Canlyniadau 1501–1520 o 2000 ar gyfer speaker:Baroness Morgan of Ely

8. Dadl Plaid Cymru: Y Cwrdiaid yn Nhwrci (20 Maw 2019)

Baroness Mair Eluned Morgan: A gaf fi ei gwneud yn glir i ddechrau fod Llywodraeth Cymru yn condemnio erledigaeth a thrais yn eu holl ffurfiau, yn unrhyw le yn y byd, a'n bod yn cefnogi ymdrechion i hyrwyddo cymod lle ceir anghytgord? Nawr, i droi at y cynnig ger ein bron heddiw, credaf ei bod hi'n bwysig cydnabod a dathlu'r cyfraniad gwleidyddol, economaidd a diwylliannol a wneir gan bobl o dras Cwrdaidd i gymunedau...

7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (12 Maw 2019)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Hoffwn i ddiolch i chi am y cyfle i drafod beth sydd mewn gwirionedd yn Fil eithaf cymhleth. Mae'n eithaf anodd, rwy'n credu—rydych chi'n hollol gywir—i'r cyhoedd gymryd rhan mewn dadl o'r fath. Ond rydych chi'n hollol gywir: Mae'r rhain yn ddadleuon pwysig, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cael hyn yn iawn, oherwydd mae goblygiadau posibl i ni yn y dyfodol. Mewn gwirionedd,...

7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (12 Maw 2019)

Baroness Mair Eluned Morgan: Mae'n deg dweud bod gennym nifer sylweddol o bryderon pan gyflwynwyd y Bil Masnach hwn y tro cyntaf. Roedd rhai o fewn cwmpas ein cydsyniad deddfwriaethol, ac eraill nad oeddent. O ganlyniad, eglurwyd yn ein Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol cyntaf na fyddem ni ar y pryd yn argymell cydsyniad deddfwriaethol. Nawr, adleisiwyd y pryderon hyn gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth...

7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (12 Maw 2019)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Dwi'n gwneud y cynnig. Diolch am y cyfle i egluro ymhellach gefndir y cynnig hwn ynghylch y cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Masnach y Deyrnas Unedig. Amcan y Bil Masnach yw sicrhau bod ein cysylltiadau masnachu ni yn cael parhau a bod marchnadoedd procurement—caffael—y Llywodraeth ar gael i ni o hyd. Mae'n werth nodi y bydd y Bil yn cyflawni pedwar peth. Yn gyntaf, bydd yn...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru ( 6 Maw 2019)

Baroness Mair Eluned Morgan: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau tryloywder yn ei pherthynas gyda Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig. Rŷm ni'n cytuno y bydd darparu'r wybodaeth sydd wedi ei nodi yn y cytundeb hwn yn helpu'r Cynulliad yn ei rôl hollbwysig yn craffu ar waith Gweinidogion Cymru gyda'u swyddogion cyfatebol ar draws y Deyrnas Unedig. Rŷm ni'n croesawu'r ffaith bod y cytundeb hwn yn cydnabod...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru ( 6 Maw 2019)

Baroness Mair Eluned Morgan: Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi bod ar flaen y gad yn galw am ddiwygio, ac ategwyd ein galwadau gan adroddiadau pwyllgor, yma ac yn Senedd y DU. Nawr, fe wnaethom osod ein safbwynt ar y materion hyn yn 'Brexit a Datganoli', a gyhoeddwyd gennym yn ystod haf 2017. Roedd 'Brexit a Datganoli' yn dadlau o blaid mecanwaith rhynglywodraethol sefydlog a allai negodi a gwneud penderfyniadau rhwymol...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru ( 6 Maw 2019)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Llywydd, a dwi’n falch o gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynnig ac yn falch o adrodd ein bod ni wedi gweithio’n agos iawn gyda’r pwyllgor i ddatblygu’r cytundeb sydd o’n blaenau ni. Nawr, cyn gwneud unrhyw sylwadau am y cytundeb ei hun, dwi am osod hyn yng nghyd-destun ehangach yr heriau sy'n ein hwynebu ni o ganlyniad i Brexit a dweud, unwaith eto,...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Digwyddiadau Chwaraeon Mawr ( 6 Maw 2019)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Wel, mae hwn yn gwestiwn roeddwn yn ei drafod gyda fy swyddogion yn gynharach yn yr wythnos. Credaf mai rhan o'r broblem yma yw y byddai'r gost o gynnal Gemau'r Gymanwlad yn enfawr, yn rhannol oherwydd nad oes gennym y seilwaith yma yng Nghymru, yng Nghaerdydd—gadewch i ni fod yn onest, dyna'r unig le y gallem eu cynnal. Nid oes gennym y seilwaith yng Nghaerdydd hyd yn oed i gynnal...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Digwyddiadau Chwaraeon Mawr ( 6 Maw 2019)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar lwyddiant diweddar Cymru wrth gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr, ac rydym yn gweithio'n rhagweithiol gyda phartneriaid yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol—gan gynnwys nifer o berchnogion hawliau a ffederasiynau chwaraeon rhyngwladol—er mwyn nodi a mynd ar drywydd cyfleoedd newydd ar gyfer denu digwyddiadau chwaraeon mawr i bob rhan o Gymru.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Denu Buddsoddiad ( 6 Maw 2019)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Credaf fod y berthynas honno rhwng y DU a'r UDA yn hanfodol. Rwy'n credu bod gennym lawer iawn yn gyffredin eisoes. Un o'r pethau rwy’n awyddus iawn i’w gwneud yw manteisio ar yr Adran Fasnach a Buddsoddi i raddau mwy nag nag y gwnawn ar hyn o bryd. Mae ganddynt rwydwaith helaeth. Felly, er bod gennym 20 o wahanol swyddfeydd ledled y byd, mae ganddynt gannoedd, yn llythrennol,...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Denu Buddsoddiad ( 6 Maw 2019)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Byddaf yn cynhyrchu datganiad ysgrifenedig ar fy ymweliad yn ystod y dyddiau nesaf, ond hoffwn egluro mai un o'r sectorau roeddwn yn ei dargedu ac yn edrych arno yn ofalus iawn oedd y sector seiberddiogelwch lle mae gennym lawer o arbenigedd eisoes. Un o'r pethau rwy’n awyddus iawn i'w gwneud i ddilyn hynny yw siarad â'n sefydliadau addysg uwch a'n sefydliadau addysg...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Denu Buddsoddiad ( 6 Maw 2019)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol fy mod newydd ddychwelyd o ymweliad llwyddiannus â'r Unol Daleithiau lle roeddwn yn hyrwyddo manteision Cymru fel cyrchfan dda i gwmnïau Americanaidd fewnfuddsoddi ynddi, ac rwy'n siŵr y byddwch yn falch o glywed bod cwmnïau o'r Unol Daleithiau wedi gwneud oddeutu 168 o fuddsoddiadau yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae tua...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cyswllt Gyda Gwledydd y tu allan i'r UE ( 6 Maw 2019)

Baroness Mair Eluned Morgan: Credaf fod y marchnadoedd hyn ychydig yn wahanol. Mewn rhai meysydd, mae'n amlwg mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw peidio â cholli'r gyfran sydd gennym o farchnad Ewrop ar hyn o bryd. Mae 60 y cant o'n masnach â'r Undeb Ewropeaidd, ac nid ydym am golli hynny. Felly, rhan o'r hyn sydd angen inni ei wneud dros yr ychydig wythnosau a misoedd nesaf yw sicrhau'r berthynas honno, ni waeth...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cyswllt Gyda Gwledydd y tu allan i'r UE ( 6 Maw 2019)

Baroness Mair Eluned Morgan: Credaf eich bod yn llygad eich lle, ac os ydym am greu argraff yn fyd-eang yn awr, credaf y bydd angen inni ddysgu arbenigo go iawn. Dyna sut y gallwn greu argraff wirioneddol fyd-eang, a chredaf fod eich pwyslais ar y maes digidol yn hollbwysig. Rwy'n credu bod angen inni fynd hyd yn oed yn fanylach mae'n debyg—. Hoffwn yn bendant ein gweld yn arbenigo ym maes seiberddiogelwch, er...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cyswllt Gyda Gwledydd y tu allan i'r UE ( 6 Maw 2019)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, credaf fod hon yn un o'r hen straeon diflas y mae aelodau o UKIP a phobl Brexit eraill wedi eu gwthio dros y blynyddoedd. Maent am ddychwelyd at y ddelfryd o adeg pan oedd Prydain yn fawr ac roeddem yn rheoli'r byd ac roedd gennym ymerodraethau, ac mewn gwirionedd, mae'r byd wedi newid ers hynny. Yr hyn sydd gennym bellach yw byd cwbl ryng-gysylltiedig lle rydym yn gwbl ddibynnol ar ein...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cyswllt Gyda Gwledydd y tu allan i'r UE ( 6 Maw 2019)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, ers datganoli, rydym wedi gweithio'n galed i ddatblygu cysylltiadau â gwledydd ledled y byd. Y llynedd, fel rhan o'r gwaith parodrwydd ar gyfer Brexit, agorwyd dwy swyddfa newydd gennym—un yn Qatar ac un arall yng Nghanada. Fe wnaethom gwblhau 10 o deithiau masnach i wledydd nad ydynt yn yr UE, ac wrth gwrs, rydym yn cynnal cysylltiadau diplomyddol cryf â chonswliaid a...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Maw 2019)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, credaf ei bod yn drychinebus ein bod yn colli cymaint o'n llyfrgelloedd ledled Cymru, ac wrth gwrs, mae hynny'n digwydd o ganlyniad i'r cyni a orfodwyd ar ein gwlad dros y 10 mlynedd diwethaf. Wrth gwrs, gŵyr pob un ohonom mai'r meysydd anstatudol yw'r rhai cyntaf i wynebu toriadau, a dyna pam fod llyfrgelloedd wedi dioddef yn fawr mewn rhai o'n cymunedau lleol dros yr ychydig...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Maw 2019)

Baroness Mair Eluned Morgan: Ydw, ond credaf mai'r hyn sy'n fwy arwyddocaol ac yn bwysicach yw i'r llyfrgell genedlaethol sicrhau eu bod yn digidoleiddio eu hadnoddau ac yn eu gwneud yn hygyrch i bobl Cymru. A gwn fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn ymgymryd â'r dasg honno dros y blynyddoedd diwethaf. Gwnaed cryn dipyn o waith ar gyflawni'r dasg honno, a bellach, rwy'n credu mai dyna sut y bydd y rhan fwyaf o...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Maw 2019)

Baroness Mair Eluned Morgan: Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru brif weithredwr newydd, ac rwy'n siŵr y bydd y prif weithredwr newydd, dros yr ychydig fisoedd nesaf, yn nodi rhaglen o weithgareddau, a gobeithiaf y bydd hynny'n cynnwys cydnabyddiaeth o rôl menywod ym mywyd Cymru.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Maw 2019)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, ni chredaf fod angen cytundeb masnach arnoch bob amser er mwyn cael cysylltiadau masnach cryf iawn. Un enghraifft o hynny yw'r Unol Daleithiau. Felly, mae gennym fwy o fuddsoddiad yng Nghymru o'r Unol Daleithiau nag unrhyw wlad arall yn y byd. Nid wyf yn dweud na ddylem fasnachu gyda'r Unol Daleithiau; rwy'n dweud nad ydym o reidrwydd o'r farn fod cael cytundeb masnach yn flaenoriaeth....


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.