Jane Hutt: Rwy'n credu ein bod ni’n ymwybodol iawn o’r sefyllfa ffoaduriaid Myanmar ar draws y Siambr hon. Dim ond o ran ein cyfrifoldebau, mae gennym ni raglen hawl i loches ac rydym ni’n ymgysylltu’n helaeth â’r cymorth i ffoaduriaid Syria hefyd. Ond wrth gwrs, gan nad oes gennym gyfrifoldebau datganoledig ar gyfer hyn, gallwn ni’n amlwg ofyn y cwestiynau hyn i Lywodraeth y DU, a bod yn...
Jane Hutt: Rwy'n siŵr y byddai croeso i hynny gan Aelodau ar draws y Senedd, gan fod gennych chi'r profiad fel yr Aelod dros Dorfaen o ran y cyflwyniad arbrofol hwnnw o gredyd cynhwysol. Rwy’n nodi bod Cymorth i Fenywod Cymru wedi codi'r mater hwn yr wythnos hon o ran pryder ynghylch yr effaith y gallai hyn ei chael, a gwyddom o ran cam-drin domestig a'r pwysau sy'n wynebu menywod yn arbennig yn y...
Jane Hutt: Diolch, Simon Thomas. Thank you for those questions. O ran eich cwestiwn cyntaf, rwy'n credu bod Simon Thomas yn ymwybodol iawn o gynlluniau Llywodraeth Lafur Cymru—sy’n arwain, byddwn i’n dweud, o ran y mater polisi hwn, oherwydd bod Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi osgoi peryglon Mentrau Cyllid Preifat yn gyson, fel y gwyddoch. O ganlyniad i'n hymagwedd dros y 18 mlynedd...
Jane Hutt: Rwy'n credu ein bod ni'n ymwybodol iawn o gefnogaeth ac eiriolaeth Rhianon Passmore i hyn, o ran mynediad a chyfleoedd ar gyfer addysg gerddorol yn ein hysgolion, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf maes o law.
Jane Hutt: Wel, rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau'n cytuno â Steffan Lewis am y pwysau hyn sy'n cael eu rhoi ar ein cymunedau lleol—yn arbennig, wrth gwrs, rydych chi'n cyfeirio at Grymlyn yn eich ardal chi. Byddai Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr, eisiau egluro'r llinellau cyfrifoldeb o ran awdurdodau lleol, hefyd, y meini prawf o ran ein cynlluniau grantiau diogelwch ffyrdd, y mae awdurdodau...
Jane Hutt: Diolch i Mike Hedges am y ddau gwestiwn yna. O ran eich cwestiwn cyntaf, wrth gwrs, mae prifysgolion Cymru eisoes, ac yn wir, yn elwa ar arfer gorau, fel yr enghreifftiau yr ydych chi’n eu rhoi—Aarhus yn Denmarc a Mannheim yn yr Almaen. Wrth gwrs, un o'r ffyrdd y mae'n gwneud hyn yw trwy ymgysylltu'n llawn, fel Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, gyda rhaglenni'r UE fel Manumix, ac mae hynny...
Jane Hutt: Mae gennym ni, wrth gwrs, ddadl ar y datganiad busnes yn digwydd yr wythnos nesaf, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n cynnwys cyfeiriad at y safonau.
Jane Hutt: Diolch, Llywydd. Nid oes gennyf unrhyw newidiadau i'w gwneud i agenda heddiw. Mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i nodir ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes sydd i’w gweld yn y papurau cyfarfod sydd ar gael i’r Aelodau yn electronig.
Jane Hutt: Wel, diolch i Huw Irranca-Davies am ddod â hynny i'n sylw. Gwyddom y bu Biliau arloesol iawn o’r meinciau cefn, rhai sydd—. Llwyddodd Julie Morgan i gyflwyno un ar ddeddfwriaeth gwelyau haul pan oedd hi'n Aelod Seneddol. Rwy'n credu bod angen i ni edrych ar hyn—mae'n berthnasol iawn, yn amlwg, i'n gweithlu ni yma yng Nghymru—ac edrych ar y Bil Aelod preifat, ‘protect our...
Jane Hutt: Wel, rwy’n credu, o ran eich cwestiwn cyntaf, Simon Thomas, wrth gwrs, mae gan Gymru gysylltiadau cryf iawn—hanesyddol, diwylliannol ac economaidd—â Chatalonia ac nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gyhoeddi datganiad. Rwy'n credu eich bod chi wedi deall y pwynt yn dda o ran y datblygiad y prynhawn hwn. Rwyf i hefyd yn credu ein bod ni’n nodi eich pwyntiau o ran beth yw ein...
Jane Hutt: Diolch, Hannah Blythyn, ac rwy’n credu y gallwch chi fod yn sicr o ran cefnogaeth Ysgrifennydd y Cabinet i hyn. Rydym ni wedi cydnabod nad yw’n addas bwrw ymlaen â'r cynnig ar gyfer y cerflun cylch haearn yng nghastell y Fflint. A chafwyd cyfarfodydd adeiladol a chynhyrchiol iawn â phobl leol a rhanddeiliaid ynglŷn â hyn, o ran canslo’r prosiect. Bydd y buddsoddiad yn cael ei...
Jane Hutt: Diolch am y ddau gwestiwn yna. Yn dilyn y pwyntiau a wnaeth y Prif Weinidog mewn ymateb i’r adolygiad hwn, ac i ychwanegu at ei bwyntiau: wrth gwrs, byddwch chi wedi gweld y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 15 Medi, a chredaf ei bod yn bwysig cyfeirio at ei ddatganiad. Fel y dywed yn y datganiad, 'Rwyf eisiau cael fy modloni', o ran Prifysgol Abertawe Bro...
Jane Hutt: Diolch, Vikki Howells, am y ddau gwestiwn yna. O ran y cwestiwn cyntaf, credaf fod llawer o bobl wedi gweld y cyhoeddusrwydd cadarnhaol iawn, nid yn unig yng Nghymru, ond tu hwnt hefyd, o ran pwysigrwydd y clybiau cinio a hwyl sydd wedi'u sefydlu a'r buddsoddiad a wnaed gennym ni trwy gydol yr haf o ran gweinyddu'r cynllun hwnnw. Wrth gwrs, mae pwyslais y cynllun hefyd yn ymwneud â'r...
Jane Hutt: Diolch am y cwestiynau yna. Byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet egluro'r sefyllfa o ran y cyllid sydd ar gael ar gyfer y cyffur, sydd, wrth gwrs, ar gyfer pobl â ffeibrosis systig, ac rydych chi wedi cael ymateb ym mis Awst a byddaf i’n egluro'r sefyllfa. Hefyd, er mwyn ystyried y canlyniad, wrth gwrs, yn ogystal â chydnabod llwyddiant canlyniad y cynllun treialu o ran gwasanaethau...
Jane Hutt: Wel, rwyf i’n credu ei bod hi’n bwysig iawn, ac wrth gwrs, cyn y ddadl yfory, ein bod yn pwysleisio—a gwn y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ddweud—ein bod yn croesawu pob cyfraniad i'r ymgynghoriad. Papur Gwyn yw hwn. Bydd ymgynghoriadau yn sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol mor effeithiol â phosibl, ac wrth gwrs mae'n bwysig cydnabod nad yw’r cynigion yn y...
Jane Hutt: Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn yna, a hefyd am roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei hymgysylltiad gweithredol iawn drwy fynd i gyfarfod o’r grŵp trawsbleidiol yn Llundain lle, wrth gwrs, mae Hemoffilia Cymru wedi bod yn ddylanwadol iawn o ran gweithio gyda sefydliadau sy'n cynrychioli pobl sydd wedi dioddef, o ganlyniad i'r gwaed halogedig. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei gwneud yn...
Jane Hutt: Byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon ysgrifennu at yr Aelodau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am yr amserlen. Yn sicr, ar ôl teithio, yn wir, ar y rhan newydd wych sy'n mynd â chi y tu hwnt i Lynebwy a gweld unwaith eto sut y mae buddsoddiad cronfeydd Ewropeaidd—rydych chi'n gweld yr arwydd mawr, 'Wedi'i ariannu gan gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd', ac mae'n amlwg...
Jane Hutt: Diolch, Llywydd. Fel y bydd yr Aelodau yn gweld, mae gennyf nifer o newidiadau i agenda heddiw. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiadau yn fuan ar 'Ffyniant i Bawb—Y Strategaeth Genedlaethol', ac yn dilyn hynny, bydd datganiad ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Yna bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn cyflwyno datganiad ar bapur polisi Llywodraeth Cymru,...
Jane Hutt: Rwy’n cynnig.
Jane Hutt: Rwy'n ddiolchgar am y sylw yna gan yr Aelod dros Ganol Caerdydd.