Canlyniadau 1521–1540 o 2000 ar gyfer speaker:Jane Hutt

3. 3. Cwestiynau Amserol: <p>Y Berthynas rhwng Llywodraethau Cymru a Qatar</p> ( 7 Meh 2017)

Jane Hutt: Mae gan Lywodraeth Cymru berthynas fuddsoddi masnachol gyda Qatar. Rydym yn cefnogi’r berthynas sy’n datblygu rhwng maes awyr rhyngwladol Caerdydd a Qatar Airways, gyda’r bwriad o weld teithiau awyr rhwng Caerdydd a Doha. Mae hyn yn agor y drws ar ystod eang o opsiynau teithio pellter hir ar gyfer busnesau a thwristiaid.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Meh 2017)

Jane Hutt: Andrew R.T. Davies, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar fin gwneud datganiad ynglŷn â’r mater hwn.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Meh 2017)

Jane Hutt: Rwy'n credu y bydd yr Aelod yn cydnabod mai mater i awdurdodau lleol o ran eu trefniadau archwilio a llywodraethu yw hwn, ac nid wyf yn credu ei fod yn fater ar gyfer datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Meh 2017)

Jane Hutt: Wel, byddai o gymorth, Mark Isherwood, pe byddech wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater hwn, ac, wrth gwrs, gan fod ei swyddogion eisoes yn cymryd rhan yn y drafodaeth honno, credaf y byddai nid yn unig yn fater o gwrteisi ond hefyd o eglurhad, pe byddech wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn unol â hynny.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Meh 2017)

Jane Hutt: Credaf y byddai llawer yn y fan hon o’r un farn, Huw Irranca-Davies. Yng Nghymru, rydym nid yn unig yn cefnogi cytundeb Paris, ond mae gennym eisoes deddfwriaeth wedi’i sefydlu i gyflawni ar y nod hirdymor pwysig hwn. A gaf i achub ar y cyfle hwn dim ond i fyfyrio ar hynny? Mae'r manteision sydd i'w gwireddu trwy newid i economi carbon isel yn cael eu cydnabod yn fyd-eang, a pham ein...

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Meh 2017)

Jane Hutt: Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ymateb yn gadarnhaol, Russell George, i'r cais hwnnw. Dywedodd y byddai'n rhannu copi o ymateb Llywodraeth Cymru i strategaeth ddiwydiannol y DU. Mae’r ymateb hwnnw yn barod erbyn hyn, a bydd yn cael ei rannu gyda'r holl ACau. Bydd yn cael ei anfon at bob AC. Llythyr, wrth gwrs, at Greg Clark, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth...

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Meh 2017)

Jane Hutt: Mae Mike Hedges, wrth gwrs, yn ymwybodol iawn o'r ffaith mai BBaChau—y mentrau bach a chanolig eu maint—yw asgwrn cefn economi Cymru. Y cam nesaf sy’n bwysig, fel y dywedwch—eu tyfu’n fusnesau canolig eu maint a thu hwnt. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi i dyfu a ffynnu. Prif gonglfaen y sector adeiladu yw busnesau bach a chanolig a...

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Meh 2017)

Jane Hutt: Wel, Darren Millar, rwy’n credu eich bod yn ymwybodol o'r amgylchiadau trist a arweiniodd at y dagfa anffodus iawn hon. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ddweud ein bod ni, er y Pasg, wedi gweld gorffen pedair blynedd o waith gwella angenrheidiol, yn enwedig i dwneli’r A55, gwelliannau i arwyneb y ffordd yn ddiweddar, gwaith i atal llifogydd a gwaith brys cynnal a chadw, ond mae...

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Meh 2017)

Jane Hutt: Diolch, Llywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd datganiadau llafar heddiw yn cael eu cyhoeddi fel datganiadau ysgrifenedig, ac mae’r ddadl ar y fframwaith nyrsio ysgolion wedi ei thynnu'n ôl. Gan nad oes unrhyw gwestiynau wedi'u cyflwyno i gael eu hateb gan Gomisiwn y Cynulliad, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ddiwygio amseriadau yfory yn unol â hynny. Mae'r busnes...

13. 12. Dadl Fer: Amddiffyn Cymru i'r Genhedlaeth Nesaf (24 Mai 2017)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Dai Lloyd. Rydych wedi rhoi cyfle inni y prynhawn yma, yn eich dadl fer, i ddarparu darlun pwysig o gyflawniadau hanesyddol ffigyrau dylanwadol a datblygu hefyd yr hyn y mae Cymru wedi’i gynnig a’i roi, nid yn unig i’w gwlad ei hun, ond i’r byd. Mae’r persbectif hanesyddol hwnnw’n cael ei golli’n rhy aml, ac mae’n bwysig eich bod wedi myfyrio ar hynny y...

4. 3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (23 Mai 2017)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Bethan Jenkins. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi clywed y pryderon a godwyd ynghylch Prifysgol Warwick a'r diffyg cydnabyddiaeth honedig o'r Gymraeg fel pwnc Safon Uwch. Gwn ei bod yn gweithredu ac yn ymchwilio ar unwaith i hyn, a byddwn yn sicrhau bod yr ymateb yn cael ei gyhoeddi’n eglur ac yn cael ei gyflwyno, nid i'r Aelod yn unig, ond ar y cyfryngau cymdeithasol o...

4. 3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (23 Mai 2017)

Jane Hutt: Rwy'n falch bod Vikki Howells wedi tynnu ein sylw at hyn, gan fy mod i o’r farn bod hwn yn fater sy’n debygol o effeithio ar etholwyr eraill ac ar Aelodau Cynulliad eraill. O dan Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970, yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am gyflwyno bathodynnau glas i ymgeiswyr yn eu hardaloedd, gan gynnwys penderfynu a yw'r ymgeisydd yn bodloni'r meini prawf...

4. 3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (23 Mai 2017)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Simon Thomas, am roi gwybod i ni am ganlyniad penderfyniad y Pwyllgor Deisebau i gynnig dadl, ac wrth gwrs, am helpu’r ddeiseb honno i'r fath raddau ei bod yn awr yn croesi'r trothwy. Bydd yn ddatblygiad newydd, fel y dywedwch, i ni drafod hyn, gan ganolbwyntio'n arbennig ar gerddoriaeth fyw a sefyllfaoedd lleol cyfredol. Yn wir, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig gan...

4. 3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (23 Mai 2017)

Jane Hutt: Fel y gŵyr yr Aelodau, rwyf wedi gwneud nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Yn wyneb y digwyddiadau erchyll diweddar ym Manceinion, rwyf wedi gohirio'r datganiad llafar, 'Plant yn Gyntaf', a fydd yn cael ei aildrefnu maes o law. Bydd y datganiadau llafar ar 'Asesu ar gyfer Dysgu—Dull Gwahanol yng Nghymru', a chod erlyn Llywodraeth Cymru, yn digwydd brynhawn yfory, yn lle’r ddadl...

2. 1. Teyrngedau i’r Cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan (23 Mai 2017)

Jane Hutt: Roedd Rhodri yn ffrind i mi, fe oedd fy arweinydd pan oedd yn Brif Weinidog ac roedd hefyd yn etholwr i mi; roeddem yn rhannu brwdfrydedd mawr am brydferthwch Bro Morgannwg. Ac roedd Rhodri bob amser yn dod o hyd i amser i ymgyrchu gyda mi, ond roedd wrth ei fodd yn mynd i gerdded yn lleol, nofio yn y môr gyda Julie ym mae Whitmore, ac un atgof gan ffrind yr wythnos yma oedd Rhodri yn...

9. 9. Dadl UKIP Cymru: Y Gyllideb Cymorth Dramor (17 Mai 2017)

Jane Hutt: Diolch i chi, David Melding, am dynnu sylw at adroddiad Brandt yn eich cyfraniad, a oedd yn argymell y targed 0.7 y cant. Diolch i chi unwaith eto am ein hatgoffa ynglŷn â’r drefn archwilio a monitro gadarn a thrylwyr, fod 0.01 y cant yn bitw o ran y ffyrdd rydym ni, a Llywodraeth y DU yn wir, yn cyflawni ei rhaglen cymorth rhyngwladol. Rwyf am nodi ychydig o ffeithiau eto am gymorth...

9. 9. Dadl UKIP Cymru: Y Gyllideb Cymorth Dramor (17 Mai 2017)

Jane Hutt: Dirprwy Lywydd, rwy’n falch o allu ymateb i’r ddadl hon y prynhawn yma. Mae’r Aelodau wedi dweud hyn ac rwy’n credu bod y ddadl hon wedi amlygu rhaniad gwleidyddol llydan iawn yn y Siambr hon, un nas gwelais o’r blaen dros 18 mlynedd y Cynulliad hwn. Mae’n rhaniad, ac mae’n rhaniad yr ydym wedi dadlau yn ei gylch y prynhawn yma; mae’n rhaniad ac yn wahaniaeth sylfaenol yn y...

3. Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog Dros Dro (16 Mai 2017)

Jane Hutt: Cynnig.

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (16 Mai 2017)

Jane Hutt: Wel, Nick Ramsay, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon yn eistedd yma yn gwrando ar eich dau gwestiwn cyntaf. Ymatebais i’r cwestiwn ar glefydau prin a’r flaenoriaeth a rown i hynny, ond hefyd sut mae pethau’n datblygu o ran y ganolfan gofal critigol. Ydy, mae'n wych gweld y darn o ffordd ym Mlaenau'r Cymoedd a bod mwy o arian i ddod trwy gyllid arloesol i’w...

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (16 Mai 2017)

Jane Hutt: Rwy'n ddiolchgar iawn bod Huw Irranca-Davies wedi tynnu ein sylw ni at hyn yn y Siambr heddiw. Mae'n rhaid i mi ddweud, yn sicr yn rhinwedd fy swydd etholaethol, fod pobl yn dod ataf bellach sy’n dioddef o ganlyniad uniongyrchol i’r toriadau pellach i fudd-daliadau lles, sy’n effeithio’n arbennig ar bobl anabl o 1 Ebrill—pobl sy'n cael ei chael hi’n anodd ac sy'n colli eu hawl i...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.