Jane Hutt: Diolch i'r Aelod am godi mater sydd, yn wir, fel y dywedwch, wedi ei gyflwyno ger bron y Cynulliad hwn ac i sylw Llywodraeth Cymru. Mae'n galonogol clywed bod Casnewydd͏͏—i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Casnewydd fel awdurdod lleol; y deunawfed awdurdod o’r 22, felly mae mwy i ddod. Mae hyn yn rhywbeth sydd—bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion...
Jane Hutt: Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig a byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ymateb naill ai'n ysgrifenedig neu yn wir mewn datganiad i'r Aelodau.
Jane Hutt: Ydw, Mike Hedges, rwyf yn gweld eisiau y nifer o gwestiynau a gefais ynglŷn â buddsoddi i arbed, sydd bellach yn datblygu i’r gronfa arloesi i arbed, ond rwy'n falch o gael y cyfle i ymateb y prynhawn yma. Mewn gwirionedd, mae'r gronfa arloesi i arbed yn cefnogi wyth prosiect trwy gyfnod ymchwil a datblygu’r fenter ar hyn o bryd, a nod y cam hwn yw profi a gwella syniadau fel y gallwn...
Jane Hutt: Diolch i'r Aelod am y ddau gwestiwn yna. Yn gyntaf, ydy, mae'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl Rhyngwladol heddiw, ac mae'n gyfle i ni gydnabod nid yn unig bod hyn yn broblem i un o bob pedwar ohonom, o ran anghenion a materion iechyd meddwl, ond hoffwn unwaith eto achub ar y cyfle hwn i ddweud, o safbwynt Llywodraeth Cymru, bod cefnogi pobl sy’n dioddef problemau iechyd meddwl yn un o'n prif...
Jane Hutt: Diolch, Llywydd. Mae gennyf i ddau newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn gwneud datganiad cyn bo hir am ymgynghoriadau ar deithiau bws rhatach, ac mae'r amser a neilltuwyd ar gyfer cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol yfory wedi ei leihau i 30 munud. Mae busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a'r...
Jane Hutt: Diolch, Jenny Rathbone. Rwy'n credu y byddwch chi'n falch iawn o glywed, yn dilyn ymweliad eich pwyllgor a thŷ SOLCER, yn dysgu am y mathau gwahanol o ôl-osod, yn unol â’r iaith frodorol leol, rydym yn buddsoddi £104 miliwn yn Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru dros y pedair blynedd nesaf, i wella 25,000 o gartrefi eraill. A byddwn yn parhau i edrych ar ddewisiadau i gynyddu ein...
Jane Hutt: Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn yna. Ac wrth gwrs, yn syth ar ôl ein datganiad busnes, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, fel yr oeddech chi yn ei ddweud, yn cyhoeddi cyllideb ddrafft amlinellol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19, gan wneud datganiad llafar. Rydym wedi galw dro ar ôl tro—yn sicr o dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet—ar Lywodraeth y DU i...
Jane Hutt: Gwn y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf nid yn unig am y buddsoddiad yng Nghasnewydd a’r cymorth i fusnes, ond hefyd am y newyddion da a gyhoeddwyd yn ddiweddar o ran datblygu, y bydd yr economi leol yn elwa arno. Wrth gwrs, mae ei swyddogion yn ymgysylltu’n agos, pan fo busnesau'n cael anawsterau, yn enwedig y busnesau hynny yr ydym ni eisoes wedi eu...
Jane Hutt: Diolch i Jeremy Miles am y ddau gwestiwn yna. Rwy'n credu y bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r 'Adroddiad Ysgol' 2017 diweddaraf gan Stonewall Cymru, ac mae'n galonogol nodi bod yr adroddiad hwnnw, mewn gwirionedd, yn dangos bod nifer y disgyblion lesbiaidd, hoyw a deurywiol sy’n cael eu bwlio oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol wedi gostwng gan bron i draean. Ond rydym yn amlwg yn cydnabod bod...
Jane Hutt: Wel, wrth gwrs, mater i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw hwn. Yn amlwg, maen nhw’n ymwybodol ac yn ymdrin â'r mater hwn ac, wrth gwrs, ceir trafodaeth a dadl gadarn yn lleol amdano. Ac wrth gwrs, dyna beth y byddwn ni’n ei ystyried o ran ymgysylltiad Ysgrifennydd y Cabinet â hyn.
Jane Hutt: Wel, wrth gwrs, mae’r materion hyn yn cael eu hystyried mewn ymgynghoriad, a gwnaed y dewisiadau a'r awgrymiadau hynny yn glir yn y datganiad diweddar ac yn y Papur Gwyn. Felly, yn amlwg, mae cyfle i ystyried hyn o ran yr hyn sy’n bwysig, sef darparu gwasanaeth i'r bobl leol.
Jane Hutt: Diolch, Llywydd. Mae un newid i agenda heddiw—mae'r amser a neilltuwyd i'r gyllideb ddrafft wedi ei ymestyn i 90 munud. Mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes a geir ymhlith papurau'r agenda, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Jane Hutt: Diolch i Nick Ramsay am y cwestiwn yna. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad yn ddiweddarach yr wythnos hon, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y fasnachfraint ac, wrth gwrs, bydd yn ateb y cwestiynau hynny, yn enwedig o ran cerbydau.
Jane Hutt: Mewn ymateb i'r Aelod, gwn mai mater i gyngor Castell-nedd Port Talbot fydd hwn, ond, yn amlwg, gan weithio ar y cyd â’r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, gydag awdurdodau eraill yn aml iawn. Wrth gwrs, mae cod ymarfer newydd ar gyfer caffael moesegol yng Nghymru, ac mae buddion cymunedol yn bwysig iawn ac, mewn gwirionedd, yn sicrhau ein bod yn rhoi cyfle i gadwyni cyflenwi...
Jane Hutt: Diolch, David Rees. Mae cynhyrchiad National Theatre Wales—Rwy'n credu mai ei enw yw 'We're Still Here'–
Jane Hutt: Rwy'n edrych ymlaen at weld y ddrama hon fy hun yn ddiweddarach yn yr wythnos. Rwy'n credu bod yn rhaid i chi fynd i'r orsaf, ac yna byddwch chi’n cael eich tywys i’r man perfformio ar gyfer y ddrama. Rwy’n credu y byddem i gyd yn cydnabod bod National Theatre Wales, yn sefydliad pwysig iawn, iawn yr ydym yn ei gefnogi. Ond fe wnaethoch chi godi cwestiynau pwysig am gynnydd yr ardal...
Jane Hutt: Gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch y cyfle pwysig iawn hwn o ran gemau 2020 ac o ran adeiladu ar ein profiad, a rannwyd yn gynharach y prynhawn yma, rwy'n credu y byddai'n briodol gwneud rhywbeth i roi sicrwydd a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn hynny o beth.
Jane Hutt: Diolch, Huw Irranca-Davies. Mae'n bwysig bod yr ail gwestiwn yna wedi codi o ran inswleiddio waliau dwbl fel y gallaf, unwaith eto, sicrhau’r Aelodau bod y Cynlluniau Personau Cymwys wedi eu cyflwyno i'r rheoliadau adeiladu yn 2010 a’u bod yn cynnwys gosod deunydd inswleiddio i waliau dwbl. Mae'r cynlluniau hyn yn caniatáu i osodwyr osod deunydd inswleiddio ac i hunanardystio bod y...
Jane Hutt: Fe wnes i ymateb i gwestiwn Simon Thomas yn gynharach, gan ddweud y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn egluro ein sefyllfa ynghylch y cwestiwn hwn.
Jane Hutt: Diolch, Julie Morgan, am fy ngalluogi i ddilyn ac ymestyn yr ymateb a roddais i Simon Thomas yn gynharach. Fel y dywedais wrth Simon Thomas, ac wrth Aelodau, yn enwedig ar y Pwyllgor Cyllid, yr oeddech yn aelod ohono yn y sesiwn ddiwethaf, fe wnaethom ni dreulio llawer o amser yn edrych ar ffyrdd, yn enwedig pan oedd cyni yn dechrau cael effaith, y gallem ni, er enghraifft, eu defnyddio i...