Canlyniadau 1421–1440 o 2000 ar gyfer speaker:Llyr Gruffydd

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Asesiadau Effaith Ieithyddol
( 2 Tach 2016)

Llyr Gruffydd: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am asesiadau effaith ieithyddol yn y broses o aildrefnu ysgolion? OAQ(5)0034(EDU)[W]

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Asesiadau Effaith Ieithyddol
( 1 Tach 2016)

Llyr Gruffydd: Diolch i chi am eich ateb. Rŷch chi’n berffaith iawn—maen nhw yn allweddol fel rhan o’r broses. Fy ngofid i, serch hynny, yw ansawdd rhai o’r asesiadau impact ieithyddol yma. Maen nhw’n cael eu cynhyrchu yn aml iawn heb eu plismona yn iawn. Gallaf i bwyntio at enghreifftiau lle mae yna dystiolaeth amheus dros ben yn cael ei chyflwyno fel rhan o’r asesiadau yma ac wrth gwrs...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Ysbyty Glan Clwyd
( 1 Tach 2016)

Llyr Gruffydd: A ydych chi, Brif Weinidog, yn derbyn bod y gostyngiad yn nifer y gwlâu yn y gogledd yn cyfrannu at drafferthion gydag amserau aros? Rŷm ni wedi gweld colli gwlâu yn y Fflint, yn Llangollen, ym Mlaenau Ffestiniog—mae yna dros 400 yn llai o wlâu nawr yng ngogledd Cymru o’i gymharu â 2010. Does bosib eich bod chi’n derbyn bod hynny yn cyfrannu at y trafferthion.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Asesiadau Effaith Ieithyddol
( 1 Tach 2016)

Llyr Gruffydd: 9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch asesiadau effaith ieithyddol ym maes cynllunio? OAQ(5)0226(FM)[W]

7. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Senedd Ieuenctid (19 Hyd 2016)

Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch o waelod calon i bawb sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth? Nid wyf yn cofio gymaint o unfrydedd ar unrhyw gynnig—heblaw efallai am gyfeiriadau at bleidleisio yn 16 oed. Yn sicr o safbwynt cynnwys y cynnig ei hunan, rwy’n meddwl bod y mandad yn mynd i fod yn glir ac yn unfrydol, a diolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu ac i bawb arall a fydd, wrth gwrs, yn cefnogi’r cynnig....

6. 5. Datganiad: Y Rhaglen i Ddileu TB Buchol (18 Hyd 2016)

Llyr Gruffydd: Iawn. Ocê. Wel, mae brechu’n dal i fod yn nodwedd o’r strategaeth, ond rydym yn dal heb wybod pryd y bydd yna frechlyn ar gael. Felly, mae hynny’n awgrymau bod yna fwlch yn mynd i fodoli yn cyfamser. Sut ydych chi’n bwriadu llenwi’r bwlch yna? Ond, rwyf yn sicr yn croesawu’r awgrym y bydd yna elfen o ddifa moch daear ac yn erfyn ar unrhyw un nawr sy’n ymateb i’r datganiad yma...

6. 5. Datganiad: Y Rhaglen i Ddileu TB Buchol (18 Hyd 2016)

Llyr Gruffydd: Diolch, Lywydd, a diolch, Weinidog, am y datganiad. A gaf i ddatgan diddordeb, gan fod fy ngwraig yn bartner mewn busnes fferm? Rwy’n rhoi croeso gofalus i’r datganiad, fel y mae wedi cael ei wneud heddiw. Rwy’n meddwl ei fod e yn ein symud ni i’r cyfeiriad iawn, ond, wrth gwrs, amser a ddengys, oherwydd dogfen ymgynghorol sydd gennym ni, neu sy’n cael ei chyhoeddi gan y Llywodraeth...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Grantiau Prawf Modd
(18 Hyd 2016)

Llyr Gruffydd: Wrth gwrs, wrth inni symud o’r model sydd wedi cael ei ddisgrifio yn anghynaladwy presennol i’r model a fydd, mae rhywun yn tybio, yn seiliedig ar Diamond, a allwch chi gadarnhau a ydyw hi’n fwriad gan eich Llywodraeth chi i geisio gwireddu unrhyw arbedion ariannol?

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Buddsoddi mewn Twristiaeth yng Ngogledd Cymru
(18 Hyd 2016)

Llyr Gruffydd: Wrth gwrs, un o’r blaenoriaethau nawr yw estyn y tymor twristiaeth fel bod modd cynnig swyddi i bobl gogledd Cymru drwy gydol y flwyddyn. A allwch chi ddweud wrthym ni, efallai, beth mae eich Llywodraeth chi’n ei wneud i geisio cyflawni hynny, a sut y buasech chi’n defnyddio unrhyw adnoddau ychwanegol y gellid eu dyrannu at dwristiaeth i gyflawni hynny?

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (18 Hyd 2016)

Llyr Gruffydd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau ar gyfer pobl ar y sbectrwm awtistiaeth?

5. 4. Dadl Plaid Cymru: Iechyd Meddwl (12 Hyd 2016)

Llyr Gruffydd: Rwyf am ffocysu fy sylwadau i ar wasanaethau i blant a phobl ifanc. Wrth gwrs, ni allwn ni sôn am wella gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc heb sôn am amserau aros CAMHS. Rydym yn gwybod eu bod nhw’n dal yn llawer rhy hir a heb eu hadfer i lefelau 2013, heb sôn am wireddu’r gwelliant rwy’n gwybod y mae pob un ohonom ni yn awyddus i’w weld yn digwydd. Mae amserau aros...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Dechrau’n Deg
(12 Hyd 2016)

Llyr Gruffydd: Mae’n amlwg fod yna bryderon am y meini prawf cymhwyso ar gyfer Dechrau’n Deg a ffocws daearyddol hynny, ac roedd yn destun pryder a fynegwyd yn erbyn Cymunedau yn Gyntaf hefyd gyda wardiau etholiadol ac o bosibl un ochr i’r ffordd yn rhan o’r cynllun a’r ochr arall i’r ffordd heb fod yn rhan o’r cynllun. Crybwyllais hyn ddoe yn eich cyhoeddiad ar y parthau plant arfaethedig. A...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Tai Fforddiadwy ar gyfer Pobl Ifanc sy’n Gadael Gofal
(12 Hyd 2016)

Llyr Gruffydd: Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe fe fynychoch chi a minnau fforwm i bobl ifanc a drefnwyd gan y comisiynydd plant ar gyfer rhai rhwng 15 a 24 oed sydd â phrofiad o ofal, a daeth neges glir o’r fforwm nid yn unig fod angen help ar rai sy’n gadael gofal i ddod o hyd i lety fforddiadwy, ond maent hefyd angen cymorth i gadw eu llety. Mewn adroddiad diweddar gan Gymdeithas y Plant, cafwyd galwad...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Bio-ddiogelwch ar Ffermydd Cymru
(12 Hyd 2016)

Llyr Gruffydd: Diolch i chi am eich ateb. Un o’r rhwystredigaethau mwyaf y mae ffermwyr yn ei wynebu ar hyn o bryd, wrth gwrs, yw’r rheol sefyll chwe diwrnod. Mae yna lawer o sôn wedi bod gan y Gweinidog blaenorol yn y Llywodraeth ddiwethaf bod yna fwriad i symud i fodel yn seiliedig ar unedau cwarantin. A allwch chi roi diweddariad inni ar le rydych chi arni ar y datblygiad yna a pha mor fuan y byddwn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Risg o Lifogydd yng Ngorllewin Clwyd
(12 Hyd 2016)

Llyr Gruffydd: Mae morlyn llanw ar gyfer gogledd Cymru, wrth gwrs, o bosibl yn un ffordd o gyfrannu tuag at daclo problemau llifogydd ac erydiad ar hyd yr arfordir yng Ngorllewin Clwyd. A allwch chi roi diweddariad i ni o le mae’ch Llywodraeth chi arni o safbwynt unrhyw gefnogaeth ymarferol rydych chi’n ei rhoi i ddatblygu potensial morlyn llanw yn y gogledd?

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Bio-ddiogelwch ar Ffermydd Cymru
(12 Hyd 2016)

Llyr Gruffydd: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fio-ddiogelwch ar ffermydd Cymru? OAQ(5)0044(ERA)[W]

4. 3. Datganiad: Cymunedau Cryf (11 Hyd 2016)

Llyr Gruffydd: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y cyfan yr wyf ei eisiau, Ysgrifennydd y Cabinet, yw ychydig mwy o eglurder o gwmpas eich parthau plant arfaethedig i Gymru. A yw’r parthau yn barthau daearyddol? A fyddant yn dilyn ôl troed ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf neu Dechrau'n Deg? Oherwydd rydych yn dweud hefyd yn eich datganiad nad ydych yn argyhoeddedig mai parhau i ganolbwyntio ar 52 o ardaloedd...

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Sgiliau Priodol yn y Gweithlu
(11 Hyd 2016)

Llyr Gruffydd: Mae yna dystiolaeth, wrth gwrs, fod plant sy’n cwympo ar ei hôl hi yn y blynyddoedd cynnar, yn enwedig o safbwynt datblygiad ‘cognitive’, yn fwy tebygol o fod yn stryglo yn nes ymlaen yn eu bywyd o safbwynt cyfleon bywyd. Nawr, mae yna dystiolaeth hefyd yn dangos bod cael ymarferwyr lefel gradd o fewn y cyd-destun blynyddoedd cynnar yna yn help mawr i sicrhau nad yw hynny’n digwydd....

3. Cwestiwn Brys: Uned Iechyd Meddwl Bryn Hesketh ( 5 Hyd 2016)

Llyr Gruffydd: Rydych yn dweud wrthym yn glir nad ydych yn disgwyl i’r gwasanaeth fod yn berffaith, ond oni ddylem ddisgwyl i’r gwasanaeth fod yn well? Eto i gyd, dyma ni eto yn wynebu’r hyn a allai fod yn sgandal difrifol arall yn ymwneud â gofal o ansawdd gwael i gleifion yng ngogledd Cymru. Ond y tro hwn, wrth gwrs, mae sancsiwn mesurau arbennig eisoes wedi cael ei ddefnyddio. Felly, mae’n anodd...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ( 5 Hyd 2016)

Llyr Gruffydd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd gwelyau mewn ysbytai cymunedol?

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.