Alun Davies: Rydym yn awyddus i drawsnewid disgwyliadau, profiadau a chanlyniadau i bob dysgwr, gan gynnwys dysgwyr mewn ysgolion arbennig. Bydd cyflwyno’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) sydd ar y gorwel yn garreg filltir allweddol yn y daith tuag at newid sydd eisoes wedi cychwyn.
Alun Davies: Cytunaf yn llwyr â’r pwynt a wnaeth yr Aelod yn ei gwestiwn. Rwy’n meddwl bod y berthynas rhwng cyflogwyr a cholegau a sefydliadau addysg bellach yn gwbl allweddol er mwyn cyflwyno rhaglen brentisiaeth sy’n ateb anghenion y boblogaeth leol a’r economi leol. Un o’r disgwyliadau sydd gennyf yw bod pob sefydliad addysg bellach yn ymatebol i gyflogwyr lleol. Gwyddom fod hynny’n wir...
Alun Davies: Mae’r cyfrifoldeb dros brentisiaethau a’r meysydd hynny ym mhortffolio’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, ac mae hi yma yn y Siambr, a bydd wedi clywed y cwestiwn hwnnw ac yn ymateb maes o law rwy’n siŵr. Ond a gaf fi ddweud hyn: mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod safon yr addysg a ddarperir gan addysg bellach yn cael ei fonitro, ei ddeall a’i ddathlu yn y ffordd y mae’r...
Alun Davies: Rwy’n hapus iawn i wneud hynny. Yn amlwg, mae gennym ni strategaeth addysg bellach sy’n rhan o strategaeth hirdymor ar gyfer addysg ar ôl 16, ac mae hynny’n cynnwys sgiliau ac addysg bellach ei hun. Rydym ni’n mynd i barhau i fuddsoddi mewn cyfalaf, fel mae’r Aelod wedi awgrymu, ond hefyd rydym ni’n trio ac yn edrych ar sut rydym ni’n diogelu’r gyllideb ar gyfer addysg...
Alun Davies: Mae addysg bellach yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygu sgiliau yng Nghymru, gan wella rhagolygon dysgwyr o ran cyflogaeth a gyrfaoedd a pherfformiad cwmnïau a gwasanaethau cyhoeddus. Mae colegau addysg bellach hefyd yn helpu i gynyddu ffyniant economaidd a gwella lles unigol a bywyd cymunedol.
Alun Davies: The Member will have heard my response to Hefin David’s question, referring to the forthcoming legislation. Our additional learning needs transformation programme goes much wider than legislation, and includes fundamental reforms relating to workforce development and improving practice for multi-agency working.
Alun Davies: Rwy’n cytuno’n llwyr. Rwy'n meddwl bod ffordd goedwig Cwmcarn yn adnodd gwych inni i gyd, ac nid dim ond i’r rhai ohonom sy'n byw yn y Cymoedd. Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ei lle ac wedi clywed y pwyntiau yr ydych wedi eu gwneud. Ac, yn sicr, bydd y gwaith yr wyf yn credu bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn ymwneud ag ef yn sicrhau bod taith olygfaol Cwmcarn ar gael...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i David Melding am y pwyntiau y mae’n eu gwneud. Rwy’n cytuno’n llwyr â'r pwyntiau a wnaeth am anweithgarwch economaidd. Rwy'n gobeithio mai dyma rai o'r materion y mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol wedi’i chynllunio, neu am gael ei chynllunio, i roi sylw iddynt oherwydd mae gennym faterion o anweithgarwch yng nghymunedau'r cymoedd. Ond fel y dywedwch, nid ydynt o...
Alun Davies: Yr ateb i'r cwestiwn yw 'ie', 'ie' ac 'ie'. Rwy’n cytuno’n llwyr bod angen peidio â thaflu babanod allan gyda’r dŵr; mae hyn yn fater o adeiladu ar seiliau cadarn. Mae'r buddsoddiadau Dechrau'n Deg yr ydym wedi’u gwneud yn rhan allweddol o hynny. Rwyf wedi gweld rhywfaint o'r gwaith y mae Sony wedi'i wneud ym Mhen-coed ac rwy'n meddwl bod hwnnw'n fodel gwych i’r hyn yr ydym am...
Alun Davies: Rwy’n cytuno’n llwyr â'r pwyntiau y mae Adam Price wedi bod yn eu gwneud. Rwy'n meddwl bod hwn yn gyfle i ailfeddwl rhai o'r dulliau hynny. Gwnaeth yr astudiaeth lleoliad dwfn ar Dredegar, wrth gwrs, a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl erbyn hyn, argraff fawr arnaf. Rwy’n meddwl bod angen inni edrych ar yr ymagwedd gyfannol honno tuag at ddatblygu economaidd ochr yn ochr â’r...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod dros Ferthyr Tudful am wneud y pwyntiau hynny. Rwy'n meddwl y bydd pobl Cymoedd y de yn ffurfio eu barn eu hunain am yr Aelodau hynny sy’n ymddangos mewn ymgyrchoedd etholiadol yn addo’r ddaear ac yna pan fo’n amser gwneud y gwaith, yn diflannu i ffwrdd, boed ar wyliau neu mewn man arall, ond beth am adael i bobl eraill ffurfio barn—[Torri ar...
Alun Davies: Byddwn yn awgrymu’n ysgafn iawn i'r Aelod efallai y dylai ddarllen y datganiad cyn iddo ysgrifennu ei gyfraniad ato. Pe baech wedi darllen fy natganiad neu wedi gwrando arno, byddech wedi gwybod y byddwn yn ymgynghori â'r holl wahanol rannau o'r gymuned yr ydych wedi’u rhestru yn eich cwestiynau. A dewch imi ddweud hyn wrthych: mae'n eithaf digrif gweld unrhyw lefarydd y Ceidwadwyr yn...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i lefarydd Plaid Cymru am ei hymateb, ac rwy’n cytuno â llawer ohono. Rwy’n sicr yn cytuno â'r pwyntiau a wnaethoch am ganlyniadau, yn hytrach na dim ond cyfrif yr hyn yr ydym yn ei wneud. Rwy’n meddwl, yn llawer rhy aml yn y Llywodraeth, bod temtasiwn wedi bod i gyfrif yr holl gamau gweithredu yr ydym yn eu cymryd, ac yna datgan bod hynny’n llwyddiant mawr...
Alun Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. Mae gennym ni yng Nghymoedd y De hanes cryf a balch. Ni oedd y grym y tu ôl i’r chwyldro diwydiannol, ac fe wnaethom ni ysgogi datblygiad y Gymanwlad. Ni wnaeth gyfrannu at y camau mawr a gymerwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Mae cau’r gwaith haearn, y gwaith dur a’r pyllau wedi cael effaith hirdymor ar gymunedau’r Cymoedd, o’u...
Alun Davies: We have already seen significant structural investment in the Valleys, including from the European Union. The taskforce will build on this foundation, working with people living in the Valleys, local businesses, local government, the third sector and civic organisations to promote the Valleys as a region for investment and as a place to live, to better co-ordinate existing investment, and to...
Alun Davies: Rwyf yn ddiolchgar i'r Aelod am ei phwyntiau. Mae’n briodol iddi gyfeirio at Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin a’r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Credaf ei fod yn dangos dyfnder, yn ogystal ag ehangder, y consensws, nid yn unig yn y Siambr hon, ond mewn mannau eraill, o ran llawer o'r heriau sy'n ein hwynebu. Mae'r pwynt am 'Casualty' yn un da, ac mae'n bwynt...
Alun Davies: Diolch yn fawr. Rwy’n cytuno â’r pwyntiau mae’r Aelod wedi’u gwneud. Mae’r pwynt gwreiddiol a wnaeth yn ystod y drafodaeth yn bwynt hynod o bwysig achos nid ydym, pan ydym yn sôn amboutu darlledu o Gymru ac yng Nghymru, yn sôn amboutu adrodd i bobl Cymru beth sy’n digwydd yng Nghymru; rydym yn sôn amboutu edrych ar y byd trwy lygaid Cymreig. Mae hynny’n gwbl wahanol ac yn...
Alun Davies: Lywydd, rydych yn garedig iawn. Rwyf am weld newyddiaduraeth ymchwiliol o ansawdd uchel sy'n cael ei hariannu'n dda. Credaf fod gwaith Michael Crick ar Channel 4 yn ddiweddar dros yr ychydig fisoedd diwethaf yn enghraifft wych o sut y gall newyddiaduraeth ymchwiliol ddwyn gwleidyddion i gyfrif. Dyna swyddogaeth, rwyf yn gobeithio, cyfryngau cryf, effeithiol ac annibynnol yn ein cymdeithas,...
Alun Davies: Diolch. Rwyf yn ddiolchgar iawn i lefarydd y Ceidwadwyr am ei sylwadau caredig. Edrychaf ymlaen at ein sgyrsiau ynglŷn â hyn dros y cyfnod sydd i ddod ac, ar faterion eraill hefyd rwyf yn siŵr. Rwyf am ddechrau, os caf, drwy ateb eich cwestiwn olaf yn gyntaf. Bydd yr Aelod yn gwybod bod memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar waith rhwng Llywodraeth Cymru a'r BBC a’r Adran dros Ddiwylliant,...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn. Rwyf yn ddiolchgar, hefyd, am eich sylwadau caredig iawn. Nid wyf fel arfer yn gysylltiedig ag ymateb cyhyrog mewn unrhyw faes polisi. Rwyf fel arfer yn cael fy nghysylltu â phaned o de a chacen, ond rwyf yn sicr yn gobeithio y byddwn yn gallu cael sgwrs â'r BBC sy’n ddeallus ac yn seiliedig ar barch at yr ymrwymiadau yn ei siarter a’i chenhadaeth, ond parch...