Huw Irranca-Davies: Roeddwn i eisiau troi, ac nid wyf yn siŵr, Fadam Ddirprwy Lywydd, faint o funudau sydd gennym—
Huw Irranca-Davies: Diolch, Gadeirydd. A gaf fi ddweud bod hon wedi bod yn drafodaeth dda dros ben? Rydym wedi cael saith cyfraniad, gan fy nghynnwys i fy hun, ac Ysgrifennydd y Cabinet wrth gwrs, a chefais fy nharo gan lefel y consensws ynglŷn â’r potensial sydd i’r dechnoleg hon yng Nghymru, ac, fel y dywed Lee Waters, a gyflwynodd y ddadl, i ddefnyddio’r hyn a alwodd rwy’n credu yn ‘ffwrnais...
Huw Irranca-Davies: Fy ymddiheuriadau, nid wyf yn bwriadu ymyrryd gormod. Ond a fyddai’n cytuno hefyd mai un o’r cyfleoedd cyffrous sy’n deillio o hyn, gyda’r twf cynt gynt mewn data mawr, yw’r hyn y gallem ei wneud mewn gwirionedd ar yr agwedd amgylcheddol, gan y gellid cael gwared ar y rowndiau diddiwedd o arolygu, archwilio, adolygu a monitro, monitro ar ei ffurf draddodiadol, i ryw raddau, yn sgil...
Huw Irranca-Davies: A wnaiff yr Aelod ildio?
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn i Lee Waters am gyflwyno’r ddadl hon a sicrhau’r ddadl hon, a hefyd am ildio yma. Ond a fyddai’n cytuno hefyd, yn ei sylwadau agoriadol, fod hyn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol yn ogystal? Gall amaethyddiaeth fanwl a’r cyfan sydd ynghlwm wrthi ddrysu pobl, ond mewn gwirionedd, nodwyd ei bod yn rhan o’r ateb i’r broblem o sut i fwydo poblogaeth yr...
Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganlyniadau COP22 i Gymru?
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. A gaf i groesawu’r datganiad yn ei gyfanrwydd? Mae'n fater o farn a rhywfaint o ragweld o ran lefel ffioedd, ond rwy’n derbyn yr egwyddorion uchel a’r rhan fwyaf o sylwedd argymhellion yr Athro Syr Ian Diamond fel rhywbeth sydd i’w groesawu’n aruthrol, ac roedd y sylw a wnaed gan fy nghydweithiwr yma ar fy chwith am gyflwyno hyn mewn ffordd amserol hefyd yn bwynt...
Huw Irranca-Davies: Rydym ni i gyd yn cydymdeimlo â phawb yr effeithwyd arnynt gan y llifogydd dros y penwythnos, gan gynnwys llawer yn fy etholaeth i yng nghymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr, ac mewn ardaloedd ar dir is yn Heol-y-Cyw, Pencoed ac mewn mannau eraill. Ac rydym ni’n diolch ac yn canmol pawb sydd wedi helpu i ymateb i'r argyfwng a’r glanhau, sy’n parhau. Mae llawer o hyn o ganlyniad i lifogydd...
Huw Irranca-Davies: Rwy’n croesawu’n fawr yr ymateb yna a gwn fod cyllid ar gyfer camau olynol y cyflwyniad ychydig yn fwy ansicr erbyn hyn, ar ôl Brexit. Ond mae'n cynnig rhywfaint o botensial cyffrous yma, y canolbwynt ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n dal i eistedd ar hyd yr ardal honno, sef y chweched ardal weithgynhyrchu ac ardal gyflogaeth fwyaf yn y DU hefyd. Mae ganddo botensial enfawr. Os ydym...
Huw Irranca-Davies: 4. A yw'r Prif Weinidog wedi ystyried potensial y cynnig o ran canolbwynt trafnidiaeth Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o gyflwyno Metro De Cymru yn raddol? OAQ(5)0276(FM)
Huw Irranca-Davies: Rwy’n siarad yn y ddadl hon heddiw yn fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Ar ddiwedd y pedwerydd Cynulliad, awgrymodd y pwyllgor yn ei adroddiad etifeddiaeth y dylem ystyried archwilio materion ynghylch penodiad ac atebolrwydd comisiynwyr. Fe wnaeth hyn oherwydd ei fod yn gweld y rhain fel materion o egwyddor gyfansoddiadol. Yn dilyn ein hadroddiad ar...
Huw Irranca-Davies: Nid wyf yn siŵr a oes gennyf amser. Rwy’n ymddiheuro. Rydym wedi creu rhywfaint o’r adnoddau i wneud hyn yng Nghymru. Rydym yn arwain y ffordd mewn deddfwriaeth a pholisi. Mae gennym Ddeddf yr amgylchedd. Mae Rhan 1 yn disgrifio rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol. Mae’n galluogi adnoddau Cymru i gael eu rheoli mewn ffordd fwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig. Mae’n...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am naws a natur gadarnhaol ei hymateb cynhwysfawr iawn? Ond a gaf fi hefyd ategu’r holl siaradwyr heddiw, llawer ohonynt, a’r rhai a ofynnodd am y ddadl hon, yn enwedig Simon Thomas, a gyfeiriodd at sut rydym yn byw yn yr oes anthroposen? Ond roedd natur gadarnhaol i’w gyfraniad, a oedd yn dweud os ydym yn dewis gwneud...
Huw Irranca-Davies: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gymryd cwestiwn?
Huw Irranca-Davies: A gaf fi ofyn ar yr union bwynt hwnnw: oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio cymaint ar fioamrywiaeth, a allai roi rhywfaint o sicrwydd i ni heddiw y bydd cynrychiolaeth gref o Lywodraeth Cymru yng nghonfensiwn Cancun sydd ar y gorwel ar amrywiaeth biolegol, naill ai hi’n bersonol, yn ddelfrydol, neu fel arall, gan uwch swyddogion?
Huw Irranca-Davies: Rwy’n croesawu’r datganiad hwn yn fawr iawn, gan ei fod yn arwydd o fwriad cynnar ynglŷn ag egwyddorion clodwiw y pwyllgor. Croesawaf yn arbennig y datganiad clir y dylai’r arian sydd yno ar hyn o bryd ac a addawyd yn bendant iawn yn ystod y refferendwm gan y rhai a oedd yn ymgyrchu i adael gael ei ddarparu mewn gwirionedd, ond nid yn unig hynny; dylai’r polisi ynglŷn â hyn gael ei...
Huw Irranca-Davies: Diolch. Rwyf fi a Llyr Gruffydd, a llawer o bobl eraill ar draws y wlad, ar hyn o bryd yn tyfu blew wyneb ar yr union eiliad hon, y Movember hwn, i godi ymwybyddiaeth ac arian tuag at ymchwil canser y prostad, ac agweddau ehangach ar iechyd dynion hefyd, gan gynnwys iechyd meddwl a chanser y ceilliau. Pam y mwstashis? Oherwydd bydd pobl yn gofyn i ni beth y mae’n ei olygu: a ydym yn ei...
Huw Irranca-Davies: Rwyf yn croesawu’r datganiad hwn gan y Cwnsler Cyffredinol, a hefyd ei fwriad datganedig i ymyrryd yn y Llys Goruchaf. Ond, cyn i mi droi at rai materion manwl, mae wedi bod yn wythnos ddiddorol, ac yn ddi-os mae rhai ymdrechion wedi bod i fwrw amheuon ar uniondeb penderfyniad yr Uchel Lys ac annibyniaeth y farnwriaeth. Rwyf i’n hoff o’r cyfryngau cymdeithasol, ac nid wyf yn credu y...
Huw Irranca-Davies: Nid wyf eisiau ymladd brwydrau newid yn yr hinsawdd gyda’r rhai sy’n amau ac yn gwadu bodolaeth newid yn yr hinsawdd eto. Byddwn yn dweud yn syml, i’r rhai sydd â diddordeb mewn edrych ar y wyddoniaeth ar hyn—rhoddwyd darlith dda iawn gan yr Arglwydd Stern yn y Gymdeithas Frenhinol ar 28 Hydref y mis hwn ar bwysigrwydd allweddol y 10 mlynedd nesaf, a hefyd, gyda llaw, yr heriau a’r...
Huw Irranca-Davies: Gallaf weld bod areithiau fy nghyfaill yn mynd i fod yn anrhegion poblogaidd iawn y Nadolig hwn, yn ddi-os. [Chwerthin.] Ond mae wedi crybwyll ei fod wedi cael amser eisoes i wneud peth gwaith darllen arall—adroddiad Tŷ’r Arglwyddi. Dylwn ddweud yn glir fod yna gyfle o hyd i wella’r Bil hwn os oes ewyllys i wneud hynny yn y camau sy’n weddill yn Nhŷ’r Arglwyddi, ac yn Nhŷ’r...