Andrew RT Davies: A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ariannu ar gyfer addysg yn y Pumed Cynulliad ar gyfer Canol De Cymru?
Andrew RT Davies: Wel, fel yr wyf wedi ei ddweud, o fy safbwynt i, nid wyf wedi cael problem â hyn, oherwydd, yn amlwg, rwyf yn gweithio yn yr amgylchedd hwn ac rwyf yn llwyr ddeall ystyr y gair Senedd yn y cyd-destun y caiff ei ddefnyddio yn y Gymraeg, ond, yn amlwg, i lawer o bobl nad ydynt yn gyfarwydd â'r ffordd y mae'r ddeddfwrfa'n gweithio, y ffordd y mae'r Llywodraeth yn gweithio yma, ac os meddyliwch...
Andrew RT Davies: Gwnaf, rwy'n fodlon.
Andrew RT Davies: Rwyf yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn symud y ddadl y prynhawn yma. Byddaf yn fwy na thebyg yn gwneud yr un fath â'r Prif Weinidog o ran cadw fy sylwadau'n fyr, oherwydd bod y Llywydd, yn ei chyflwyniad, yn fy marn i, wedi amlygu'r broses a oedd ar gael i'r Senedd hon, neu 'parliament', neu Gynulliad—galwch ef yr hyn a fynnoch, oherwydd bydd trafodaeth ynglŷn â hynny. Ond, rai...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan Ysgrifennydd yr economi ar ardrethi busnes. Roedd maniffesto y Llywodraeth newydd yn nodi’n glir iawn y byddai’n gwneud ymrwymiad ar ardrethi busnes, yn benodol i godi, yn amlwg, y ffin, neu'r trothwy, dylwn i ddweud, ar gyfer cynnwys busnesau yn y gyfundrefn ardrethi busnes. Mae tymor y sioeau haf,...
Andrew RT Davies: Mae'n gwbl ryfeddol eich bod chi wedi gwastraffu cymaint o'ch amser—ond rwy'n ddigon hapus eich bod chi’n defnyddio fy nyfyniadau i, gan fod gennych chi cyn lleied i'w ddweud, Brif Weinidog. Rwy’n cadw at fy nyfyniadau ac rwy'n ddigon hapus i roi hynny ar y cofnod. Rwy'n eithaf hapus i ddadlau gyda chi ar unrhyw bryd, mewn unrhyw fan, Brif Weinidog, ar y buddion a welaf, a chymeradwywyd...
Andrew RT Davies: Brif Weinidog, roedd y dyfyniad a roddais i chi yn ddyfyniad uniongyrchol o Gofnod y Trafodion yma ac rwy’n nodi na wnaethoch chi ymbellhau eich hun o’r dyfyniad hwnnw. Pe gallwn i hefyd ofyn cwestiwn i chi ar y llythyr a gyhoeddwyd gennych chi ar ddiwrnod y refferendwm, sef 23 Mehefin, am y cytundeb sydd gennych chi gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ac, yn benodol, yr honiad a wnaed gan...
Andrew RT Davies: Mae'n ddyfyniad uniongyrchol.
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, cyfeiriwyd gennych yn gynharach at y ffaith eich bod chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig wedi cyfarfod â'r undebau ffermio a busnesau eraill o'r cymunedau gwledig ddoe. Yn ystod cwestiynau, bythefnos yn ôl, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd yn credu mai ffermwyr—ac mae hwn yn ddyfyniad uniongyrchol—yw’r 'bobl orau i redeg...
Andrew RT Davies: Rwy’n derbyn yr ymateb y mae’r Prif Weinidog wedi’i roi. Rwy’n derbyn y pwynt nad yw’n sefyllfa sy’n digwydd yn San Steffan, sef gwrandawiadau cadarnhau, ond onid ydych yn credu na ddylem geisio ailadrodd yr hyn a wna San Steffan bob amser? Byddai hyn yn torri tir newydd, oherwydd bod cynghorwyr arbennig yn rhan bwysig o bensaernïaeth y Llywodraeth, a byddai cael math o...
Andrew RT Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf yn ffurfiol y gwelliannau ar y papur trefn, yn enw Paul Davies. Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Gallaf gofio’n iawn, yn y Cynulliad diwethaf, y dadleuon, y trafodaethau a’r cwestiynau i’r Prif Weinidog yr arferai cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol eu defnyddio i berswadio’r Prif Weinidog i gyflwyno cod gweinidogol gwirioneddol...
Andrew RT Davies: Brif Weinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Os caf hefyd ategu’r teimladau am y Bil awtistiaeth, mae hyn yn rhywbeth yr wyf wedi eich holi amdano yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'n braf gweld bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i weld beth yn union yw’r ffordd fwyaf priodol i fwrw ymlaen â'r materion hyn. Rwy'n credu bod hwn yn un maes lle mae gennym gonsensws...
Andrew RT Davies: Siawns, mae hwnnw’n gwestiwn dilys i’w ofyn, a mater i ni yn y sefydliad hwn, fel gwleidyddion— [Torri ar draws.] Ac mae’n fater i ni yn y sefydliad hwn, a gwleidyddion o bob plaid, i wneud yn siŵr bod yr iaith yr ydym yn setlo arni mewn gwirionedd yn cynrychioli beth fydd yn sicrhau'r fargen orau i Gymru. Mae'n rhaid i ni ofyn y cwestiynau anodd i gael yr atebion sy'n ofynnol gennym.
Andrew RT Davies: Rwy'n credu bod cyfleoedd enfawr—[Torri ar draws.]—buddsoddiad, arloesedd ac adeiladu dyfodol gwell, brafiach i Brydain fyd-eang, Cymru fyd-eang, a adeiladir ar ffyniant pob rhanbarth o'r Deyrnas Unedig a gwledydd y Deyrnas Unedig. Dyna beth mae pobl ei eisiau, a dyna beth y byddwn yn ei sicrhau os byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn cydio yn y cyfleoedd sydd ar gael i ni. Byddwn yn...
Andrew RT Davies: Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Yn amlwg, oherwydd y refferendwm ddydd Iau diwethaf, mae mandad clir wedi ei roi i'r Llywodraethau ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig nawr i ddeddfu’r dymuniadau hynny. Roedd ymrwymiad clir gan Gymru a rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig eu bod yn dymuno ailgydbwyso eu perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Bydd y trafodaethau yn dechrau, ac yn...
Andrew RT Davies: Brif Weinidog, ni ddywedais 'o dan glo yn y Trysorlys'. Dywedais y bydd model newydd ar gyfer y ffordd y bydd Llywodraeth yn gweithredu mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Rwyf wedi gofyn dau gwestiwn i chi heddiw. Y cwestiwn cyntaf oedd: a wnaethoch chi ymrwymo eich hun yn llawn i'r refferendwm? Ni wnaethoch ymateb i'r cwestiwn hwnnw. Gofynnais i chi pa waith modelu yr oedd Llywodraeth Cymru...
Andrew RT Davies: Nid yw’n gymeradwyaeth frwd felly, yw hi, Brif Weinidog? Rwyf yn credu ei bod hi’n bwysig i ni ddeall sut y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn paratoi ar gyfer canlyniad y refferendwm. Yn amlwg, mae'r Canghellor wedi cadarnhau bod Llywodraeth y DU, waeth beth fo’i safbwynt yn y refferendwm hwnnw, wedi bod yn paratoi ar gyfer y ddwy sefyllfa. Ac, yn amlwg, ceir bobl sy'n derbyn arian a...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, hoffwn uniaethu’n gyntaf oll â'r teimladau a fynegwyd gan Aelodau eraill—nid oes lle ar gyfer unrhyw anoddefgarwch, ac, yn enwedig, hiliaeth, yn unrhyw ran o'n gwlad, boed hynny yma yng Nghymru neu yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Ac rwy’n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd ag unrhyw Aelod ac unrhyw sefydliad sy'n sefyll i amddiffyn y rhyddid hwnnw, i...
Andrew RT Davies: Diolch i chi am ildio, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym yn dod i ddiwedd cyfraniad y Gweinidog. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau ar gyfer yr etholaeth y flwyddyn nesaf y bydd y mandad a roddir i aelodau etholedig yn fandad pum mlynedd lawn ac nad oes angen cwtogi’r mandad hwnnw yn eich barn chi—fel bod pobl yn gwybod dros bwy y maent yn pleidleisio pan fyddant yn gwneud hynny fis...
Andrew RT Davies: Croesawaf y cyfle i siarad yn y ddadl heddiw. Mae gwasanaethau cyhoeddus, a darparu gwasanaethau cyhoeddus, yn elfen hanfodol o gymorth i lawer o bobl ar hyd a lled Cymru, ac mae llywodraeth leol yn amlwg yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o ddarparu’r gwasanaethau cyhoeddus hynny. Roeddwn o ddifrif yn fy sylwadau i’r Prif Weinidog yn ystod wythnosau cyntaf y Llywodraeth hon, pan...