Jane Hutt: Wel, diolch i Hefin David am y cwestiwn hwnnw. Cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw rheoleiddio a monitro treulwyr anaerobig ar ffermydd, fel y dywedwch. O dan y drefn drwyddedu amgylcheddol, caiff ffermydd gofrestru eithriad, ar yr amod eu bod yn bodloni meini prawf a therfynau penodol, er enghraifft faint o ddeunyddiau y gellir eu trin. Ond yn dilyn digwyddiadau diweddar, nid dim ond yr...
Jane Hutt: Wel, rwy’n ddiolchgar iawn bod Dai Lloyd wedi tynnu ein sylw at hyn, ac nid ‘Channel 4 News' yn unig sy’n datgelu hyn i ni—ond, mewn gwirionedd, dyna sut y cawsom yr wybodaeth, ynte, Dai, o ran yr ymddygiad hwn a’i effaith, nad oedd, mewn gwirionedd, wedi gwneud unrhyw les iddyn nhw yn y pen draw, naddo, o ran y canlyniad etholiadol yn yr etholiad cyffredinol. Ond, yn amlwg, mae...
Jane Hutt: Wel, wrth gwrs, mae Andrew R.T. Davies yn cydnabod yr anghwrteisi—y diffyg gwybodaeth, y diffyg rhybudd am y newyddion dinistriol hyn —i Lywodraeth Cymru brynhawn dydd Mercher diwethaf, a’r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu dweud y bydd wedyn yn siarad, gyda'r Prif Weinidog, â phrif weithredwr Tesco—ac, wrth gwrs, y cyfarfodydd a gafodd pob AC ac AS, o bob plaid, â...
Jane Hutt: Diolch i Julie Morgan am godi hyn heddiw. Yn wir, roeddech wedi gallu ei godi ychydig ar ôl cyhoeddi’r newyddion yr wythnos diwethaf pan oedd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymgymryd â'i gwestiynau llafar. Hefyd, Jenny Rathbone ac, wrth gwrs, Anna McMorrin—fe’u gwelsom yn codi hyn yn Nhŷ'r Cyffredin yn glir ac yn rymus iawn. Mae'n newyddion dinistriol i’r gweithlu ac i’w teuluoedd, fel...
Jane Hutt: Mae cwmni Cardiff Aviation ar hyn o bryd yn bodloni ei holl ymrwymiadau ariannol i Lywodraeth Cymru. Mater i Cardiff Aviation Ltd yw rheoli’r gweithlu. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi chwarae unrhyw ran wrth ail-lunio’r gweithlu, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y cwmni. Mae'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Cardiff Aviation yn fasnachol sensitif ac ni fyddai'n briodol i ni wneud...
Jane Hutt: Diolch i Darren Millar am godi'r pwynt pwysig iawn hwnnw. Mae'n rhaid i’r honiadau hynny gael eu cymryd o ddifrif ac mae hynny’n digwydd. Rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn awyddus i fynd i'r afael â hynny. Wrth gwrs, dyma’r math o broblem hefyd y gwn, yn ei chyfarfodydd ag undebau addysg—sy’n cael ei drafod.
Jane Hutt: Llywydd, mae tri newid gennyf i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Yn ddiweddarach heddiw bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn gwneud datganiad llafar ar Gylchdaith Cymru. O ganlyniad i hyn, rwyf yn gohirio'r datganiadau llafar ar bolisi a deddfwriaeth amgylchedd hanesyddol a'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth y GIG ‘pathfinder 111’ yng Nghymru tan yr wythnos...
Jane Hutt: Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n ymateb i’r ddadl hon y prynhawn yma ac rwyf am ddechrau drwy ddweud pa mor bwysig yw ymfudo wedi bod, fel rhan mor bwysig o hanes Cymru a bydd yn rhan bwysig o’n dyfodol heddiw, a chredaf fod hynny’n sicr wedi ei adlewyrchu yn y cyfraniadau o rannau o’r Siambr hon heddiw. Mae wedi ei adlewyrchu i raddau helaeth yn y Papur Gwyn a gyflwynwyd gennym ar y...
Jane Hutt: Yn ffurfiol.
Jane Hutt: Diolch, Llywydd. Bydd cyllideb ddrafft nesaf Llywodraeth Cymru yn gweithredu ffordd wahanol o lunio’r gyllideb yng Nghymru. Nid yn unig y bydd yn nodi cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru, ond hefyd sut y bydd rhywfaint o’r arian hwnnw’n cael ei godi, fel y dywed Simon Thomas, gan ddefnyddio ein pwerau treth newydd—y rhai cyntaf ers 800 o flynyddoedd—a’n pwerau newydd i fenthyg....
Jane Hutt: Yn ffurfiol.
Jane Hutt: Yn ffurfiol.
Jane Hutt: Rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi gwneud y sefyllfa’n gwbl eglur y prynhawn yma ac, a dweud y gwir, cawsoch dri chyfle i ofyn y cwestiwn ac ymatebodd, unwaith eto, i gadarnhau ei safbwynt. Sicrhau 500 yn 2021 yw targed Llywodraeth Cymru o hyd. Ac, wrth gwrs, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig i ddweud mai un dangosydd diagnostig yn unig yw’r targed ymhlith llawer o rai eraill, fel...
Jane Hutt: Mae Huw Irranca-Davies yn tynnu sylw at y canlyniad da iawn o’r etholiad cyffredinol, sydd wedi golygu bod gennym ni fwy o Aelodau Seneddol Llafur a Chydweithredol Cymru, yn ymuno, wrth gwrs, ag Aelodau Plaid Lafur a Chydweithredol Cymru yma. Mae hwn yn bwynt pwysig iawn, nad yw'n cael ei rannu gan Lafur Cymru yn unig; gwn fod ysbryd cryf yn y Cynulliad hwn, nid yn unig o ran y Blaid...
Jane Hutt: Gwn fod Mark Isherwood wedi siarad yn rymus iawn yr wythnos diwethaf am swyddogaeth tadau. Roedd hynny cyn Sul y Tadau, ac rydych chi’n codi pwynt pwysig, wrth gwrs, Neil McEvoy, ond mae hyn yn rhywbeth sydd yn amlwg iawn o fewn fframwaith ein system gyfiawnder, yn ogystal â pholisïau rhianta cadarnhaol.
Jane Hutt: Wel, rwy’n meddwl bod gan Mohammad Asghar gryn dipyn o gefnogaeth ar draws y Siambr hon i ddatganiad ar griced i Gymru, felly byddaf yn gweld beth y gallaf i ei wneud gydag Ysgrifennydd y Cabinet.
Jane Hutt: Wel, yn amlwg, mae Jenny Rathbone yn codi pwynt pwysig iawn, y gwn y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet nid yn unig yn rhoi sylw iddynt, ond bydd cwestiynau pellach yn ei ddatganiad o ran, nid yn unig camau sy’n cael eu cymryd yn dilyn tân trasig Tŵr Grenfell, ond hefyd o ran yr adolygiadau y bydd yn rhaid eu cynnal ac, yn wir, cwmpas yr ymchwiliad cyhoeddus, sy'n cael ei lansio. Ond mae'n...
Jane Hutt: Mae Bethan Jenkins yn dod â phwynt pwysig iawn i'r Cynulliad y prynhawn yma o ran, rwy'n siŵr, pob un ohonom ni’n ymgysylltu ac yn cydnabod swyddogaeth gofalwyr wrth i ni edrych ar Wythnos y Gofalwyr. Ond, yn benodol, rydych chi’n canolbwyntio ar ofalwyr ifanc ac, wrth gwrs, mae eu hanghenion nhw’n gudd mor aml ac nid ydynt yn cael eu deall oni bai ein bod ni’n cael yr...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Angela Burns. Wrth gwrs, mae cydnabyddiaeth a chymeradwyaeth wedi ei rannu ar draws y Siambr hon, rwy’n credu, o’r swyddogaeth a'r cyfraniad y mae nyrsys ysgol yn ei wneud ledled Cymru ar bob lefel, o ran atal, ac iechyd a llesiant ein plant a'n pobl ifanc. Yn sicr, gwn y bydd cyfle i ddechrau, rwy'n siŵr, gyda chwestiynau yfory i Ysgrifennydd y Cabinet dros...
Jane Hutt: Diolch, Llywydd. Ceir sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i drefnu cynnig i neilltuo Cadeiryddion pwyllgorau i grwpiau gwleidyddol yn syth ar ôl y datganiad busnes. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwneud datganiad wedyn ar ddiogelwch rhag tân yng Nghymru, y camau sy'n cael eu cymryd yn dilyn tân Tŵr Grenfell. Wedi hynny, bydd y Prif...