Alun Davies: A gaf i ddweud hyn? Mae'n amlwg bod gan yr Aelod bwynt da iawn i’w wneud yn ei sylwadau. Mae ei sylwadau ar y cofnod. Byddaf yn ysgrifennu ati i roi ymateb llawnach i hynny, a byddaf yn rhoi’r ohebiaeth honno yn y Llyfrgell i’r holl Aelodau ei gweld.
Alun Davies: Rwy'n gobeithio y gallaf roi’r ymrwymiad hwnnw ichi. Wrth gwrs, mater i'r Cynulliad Cenedlaethol yw’r broses ddeddfwriaethol, nid i’r Llywodraeth, ond dewch imi ddweud hyn: nid fy mwriad yw cadw at amserlen os nad yw’r amserlen honno’n cyflawni craffu cadarn ac yn ein galluogi ni i wneud y gwelliannau yr ydym yn teimlo eu bod yn ofynnol gan hynny. Rwy’n gwybod bod Lynne Neagle,...
Alun Davies: Rwy’n cytuno’n llwyr â'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod. Rwy'n meddwl ei bod hi'n hollol gywir. Does dim pwynt i Weinidog sefyll yn y Siambr hon a dweud bod yn rhaid iddo ganolbwyntio ar yr unigolyn a chanolbwyntio ar y plentyn os nad ydym yn rhoi ar waith y dulliau a'r mecanweithiau i sicrhau bod hynny'n digwydd mewn gwirionedd. Mae hynny'n golygu edrych ar yr holl faterion y mae’r Aelod...
Alun Davies: Rwyf wedi dweud sawl gwaith wrth ateb nifer o gwestiynau ein bod yn ceisio cyflawni newid diwylliannol yn ogystal â newid strwythurol a statudol. Dewch imi ddweud hyn: rwy’n ymddiried mewn gweithwyr iechyd proffesiynol ac rwy’n ymddiried mewn arweinwyr ysgolion. Y dôn yr ydym wedi ceisio ei mabwysiadu yn y Llywodraeth yw gweithio gyda gweithwyr proffesiynol ac nid yn eu herbyn nhw, neu...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, rwyf wedi cael fy hun i drafferth ofnadwy drwy geisio’n rhy galed i fod yn rhy neis ac yn rhy hael. Gallaf sicrhau Aelodau ar draws y Siambr na wnaiff hynny ddigwydd eto. Rwy'n ddiolchgar i Lynne am ei dull o weithio fel Cadeirydd y pwyllgor. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod y system pwyllgorau yn rhywbeth sy’n annwyl iawn imi, ac rwyf wedi gwasanaethu fel Aelod...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i lefarydd y Ceidwadwyr am ei sylwadau caredig. Rwy’n gwybod bod y Ceidwadwyr wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y ddeddfwriaeth hon, a bod Angela Burns wedi cadeirio'r pwyllgor yn y Cynulliad blaenorol. Byddwn yn sicr yn cofnodi fy niolch i Angela am y gwaith a wnaeth ar y pryd. Yn sicr, mae wedi ein helpu i ddatblygu'r drafft newydd. Rwy'n ddiolchgar i Darren am...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i lefarydd Plaid Cymru am ei eiriau o gefnogaeth. Dewch imi ddweud hyn fel pwynt cyffredinol cyn ceisio ateb y cwestiynau penodol: rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n cael dadl eang am y materion hyn yn y ffordd y mae'r Aelod wedi ceisio ei chychwyn, ac mae'n bwysig ein bod ni’n edrych ar y materion y bydd ef ac eraill yn eu codi y prynhawn yma. Hoffwn wrando...
Alun Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. Roeddwn yn falch ddoe o gyflwyno'r Bil Tribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysg (Cymru), gyda'i femorandwm esboniadol, i’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae diwygio'r fframwaith statudol presennol ar gyfer cefnogi dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig ac anawsterau a/neu anableddau dysgu wedi bod ar yr agenda ers dros ddegawd. Rydym nawr yn ei wireddu. Bydd gan...
Alun Davies: Hoffwn innau ddiolch i weithwyr proffesiynol a phartneriaid am y rhan y maent wedi’i chwarae wrth gyd-gynhyrchu drafft gweithio nesaf y cod anghenion dysgu ychwanegol. Mae rhaglen helaeth o waith wedi ei gwneud i ddatblygu’r drafft a gyhoeddwyd gennym ym mis Medi 2015. Ddirprwy Lywydd, byddaf yn rhyddhau’r drafft hwn ym mis Chwefror 2017 yn y gobaith y gall gynorthwyo â’r gwaith o...
Alun Davies: Rwy’n derbyn yn llwyr fod rhieni, ers gormod o amser, wedi gorfod brwydro ac wedi bod drwy gyfnodau anodd ac emosiynol iawn wrth ymdrechu i sicrhau’r ddarpariaeth addysgol y maent ei hangen ar gyfer eu plant, ac mae hynny’n ymwneud yn rhannol nid yn unig â chael datganiad ond â diagnosis hefyd. Mae nifer fawr o broblemau wedi bod mewn perthynas â thaith y plentyn, yn yr achos hwn...
Alun Davies: Rwyf eisoes wedi cyfarfod ar sawl achlysur â myfyrwyr byddar, teuluoedd, sefydliadau ac ymarferwyr sy’n gweithio gyda’r bobl hynny er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn cyrraedd pob rhan o’r gymuned addysgol a bod pob rhan o’n cymuned yn cael yr addysg sydd ei hangen arnynt ac y maent yn ei haeddu. Bydd pobl fyddar yn rhan annatod o hynny, ac fel rhan o’r rhaglen drawsnewid...
Alun Davies: Roedd yn fwy o syndod i mi nag yr oedd i bobl eraill. [Chwerthin.] Rwy’n ddiolchgar i Lynne Neagle am y sgwrs yr wythnos diwethaf ynglŷn â’r materion hyn, ond hefyd am y gwaith y mae hi wedi bod yn ei wneud fel Cadeirydd y pwyllgor hwn ar baratoi’r pwyllgor er mwyn sicrhau ein bod yn craffu ar y ddeddfwriaeth hon mor fanwl ag y gallwn. Yn y pen draw, byddai’n well gennyf weld Deddf...
Alun Davies: Os oes gan yr Aelod achosion unigol, yna yn amlwg gall ysgrifennu ataf ac fe awn ar eu trywydd gyda’r awdurdodau priodol. Ond gadewch i mi ddweud hyn o ran y weledigaeth gyffredinol: bydd y Bil anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei gyhoeddi cyn y Nadolig, ac rwy’n edrych ymlaen at y ddadl a’r drafodaeth y byddwn yn ei chael yn y lle hwn ac yn y pwyllgor, a’r drafodaeth ehangach ledled...
Alun Davies: Byddwn yn cyhoeddi’r Bil anghenion dysgu ychwanegol cyn y Nadolig.
Alun Davies: Mae gennym ni dargedau presennol—mae targedau yn bodoli ar hyn o bryd—ar gyfer faint o blant sydd gennym ni mewn addysg Gymraeg ym mhob un oedran. Rŷm ni hefyd yn gwybod nad ydym wedi llwyddo i gyrraedd y targedau hynny. Felly, yn ystod y cynllunio sy’n digwydd ar gyfer y strategaeth iaith Gymraeg newydd a fydd yn cael ei chyhoeddi fis Mawrth nesaf, mi fydd cynllunio gweithlu yn rhan...
Alun Davies: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn a’r ffordd y mae hi wedi mynd ar drywydd y mater hwn dros gyfnod maith. Rwyf hefyd yn ymwybodol o’i barn ynglŷn ag ymagwedd cyngor Abertawe yn y materion hyn. Dywedais yn fy ateb i gwestiwn cynharach gan Simon Thomas fy mod yn edrych ymlaen at dderbyn y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg y mis nesaf, a byddaf yn edrych ar sut y mae pob awdurdod...
Alun Davies: Ydy.
Alun Davies: Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i addysg cyfnod sylfaen am ddim o’r tymor cyntaf ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Gwyddom fod y cyfnod sylfaen yn gweithio a dyna pam rwyf wedi ymrwymo, yn ein hymagwedd at ddysgu, i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bawb.
Alun Davies: Byddai’n well gennyf gael gwared ar yr angen am y fath broses yn gyfan gwbl mewn gwirionedd. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r datganiad busnes ddoe y byddaf yn cyflwyno’r Bil anghenion dysgu ychwanegol yn y lle hwn cyn y Nadolig. Byddwn yn cyflwyno system dribiwnlys fel rhan o hynny, a rhesymeg a sail athronyddol y ddeddfwriaeth honno, os mynnwch, yw darparu cynllun datblygu unigol i bob...
Alun Davies: Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau mynediad at wasanaethau gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth annibynnol i blant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig. Os oes angen cyngor cyfreithiol, gall plant, pobl ifanc a’u teuluoedd ddod o hyd i gynrychiolaeth gyfreithiol breifat, ac mewn rhai amgylchiadau, gallant fod yn gymwys hefyd i gael cymorth cyfreithiol.