David Melding: Pa fesurau sydd yn eu lle i wella'r broses ymgynghori sy'n cefnogi datblygu a gweithredu rhaglen bolisi Llywodraeth Cymru?
David Melding: Diolch i chi, Lywydd. Fe fyddech wedi nodi bod naw Aelod yn ogystal â mi fy hun ac Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy’n credu bod hwnnw’n arwydd gwych o bwysigrwydd y maes polisi hwn i bobl. Dechreuodd Simon Thomas drwy gyfeirio at y gyfarwyddeb aer rydym yn seilio ein polisi cyfredol arni, cyfarwyddeb a ddaw o’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n allweddol a...
David Melding: Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod. Ac mae nifer yr achosion o lygredd drwy nitrogen ocsid i’w weld yn cynyddu, gydag wyth allan o 10 o safleoedd monitro yng Nghymru yn cofnodi cynnydd y llynedd. Rwyf eisiau troi at rai o’r effeithiau ar iechyd, gan fod deunydd gronynnol a anadlir a chysylltiad â nitrogen ocsid yn achosi cynnydd sylweddol mewn afiachusrwydd. Cyfrifir ei fod yn lleihau...
David Melding: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Efallai, gyda’ch caniatâd, y caf ymddiheuro i Sian Gwenllian, sy’n dal i fod yn y Siambr, am gael ei henw’n anghywir yn gynharach. Esgusodwch fi—mae’n flin iawn gennyf. Mae angen i ansawdd aer fod yn flaenoriaeth uchel yn y pumed Cynulliad hwn. Nid yw ar hyn o bryd yn ymddangos fel cyfrifoldeb Cabinet penodol. Edrychais ar restr cyfrifoldebau Ysgrifennydd...
David Melding: Gwnaf.
David Melding: Wel, wyddoch chi, dywedais fy mod yn credu bod manteision ac anfanteision ynghlwm wrth ba system bynnag a ddefnyddiwch. A dweud y gwir, y peth mwyaf taclus i’w wneud fyddai defnyddio systemau tebyg. Felly, mae yna oblygiadau: os ydych yn ei wneud ar gyfer llywodraeth leol, a ddylech ei wneud ar gyfer y Cynulliad a deddfwrfa gymharol fechan, a sut fyddai hynny’n gweithio? Fel y dywedais,...
David Melding: Wel, roeddwn am ddweud fy mod yn credu bod gan bob trefniant etholiadol ei fanteision a’i anfanteision. Nawr, rwyf wedi credu ers peth amser fod anfanteision system y cyntaf i’r felin mewn system gynyddol amlbleidiol, neu yng Nghymru lle mae gennych—neu’n arfer bod, beth bynnag—system gydag un blaid ddominyddol, yn golygu y dylem edrych ar ffyrdd eraill o ethol, ond mae’n rhywbeth...
David Melding: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud y bydd grŵp y Ceidwadwyr yn gwrthwynebu’r cynnig? Ond byddwn yn cefnogi’r gwelliant, ac os caiff y gwelliant ei dderbyn, yna byddwn yn cefnogi’r cynnig fel y’i diwygiwyd. Fy mhroblem gyda dull Plaid Cymru yw ei fod yn cymeradwyo pleidlais sengl drosglwyddadwy a chredaf fod angen i ni ystyried yn drwyadl sut y byddai’n gweithredu’n...
David Melding: Nid wyf ond prin wedi dechrau, ond gwnaf.
David Melding: A wnaiff y Gweinidog ildio?
David Melding: Mae’n gofyn am ychydig o amser i weld sut y mae prosesau presennol yn gweithio, ac mae’n debyg, wyddoch chi, ei fod yn dymuno osgoi ymagwedd rhy fiwrocrataidd os yw’r hyn rydym am ei gyflawni am fod yn fwyfwy tebygol o ddigwydd bellach, o ystyried prosesau newydd. Ar ôl blwyddyn neu ddwy, os ydych am adolygu pethau, mae hynny’n iawn, ond a wnewch chi ddod yn ôl i adrodd ar sut y mae...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch i chi a’r Pwyllgor Busnes am ddewis y pwnc hwn i’w drafod fel dadl Aelod unigol. O ystyried y diddordeb helaeth y mae’r ddadl wedi’i sbarduno a nifer yr Aelodau Cynulliad a lofnododd y cynnig ar gyfer y ddadl, rwy’n credu bod y diddordeb yn y pwnc yn rhywbeth sydd wedi creu argraff ddofn arnom yn y Cynulliad. Hoffwn ddechrau, mewn gwirionedd, gydag...
David Melding: Rwyf yn enwebu Darren Millar.
David Melding: Rwyf yn enwebu Russell George.
David Melding: Wel, mae’r hyn a ddigwyddodd ddydd Iau yn bwysig. Mae'n bwysig, gorff ac enaid, a bydd y goblygiadau yn ymestyn ar hyd y cenedlaethau. Mae'n bwysig yma, mae'n bwysig yn Ewrop, ac mae hefyd yn dweud llawer iawn am gyflwr democratiaethau’r Gorllewin. Roedd hefyd yn siarad am rywbeth penodol iawn, sef ein haelodaeth o'r UE, ond rwy’n meddwl bod yna wersi ehangach i bob un ohonom sydd yn...
David Melding: Brif Weinidog, y ffaith amdani yw mai economi Cymru yw'r mwyaf agored yn y DU i unrhyw ddirywiad posibl mewn masnach â'r UE neu ddirywiad i fewnfuddsoddiad sy’n ceisio mynediad at y farchnad sengl, ac mae’n rhaid dweud hynny wrth y rhai sydd nawr yn gyfrifol am y trafodaethau Brexit.
David Melding: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio? Rwy’n ofni bod yn rhaid i mi geisio’i helpu gan iddo gyfeirio at grŵp y Ceidwadwyr. Nid wyf yn siarad ar ei ran; rwy’n siarad fel unigolyn yn unig. Ond wrth siarad am fanteision yr Undeb Ewropeaidd, mae’r ochr sy’n ffafrio gadael yn dweud ei bod wedi ildio sofraniaeth hanfodol ac nad yw’n werth y pris, ond os ydym wedi ildio sofraniaeth...
David Melding: A gaf fi ganmol ei ddatganiad cyffredinol: y dylai ein disgwyliadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal fod yn debyg, os nad yn union yr un fath, â’r hyn ydynt ar gyfer gweddill y boblogaeth? Rwyf wedi bod yn y Cynulliad hwn bellach ers ychydig dros 17 mlynedd, ac rwyf wedi clywed Gweinidogion yn dweud dro ar ôl tro ein bod ar fin torri tir newydd mewn perthynas â phlant sy’n derbyn...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, mae gwella a chynnal a chadw cwlfertau yn allweddol i amddiffyn rhag llifogydd yn effeithiol, ac os oes unrhyw un yn ardaloedd cymoedd fel Cwm Cynon wedi gweld pa mor gyflym y gall y cyrsiau dŵr hynny symud, mae’n wirioneddol frawychus. Mae yna lawer y gallwn ei wneud i gynnal cwlfertau drwy ddefnyddio technoleg newydd a chamerâu. Mae hyn yn rhywbeth y mae’n...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n falch o nodi hynny, ond a ydych yn credu, mewn ystyr fwy ymarferol, ei bod hi’n bryd i ni yng Nghymru, ac ym Mhrydain yn gyffredinol, wynebu rhai o ganlyniadau ymarferol cludo plant i’r ysgol, er enghraifft? Rwy’n credu ein bod yn perthyn i’r un genhedlaeth, ac yn fy amser i, y rhai a oedd yn sâl neu’n dueddol o gamymddwyn a gâi eu cludo i’r...