Baroness Mair Eluned Morgan: Credaf ei bod yn werth nodi y byddai cyfranogi yn rhaglenni'r UE a'r cytundeb cysylltiedig â'r UE fel arfer yn cael ei wneud gan wladwriaeth sofran gyda'r pwerau i wneud hynny, ac rydym eisoes yn archwilio a fyddai'n bosibl i Gymru, neu gyfuniad o wledydd cyfansoddiadol y DU, gymryd rhan mewn rhaglen UE fel Erasmus, hyd yn oed pe bai Llywodraeth y DU yn peidio â chaniatáu i Loegr gymryd...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, diolch yn fawr. Gaf i ddechrau drwy groesawu adroddiad y pwyllgor a David Rees yn arbennig, a diolch iddo am yr holl waith a'r casglu tystiolaeth rydych chi wedi gwneud yn ystod yr ymchwiliad yma, achos mae wedi rhoi gwybodaeth werthfawr iawn i ni wrth i ni ddatblygu'r strategaeth newydd yma i Gymru? Dwi hefyd yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth heddiw. Gaf i ddweud...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i bwysleisio'r pwynt ein bod, mewn gwirionedd, wedi elwa yn eithaf sylweddol o Horizon yn y gorffennol, ac nid wyf wedi rhoi'r gorau iddi eto. Credaf fod cyfle gwirioneddol i ni barhau i geisio ymgysylltu â'r rhaglen honno. Nonsens y sefyllfa yw bod y DU, yn y gorffennol, wedi cael £8 biliwn yn ôl am y £5 biliwn a fuddsoddodd yn y rhaglen. Ac yng...
Baroness Mair Eluned Morgan: Rwyf wedi cyfarfod â rhanddeiliaid a chyd-Weinidogion i drafod sut y gellir hybu cryfderau Cymru yn ehangach, a thrwy frand Cymru sydd wedi ennill gwobrau, rydym yn canolbwyntio ar adrodd stori Cymru ar gyfer busnesau sy'n dechrau, tyfu a buddsoddi yma, a'r straeon hyn yw sylfaen ein rhaglen farchnata.
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, mae'n bwysig, o ran yr hyn a gynigiwn, ein bod yn cael hyn yn iawn o'r cychwyn cyntaf, oherwydd, yn aml iawn, bydd yn cael effaith ar ble fydd y plant yn y pen draw. Felly, rydych yn hollol gywir: mae angen i ni sicrhau bod yna gynnig cyfartal. Gwn mai Dechrau Disglair yw lleoliad gofal plant cyfrwng Cymraeg Dechrau'n Deg yn ardal Abertawe. Wrth gwrs, yr hyn rydym yn ei wneud yn awr yw...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Rwy’n cyfarfod yn gyson gyda Gweinidogion er mwyn trafod eu cyfraniad at y nod o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg. Felly, ym mis Medi, fe wnes i gael cyfarfod gyda’r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ar y pryd i drafod cyfraniad y maes i’r nod yma.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch, ac rydych yn llygad eich lle, mewn gwirionedd, fod y ffaith nad oes gennym unrhyw syniad beth fydd yn digwydd o ran ein perthynas gydag Ewrop yn ei gwneud yn anodd iawn drafftio strategaeth ryngwladol, gan y byddai gwahaniaeth sylfaenol yn dibynnu ar ein sefyllfa yn y pen draw. Os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn enwedig os byddwn yn gadael heb gytundeb, mae angen i ni...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Cyhoeddais fy mwriad i gynhyrchu strategaeth newydd i gyfleu ein gweledigaeth ryngwladol ar gyfer Cymru ym mis Ionawr. Rydym yn dal i ddrafftio'r gwaith hwn, ac rwy'n disgwyl cyflwyno drafft i'r Cabinet ym mis Mai, gyda'r ddogfen derfynol yn barod i'w chyhoeddi cyn yr haf.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Credaf fod y gwaith y mae PONT wedi'i wneud dros y blynyddoedd yn wirioneddol anhygoel, ac mae cymaint o bobl wedi bod yn rhan o'r gwaith hwnnw o'r gwaelod i fyny. Rwy'n ymwybodol o'r gwaith a'r awgrymiadau a wnaed o ran y cyswllt hwnnw a'r posibilrwydd o weld faint yn rhagor y gallwn hybu'r cysylltiadau iechyd yn enwedig. Rwyf wedi cael cyfarfod gyda'r dirprwy Weinidog iechyd heddiw...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Credaf fod hynny'n syniad gwych, a gobeithiaf ei fod yn un y bydd y Dirprwy Lywydd yn ei rannu—y neges honno y byddai'n wych dathlu'r cysylltiadau Cymru-Affrica wrth ddathlu 20 mlynedd ers datganoli. Buaswn wrth fy modd yn croesawu Martha fel dinesydd Cymru. Rydym yn falch iawn o'i chael. Pe bai pawb yn gwneud y math o gyfraniad y mae hi wedi'i wneud i'w chymuned, byddem yn llawer...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, mae'n amlwg mai'r strategaethau mwyaf llwyddiannus yw'r rhai sy'n ymwneud â'r cysylltiad rhwng cymunedau, ac mae hon yn enghraifft wych o ble mae pobl yn mynd i’r afael â hynny, yn fy marn i. Mae PONT yn enghraifft wych o hynny; mae peth o'r gwaith a wneir yn Lesotho yn dangos o ddifrif sut y mae adeiladu'r cymunedau hynny a'r cysylltiadau hynny rhwng pobl yn rhoi dyfnder i raglen...
Baroness Mair Eluned Morgan: Rwyf wrth fy modd fod Cymru o Blaid Affrica yn rhan o fy mhortffolio a bod cynifer o bobl yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o wneud Cymru a'r byd yn lle gwell. Bydd y rhaglen yn rhan allweddol o'r ymgynghoriad ar y strategaeth ryngwladol. Rwy'n ystyried ymateb i'r strategaeth ryngwladol gan y sector gwirfoddol ynghylch sut y gallwn fwrw ymlaen â'r agwedd hon ar waith Llywodraeth Cymru.
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, ar hyn o bryd, beth rŷm ni'n gobeithio ei wneud yw sicrhau bod y llinell gymorth yna yn dechrau tu fewn i Lywodraeth Cymru. Wrth gwrs, mae'r ymgyrch farchnata yna—bydd hwnna'n dechrau cyn bo hir. Ond mae gyda ni gomisiynydd newydd sydd wedi dechrau'r wythnos yma, a dwi'n gobeithio y bydd y cydweithrediad yna rhwng Llywodraeth Cymru a swyddfa'r comisiynydd yn rhoi'r cyfle inni sicrhau...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Rŷch chi'n eithaf reit; mae'n rhaid inni fod yn wyliadwrus—jest i ateb yr un diwethaf wnes i ddim ateb y tro diwethaf—o ran dibynnu yn ormodol ar grwpiau allanol i ymgymryd â phethau sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg. Dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig ein bod ni i gyd yn datblygu'r gallu yna yn fewnol ac, wrth gwrs, gall cynghorau ddysgu oddi wrth ei gilydd. Mae rhai yn lot fwy ar y...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Dwi'n meddwl, o ran Cymraeg i Blant, y byddwn ni'n ymgymryd â sicrhau ein bod ni'n deall os yw hwnna wedi bod yn llwyddiant. Ac, wrth gwrs, mi wna i ymgymryd â chyhoeddi'r canlyniadau unwaith y bydd y rheini gyda ni. Rŷch chi'n eithaf iawn o ran y WESPs. Beth rŷm ni'n trio ei wneud nawr yw symud ymlaen o'r camau rŷm ni wedi eu cymryd yn y gorffennol i ganolbwyntio ar ysgolion....
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, rŷm ni yn bwriadu bwrw ymlaen gyda rhoi safonau newydd ymlaen. Mi ges i air ddoe gyda phennaeth Dŵr Cymru a gwneud yn siŵr ei fod e'n deall ein bod ni'n bwriadu symud ymlaen gyda safonau yn y maes dŵr. Felly, dyna fydd y cam cyntaf ac wedyn byddwn ni'n edrych ar y sectorau eraill ar ôl hynny.
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn i beidio â chymysgu'r ddau beth. Dwi yn meddwl y byddwn ni'n symud ymlaen â chynlluniau iaith—neu safonau iaith—ar gyfer cymdeithasau tai. Allaf fi ddim rhoi amserlen glir i chi, achos ein bod ni yng nghanol Brexit, ac yn anffodus mae hwnna yn sugno darpariaeth ddeddfwriaethol y Llywodraeth, felly ychydig iawn sydd ar ôl o ran...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, dwi'n meddwl bod hwn yn bwnc sensitif tu hwnt, a dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn ofalus ein bod ni ddim yn cau'r cyfle off i ni alluogi mwy o bobl i gael y cyfle i ddysgu Cymraeg. A dwi'n meddwl, os oes yna ymrwymiad i bobl ddysgu Cymraeg pan maen nhw'n dod mewn i swydd, mi ddylen ni fod yn annog hynny hefyd. Felly, dwi yn meddwl bod rhaid i ni gymryd y cyfle i sicrhau ein bod ni...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Credaf eich bod yn hollol gywir, mae—. Mae'n bwysig iawn inni ddefnyddio'r foronen a'r wialen lle bo hynny'n bosibl. Rwy'n fwy cefnogol i'r foronen, yn gyffredinol, na'r wialen, a dyna pam yr ydym wedi cyfrannu miliynau i fenter i annog pobl i ddysgu'r iaith yn y gweithle. Ond yr ochr arall i hyn, wrth gwrs, yw bod siaradwyr Cymraeg—os yw'r cwmnïau sector preifat hyn yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: —fel siaradwyr Cymraeg, i sicrhau ein bod ni'n defnyddio'r gwasanaeth yna. A dyna'r broblem ar hyn o bryd. Yn aml iawn, mae'r gwasanaethau yna; ychydig iawn o Gymry Cymraeg sy'n eu defnyddio nhw. Mae'n rhaid inni fod yn sicr ein bod ni, fel Cymry Cymraeg, yn defnyddio'r gwasanaethau yna pryd bo hynny—pan fo'r cyfle yna gyda ni.