Andrew RT Davies: Weinidog, yn amlwg, mae gan y Llywodraeth ymrwymiad mewn perthynas â gofal plant—cael polisi gofal plant cyffredinol o hyd at 30 o oriau—ac mae’n rhywbeth rydym yn ei groesawu ac mae’n debyg i’r hyn a oedd gennym yn ein maniffesto ein hunain. A oes asesiad effaith wedi’i wneud—rwy’n sylweddoli ei bod yn ddyddiau cynnar ar y Llywodraeth—ynghylch y gallu i gomisiynu’r...
Andrew RT Davies: Weinidog, buaswn yn cymeradwyo sylwadau’r siaradwr gwreiddiol ar hyn ynglŷn â chyflymder rhyddhau’r arian o’r cynllun datblygu gwledig i’r gwahanol gynlluniau. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymhelaethu ar rai o’ch sylwadau yn yr ateb diwethaf a dweud: a ydych yn fodlon ar y cyflymder sy’n cael ei ddatblygu y tu ôl i’r cynllun datblygu gwledig i greu’r agenda drawsnewidiol...
Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, mae proses y CDLl yn amlwg yn destun dadlau mawr mewn sawl ardal a dyna hefyd yw’r sail a ddefnyddir i ddatblygu, ysgogi ac adfywio ardaloedd mawr yn ogystal. Ond mae un o’r materion mwyaf dadleuol yn fy rhanbarth etholiadol i, sef Canol De Cymru, yn ymwneud â’r amcanestyniadau tai y mae cynghorau yn eu defnyddio i benderfynu ar eu dyraniadau CDLl. Daw’r...
Andrew RT Davies: A gaf i uniaethu â’r safbwyntiau a godwyd gan yr Aelod rhanbarthol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru? Mae bron â bod yn annirnadwy, ac ystyried y niferoedd hyn, fod mwy na 400 o’r plant a nodwyd yn yr adroddiad hwn wedi mynd ar goll ac na ellir dod o hyd iddynt. Mae’n ddyletswydd ar yr holl awdurdodau i ystyried y protocolau sydd ar waith ganddynt ac i wneud yn siŵr fod rwyd...
Andrew RT Davies: Rydych chi wedi cyflwyno CAMHS i'r trywydd holi—hoffwn symud i’r maes hwnnw, os caf. Bu cynnydd enfawr i’r atgyfeiriadau i CAMHS mewn gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc yn enwedig—tua 120 y cant ers 2010. Mae'r amseroedd aros yn y maes penodol hwn yn ddychrynllyd, a dweud y lleiaf, gydag un o bob wyth o bobl sy'n cael eu hatgyfeirio yn aros mwy na 40 wythnos, pan mai 14 wythnos...
Andrew RT Davies: Pa welliannau allwn ni eu gweld, tra bod y trafodaethau hynny’n cael eu cynnal, ynghylch y fframwaith deddfwriaeth? Oherwydd ceir 34,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis ac mae'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn dweud bod gwasanaethau i'w cefnogi yn 'ddarniog' yma yng Nghymru. Felly, beth allwn ni ei ddisgwyl yn y cyfamser, pan fyddwn ni, gobeithio, yn dod i gytundeb i...
Andrew RT Davies: Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Hoffwn dalu teyrnged i’m cydweithiwr Mark Isherwood sydd wedi hyrwyddo’r achos ynghylch gwasanaethau awtistiaeth yma yng Nghymru am lawer iawn o flynyddoedd. Er bod y trafodaethau hynny’n parhau, ac yn sicr ni wnaethoch chi ddiystyru’r cyfle i gyflwyno deddfwriaeth, pa—[Torri ar draws.]
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Rwyf innau hefyd yn uniaethu â sylwadau arweinydd yr wrthblaid a'r Prif Weinidog ar y fuddugoliaeth neithiwr. Achosodd broblemau yn fy swyddfa i gan fod gen i sawl aelod allan yno, ac nid yw mynd mewn fan wersylla am wythnos yn hysbyseb gwych, gyda phum cefnogwr pêl-droed, a nawr bydd yn rhaid iddyn nhw ymestyn eu hamser ar gyfer y gêm nesaf a, gobeithio, parhad...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Nid wyf yn cymryd arnaf fy mod yn adnabod Jo Cox, ond mae digwyddiadau dydd Iau diwethaf wedi syfrdanu pob un ohonom. Ymwelodd drwg pur â Jo Cox a'i theulu yr wythnos diwethaf, a'i hetholaeth, pan oedd hi wrth ei gwaith mewn swydd yr oedd hi'n teimlo'n angerddol amdani, ac yr wyf yn meddwl ei bod wedi dweud, yn ei geiriau ei hun, mai hon oedd y swydd yr oedd hi'n...
Andrew RT Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu economi Canol De Cymru?
Andrew RT Davies: Yn bendant, a byddwn yn cytuno’n llwyr gyda’r Aelod yn cyflwyno’r achos dros fowlio lawnt goron. Yn Ninas Powys, er enghraifft, yn y Bont-faen, ceir timau bowlio da iawn, gyda thimau sy’n pontio’r cenedlaethau a dynion a menywod yn chwarae hefyd, ac yn y pen draw, adeg Gemau’r Gymanwlad roedd yn bleser go iawn cael mynd i Glwb Bowlio Dinas Powys, lle’r oedd tîm Seland Newydd,...
Andrew RT Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ymateb i’r ddadl a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma, a dymuno’n dda i’r Gweinidog yn ei phortffolio newydd? Rydym wedi cael cyfres o ddadleuon y prynhawn yma. Yn amlwg, cawsom y ddadl Ewropeaidd fel dadl y meinciau cefn, ac rydym yn mynd i gael y ddadl ar Fil Cymru ar ôl hyn. Mewn gwirionedd, os...
Andrew RT Davies: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Ym mis Mawrth, dangosai amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys fod 380 o bobl wedi aros 12 awr neu fwy yn Ysbyty Athrofaol Cymru, o gymharu â 111 o bobl ym mis Ionawr. Yn amlwg, mae’r ffigurau hyn yn peri pryder mawr, ac er gwaethaf yr hyn rydych newydd ei ddweud yn eich ateb cyntaf i mi, mae rhywbeth yn mynd o ymhell...
Andrew RT Davies: Weinidog, mae rhan chwaraeon yn gwella iechyd y cyhoedd yn wirioneddol werthfawr, ond mae’n ymddangos nad yw un sector o’n cymdeithas yn cymryd rhan i’r un graddau â’r rhan arall, sef dynion yn erbyn menywod—. Mewn arolwg cenedlaethol, dangoswyd bod 100,000 yn llai o fenywod na dynion yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Cafwyd ymgyrch weithredol ar draws y DU o’r enw This Girl Can i...
Andrew RT Davies: Weinidog, rwy’n derbyn bod cyfraith cyflogaeth a materion yn ymwneud â chyflogaeth yn faterion a gadwyd yn ôl, ond mae’r cyngor busnes y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi, yn enwedig i fusnesau newydd a busnesau sy’n dechrau, yn benodol, yn elfen hanfodol o allu rhybuddio cyflogwyr a gweithwyr yn y busnesau hyn sut i osgoi rhai sefyllfaoedd difrifol sy’n costio arian enfawr i’r...
Andrew RT Davies: 6. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gweithredu er mwyn mynd i’r afael ag amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0006(HWS)
Andrew RT Davies: A wnaiff y Gweinidog amlinellu prif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer economi Canol De Cymru yn ystod y Pumed Cynulliad?
Andrew RT Davies: A gaf i godi dau fater gyda chi, arweinydd y tŷ? Yn gyntaf: a fyddai modd i ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ar y rhwymedigaeth sydd gan awdurdodau lleol, yn ei dyb ef, i gynnal a chadw ffyrdd cyngor? Ymddengys, ar hyd a lled rhanbarth de Cymru, bod cynghorau wedi rhoi'r gorau i lenwi tyllau yn y ffyrdd a chynnal arwynebau y briffordd gyhoeddus. Ac mae’r...
Andrew RT Davies: Fel Ceidwadwr, rwyf yn deall yn llwyr y gallwch fenthyg, ond mae'n rhaid i chi ad-dalu benthyciadau ac mae cost i hynny ynddo'i hun, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ond, fe wnes i hefyd eich holi am yr ymrwymiad a wnaethoch i addysg, ac rydym yn croesawu hynny. Gwnes sylw hefyd am y £15 miliwn i £20 miliwn y byddai'n rhaid i chi ei dalu pe byddech chi'n dileu tollau Pont Hafren, sydd, unwaith...
Andrew RT Davies: Brif Weinidog, nid yw'n afresymol gofyn y cwestiwn: beth fydd yn rhaid ei ildio yn eich ymrwymiadau gwario i gyflawni eich ymrwymiadau newydd? Rwyf wedi nodi £42 miliwn yr ydych wedi ei ymrwymo iddo yr wythnos diwethaf; rhwymedigaeth posibl o £15 miliwn i £20 miliwn os ydych yn cael gwared ar dollau Pont Hafren ar ddiwedd y consesiwn cyhoeddus—y consesiynau i ddefnyddwyr presennol Pont...