Alun Davies: Llywydd, rŷm ni i gyd yn ymwybodol bod cynigion yn cael eu trafod ym Mhowys ar hyn o bryd. Mae’n bosibilrwydd y bydd y cynigion yna yn dod at Weinidogion Cymru ar gyfer rhywfaint o benderfyniadau. Felly, ni fydd yr Aelod yn gallu fy nhemptio i gynnig unrhyw sylw ar yr enghreifftiau penodol y mae wedi’u disgrifio ym Mhowys y prynhawn yma. Ond a gaf i ddweud hyn ar egwyddor y cwestiwn? Nid...
Alun Davies: Mae llawer o’r materion y cyfeiriodd yr Aelod atynt yn ei gwestiwn, wrth gwrs, yn faterion ar gyfer yr awdurdod lleol yn hytrach na materion ar ein cyfer ni yma. Ond gadewch i mi ymateb drwy wneud pwynt mwy cyffredinol—credaf fod y pwynt cyffredinol yn haeddu ymateb llawnach na hynny. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud datganiad cynhwysfawr iawn i’r Siambr...
Alun Davies: Lywydd, cyn ateb y cwestiwn hwn, hoffwn gofnodi buddiant yn y mater hwn, gan fod gennyf blentyn sy’n mynychu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng nghanolbarth Cymru. Bydd y strategaeth genedlaethol ar gyfer ysgolion bach a gwledig yn darparu cymorth i ysgolion weithio gyda’i gilydd yn ogystal â grant o £2.5 miliwn. Bydd hyn yn cefnogi ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i weithio...
Alun Davies: Mae eich sylwadau wedi’u cofnodi a byddaf yn eu dwyn i sylw Ysgrifennydd y Cabinet a byddwn yn ysgrifennu atoch mewn ymateb i hynny ac yn ceisio gwneud hynny’n gadarnhaol; nid wyf yn credu bod unrhyw ddadl ynglŷn â geirwiredd y pwyntiau a wnaethoch. O ran y diwygiadau rydym yn ceisio eu gwneud, rydym am gael system lle y mae anghenion yn cael eu hadnabod yn gynnar, yn cael sylw’n...
Alun Davies: Mae’n edrych yn debyg fy mod yn mynd i ddifaru bod mor hael. [Chwerthin.] Byddaf yn bendant yn sicrhau ein bod yn cysylltu â’n gilydd, a’n bod yn trefnu’r sgyrsiau hynny. Mewn sawl ffordd, er ein bod yn eistedd ar wahanol ochrau i’r Siambr, rwy’n gwybod bod yr uchelgais yn cael ei rhannu, ac nid wyf yn credu bod y materion hyn yn faterion gwleidyddol. Nid wyf yn meddwl yn syml eu...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Rwy’n siŵr ein bod i gyd yn ddiolchgar i bawb sydd wedi dod ag Andrew i’r Siambr, mewn pob math o ffyrdd gwahanol. Rwy’n meddwl mai’r peth cyntaf yr hoffwn ei ddweud yw fy mod yn sicr yn cydnabod y darlun sydd wedi’i baentio i ni y prynhawn yma. Nid fy mhwrpas wrth ymateb i’r ddadl hon yw ceisio naill ai anwybyddu’r realiti na phaentio...
Alun Davies: Diolch yn fawr, Lywydd, a diolch am y cyfle i ymateb i’r drafodaeth yma. Roeddwn i’n gwrando ar gyfraniadau o bob rhan o’r Siambr, ac roeddwn i wedi ysgrifennu ar fy nodiadau yn fan hyn i ddiolch i Blaid Cymru am y ffordd roedd Llyr wedi agor y drafodaeth, ac roeddwn i wedi ysgrifennu hefyd i ddiolch am y ‘sens’ o gonsensws sydd ym mhob rhan o’r Siambr. [Chwerthin.] So, o leiaf...
Alun Davies: Yn ffurfiol.
Alun Davies: Y Llywodraeth fydd yn gyfrifol am sicrhau bod yna weithlu ym mhob un maes sy’n gallu cyflwyno’r ddarpariaeth sydd ei hangen arnom ni ar gyfer y dyfodol. Rwy’n croesawu’r ychwanegiad at y gyllideb sydd gyda ni nawr i allu datblygu gweithlu ar gyfer y dyfodol. Mi fydd yr Aelod yn ymwybodol bod yr Ysgrifennydd Cabinet, Kirsty Williams, wedi rhyddhau datganiad y bore yma i ddatgan bod yna...
Alun Davies: Rwy’n disgwyl i awdurdodau lleol allu gwneud hynny a sicrhau bod ganddyn nhw yr arbenigrwydd sydd ei angen arnyn nhw i gael asesiadau sydd yn gywir ac yn gyflawn. Os nad yw hynny yn wir, neu os oes gennych chi neu unrhyw Aelod arall bryderon am y system a sut mae’n gweithio, mae croeso ichi ysgrifennu ataf i sicrhau bod yna newid, os oes angen gwneud hynny.
Alun Davies: Mae’r cod trefniadaeth ysgolion statudol yn ei gwneud yn ofynnol i nifer o ffactorau gwahanol gael eu hystyried gan gyrff perthnasol sy’n datblygu cynigion ar gyfer aildrefnu ysgolion, gan gynnwys yr iaith Gymraeg. Pan fydd cynigion yn effeithio ar ysgol sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, dylai awdurdodau lleol gynnal asesiad o’r effaith ar y Gymraeg.
Alun Davies: Gobeithiaf y byddant yn gallu ein helpu i wneud hynny. O ran eich cwestiwn cynharach, nid ydym wedi cyrraedd penderfyniadau terfynol ar rai o’r materion hynny. Mae’r materion hynny’n dal i gael eu trafod o fewn y Llywodraeth. Ymrwymais i ysgrifennu at y pwyllgor pan fyddwn wedi cwblhau’r trafodaethau hynny y bore yma, a byddaf yn dosbarthu’r wybodaeth honno’n fwy eang i’r...
Alun Davies: Rydym ni’n ystyried ar hyn o bryd sut yr ydym ni yn mynd i rannu’r arian ar gyfer y dyfodol, ond rydw i’n cytuno gyda’r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud. Mae hybu defnydd y Gymraeg yr un mor bwysig â hybu dysgu’r Gymraeg. Rydym ni eisiau sicrhau ein bod ni’n cydweithio â’r mentrau iaith i sicrhau bod pobl yn cael y cyfleoedd i ddefnyddio a siarad a gwella eu Cymraeg nhw, yn...
Alun Davies: Rwy’n gweld ac yn clywed y pwyntiau mae llefarydd y Ceidwadwyr wedi eu gwneud. Os oes gyda hi dystiolaeth, wrth gwrs, nad yw pobl yn cael y cyflog y dylen nhw fod yn ei gael, mae’n rhydd i ysgrifennu ataf i gyda’r manylion am hynny, a byddaf i’n hapus i ateb hynny. Ond, yn fwy cyffredinol, mae Mudiad Meithrin yn rhan, fel rydych chi wedi ei awgrymu, bwysig o’n cynlluniau ni i ehangu...
Alun Davies: Mae’r cynlluniau datblygu’r gweithlu wedi bod yn llwyddiannus yn y maes addysg, ac rydym ni’n parhau i fuddsoddi yn y maes addysg i sicrhau bod y llwyddiant yn parhau a’n bod ni’n gallu adeiladu ar y sylfaen sydd gennym ni. Mae gennym ni, fel yr oeddwn yn ei drafod gyda’r Aelod yn y pwyllgor y bore yma, gytundeb yn y gyllideb ar hyn o bryd a byddwn ni’n parhau i drafod sut rydym...
Alun Davies: Gwnaf, yn bendant. Rwy’n credu y bydd Aelodau ar draws y Siambr am ymuno i groesawu’r datblygiadau rydym yn eu gweld ac mae’r datblygiadau yn yr etholaeth yn sicr i’w croesawu, fel y maent mewn mannau eraill. Ond mae galluogi plant a phobl ifanc i fynychu’r sefydliadau addysgol hyn yn gwbl hanfodol. Nid oes pwynt agor drysau os nad oes modd i fyfyrwyr gyrraedd yno. Felly, byddwn yn...
Alun Davies: Mi wnaf i barhau’r awyrgylch o gytundeb y prynhawn yma trwy gytuno â’r dadansoddiad yn y cwestiwn. Mae’n bwysig ein bod ni yn sicrhau targedau sydd yn gyraeddadwy ond hefyd yn ein helpu ni i gyrraedd ein targed uwch ar gyfer Cymru gyfan. Rwy’n disgwyl cynlluniau addysg Gymraeg gan awdurdodau lleol ym mis Rhagfyr eleni, a fydd yn dangos sut mae awdurdodau lleol yn disgwyl cyrraedd eu...
Alun Davies: Mae angen inni weld cynnydd sylweddol yn nifer y plant a phobl ifanc sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg os ydym am gyflawni’n targed uchelgeisiol o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd y fersiwn derfynol o strategaeth y Gymraeg yn cynnwys targedau i fesur canlyniadau a chyflawniad yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Alun Davies: Gall ysgolion ddarparu hyfforddiant dementia ar draws pob grŵp oedran drwy addysg bersonol a chymdeithasol a byddwn, trwy gylchlythyr Dysg, yn tynnu sylw at adnoddau’r Gymdeithas Alzheimer ar gyfer creu cenhedlaeth sy’n ystyriol o ddementia.
Alun Davies: Gall ysgolion ddarparu hyfforddiant dementia ar draws pob grŵp oedran drwy addysg bersonol a chymdeithasol a byddwn, trwy gylchlythyr Dysg, yn tynnu sylw at adnoddau’r Gymdeithas Alzheimer ar gyfer creu cenhedlaeth sy’n ystyriol o ddementia.