Jane Hutt: Diolch i chi, Julie Morgan, am y cwestiynau hynny. A Julie Morgan a arweiniodd y ddadl ar y mater hwn—o ran eich cwestiwn cyntaf—yma yn y Senedd. Ac roedd cefnogaeth unfrydol gan Aelodau Cynulliad ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd o ran pwyso am ymchwiliad cyhoeddus llawn. Ac rydym, wrth gwrs, yn awr yn croesawu cadarnhad y Prif Weinidog y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r...
Jane Hutt: Diolch i Llyr Gruffydd am y ddau gwestiwn. O ran y cwestiwn cyntaf, sydd, fel y dywedwch, nid yn unig yn fater o ddiogelwch ar y ffyrdd, y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ystyried yn flaenoriaeth uchel wrth gwrs, ond yn ymwneud ag ardal benodol yn y gogledd lle bu’r atyniad hwn, ac, yn amlwg, lle caiff cymryd risgiau, fe ymddengys, ei annog, a marwolaethau o ganlyniad i hynny, a...
Jane Hutt: Wel, rwy’n credu bod yr Aelod yn amlwg yn gwrando ar ei etholwr lleol, sef busnes, ac yn ei gynrychioli. Ond rwy’n credu eich bod wedi egluro, yn wir, o ran adrodd am y profiad y mae’r busnes hwnnw, etholwr lleol, wedi’i gael, pam ei fod ef neu hi wedi cael ei hun yn y sefyllfa honno. Mae hwn yn fater i'r awdurdod lleol, ac mae'n fater, nid yn unig o ran rheoleiddio a sail statudol,...
Jane Hutt: Mae Joyce Watson yn iawn wrth ddweud pa mor bwysig yw taliadau tai yn ôl disgresiwn. Yn wir, amlygwyd hynny yn glir iawn yn ymgyrch Shelter Cymru, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd wedi clywed am yr wythnos ddiwethaf—yr ymgyrch Waste Not Want Not—yn tynnu sylw at eu pryderon a chodi ymwybyddiaeth y gallai pobl fod â hawl i help ychwanegol trwy'r cynllun taliadau tai yn ôl disgresiwn. Yn...
Jane Hutt: Diolch i chi, Bethan Jenkins. Ar eich pwynt cyntaf, credaf efallai y bydd materion penodol y byddwch o’r farn sy’n briodol ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet amdanynt, o ran eich cyfarfod a’ch ymweliad â chymdeithas dai benodol. Mae eich pwyntiau cyffredinol yn bwysig o ran y trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r sector...
Jane Hutt: Diolch i chi, Nick Ramsay, am ddau gwestiwn cadarnhaol iawn ar y datganiad busnes. Yn amlwg, rwy’n cofio ymweld ag Ysgol Gyfun Trefynwy, fel Gweinidog Addysg ar y pryd, a gallu helpu i sicrhau cyllid drwy ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Byddwn mewn gwirionedd yn hoffi ail ymweld, efallai pan fyddaf yn pasio heibio, gan fy mod i'n siŵr fod ganddi adeiladau ysblennydd erbyn hyn sy'n cael...
Jane Hutt: Diolch, Llywydd. Rwyf wedi ychwanegu tri datganiad llafar i agenda heddiw. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn gwneud datganiad am adroddiad interim yr adolygiad seneddol ar iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn gwneud datganiadau llafar ar y strategaeth iaith Gymraeg ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y tasglu...
Jane Hutt: Diolch i Hannah Blythyn am y cwestiwn yna. Mae'n amserol iawn, rwy’n credu, ar yr adeg hon o'r flwyddyn, i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet, sydd yma wrth fy ochr, ar yr ymgyrch Blwyddyn Chwedlau, a hefyd am y cyfle i glymu hyn i'r fantell aur. Nawr, dim ond er mwyn gwella'r cyfleoedd hyn, rwy’n deall bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith...
Jane Hutt: Diolch i chi, Darren Millar. O ran eich cwestiwn cyntaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet, fel yr wyf wedi dweud yn barod, yn mynd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Flwyddyn Chwedlau. Ac, yn amlwg, rydych chi wedi nodi un chwedl sydd ar goll o bosibl, y dylid ei hystyried—y creiriau hynny, mwy nag un, rwy’n credu—ond fe wnaethoch chi gyfeirio yn benodol at Santes Gwenffrewi a’r ffynnon...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Simon Thomas, am y ddau gwestiwn yna. Yn wir, rwy’n cofio eich bod wedi codi’r mater o gau arfaethedig y swyddfeydd Adran Gwaith a Phensiynau, ac wrth gwrs, mae’r pryderon hynny yn cael eu rhannu gan nid yn unig Lywodraeth Cymru, ond gan Aelodau eraill y Cynulliad a'u hetholwyr hefyd. Ac, unwaith eto, mae'n bwysig ac yn amserol eich bod yn codi'r mater hwn, er mwyn i...
Jane Hutt: Ydw, rwyf yn cofio, wrth gwrs, y trafodaethau hynny o amser maith yn ôl, ac mae'r gwaith ar y cyd a gyflawnwyd, sut y symudwyd hynny ymlaen. Mae gennyf ddiddordeb mawr hefyd yn eich sylwadau am bwysigrwydd cynnig ARCH, yr wyf yn credu ac yn deall—oherwydd yr oedd cefnogaeth fawr draws-lywodraethol, a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer hynny—ei fod hefyd yn cyfrannu at fargen...
Jane Hutt: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mewn gwirionedd, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â chadeirydd ardal fenter Glynebwy y bore yma a gallodd felly bwysleisio pwysigrwydd y cyfleoedd hynny sydd bellach yn cael eu cyflwyno yn sgil ei gyhoeddiad a dyraniad y cyllid yr wythnos diwethaf. Ac mae'n hollbwysig ein bod yn ystyried hyn o ran y swyddi a grëwyd, ac rwy'n gwybod yr hoffai Ysgrifennydd...
Jane Hutt: Wel, rwy'n falch bod Julie Morgan, yr Aelod dros Ogledd Caerdydd, hefyd wedi dewis codi’r mater hwn eto y prynhawn yma, yn amlwg yn dilyn cwestiwn i'r Prif Weinidog. Rwy’n dymuno ailadrodd yr hyn a ddywedwyd gan y Prif Weinidog unwaith eto, ein bod yn cefnogi'n gryf hawl menywod i ddewis cael erthyliad. Rydym ni’n ystyried y ddarpariaeth o erthyliadau i ferched o Ogledd Iwerddon yng...
Jane Hutt: Unwaith eto, mae’r Aelod yn defnyddio, byddwn i’n dweud, ei swyddogaeth fel aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y fath fodd i restru nifer o faterion y creffir arnynt yn briodol, ac y bu craffu priodol arnynt gan y pwyllgor hwnnw.
Jane Hutt: Wel, fel y mae’r Aelod yn ei ddweud, mae hyn—Andrew R.T. Davies, fel yr ydych chi’n ei ddweud yn eithaf clir, mae erbyn hyn ar gam cais cynllunio manwl i Gyngor Bro Morgannwg i adeiladu’r hyn a adnabyddir fel y ffordd fynediad ogleddol. Rwy’n cofio—ac rwy’n credu mai’r llynedd oedd hi—pryd y cafwyd arddangosfa am y cynigion ar gyfer y ffordd hon yn Sain Tathan, a dywedais i...
Jane Hutt: Diolch, Llywydd. Mae gennyf dri newid i’w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwneud datganiad gyda hyn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y datblygiadau yng Nghymru yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell. Rwyf hefyd wedi ail-drefnu dau ddatganiad llafar heddiw, ac mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i leihau'r amser a neilltuwyd ar...
Jane Hutt: Wel, byddwn i, unwaith eto, mewn ymateb i’r ail gwestiwn hwnnw, yn dweud bod hyn yn—. Rwy’n cydnabod yn glir iawn y gwaith y mae Carolyn Harris yn ei wneud a’r effaith y mae hi wedi ei chael fel eich AS. Ond rwyf i hefyd yn credu ein bod wedi ein hargyhoeddi, ac mae'n amserol ein bod yn edrych am amser a threfniant priodol ar gyfer cynnal dadl ar effaith gamblo. Wrth gwrs, ynghylch...
Jane Hutt: Diolch, Jenny Rathbone. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod Tesco yn sylweddoli bod y cyhoedd yn pryderu—bod eu cwsmeriaid yn bryderus iawn, am y ffordd y mae’r gweithlu wedi ei drin yng Nghaerdydd. Ac, wrth gwrs, mae cynifer o bobl sy'n gweithio, a theuluoedd a chymunedau, wedi eu heffeithio gan eu cyhoeddiad dinistriol yr wythnos diwethaf. Mae’n dangos eu diffyg dealltwriaeth a...
Jane Hutt: Wel, mewn ymateb i'r cwestiwn hwnnw, mae'n bwysig cydnabod bod y bwrdd iechyd yn gweithio mewn partneriaeth â'r practis meddyg teulu yng Nghorwen i gytuno ar gymorth cyllid parhaus, yn unol â fframwaith asesu cynaliadwy meddygon teulu Llywodraeth Cymru. A dylai hynny helpu’r practis i barhau i ddarparu gwasanaeth i drigolion Corwen, a'r ardal gyfagos. Yn wir, maent yn cwblhau taliad am...
Jane Hutt: Diolch i Nick Ramsay am godi ymwybyddiaeth unwaith eto o glefyd niwronau motor. Mae'r ffaith ei bod yn fis ymwybyddiaeth yn golygu y byddwn yn clywed amdano, rwy'n siŵr, fel Aelodau Cynulliad, a byddwn ni i gyd yn gwybod am etholwyr ac aelodau teulu y mae’r clefyd hwn yn effeithio’n ddirfawr arnynt. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth, unwaith eto, sy’n gyfle i gael diweddariad ar ei...