Elin Jones: Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Gwladol i siarad.
Elin Jones: Neil Hamilton.
Elin Jones: Rwyf wedi dethol dau welliant i’r cynnig, ac rwy’n galw ar Leanne Wood i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas.
Elin Jones: Rwy’n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Elin Jones: Felly, rydym yn symud i’r eitem gyntaf ar yr agenda, a honno yw’r ddadl ar Araith y Frenhines. Rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.
Elin Jones: Rwy’n galw’n awr ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns, Aelod Seneddol, i gyflwyno’r cynnig.
Elin Jones: Trefn. Rwy’n galw’r Cynulliad i drefn.
Elin Jones: Cyn inni gychwyn ar y busnes ar yr agenda, rwyf am gymryd y cyfle i ddymuno’n dda i’n tîm pêl-droed ni heno yn erbyn Portiwgal. [Cymeradwyaeth.] Roedd buddugoliaeth y tîm yn erbyn Gwlad Belg yn wefreiddiol ac yn ddigwyddiad gwirioneddol bwysig yn hanes diwylliannol a chwaraeon Cymru. Fe ddaeth geiriau’r bardd Waldo yn wir: ‘Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain’. Rydym hefyd yn...
Elin Jones: Symudwn, felly, at bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio—y cynnig yn enw Jane Hutt.
Elin Jones: A gaf i agor y bleidlais? Cau’r bleidlais. O blaid 47, yn ymatal 1, ac yn erbyn 0. Felly, mae’r cynnig wedi’i ddiwygio wedi’i dderbyn.
Elin Jones: Dyna ddiwedd ar ein busnes y prynhawn yma.
Elin Jones: Rwy’n symud nawr at bleidlais ar y cynllun cyflawni iechyd meddwl, ac rwy’n galw’n gyntaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 38, yn ymatal chwech ac yn erbyn wyth. Felly, mae’r gwelliant wedi ei dderbyn.
Elin Jones: Ac fe wnaf i gytuno i hynny, os nad oes yna wrthwynebiad i’r ddau welliant beidio cael eu cymryd. Nid oes yna wrthwynebiad.
Elin Jones: Felly fe wnaf symud i ofyn a oes yna wrthwynebiad i’r cynnig. Os nad oes yna wrthwynebiad i’r cynnig, yna mae’r cynnig wedi’i dderbyn.
Elin Jones: Yn awr, rŷm ni’n symud ymlaen i’r cyfnod pleidleisio. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma yw’r bleidlais ar y cynigion i ethol Aelodau i’r saith pwyllgor polisi a deddfwriaeth ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynigion. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y cynigion 47 ac yn erbyn pump. Felly, mae’r cynigion wedi’u derbyn.
Elin Jones: Diolch, Brif Weinidog. Wrth gyflwyno’r gwelliannau, fe wnaeth Bethan Jenkins grybwyll y ffaith nad yw hi’n dymuno eu gosod nhw gerbron pleidlais y prynhawn yma. A allaf gadarnhau bod hynny’n gywir am y ddau welliant?
Elin Jones: Rwy’n galw ar y Prif Weinidog i ymateb i’r ddadl.
Elin Jones: Rwyf wedi dethol dau welliant i’r cynnig. Galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn ei henw hi.
Elin Jones: Fe gewch chi eistedd i lawr [Chwerthin.]
Elin Jones: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.