Canlyniadau 1401–1420 o 2000 ar gyfer speaker:Huw Irranca-Davies

9. 8. Dadl: Morlynnoedd Llanw (14 Chw 2017)

Huw Irranca-Davies: Hoffwn ganolbwyntio’r rhan fwyaf o fy sylwadau ar y morlyn llanw ym mae Abertawe, ond a gaf ddechrau drwy longyfarch Charles Hendry ar ei adroddiad? Yn rhy aml, mae adolygiadau o'r math hwn yn eu colli eu hunain mewn amwysedd a ffwdanu, heb ddod i unrhyw gasgliadau clir ond yn ychwanegu at y niwl ac at yr oedi, ond nid hwn. Dyma’r union fodel o'r hyn y dylai adolygiad gweddus ei wneud....

7. 6. Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017 (14 Chw 2017)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Croesawaf y cyfle i siarad yn fyr iawn ar y Gorchymyn hwn—ar bwynt bach, ond pwynt pwysig yn fy marn i—ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Nododd ein hadroddiad i'r Cynulliad un pwynt o ddiddordeb—roedd yn bwynt teilwng—yn ymwneud â dibyniaeth y Gorchymyn hwn ar gyfres o reoliadau sydd eto i’w cyflwyno i Weinidogion Cymru ac eto i'w craffu...

6. 5. Datganiad: Sefydlu'r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth (14 Chw 2017)

Huw Irranca-Davies: Rwyf ychydig yn llai— [Torri ar draws.] Rwyf ychydig yn llai pesimistaidd nag y mae Bethan wedi bod, oherwydd gallaf enwi unigolion sy'n noddi’r celfyddydau: y cyn-löwr David Brace a'i wraig Dawn Brace, sy'n rhoi £20,000 y flwyddyn o'u harian—Dunraven Windows yw eu cwmni, y ffenestri gwydr dwbl. Maent yn ariannu canwr ifanc y flwyddyn Pen-y-bont yn gyfan gwbl, sy’n gystadleuaeth ar...

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (14 Chw 2017)

Huw Irranca-Davies: Tybed a allwn ddod o hyd i amser i gael dadl neu ddatganiad ar y diwydiant adeiladu yng Nghymru, ac rwy’n tynnu sylw'r Aelodau at fy nghofrestr o fuddiannau—mae gan y ddau undeb yr wyf yn ymwneud â nhw fuddiannau ym maes adeiladu. Ond, yn dilyn y data diweddaraf gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, sy'n dangos y rhagwelir y bydd twf allbwn yng Nghymru yn gryfach nag yn unrhyw ran...

8. 6. ‘Diogelu Dyfodol Cymru’: Trefniadau Pontio o'r Undeb Ewropeaidd i Berthynas Newydd ag Ewrop ( 7 Chw 2017)

Huw Irranca-Davies: Diolch. Diolch i chi am ildio. Ymddengys ei fod wedi darllen yn glir y bore yma y llw Hippocratic gwreiddiol, sy'n dweud, yn gyntaf oll, 'Na wna niwed'. [Chwerthin.]

8. 6. ‘Diogelu Dyfodol Cymru’: Trefniadau Pontio o'r Undeb Ewropeaidd i Berthynas Newydd ag Ewrop ( 7 Chw 2017)

Huw Irranca-Davies: Diolch am ildio, Mark. Rwy’n dweud hyn â phob rhesymoldeb: os, o'r ddau amcan hynny, yw’r un o geisio gosod cap ar fudo naill ai oddi mewn yr UE neu'n allanol yn gwrthdaro â'r syniad o ganfod a recriwtio’r bobl fedrus hynny a fydd yn gyrru ein heconomi, ein prifysgolion a’n swyddi, pa un sy’n cael blaenoriaeth? Oherwydd byddwn i’n meddwl bod hyd yn oed y Prif Weinidog yn dechrau...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Trais Domestig
( 1 Chw 2017)

Huw Irranca-Davies: Rwy’n croesawu’r ymateb hwnnw. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, ceir tystiolaeth empirig gynyddol a damniol ac astudiaethau academaidd cymhwysol sy’n tynnu sylw at y cam-drin a’r trais domestig cynyddol sy’n gysylltiedig â digwyddiadau chwaraeon mawr, nid y chwe gwlad yn unig, ond rownd derfynol Super Bowl, pêl-droed Cwpan y Byd ac eraill. A dyna pam y cafwyd yr ymdrechion hyn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Rhaglen Cartrefi Clyd
( 1 Chw 2017)

Huw Irranca-Davies: Wel, croesawaf yr ymateb hwnnw, a bydd yn adeiladu ar y gwaith lle y gwnaed gwelliannau, yn ôl yr hyn a ddeallaf, i effeithlonrwydd ynni oddeutu 8,000 o gartrefi y llynedd o dan Nyth ac Arbed. Ac wrth gwrs, mae hyn yn cysylltu â thlodi tanwydd, ac roeddwn am ofyn hynny yn fy nghwestiwn atodol. Bydd Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o ddatganiad Age Cymru ar dlodi...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Rhaglen Cartrefi Clyd
( 1 Chw 2017)

Huw Irranca-Davies: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Cartrefi Clyd? OAQ(5)0102(ERA)

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Trais Domestig
( 1 Chw 2017)

Huw Irranca-Davies: 5. Pa fesurau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i helpu i fynd i'r afael â thrais domestig yn ystod pencampwriaeth rygbi y Chwe Gwlad a digwyddiadau chwaraeon mawr eraill? OAQ(5)0102(CC)

6. 4. Datganiad: Yr Adolygiad Hazelkorn o Addysg yng Nghymru (31 Ion 2017)

Huw Irranca-Davies: Rwy’n croesawu’r ymateb cynhwysfawr y datganiad i adolygiad Hazelkorn, ond byddaf yn cyfyngu fy sylwadau i fater penodol ond—yn fy marn i—mater sy’n bwysig iawn. Mae Hazelkorn a’r datganiad hwn yn cydnabod bod yn rhaid cael ymdrech ar y cyd i gyflawni parch cydradd at lwybrau galwedigaethol ac academaidd. Credaf fod hyn yn golygu y bydd angen darparu cyngor, arweiniad a...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Morlyn Llanw Bae Abertawe
(31 Ion 2017)

Huw Irranca-Davies: Diolch am eich ‘patience’, Lywydd.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Morlyn Llanw Bae Abertawe
(31 Ion 2017)

Huw Irranca-Davies: Charles Hendry—roeddem ni’n falch iawn ei fod yma yr wythnos diwethaf yn briffio Aelodau'r Cynulliad. Roedd yn gymeradwyaeth eglur a phendant i forlyn Abertawe fel prosiect braenaru, a dywedodd yn ei adroddiad, ac rwy'n dyfynnu, Tua 30c fesul cartref y flwyddyn dros y 30 mlynedd gyntaf fyddai costau prosiect braenaru. Deg ceiniog ar hugain. Byddai prosiect ar raddfa fawr yn llai na 50c...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Adolygiad Hendry
(31 Ion 2017)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Roeddem ni’n falch iawn bod Charles Hendry wedi rhoi o’i amser i ymweld â'r Cynulliad yr wythnos diwethaf ac i friffio Aelodau’r Cynulliad—

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Adolygiad Hendry
(31 Ion 2017)

Huw Irranca-Davies: Mae’n ddrwg gen i. [Chwerthin.]

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Morlyn Llanw Bae Abertawe
(31 Ion 2017)

Huw Irranca-Davies: 8. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch Morlyn Llanw Bae Abertawe ers cyhoeddi adroddiad Hendry? OAQ(5)0409(FM)

7. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gwaed Halogedig (25 Ion 2017)

Huw Irranca-Davies: A gaf fi ofyn a wnewch chi ildio ai peidio?

7. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gwaed Halogedig (25 Ion 2017)

Huw Irranca-Davies: Diolch i chi Julie am ildio. A gaf fi ddweud bod y ddadl heddiw, ond hefyd yr alwad am yr ymchwiliad cyhoeddus, yn cael cefnogaeth fy etholwyr yn Llanhari a hefyd ym Maesteg, y bûm yn ymwneud â hwy dros lawer iawn o flynyddoedd? Efallai y bydd hanes un o fy etholwyr o Lanhari yn tynnu sylw at ddisgrifiad yr Arglwydd Winston o hon fel y drychineb waethaf yn ymwneud â thriniaethau yn hanes y...

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Gweithwyr Proffesiynol Perthynol mewn Gwasanaethau Iechyd Sylfaenol
(25 Ion 2017)

Huw Irranca-Davies: Yn dilyn ymlaen o’r cwestiwn a gyflwynodd y mater, a gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymweliad y bore yma â meddygfa Tynycoed yn Sarn? Ac fe welodd frwdfrydedd ac arbenigedd ystod eang o weithwyr proffesiynol, ond nid yn unig y meddygon teulu, nid yn unig y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ond gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, pobl...

4. 4. Datganiad: ‘Sicrhau Dyfodol Cymru’: Symud o’r Undeb Ewropeaidd at Berthynas Newydd ag Ewrop (24 Ion 2017)

Huw Irranca-Davies: Nid wyf am oedi gyda’r materion ehangach a drafodwyd hyd syrffed yma heddiw. Mae rhai o'r gwahaniaethau barn wedi bod yn eithaf mawr. Rwyf am ganolbwyntio ar un man lle gellid cael mwy o gytundeb. Gan ddweud hynny, wrth agor y sylwadau hyn, a gaf i groesawu yma siarad pwyllog RT Davies yn hyn o beth? Wrth gyfeirio at bennod 7—sy’n trafod diwygio cyfansoddiadol ar ôl Brexit—mae'n...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.