Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n cynnig gwelliannau 1 a 2 yn enw Plaid Cymru. Rwyf am ddechrau drwy longyfarch y comisiynydd plant, nid yn unig am yr adroddiad blynyddol, ond am ei gwaith yn ystod y flwyddyn sydd wedi mynd heibio. Rwy’n gwybod, wrth gwrs, fod y gwaith hwnnw wedi’i osod ar seiliau cadarn yn dilyn yr ymgynghoriad ‘Beth Nesa?’ a gynhaliwyd—yr ymgynghoriad mwyaf erioed...
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Weinidog? Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad bod yna gynllun cyflogadwyedd yn mynd i fod, a’r egwyddor gyffredinol o greu cynnig haws ei ddeall, mwy hyblyg, gyda chefnogaeth unedig drwy, yn yr achos yma, wrth gwrs, y gwasanaeth cyngor cyflogaeth. Ond, wrth gwrs, mae’r datganiad yn codi lot o gwestiynau hefyd, gan ei fod, yn ei hanfod,...
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad heddiw? Mae’n hen bryd, rwy’n meddwl, i ni fynd i’r afael â rhai o’r trafferthion sydd wedi bod yn llethu ac yn gysgod mawr dros ysgolion bychan ac ysgolion gwledig dros y blynyddoedd. Fel rhywun sydd yn byw mewn cymuned wledig, fel rhywun sydd yn rhiant i blant sydd yn mynychu ysgol fechan wledig ac yn llywodraethwr ar ysgol...
Llyr Gruffydd: A gaf i yn y lle cyntaf ddiolch i bawb am eu cyfraniadau? Mi fyddwn ninnau fel plaid hefyd yn cefnogi yr ail welliant. Fyddwn ni ddim yn cefnogi’r gwelliant cyntaf—dyna ddiwedd ar y consensws yn syth—am union yr un rhesymau ag esboniodd Suzy Davies, a dweud y gwir. Nid ydym yn anghydweld â’r hyn sydd yn y gwelliant, ond, wrth gwrs, mi fyddai fe yn dileu yr ail bwynt yn y cynnig, ac...
Llyr Gruffydd: Wel, mae’n drueni nad yw’r Aelod yn cofio’r ffaith ein bod ni wedi codi hyn yn y Siambr rai wythnosau yn ôl, ansawdd dysgu ail iaith, a bod y Gweinidog ei hunan wedi gwneud datganiad clir ynglŷn â’r cyfeiriad y mae’r Llywodraeth yn teithio iddo fe yn y maes yna. Nid wy’n mynd i ddefnyddio fy amser nawr, gan fod hynny’n fater sydd wedi cael ei drafod yn flaenorol, ond yn sicr...
Llyr Gruffydd: Iawn.
Llyr Gruffydd: Diolch, Lywydd, ac rwy’n codi i siarad i’r cynnig yma yn enw Plaid Cymru. Nawr, y bwriad, wrth gwrs, wrth ddod â’r ddadl yma gerbron heddiw yw nid cwestiynu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r targed yma o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, na chwaith amau’r consensws rydw i’n siŵr sydd yn bodoli yn y Cynulliad yma i weithio tuag at y nod hwnnw. Ond un o fwriadau gosod y ddadl...
Llyr Gruffydd: Diolch ichi am eich ymateb. Rwyf innau hefyd yn cydnabod y modd y mae’r bwrdd iechyd yn ymateb i’r hyn sydd wedi cael ei ddweud yn yr adroddiad, ond ysywaeth, wrth gwrs, mae’n teimlo fel pe bai’r adroddiadau yma’n ymddangos yn wythnosol y dyddiau hyn. Mae’n bwysig cydnabod mai achosion hanesyddol, wrth gwrs, yw nifer o’r achosion yma sydd yn dod i’r golwg, a bod y bwrdd yn...
Llyr Gruffydd: Diolch am eich ateb. Mi fyddwn i’n cytuno ein bod ni angen denu mwy, ond, wrth gwrs, maen nhw yn rhoi pwysau ar ein seilwaith trafnidiaeth ni, ac rŷm ni wedi gweld—mae yna etholwr wedi cysylltu â mi yn cyfeirio at dair achlysur yn y pythefnos diwethaf lle mae aelod o’i theulu wedi gorfod sefyll ar y trên yr holl ffordd o Wrescam i Gaerdydd, ac, ar un achlysur, yr holl ffordd o...
Llyr Gruffydd: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddigwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghymru? OAQ(5)0072(EI)[W]
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch adroddiad yr Ombwdsmon, a ganfu 'methiant systemig' mewn gofal claf canser yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan? EAQ(5)0076(HWS)
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd am ei ddatganiad a chroesawu’r datganiad? Fe fyddwch yn gwybod, wrth gwrs, bod Plaid Cymru wedi ymrwymo i gynnig gofal plant llawn-amser i bawb. Ond, rwy’n derbyn bod hwn yn gam positif i’r cyfeiriad hwnnw ac yn un rydym ni’n amlwg yn ei gefnogi. Mae’n dda gweld y Llywodraeth yn dechrau ar y gwaith ar lawr gwlad, fel petai. Un nodyn y byddwn i’n...
Llyr Gruffydd: Diolch am eich ateb. Byddwch chi, rwy’n siŵr, yn ymwybodol bod y comisiynydd plant wedi galw ar y Llywodraeth i gyflwyno canllawiau statudol i’w gwneud hi’n ofynnol i rieni gofrestru’r ffaith eu bod nhw’n addysgu eu plant gartref. Mae hi wedi gwneud yn glir yn ddiweddar yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd y byddai hi yn barod i ddefnyddio ei phwerau statudol er mwyn...
Llyr Gruffydd: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am blant yng Nghymru a addysgir gartref? OAQ(5)0250(FM)[W]
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch am y cyfle i gyfrannu a diolch am gyfraniad Hannah Blythyn y prynhawn yma? Yn amlwg, mae’n bwysig ein bod yn datblygu economi gogledd Cymru fel pwerdy economaidd yn ei rhinwedd ei hun—mae hynny’n allweddol. Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau pob budd economaidd posib o Bwerdy’r Gogledd yn Lloegr, ond fy ngofid i, wrth gwrs, os nad oes yna ffocws cryf ar economi’r...
Llyr Gruffydd: Rwy’n credu y dylem i gyd gwestiynu’r rhesymau pam rydym yn gwneud hyn. Ac os nad ydym yn gwrando ar gyrff sydd â diddordeb, a ddylem wrando ar gyrff nad oes ganddynt ddiddordeb, felly, neu sut rydym i symud ymlaen? Mae’n rhaid i mi ddweud eich bod yn iawn i dynnu sylw at ychydig o archwilio beirniadol fel rhywbeth sydd ei angen mewn unrhyw drafodaeth o’r math hwn—mae’n...
Llyr Gruffydd: Diolch i chi am eich ateb. Yn amlwg, mae yn ofynnol bod hyn yn digwydd, ond fy nghwestiwn i yw: pwy sy’n gwirio safon ac ansawdd a chywirdeb yr asesiadau yma? Oherwydd maen nhw’n sail i benderfyniadau pellgyrhaeddol. Nid oes dim byd i ddweud na allai unrhyw un ohonom ni fan hyn sefydlu cwmni a fyddai’n mynd ati i greu asesiadau o’r fath. Rwyf felly eisiau gwybod pwy sy’n heddlua y...
Llyr Gruffydd: Diolch i chi unwaith eto, ac mae’n amlwg fod eich barn yn eithaf diamwys, ond rhaid i mi ddweud bod safbwynt Llywodraeth Cymru ar symudiad rhydd pobl wedi bod yn hynod o anghyson, wrth gwrs. Rydym yn gwybod ei fod wedi’i hepgor o egwyddorion y Llywodraeth ar gyfer gadael yr UE dros doriad yr haf. Ym mis Medi, dywedodd y Prif Weinidog wrthym fod mater symudiad rhydd pobl yn rhywbeth y bydd...
Llyr Gruffydd: Diolch i chi am eich ateb cynhwysfawr, ac rydw i’n falch o glywed bod yna gyfarfod i ddigwydd, oherwydd mae’r fath datganiadau ag yr ŷm ni wedi’u clywed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd i danseilio statws y Deyrnas Unedig, ac, wrth gwrs, Cymru, yn sgil hynny, o safbwynt bod yn gyrchfan ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, ac ŷm ni wedi gweld, wrth gwrs, gydag ystadegau UCAS yr...
Llyr Gruffydd: Diolch, Lywydd. Mae Ysgrifennydd Cartref y Deyrnas Unedig wedi sôn am fwriad ei Llywodraeth i leihau nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio yn y Deyrnas Unedig trwy gyflwyno amryw o gyfyngiadau newydd. O gydnabod pwysigrwydd myfyrwyr rhyngwladol i brifysgolion ac, yn wir, economi ehangach Cymru, a gaf fi ofyn pa asesiad y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud o effaith y fath newidiadau ar...