Llyr Gruffydd: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun 10 mlynedd arfaethedig ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae yng Nghymru?
Llyr Gruffydd: Wel, rydym ni wedi gwyntyllu tipyn ar fetro de Cymru yn gynharach yn y sesiwn yma. Wrth gwrs, mi wnaeth eich plaid chi gyhoeddi cynllun ar gyfer metro i’r gogledd-ddwyrain, i bob pwrpas, a oedd yn llinellau ar fap ac mae yna nifer o fudd-ddeiliaid wedi dweud beth roedden nhw’n ei feddwl am hynny. Ond onid siarad gwag yw sôn am ryw fath o fetro pan, mewn gwirionedd, fo yna wasanaethau...
Llyr Gruffydd: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drafnidiaeth gyhoeddus yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0130(FM)[W]
Llyr Gruffydd: Yn dilyn penderfyniad gan benaethiaid iechyd Caer i gau uned gofal arbennig i blant sydd wedi’u geni dan 32 wythnos oed yn ysbyty’r Countess of Chester, oherwydd cynnydd yn y marwolaethau yno, a’i symud nawr i Arrowe Park, a allwch chi ddweud wrthym ni ba effaith y bydd hyn yn ei chael ar fabanod o Gymru a gwasanaethau gofal dwys i fabanod newydd-anedig yn y gogledd?
Llyr Gruffydd: Mi fyddwch chi wedi derbyn, fel yr ydw i, lythyr gan gyn-nyrs sydd â phrofiad clinigol eang. Mae hefyd yn gyn-gyfarwyddwr anweithredol o fewn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru. Yn y llythyr, mae hi’n disgrifio’r hyn a welodd hi yn uned ddamweiniau Wrecsam Maelor fis diwethaf. Mae hi’n cyfeirio yn ei llythyr at ddiffyg staff, at ddiffyg gwelyau ac effaith hynny ar allu cleifion i...
Llyr Gruffydd: A ydych chi’n cydnabod, Ysgrifennydd, yr angen i ddatblygu gogledd Cymru fel pwerdy economaidd yn ei rinwedd ei hun? Yn amlwg, mae’n bwysig ein bod ni’n ennill pob budd economaidd posibl o ddatblygiadau cyfagos fel pwerdy’r gogledd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond wrth gwrs mae yna ofid gyda’r datblygiadau dinas-ranbarthau yn y de, a phwerdy’r gogledd yn Lloegr, y gallai...
Llyr Gruffydd: 2. A wnaiff yr Ysgrifennydd ddatganiad am unedau Brys a Damweiniau yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0022(HWS)[W]
Llyr Gruffydd: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Mae'n debyg y dylwn ddatgan buddiant fel llywodraethwr ysgol ar y dechrau fel hyn. Mae'n ddatganiad eang iawn a byddaf yn ceisio bod yn fanwl, ac rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Lywydd yn dweud wrthyf os nad wyf. Rydych yn gwneud cyfeiriad cynnar at ysgolion arloesi yn eich datganiad. Mae nifer o athrawon ac ysgolion sy'n rhan o'r...
Llyr Gruffydd: Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad chi y prynhawn yma. Mae marwolaeth Dylan Seabridge, wrth gwrs, wedi’n brawychu ni i gyd, ac mae’n ddyletswydd arnom ni fel Cynulliad, ac arnoch chithau fel Llywodraeth, i wneud pob peth posib i osgoi unrhyw bosibilrwydd o achosion tebyg eto. Ni allwn ddweud nad oes achosion eraill tebyg allan yna. Rydych yn sôn yn eich datganiad bod angen...
Llyr Gruffydd: Wel, diolch ichi am eich ateb—ateb diddorol iawn, os caf i ddweud, oherwydd mi wnaeth eich Gweinidog sgiliau chi, mewn ymateb i gwestiwn gen i ar ôl ei datganiad yr wythnos diwethaf, ei gwneud yn glir ei bod hi yn parhau i ddatblygu cynlluniau ar y sail bod yr arian yn dod i Gymru. O na ddaw o’r Undeb Ewropeaidd, mae hi’n disgwyl i’r arian ddod, yn ôl yr addewidion, o Lywodraeth y...
Llyr Gruffydd: Yng ngoleuni’r dyletswyddau sydd nawr, wrth gwrs, ar y sector cyhoeddus yn dilyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, oni ddylai fod gorfodaeth ar bob adeilad sy’n cael ei godi gydag arian cyhoeddus, ac, yn y cyd-destun yma, ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, i fod yn defnyddio pob cyfle posib o safbwynt ynni adnewyddadwy?
Llyr Gruffydd: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddyfodol y Cynllun Datblygu Gwledig? OAQ(5)0117(FM)[W]
Llyr Gruffydd: Wel, beth yw problem y Democratiaid Rhyddfrydol gydag addewidion maniffesto? Nid wyf yn gwybod. Dyna ni. Iawn, wel, mae amwysedd yno o hyd. Gadewch i ni weld a ydych yn glynu at eich barn ar PISA, felly, oherwydd, 18 mis yn ôl, wrth holi’r Prif Weinidog ynglŷn â newidiadau’r Llywodraeth i dargedau PISA, fe ddywedoch ac rwy’n dyfynnu, ac yn ddiau, bydd llawer o’r rhain dros y...
Llyr Gruffydd: Wel, rwy’n meddwl ei bod braidd yn siomedig fod yna amwysedd ynglŷn â hynny o hyd oherwydd nid yn unig ar y meinciau hyn, ond ar y meinciau eraill hefyd, mynegwyd pryder ynglŷn â’r diffyg eglurder ynghylch hynny. Efallai y gallech roi rhywfaint o eglurder i ni felly ynghylch y consortia rhanbarthol, sy’n parhau i hollti barn o fewn y sector addysg. Roedd eich maniffesto Democratiaid...
Llyr Gruffydd: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i’w chwestiynau addysg cyntaf? Dechreuaf drwy ofyn iddi gadarnhau, efallai, unwaith ac am byth i’r Siambr, y bydd y cyllid ar gyfer y polisi maint dosbarthiadau rydym newydd fod yn ei drafod ac rydych wedi ymrwymo iddo, yn cael ei ddarparu ar wahân i’r addewid addysg o £100 miliwn a wnaed gan y blaid Lafur yn yr etholiad.
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd dros dro. Thank you, Minister, for your statement. I broadly welcome the direction of travel that you outline here. I would say, of course, that, whilst you say unemployment in Wales has fallen—and you paint a particular picture in your opening paragraphs—we are aware, of course, that many of the new jobs that have been created are part-time, second or...
Llyr Gruffydd: Fel rydym wedi’i glywed yn barod, wrth gwrs, mae plant mewn gofal yn arbennig o agored i niwed, ac mae canlyniadau’n waeth nag y byddem yn dymuno iddynt fod yn rhy aml o lawer, gyda’r rhai sydd mewn gofal yn debygol o fod â llai o gymwysterau, o wynebu mwy o berygl o fod yn ddigartref, o ddatblygu problemau iechyd meddwl ac o wynebu risg o fynd yn rhan o’r system cyfiawnder...
Llyr Gruffydd: Lywydd, rwyf yn enwebu Simon Thomas.
Llyr Gruffydd: Lywydd, hoffwn i enwebu Rhun ap Iorwerth.
Llyr Gruffydd: A wnewch chi dderbyn ymyriad?