â’n cyfraith gyfansoddiadol sylfaenol yn cymryd ychydig o amser, felly efallai y...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Lleddfu’r Tagfeydd Traffig ar y Ffyrdd yng Nghanol De Cymru
(13 Rha 2016)

David Melding: Brif Weinidog, byddwn yn eich gwahodd i gerdded trwy Cogan os ydych chi wir eisiau cael profiad o ansawdd aer gwael—mae'n rhyfeddol o wael yno. Rwy'n cerdded trwy Cogan yn eithaf aml. Mae'n amlwg bod angen i ni leihau nifer y teithiau diangen, neu deithiau nad ydynt yn cael eu rhannu—felly, wyddoch chi, dim ond un o’r rhai yn y car yn gyrru. Ceir llawer o fuddugoliaethau cyflym y...

8. 6. Dadl UKIP Cymru: Ffioedd Asiantau Gosod ( 7 Rha 2016)

David Melding: A gaf fi groesawu’r ddadl hon gan UKIP a chymeradwyo’r araith agoriadol gan Gareth Bennett hefyd, a oedd yn dadansoddi’r sefyllfa bresennol yn effeithiol ac yn drylwyr iawn, ac roeddwn yn meddwl ei fod yn cyflwyno achos argyhoeddiadol iawn? Felly, rydym yn croesawu’r newid polisi hwn yn gyffredinol. Credaf ei bod yn bwysig adlewyrchu’r newid yn y gymdeithas. Erbyn hyn mae gennym...

5. 3. Datganiadau 90 Eiliad ( 7 Rha 2016)

David Melding: Lywydd, 100 mlynedd yn ôl, daeth David Lloyd George yn Brif Weinidog. Llwyddodd y Llywodraeth a ffurfiodd i arwain y cynghreiriaid i fuddugoliaeth a enillwyd drwy waith caled, ehangodd y bleidlais yn aruthrol, a sefydlodd iechyd a thai fel blaenoriaethau llywodraethol. Roedd hi’n ymddangos bod Cymru wedi dod o hyd i ffigur arwrol—yr Arthur chwedlonol. Lloyd George oedd y dyn cyntaf heb...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Argaeledd Cynlluniau Mân Anhwylderau (Canol De Cymru)
( 7 Rha 2016)

David Melding: Weinidog, cefais fy nghalonogi ynglŷn â Chwm Taf, ond fel y gwyddoch, gellir trin 20 o’r afiechydon mwyaf cyffredin yn dda iawn mewn fferyllfeydd, ac mae hyn yn lleihau’r pwysau ar feddygon teulu. Mae yna gynllun hysbysebu—sydd yn ôl pob tebyg yn cael ei redeg gan y GIG yn Lloegr, ond mae’n parhau i fod yn berthnasol yma yng Nghymru—sy’n annog pobl i chwilio am gyngor yn...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.