Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Jeremy Miles am godi’r pwnc pwysig hwn. Rwy’n credu mai dyma’r adeg fwyaf allweddol, mae’n debyg, ers datganoli o ran agenda ryngwladol Cymru. Mae hefyd yn dda i ddefnyddio’r cyfle heno i groesawu’r profiad helaeth rydych yn ei gynnig i’r ddadl hon, ac yn wir, i’r Cynulliad hwn, ac i dynnu sylw at y ffaith nad oeddem yn ôl...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Suzy Davies, am hynna. Byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni, fel yr addawodd hi, o ran swyddogion yn rhoi ystyriaeth i hynny. Rwy’n gwybod bod effaith niweidiol tanau sglodion coed yn rhywbeth sydd wedi ei weld ledled Cymru, ac nid yn eich rhanbarth chi yn unig.
Jane Hutt: Rydym yn nodi’r pwynt a wnaethoch am Gylchdaith Cymru, Nick Ramsay.
Jane Hutt: Ac, o ran eich ail bwynt, wel rwy'n siwr bod hwnnw’n gyfarfod pwysig iawn y Gymdeithas Cyfraith Amaethyddol y bore yma. Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn ein bod hefyd yn achub ar y cyfle i fyfyrio ar eich pwynt y bydd hi’n anodd iawn—ei bod hi’n anodd iawn ar hyn o bryd i’r gymuned ffermio—ac, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet yn cydweithio’n agos...
Jane Hutt: Wel, nid wyf yn hollol siŵr i ble y mae’ch cwestiynau chi’n arwain, Mohammad Asghar, heblaw am ddweud y gallaf eich sicrhau yn bendant na fyddwn yn newid ein polisi ar bresgripsiynau rhad ac am ddim, sydd nid yn unig wedi lliniaru mesurau cyni eich Llywodraeth Geidwadol chi dros y saith mlynedd diwethaf, ond sydd hefyd wedi ein galluogi i drin y rhai sy'n dioddef yr anghydraddoldebau...
Jane Hutt: Rwy'n falch fod Mark Isherwood unwaith eto wedi dilyn ymlaen ar gwestiwn Vikki Howells am ffyrdd newydd o godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd sgrinio serfigol. Hoffwn ychwanegu fy mod wedi gwneud y pwynt am y ffordd y mae clystyrau gofal sylfaenol lleol yn gweithio gyda thimau iechyd y cyhoedd i ystyried y niferoedd sy'n cael eu sgrinio, yn enwedig yn yr ardaloedd lle ceir y niferoedd lleiaf yn...
Jane Hutt: Hoffwn achub ar y cyfle i ymateb yn llawn o ran diweddariad ar Gylchdaith Cymru a'r cwestiynau a'r materion y mae Adam Price wedi’u codi. Rydym wedi bod yn gweithio, wrth gwrs, gyda Chwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd dros flynyddoedd lawer i ddod o hyd i ffordd i weithredu prosiect Cylchdaith Cymru. Nawr, gan fod Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd wedi cyflwyno’i wybodaeth ategol...
Jane Hutt: Mae Darren Millar yn codi pwynt pwysig, ac rwy'n siŵr y bydd yn ei godi gyda bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn rhoi sylw difrifol iawn iddo, sef yr ystyriaeth o ddiogelwch ar safleoedd, yn enwedig o ran cyfrinachedd cleifion ac, yn wir, diogelwch y staff a’r cleifion.
Jane Hutt: Bydd hynny ar y cofnod, Llywydd.
Jane Hutt: Wel, mae'n ddrwg gen i nad ydw i’n gweld Ann Jones yn y Siambr ar hyn o bryd i’m clywed yn ategu fy llongyfarchiadau innau at rai Hannah Blythyn i Ann Jones am ei gwobr gan y Gymdeithas Gwarchod rhag Tân Genedlaethol yn ddiweddar. Mae hyn yn bwysig, wrth inni gydnabod, ac rwy'n credu bod hynny’n gyffredin ar draws y Siambr, y gydnabyddiaeth hon o’r hyn y mae Ann wedi ei...
Jane Hutt: Mae hwn yn gwestiwn amhriodol iawn, yn fy marn i, Llywydd, ond byddwn hefyd yn dweud bod swyddogaeth i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, sydd wrth gwrs, o dan gadeiryddiaeth Nick Ramsay, wedi edrych ar y mater hwn, yn enwedig o ran y contract yr oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol amdano.
Jane Hutt: A gaf i ddiolch i Vikki Howells am godi ymwybyddiaeth eto yn y Siambr hon o’r ddwy wythnos ymwybyddiaeth hollbwysig—yn gyntaf, y gwaith sydd wedi ei wneud gan elusen Unique i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anhwylderau cromosom? Mae’n eglur, o ran profiad eich etholwraig, ei bod yn bwysig iawn cydnabod mai hon yw'r bedwaredd wythnos ymwybyddiaeth a gynhaliwyd, ac mae Llywodraeth...
Jane Hutt: Wel, mae Andrew R.T. Davies yn gwybod yn iawn, wrth gwrs, y swyddogaethau a chyfrifoldebau, o ran y ffyrdd ym Mro Morgannwg—oes, mae rhai cyfrifoldebau ar gyfer Llywodraeth Cymru, ond, wrth gwrs, ar hyn o bryd Cyngor Bro Morgannwg sydd yn cael ei reoli gan y Ceidwadwyr, yw'r awdurdod allweddol o ran y priffyrdd yno, ac nid yw hynny’n unig o ran yr A48 a’r ffyrdd cyfagos, ond yn cynnwys...
Jane Hutt: Diolch, Llywydd. Dim ond un newid sydd i fusnes yr wythnos hon. Rwyf wedi lleihau'r amser a gaiff ei roi i gwestiynau yfory i'r Cwnsler Cyffredinol. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i gwelir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i’w gweld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Jane Hutt: Fel rwyf wedi’i ddweud wrth ateb y cwestiynau y prynhawn yma, rwy’n credu bod hyn yn ymwneud â chysylltiadau masnachol—cysylltiadau buddsoddi masnachol—gyda Qatar. Ac mae’r Aelod, wrth gwrs, yn gwbl ymwybodol—ac rydym wedi siarad am hyn y prynhawn yma—o’r buddsoddiadau sylweddol hynny, gan gynnwys yma yng Nghymru, y derfynell nwy naturiol hylifedig yn Aberdaugleddau, yn...
Jane Hutt: Diolch i chi, Mohammad Asghar. Efallai y caf roi safbwynt y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, sef, ac rwy’n dyfynnu: Gobeithiwn y gellir datrys y mater cyn bo hir ac y bydd undod Cyngor Cydweithredu’r Gwlff yn cael ei adfer, ac rydym yn annog y rhai sy’n teithio i Doha o wledydd yr effeithiwyd arnynt i wirio cyngor teithio’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Fel y dywedais yn gynharach wrth...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Simon Thomas, am gwestiynau adeiladol iawn. Yn gyntaf, hoffwn dynnu sylw—a bydd yr Aelodau’n cofio—at y datganiad a wnaed gan y Prif Weinidog ar 3 Mai eleni, yn dilyn ei ymweliad â Qatar yn ystod penwythnos gŵyl y banc i hyrwyddo cysylltiadau masnachol cryfach. Carwn gyfeirio’r Aelodau yn ôl at y datganiad hwnnw a nodi hefyd mewn gwirionedd fod llysgennad Qatar...
Jane Hutt: Fel rwyf wedi’i ddweud eisoes, nid yw materion tramor wedi’u datganoli. Rydym yn derbyn cyngor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, fel y byddai Neil Hamilton yn ei gydnabod. Rydym yn gweithio o fewn canllawiau’r DU ar gyfer masnach a buddsoddi rhyngwladol, ac mae cyflwyno’r cyswllt awyr newydd rhwng Doha a Chaerdydd yn gytundeb masnachol rhwng Maes Awyr Caerdydd a Qatar Airways. Mae hwn yn...
Jane Hutt: Wel, wrth gwrs, fel y mae Jenny Rathbone yn ymwybodol iawn, nid yw materion tramor wedi cael eu datganoli, ond yn amlwg mae gennym ddiddordeb yn yr hyn sy’n digwydd yn y rhanbarth. Rydym mewn cysylltiad â’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad i fonitro datblygiadau. Mae’n amlwg yn bwysig ac yn wir, mae cwestiwn heddiw yn ymwneud â’n perthynas—perthynas fuddsoddi masnachol gyda Qatar—ond...
Jane Hutt: Wrth gwrs, fel y gŵyr Steffan Lewis, ac fel y mae wedi’i ddweud, mae gan Qatar fuddsoddiadau sylweddol yn y DU, gan gynnwys yng Nghymru, yn enwedig y derfynell nwy naturiol hylifedig yn Aberdaugleddau. Credaf, o ran eich ail bwynt—datblygiad y gwasanaeth a’r cysylltiad uniongyrchol rhwng y meysydd awyr a chwmnïau hedfan—ei fod yn hwb enfawr i Gymru ac mae’n darparu llwybr...