David Melding: Rwy’n hapus iawn i gefnogi’r cynnig hwn, fel y mae plaid y Ceidwadwyr Cymreig. A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl y prynhawn yma? Mae cytundeb Paris, fel rydym wedi’i nodi, yn bwysig iawn. Gobeithiwn y bydd yn sicrhau ein bod yn cadw’r cynnydd yn y tymheredd o dan 2 radd canradd a’n bod yn anelu am ostyngiad o 1.5 gradd—mae hynny’n uchelgeisiol tu hwnt ac mae...
David Melding: Weinidog, rwy’n meddwl eich bod wedi clywed gan bawb fod ysgolion sy’n tangyflawni’n cael eu gweddnewid gan arweinyddiaeth a disgwyliadau. Dylem ddisgwyl i’n pobl ifanc, waeth beth fo’u cefndir cymdeithasol, gael canlyniadau TGAU da iawn, ac yna dylai llawer ohonynt gael tiwtor ar unwaith wrth iddynt ddechrau ar eu safon uwch i’w tywys drwy’r broses o ymgeisio am le yn y...
David Melding: Rhaid i mi ddweud, Ddirprwy Lywydd, mai grual braidd yn denau oedd hynny, â minnau’n disgwyl gwledd gyfoethocach o lawer. Erbyn hyn mae gennym eglurhad am yr hyn y mae 20,000 ychwanegol yn ei olygu. Eich targed yn y pedwerydd Cynulliad oedd 10,000 o gartrefi cymdeithasol; mewn gwirionedd gwnaethoch ychydig yn well na hynny. Eich targed ar gyfer y pumed Cynulliad yw 20,000 o gartrefi...
David Melding: Brif Weinidog, a gaf i groesawu'r adolygiad? Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig eich bod chi’n edrych ar awdurdodaethau eraill, gan y dylem ni geisio dilyn yr arferion gorau. Os bydd hynny’n newid dulliau presennol, rwy’n credu bod hynny’n dangos i chi bod y Llywodraeth yn gwneud y peth iawn ac nad yw’n cydnabod bod arferion y gorffennol yn ddiffygiol mewn unrhyw ffordd. Mae...
David Melding: Brif Weinidog, roedd yr Aelod dros Orllewin De Cymru yn llygad ei le i dynnu sylw at nifer y cartrefi gwag neu nad ydynt ar gael ar hyn o bryd—dros 20,000. Mae hynny’n fwy na’ch targed ar gyfer tai fforddiadwy yn nhymor cyfan y pumed Cynulliad hwn. Mae'n ymddangos i mi fod llawer o bobl sydd yn nid yn unig mewn perygl o fod yn ddigartref, ond nad ydynt wedi gallu ffurfio eu haelwydydd...
David Melding: A gaf fi ddechrau drwy longyfarch Cadeirydd newydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar arwain y pwyllgor a’r ysgrifenyddiaeth i gynhyrchu’r hyn rwyf yn ei ystyried yn adroddiad rhagorol? Roedd yn rhaid ei wneud yn gyflym iawn yn ystod dyddiau cynharaf y Cynulliad hwn. Rwy’n credu ei bod yn ddogfen bwerus, ac rwy’n arbennig yn ddiolchgar i’r holl swyddogion a’n...
David Melding: Weinidog, credaf mai’r hyn sy’n allweddol yma yw sut yr ydym yn mynd i'r afael â TB ymysg bywyd gwyllt, ac mae'n rhaid i mi ddweud, wrth wrando arnoch chi, rwy'n falch eich bod yn dymuno dileu TB. Dyna yw eich nod, ac mae hynny'n gwbl briodol, o ystyried y canlyniadau, ar ôl Brexit, pan allai gwledydd amrywiol ddefnyddio hyn yn esgus i beidio â derbyn ein cig eidion. Ond rydych wedi...
David Melding: Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar y cynnydd yn nealltwriaeth y cyhoedd o faterion iechyd meddwl a gyflawnwyd drwy ddigwyddiadau fel wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl?
David Melding: Rwy’n hapus i dderbyn ymyriad.
David Melding: Brif Weinidog, mae angen i bolisi defnydd tir rhesymegol ddynodi tir, darparu cyngor o ansawdd da cyn cyflwyno cais cynllunio, ac yna annog defnydd cyflym fel nad oes gennym ni fanciau tir tybiannol yn cael eu hadeiladu. Sut gwnaiff y ddeddfwriaeth fodloni’r nodau craidd hyn?
David Melding: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fesurau i wella’r broses gynllunio ar gyfer darparu tai? OAQ(5)0197(FM)
David Melding: Mae’r Llywodraeth Geidwadol, a’r Llywodraeth glymblaid o’i blaen, wedi pwysleisio’n gyson fod angen i ni adeiladu mwy o dai. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu—Llywodraeth y DU, hynny yw, ar gyfer Lloegr—400,000 yn rhagor o dai fforddiadwy, a dyna pam y cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei tharged yn y diwedd, rwy’n credu. Beth bynnag, rwy’n credu bod angen mwy o adeiladu tai, ac...
David Melding: Ddirprwy Lywydd, a gaf fi gynnig y cynnig yn enw Paul Davies? Ddirprwy Lywydd, os yw polisïau yn cael eu mesur yn ôl y nifer sy’n manteisio arnynt, yna mae’r hawl i brynu mewn gwirionedd wedi bod yn un o’r polisïau mwyaf eithriadol y llwyddwyd i’w cyflwyno, rwy’n credu, yn hanes gwleidyddiaeth Prydain a Chymru. [Torri ar draws.] Ers 1980, mae 130,000 o deuluoedd wedi manteisio ar...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw’r hen fodel gofal sylfaenol mor ddeniadol i lawer o feddygon ifanc, yn enwedig y gost gyfalaf uchel, er enghraifft, sy’n rhaid iddynt ymrwymo iddi mewn partneriaeth. Hefyd, mae llawer o feddygon teulu ifanc eisiau parhau at lefel o arbenigedd ac unwaith eto, oni bai bod yna bractisau mwy o faint, gall hyn fod yn anodd iawn. Mae’n ymddangos i mi fod y ddau...
David Melding: Weinidog, rwy’n meddwl ein bod ni i gyd eisiau mwy o gydweithio yn y sector treftadaeth. Rwy’n credu bod hynny'n rhywbeth a fyddai'n dda bawb ohonom, yn enwedig o ran mentrau marchnata. Ond, wyddoch chi, rydym ni’n wynebu rhai ffeithiau caled iawn yma. Mae'r amgueddfa genedlaethol wedi bod yn gorff annibynnol ers y 1920au, wedi’i sefydlu gan siarter frenhinol. Y rheswm y sefydlwyd y...
David Melding: Un defnydd allai fod gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ar gyfer ein hetholiadau. Credwyd bod hyn wedi gweddnewid cyfranogiad pleidleiswyr ymhlith pobl iau yn yr Alban pan newidiwyd y gyfraith ar gyfer refferendwm yr Alban. Byddai hefyd yn caniatáu i ni hyrwyddo mewn modd gwych iawn, yn y grŵp oedran 14 i 18 oed, y cysyniad hollol newydd o addysg dinasyddiaeth a chyfranogiad...
David Melding: Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno efallai mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i fod yn alluogwyr trwy ryddhau tir, neu, fodel sy'n cael ei ffafrio mewn llawer o wledydd Ewropeaidd yw cynorthwyo grwpiau cymdogaeth a chymunedol sydd eisiau dod at ei gilydd i adeiladu eu cynlluniau eu hunain? Rwy'n gweld hon fel ffordd ymlaen i lawer o bobl ifanc y dyddiau hyn sydd wedi eu hallgau...
David Melding: 10. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cyfranogiad pleidleiswyr, yn arbennig pobl ifanc? OAQ(5)0184(FM)
David Melding: Diolch i chi am ildio. Mewn cyfnod o bum mlynedd, sut y gallwch chi ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol ac eto mae eich targed blynyddol yn parhau i fod yr un fath, sef 8,700? Mae’n drech na fy ngallu i’w resymu. Eglurwch os gwelwch yn dda.
David Melding: Rwy’n teimlo fel pe bawn mewn sefyllfa freintiedig, fel y llefarydd tai, gan fod yna ymrwymiad—ymrwymiad penodol—yn y rhaglen lywodraethu y gallaf ymateb iddo. A dweud y gwir, roeddwn yn falch iawn—wedi cynhyrfu hyd yn oed—pan ddarllenais fod Llywodraeth Cymru yn anelu i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Yna, edrychais yn fanylach ar...