Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Rwy'n edrych ymlaen at gynnal y digwyddiad hwnnw ddydd Iau yr wythnos hon, lle byddwn yn lansio'r ymgynghoriad hwnnw ar gynnwys strategaeth ryngwladol i Gymru yn y dyfodol. Wrth gwrs, fel rhan o'r datblygiadau yn rhaglen Cymru o blaid Affrica, bydd Zimbabwe'n ymddangos yn honno eisoes, rwy'n siŵr. Un o'r pethau rwy'n awyddus i'w gwneud yw sicrhau ein bod yn datblygu cronfa ddata...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl bod yna tua 20 o swyddfeydd ar draws y byd ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru. Un o'r pethau dwi'n awyddus i wneud yw jest i aros ac i edrych pa mor ddylanwadol ydyn nhw a beth yw'r impact y maen nhw'n ei gael. Mae un o'r cyfarfodydd yma, un o'r pwyllgorau yma, wedi gofyn inni fel Llywodraeth i sicrhau ein bod ni'n cael gwerth am arian. Dwi'n awyddus iawn i...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd, wrth gwrs, yn bennaf gyfrifol am gysylltiadau diplomyddol yn swyddogol, ond dydy Llywodraeth Cymru ddim yn mynd i ymatal rhag datblygu perthynas â rhanbarthau, cenhedloedd neu bobl lle byddai hynny'n fanteisiol i Gymru.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Dwi yn croesawu'r ffaith bod yna gyfle i ni nawr i ymrwymo gyda beth sy'n digwydd yn y byd ehangach. Dwi'n meddwl bod rhaid i ni fod yn ymwybodol hefyd, wrth gwrs, bod hwn yn fater sy'n reserved i raddau helaeth i'r Llywodraeth, ond, wrth gwrs, mae gyda ni ddiddordeb mawr, yn arbennig os oes yna gysylltiadau rhwng pobl Cymru ac ardaloedd eraill y byd. Gaf i jest, ar fater y Cwrdiaid,...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Credaf fod gennym draddodiad hir a balch iawn o ran ein perthynas â Japan. Wrth gwrs, gwelsom lawer o gwmnïau yn symud yma yn y 1970au hwyr a'r 1980au cynnar, gan drawsnewid rhannau o'n cymunedau. Mae'n drist iawn gweld bellach fod cwmnïau megis Sony wedi dweud y byddant yn symud eu pencadlys o'r Deyrnas Unedig o ganlyniad uniongyrchol i Brexit. Felly, mae hynny'n rhywbeth anffodus...
Baroness Mair Eluned Morgan: Credaf ein bod yn wirioneddol falch o'n rhaglen Cymru o Blaid Affrica, ac mae'n enghraifft o lle mae swm bach o arian wedi mynd yn bell iawn, ac wedi trawsnewid bywydau pobl mewn ffordd hanfodol iawn yn rhai o ardaloedd tlotaf y byd. Felly, mae hyn yn rhan bendant o'r hyn y byddwn yn ei ymgorffori yn ein strategaeth ryngwladol. Ac rydych yn llygad eich lle—yn Uganda, plennir y...
Baroness Mair Eluned Morgan: Bydd blaenoriaethau rhyngwladol yn cael eu llunio drwy strategaeth ryngwladol newydd, ac rydym ar gychwyn y broses honno, ond rwyf wedi dweud yn glir mai'r ffocws yw creu Cymru fwy llewyrchus a chynaliadwy drwy ragor o allforio a buddsoddi, gan gynyddu dylanwad Cymru a'r adnabyddiaeth ryngwladol ohoni.
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, cefais gyfarfod adeiladol iawn gydag awdurdodau'r ganolfan gynadledda ryngwladol yr wythnos diwethaf, gyda'r Celtic Manor, a chredaf fod cryn dipyn o gyffro ynglŷn â'r hyn y gallai hynny ei wneud i Gymru ac o ran dod â phobl i Gymru. Un o'r materion a drafodwyd gennym yno, gydag arweinwyr awdurdodau lleol eraill, oedd yr angen efallai i edrych ar ddatblygu biwro cynadleddau ar gyfer...
Baroness Mair Eluned Morgan: Credaf fod y ffaith bod 160 miliwn o bobl wedi gwylio rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn golygu bod Caerdydd yn arbennig wedi'i rhoi ar y map mewn ffordd nad ydym, efallai, wedi'i gweld o'r blaen. Felly, mae pêl-droed yn iaith ryngwladol sy'n wahanol i unrhyw iaith arall, a chredaf fod y digwyddiadau trasig a welsom yr wythnos diwethaf yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd hefyd yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Fel y mae'n digwydd, cefais sesiwn friffio ar y sefyllfa mewn perthynas â digwyddiadau mawr y bore yma. Nid oedd hwn yn un o'r materion a gododd yn y cyd-destun hwnnw. Credaf mai'r hyn sy'n bwysig i mi yw bod gennym drosolwg nid yn unig o beth sy'n digwydd ble a phryd, ond y gallwn ei fapio ar sail flynyddol er mwyn sicrhau ein bod yn deall, os ydym yn cefnogi un prosiect mawr penodol un...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch, a dwi yn gobeithio y bydd cynghorau ar draws Cymru yn gefnogol o allu rhywun i siarad Cymraeg hyd yn oed os oes wedyn rhaid iddyn nhw ailadrodd y cwestiwn yn Saesneg. Ond dwi yn meddwl bod yna ffordd inni wella'r ffordd dŷn ni'n darparu'r system gyfieithu trwy Gymru i gyd. Mae yna gynllun technolegol gyda ni yn Llywodraeth Cymru i edrych ar sut ydym ni'n mynd i ddefnyddio technoleg i...
Baroness Mair Eluned Morgan: Rŷn ni yn ymwybodol iawn bod yna amgylchiadau pryd mae pobl yn dod mewn i gymuned lle dŷn nhw ddim yn medru'r iaith, yn arbennig yn rhai o'n hardaloedd mwy Cymreig, lle mae angen inni gael y trochi yna pryd maen nhw'n blant ychydig yn hŷn. Mae ysgolion hwyrddyfodiad wedi eu lleoli mewn llefydd o gwmpas Cymru. Yn aml, mae'n rhaid i rai llywodraethau lleol gydweithredu er mwyn sicrhau bod y...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, rŷch chi’n eithaf iawn i ganolbwyntio ar y ffaith bod addysg yn ganolog i’n targed ni o gyrraedd miliwn o siaradwyr, ac, wrth gwrs, erbyn 2050, rŷn ni’n gobeithio bydd tua 40 y cant o blant Cymru yn mynychu ysgolion lle'r Gymraeg yw’r iaith benodol yn yr ysgol. Er mwyn cyrraedd y targed yna, wrth gwrs, mae’n rhaid inni sicrhau ein bod ni yn ymrwymo i’r system drochi yma, a...
Baroness Mair Eluned Morgan: Gaf i jest ddweud rwyf i'n falch eich bod chi'n croesawu'r ffaith ein bod ni wedi gwrando ar yr hyn oedd gan Sioned Davies i'w ddweud? Dwi hefyd yn ymwybodol iawn bod angen i ni wella'r ffordd rydym ni'n dysgu ail iaith yn ein hysgolion ni. Am y rheswm hwnnw, roeddem ni wedi dod â symposiwm at ei gilydd llynedd, lle'r oeddem ni wedi dod â phobl oedd yn wirioneddol yn deall ac wedi edrych ar...
Baroness Mair Eluned Morgan: Dwi ddim yn siŵr os oeddwn i wedi ei wneud e'n ddigon clir yn fy ateb cyntaf i, ond dwi yn meddwl bod yn rhaid i fi danlinellu does yna ddim newid o ran y polisi pan mae'n dod i drochi. Mae yna ymwybyddiaeth. Rŷn ni wedi bod yn gwneud hyn ar hyd y blynyddoedd. Mae gyda ni hanes mae pobl yn copïo drwy'r byd i gyd o ran pa mor effeithiol yw'r system yna o drochi. Dyw hynny ddim yn mynd i...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Byddwch chi’n ymwybodol nawr o ran addysg Gymraeg fod hynny wedi mynd i bortffolio’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros addysg, ond dwi yn meddwl ei bod yn werth i ni danlinellu’r ffaith ein bod ni’n deall bod trochi cyfrwng Cymraeg yn hanfodol o ran gwireddu ein gweledigaeth ni ar gyfer 1 miliwn o siaradwyr. Rwyf wedi cael fy sicrhau gan y Gweinidog Addysg y bydd y...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, diolch, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei fuddsoddiad e yn y gemau yma? Dwi'n meddwl bod hwn yn gyfle. Mae'n gyfle mawr i Ynys Môn, dwi'n meddwl, sydd wedi gweld rhywfaint o broblemau yn ystod yr wythnosau diwethaf a byddai fe'n hyfryd i weld bod rhywbeth ar y gorwel o ran yr Island Games. Wrth gwrs, o ran egwyddor, rŷm ni'n gefnogol i'r gemau. Beth hoffwn i ei weld nawr yw fy nhîm i yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, diolch. Wrth gwrs, credaf mai ein blaenoriaeth, lle bo modd, fyddai annog pobl i ddod yma ar drafnidiaeth gyhoeddus, a bydd hynny gymaint yn haws bellach gan fod gennym ychydig mwy o reolaeth dros y rhwydwaith rheilffyrdd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a'r tîm digwyddiadau mawr yn cydgysylltu i sicrhau, pan fydd Caerdydd yn cynnal y digwyddiadau hyn, y byddant yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, diolch. Rwy'n siŵr y byddwch yn falch o glywed ein bod wedi gwario oddeutu £6 miliwn ar ddigwyddiadau mawr yng ngogledd Cymru ers tua 2008. Wrth gwrs, mae'n gwbl wir, yn aml iawn, y bydd y digwyddiadau rhyngwladol hyn yn canolbwyntio ar brifddinas; weithiau, mae hynny'n ofyniad gan rai o'r sefydliadau hyn. Ond os edrychwch ar beth rydym yn ei wneud—er enghraifft, gŵyl gerddoriaeth...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch, Llywydd, a diolch, Mandy.