Canlyniadau 1441–1460 o 2000 ar gyfer speaker:Llyr Gruffydd

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Fframwaith Cymhwysedd Digidol
( 4 Hyd 2016)

Llyr Gruffydd: Mae’r fframwaith cymhwysedd digidol, wrth gwrs, yn un o nifer o fframweithiau sy’n mynd i gael eu cyflwyno dros y blynyddoedd nesaf. Un gofid sydd wedi cael ei fynegi, wrth gwrs, yw diffyg amser o fewn y flwyddyn academaidd bresennol i hyfforddi ac arfogi athrawon ac addysgwyr i allu cymryd mantais lawn o’r fframweithiau newydd yma. Gan gofio mai dim ond rhyw bum diwrnod sydd ar gael ar...

4. 4. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): TB Buchol (28 Med 2016)

Llyr Gruffydd: Rŷm ni’n gwybod beth yw effaith ddinistriol y diciâu yn economaidd ar deuluoedd a busnesau fferm, ar gymunedau, ac yn emosiynol hefyd ar unigolion, gan chwalu cenedlaethau o waith a gofal yn datblygu stoc o linach ac o ansawdd. Nid oes angen i mi baentio’r darlun yna, ond rydw i yn poeni weithiau ein bod ni’n cael ein dad-sensiteiddio, yn enwedig efallai os nad ŷm ni fel gwleidyddion...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(28 Med 2016)

Llyr Gruffydd: Rŷch chi wedi dweud ddwywaith nawr i’r ddau gwestiwn eich bod yn cydnabod bod yna broblemau. Rŷch chi wedi sôn am rai pethau sydd wedi cychwyn, ac rŷch chi’n sôn am gael deialog yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Y gwir amdani yw bod athrawon a phenaethiaid yn wynebu’r heriau a’r pwysau yma nawr. Nid wyf yn gwybod os ydych chi’n ymwybodol, ond mewn un awdurdod addysg yng Nghymru, dim...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(28 Med 2016)

Llyr Gruffydd: Diolch i chi am eich ateb. Wrth gwrs, mae’n debyg bod y pwysau yma yn cael ei deimlo fwyaf ar ysgwyddau penaethiaid sydd, ar ddiwedd y dydd, yn gorfod gwneud llawer o’r gwaith biwrocrataidd ychwanegol yma. Rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, fod yna drafferthion yma yng Nghymru gyda nifer uchel o swyddi penaethiaid yn wag a nifer o swyddi penaethiaid dros dro yn eu lle, sydd yn ei hunan, wrth...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(28 Med 2016)

Llyr Gruffydd: Diolch, Lywydd. Mi fyddwch chi’n gwybod rwy’n siŵr, Ysgrifennydd Cabinet, fod gwaith ymchwil diweddar gan NUT Cymru wedi datgelu bod athrawon yng Nghymru wedi colli hyd at 52,000 o ddyddiau ysgol y flwyddyn ddiwethaf oherwydd salwch sy’n deillio o bwysau gwaith. Mae’n debyg bod 12 o awdurdodau lleol Cymru wedi nodi cynnydd yn yr absenoldebau oherwydd straen gwaith, ac mae’r ymchwil...

3. 3. Datganiad: Adolygiad Diamond o Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru (27 Med 2016)

Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd, am eich datganiad? Rwyf innau hefyd am ategu’r diolch rydych chi wedi estyn i’r Athro Diamond ac aelodau’r panel, ac, yn wir, y sector ehangach a phawb sydd wedi cyfrannu i’r broses faith hon, ond proses, rwy’n siŵr, bydd yn werthfawr wrth i ni symud ymlaen at greu cyfundrefn well. Yn fy marn i, mae hwn yn cynnig model mwy cynaliadwy i ni....

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Prinder Meddygon yng Ngogledd Cymru
(27 Med 2016)

Llyr Gruffydd: Nid wyf yn siŵr os ydw i eisiau diolch ichi am yr ateb, achos mae yna ddarlun gwahanol iawn i’w weld os ydych yn cyfri nifer y doctoriaid sy’n cyfateb i ddoctoriaid llawn amser. Ond, y cwestiwn rwyf am ofyn ichi yw: un o’r problemau gyda recriwtio meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig yw’r diffyg cyfleusterau iechyd ehangach lleol sydd ar gael iddyn nhw. Nid yw meddygon teulu eisiau...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Prinder Meddygon yng Ngogledd Cymru
(27 Med 2016)

Llyr Gruffydd: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am brinder meddygon yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0164(FM)[W]

10. 10. Dadl UKIP Cymru: Ysgolion Gramadeg (21 Med 2016)

Llyr Gruffydd: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

10. 10. Dadl UKIP Cymru: Ysgolion Gramadeg (21 Med 2016)

Llyr Gruffydd: Gallwn anghofio am arholiad yr ‘11-plus’, mae gennym ‘11 a mwy’ o agweddau gwahanol tuag at ysgolion gramadeg ar y meinciau Ceidwadol hyn yma’n unig, iawn. Wyddoch chi, gallwch alw eich hun yn blaid yr wrthblaid—plaid ddynwaredol ydych chi, rhaid i mi ddweud, yn efelychu a dynwared UKIP ar ormod o bolisïau yn fy marn i. Gadewch i ni fod yn glir ar hyn, iawn. Lle ceir ysgolion...

10. 10. Dadl UKIP Cymru: Ysgolion Gramadeg (21 Med 2016)

Llyr Gruffydd: Rwy’n cymeradwyo cyfraniad Cadeirydd y pwyllgor addysg. Mae hi’n berffaith iawn i danlinellu’r ffaith fod y rhai sydd o blaid ysgolion gramadeg am resymau’n ymwneud â gwella symudedd cymdeithasol i’w gweld yn gyndyn iawn i dderbyn y ffeithiau. Mae’n ymddangos bod gennych obsesiwn â’r sefyllfa yn Lloegr. Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau yn Lloegr, oherwydd llai na 3 y cant...

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Y Gymraeg fel Ail Iaith (21 Med 2016)

Llyr Gruffydd: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu, ac am y gefnogaeth, mewn gwirionedd, i’r bwriad. Y gwahaniaeth yw, wrth gwrs, sut rydym yn mynd ati, fel mae’r Gweinidog wedi dweud, a pha mor gyflym mae gwahanol elfennau’n dod at ei gilydd. Wrth gwrs, mae hynny yn ei gwneud hi’n hyd yn oed yn fwy poenus i feddwl bod yna dair blynedd wedi mynd a’n bod yn dal yn aros...

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Y Gymraeg fel Ail Iaith (21 Med 2016)

Llyr Gruffydd: Diolch, Lywydd. Rwy’n symud y cynnig yn enw Plaid Cymru. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi galw y ddadl yma y prynhawn yma er mwyn nodi ei bod hi bellach yn dair blynedd ers i adroddiad yr Athro Sioned Davies, a oedd wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, ar sefyllfa’r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg gael ei gyhoeddi. Casgliad yr adroddiad, wrth gwrs, oedd ei bod...

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Y Gymraeg fel Ail Iaith (21 Med 2016)

Llyr Gruffydd: Rydw i, ac mae Plaid Cymru, o’r farn bod hyn yn annerbyniol. Mae addysgwyr o’r sector addysg o’r farn bod hyn yn annerbyniol ac, yn wir, mae polisi Llywodraeth Cymru ei hunain yn datgan, i bob pwrpas, fod hynny yn annerbyniol. Gadewch i ni, felly, fynd ati yn bendant ac yn benderfynol i greu’r un continwwm dysgu Cymraeg yma. Nid yw’n ddigon ar ei ben ei hun, ond mae e’n rhan...

4. 4. Datganiad: Y Rhaglen Newid Addysg Gychwynnol i Athrawon — Hynt y Rhaglen a'r Wybodaeth Ddiweddaraf (20 Med 2016)

Llyr Gruffydd: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae yna lawer ynddo fe y byddwn i’n hapus iawn i’w gefnogi. Wrth gwrs, mae Plaid Cymru wedi croesawu adroddiad Furlong a’i argymhellion, ac mi oedd maniffesto Plaid Cymru ar gyfer yr etholiadau diweddar yn amlinellu rhai o agweddau penodol yr hyn rŷm ni’n credu sydd ei angen i gryfhau...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
TB Buchol yng Nghymru
(20 Med 2016)

Llyr Gruffydd: A gaf i ofyn, gan fod y Llywodraeth, wrth gwrs, yn adolygu ei strategaeth ar hyn o bryd, pa wersi rydych chi wedi’u dysgu o wledydd eraill, yn enwedig, efallai, y profiadau maen nhw wedi’u cael yn Lloegr, lle maen nhw wedi mabwysiadu ‘approach’ gwahanol, ac efallai yng Ngweriniaeth Iwerddon?

5. 5. Dadl Plaid Cymru: Datblygu Economaidd (14 Med 2016)

Llyr Gruffydd: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid oes amheuaeth, wrth gwrs, fod y blynyddoedd nesaf yn mynd i fod yn rhai heriol, yn sicr. Ond rwy’n credu mai’r her wirioneddol yw sicrhau ein bod yn dod mas yn gryfach y pen arall nag yr ŷm ni, wrth gwrs, ar hyn o bryd o safbwynt yr economi yma yng Nghymru. Fel y cysgod-Weinidog â chyfrifoldeb dros addysg a sgiliau ac yn y blaen, mae’n amlwg bod yn rhaid...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Gofal Plant
(14 Med 2016)

Llyr Gruffydd: Fel y gwyddoch, rwy’n siŵr, cydnabyddir yn gyffredinol fod cynnwys ymarferwyr ar lefel raddedig mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar yn effeithio’n gadarnhaol iawn ar ganlyniadau addysgol y blynyddoedd cynnar hynny. Wrth gwrs, yn ôl yn 2014, drafftiodd y Llywodraeth ei chynllun gweithlu 10 mlynedd ar gyfer gofal plant a chwarae y blynyddoedd cynnar. A allwch ddweud wrthym pa bryd y mae...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (14 Med 2016)

Llyr Gruffydd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Gynllun Gweithredu Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid?

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (14 Med 2016)

Llyr Gruffydd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau ailgylchu yng Nghymru?

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.