Llyr Gruffydd: Onid ydych yn cytuno â mi bod rhywfaint o'r rhethreg yr ydym wedi’i chlywed gan gynrychiolwyr UKIP mewn gwirionedd wedi bwydo’r drwgdeimlad a’r hiliaeth yr ydym wedi’u gweld?
Llyr Gruffydd: A wnewch chi dderbyn ymyriad arall?
Llyr Gruffydd: Cawsom gwestiwn yn gynharach heddiw sy'n awgrymu bod rhai pobl sy'n gyfreithlon yn y wlad hon, yn ceisio lloches yma—a’r cwestiwn oedd am gost y bobl hynny. Dylai ystyriaethau dyngarol ddod yn gyntaf, does bosib’?
Llyr Gruffydd: A ydych yn cysylltu eich hun â'r cwestiwn?
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd ambiwlansys?
Llyr Gruffydd: Diolch i chi am eich ateb. Roeddwn yno neithiwr yn gwrando’n astud ar eich araith yn nigwyddiad Cymdeithas Milfeddygon Prydain. Roeddech yn siarad yno am eich dymuniad i sicrhau bod yna raglen gynhwysfawr i fynd i’r afael â TB mewn gwartheg, ac yn sicr, yr argraff oedd bod yr holl opsiynau ar y bwrdd. A wnewch chi gadarnhau i’r Cynulliad y prynhawn yma nad ydych yn diystyru’r...
Llyr Gruffydd: Mae llawer iawn o’r arian, wrth gwrs, sy’n cael ei fuddsoddi i fynd i’r afael â’r her o lifogydd yn dod o ffynonellau Ewropeaidd, wrth gwrs. A fyddech chi’n cytuno â mi felly, Ysgrifennydd Cabinet, y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gadael nifer o’r cymunedau hyn hyd yn oed yn fwy ‘exposed’ i’r risg o ddioddef gorlifo, yn enwedig mewn ardaloedd fel Gorllewin Clwyd?
Llyr Gruffydd: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â TB mewn gwartheg? OAQ(5)0002(ERA)[W]
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fwriadau'r Llywodraeth i ddwysáu ymdrechion i amddiffyn rhywogaethau sydd o dan fygythiad?
Llyr Gruffydd: Wel, fel sydd wedi cael ei grybwyll yn barod, wrth gwrs, rŷm ni nawr yn sylweddoli bod Llywodraeth Cymru yn atebol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Deddf a oedd yn arwain y byd yn ôl y Llywodraeth ddiwethaf, a Deddf, felly, a ddylai fod yn arwain at newid sydd yn arwain y byd. Ac mae nifer ohonom ni yn methu deall sut, o dan ddyletswyddau’r Ddeddf honno, efallai, y...
Llyr Gruffydd: Wel, diolch yn fawr, Lywydd. Mae’n fraint a dweud y gwir cael cyflwyno dadl fer gyntaf y pumed Cynulliad. Rwyf wedi cytuno i Lee Waters a Jenny Rathbone gael cyfran o’r amser sydd wedi’i glustnodi ar gyfer fy nghyfraniad i i’r ddadl fer yma. Nawr, ‘Cyflawni Dyfodol Ynni Craffach i Gymru—Blaenoriaethau Polisi Ynni ar gyfer Llywodraeth Newydd Cymru’ yw’r teitl rwyf wedi’i...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf i eich llongyfarch chi, Weinidog, ar eich penodiad, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn i gysgodi’r elfen sgiliau o’ch portffolio chi, ac a gaf i hefyd ddiolch i chi am y datganiad y prynhawn yma? Mi gychwynnaf drwy bigo fyny ar y sylwadau roeddech yn eu gwneud tuag at ddiwedd eich datganiad ynglŷn a’r lefi prentisiaethau. Roeddech chi’n...
Llyr Gruffydd: Mae creu’r ddarpariaeth yr ydych chi wedi cyfeirio ati i deuluoedd sy’n gweithio yn rhywbeth i’w groesawu, ond fe fyddwch chi’n ymwybodol iawn, wrth gwrs, y byddai’n ddymunol i ehangu’r ddarpariaeth i bob teulu, oherwydd mi fyddai hynny yn creu cyfle wedyn i rieni sydd ddim yn gweithio ar hyn o bryd, efallai, i fynd yn ôl i’r gweithle, fel y mae nifer ohonyn nhw am ei wneud....
Llyr Gruffydd: Cyn gofyn cwestiwn a gwneud fy sylw, a gaf i ddatgan diddordeb gan fod fy ngwraig yn ddiweddar iawn wedi cael ei gwneud yn bartner ym musnes ffermio ei theulu? Ond yr hyn y byddwn i’n gofyn amdano yw datganiad buan gan Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar ddynesiad y Llywodraeth newydd tuag at fynd i afael â TB mewn gwartheg. Nawr, wrth ymateb i gwestiwn yn y Siambr yma...
Llyr Gruffydd: Leanne Wood.