Canlyniadau 1561–1580 o 2000 ar gyfer speaker:Mark Isherwood

8. 6. ‘Diogelu Dyfodol Cymru’: Trefniadau Pontio o'r Undeb Ewropeaidd i Berthynas Newydd ag Ewrop ( 7 Chw 2017)

Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Er ein bod ni’n cytuno bod yn rhaid datblygu unrhyw gytundeb terfynol gyda phwyslais pennaf ar les gorau economi a chymdeithas Cymru, mae digwyddiadau wedi mynd yn drech na’r cynnig hwn gan Lywodraeth Cymru. Rwyf i felly yn cynnig gwelliant 1 i ddisodli hwn â chynnig i gydnabod canlyniad y refferendwm am aelodaeth y DU o'r UE; i groesawu 12 amcan negodi Llywodraeth y DU...

7. 5. Datganiad: Gweithio Gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel ( 7 Chw 2017)

Mark Isherwood: Tybed a wnewch chi nodi pa gynnydd yr ydych chi wedi'i gyflawni â hynny. Yn olaf, os caf, pwnc y byddech yn disgwyl imi dynnu sylw ato, o ystyried, y bu cynhadledd, yr wythnos diwethaf, ar gymunedau cynaliadwy a datblygu cymunedol yn seiliedig ar asedau yn stadiwm SWALEC yng Nghaerdydd: sut ydych chi’n ymateb i alwad y gynhadledd honno am ymagwedd sy'n hybu camau gweithredu a arweinir gan...

7. 5. Datganiad: Gweithio Gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel ( 7 Chw 2017)

Mark Isherwood: Diolch, a diolch am y datganiad. Wrth gwrs, rydym ni’n rhannu gyda chi y gydnabyddiaeth na ellir cyflawni cymunedau mwy diogel gan un llywodraeth, gwasanaeth neu gymuned. Agenda a rennir yw hon. Gwnaethoch gyfeirio at y gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy’n mynd i’r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf. Fel y gwyddoch, y broblem yw’r aildroseddwyr sy’n aildroseddu’n...

7. 5. Datganiad: Gweithio Gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel ( 7 Chw 2017)

Mark Isherwood: Fel y gwyddoch efallai, daeth Erin Pizzey, yr ymgyrchydd yn erbyn trais yn y cartref a agorodd y lloches gyntaf yn y byd yn Chiswick yn 1971, i’r Cynulliad yn ddiweddar. Dywedodd hi fod trais yn y cartref yn ymwneud â thrais teuluol rhwng y cenedlaethau, bod angen inni edrych ar rianta, ac os nad ydym yn ymyrryd, bydd y bobl hyn yn llenwi ein carchardai a’n hysbytai. Sut ydych chi’n...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Gwasanaethau Deintyddol
( 7 Chw 2017)

Mark Isherwood: Nid yw tua 40 y cant o blant yn ymweld â'r deintydd yn rheolaidd o hyd. Mae traean o blant sy’n dechrau yn yr ysgol bob blwyddyn eisoes yn dangos arwyddion o bydredd dannedd, a dyma’r un rheswm mwyaf cyffredin pam mae’n rhaid i blant rhwng pump a naw oed gael eu derbyn i'r ysbyty. O gofio bod yr uned ddeintyddol symudol hon yn y gogledd wedi dod i ben fis Medi diwethaf, ac mai dim ond...

7. 6. Dadl Plaid Cymru: Gofal Cymdeithasol ( 1 Chw 2017)

Mark Isherwood: Roeddwn yn cyfeirio at 2006, pan oedd yn amlwg iawn fod yna raglen o’r fath yn bodoli. Dyna pam y trefnwyd ymgyrch, gyda channoedd ar gannoedd o feiri a thrigolion ar y grisiau y tu allan. Yn baradocsaidd, ac yn rhyfedd, yn 2011, roedd y rhaglen gau a gyhoeddwyd gan y byrddau iechyd yr un fath yn union ag ymgyrch gau Llywodraeth Lafur Cymru bum mlynedd ynghynt.

7. 6. Dadl Plaid Cymru: Gofal Cymdeithasol ( 1 Chw 2017)

Mark Isherwood: A wnewch chi ildio? A fuasech yn cytuno, gan gydnabod—[Anghlywadwy.]—bod angen adnewyddu hen adeiladau anaddas, na ddylid bod wedi gwneud hynny heb bontio a heb fod gwelyau eraill ar gael yn eu lle?

7. 6. Dadl Plaid Cymru: Gofal Cymdeithasol ( 1 Chw 2017)

Mark Isherwood: Mae 11 mlynedd bellach ers i mi lansio CHANT Cymru ar gais ymgyrchwyr ledled Cymru a oedd yn ymladd dros gadw gwelyau lleol mewn ysbytai cymuned. Roedd ymgyrchwyr yn erbyn cau Ysbyty Cymuned Chatsworth House ym Mhrestatyn wedi gofyn i mi ffurfio CHANT Cymru—Ysbytai Cymuned yn Gweithredu’n Genedlaethol Gyda’i Gilydd—i ddod â grwpiau lleol at ei gilydd o bob rhan o Gymru a oedd yn...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 1 Chw 2017)

Mark Isherwood: Rwy’n cytuno, oherwydd, yn anffodus, fel y gwyddoch, mae gan Gymru dlodi plant gwaeth na’r Alban, Gogledd Iwerddon a phob un ond dau o’r naw rhanbarth yn Lloegr. Rydym o leiaf wedi codi’n uwch na dau o’r rhanbarthau—Llundain a Dwyrain Canolbarth Lloegr rwy’n credu. Ond yr wythnos diwethaf, dywedodd coleg brenhinol y pediatregwyr mai tlodi oedd y bygythiad mwyaf i iechyd plant...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 1 Chw 2017)

Mark Isherwood: Wel, wrth gwrs, y pryder penodol oedd a oedd hwn yn gorff sy’n derbyn grantiau, ac a yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ar argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru yr holl flynyddoedd yn ôl o ran sicrhau bod rheolaethau effeithiol ar waith. Ond i symud ymlaen at fater cysylltiedig, fel y soniais wrthych o’r blaen, mae ffigurau’r ONS a gyhoeddwyd fis Gorffennaf diwethaf yn dangos bod gan...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 1 Chw 2017)

Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Wrth gwrs, roedd Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc yn gorff sy’n derbyn grantiau a gafodd gyllid uniongyrchol. Ar ôl i’r chwythwr chwiban gael eu cyfiawnhau, gyda chefnogaeth Janet Ryder, Eleanor Burnham a minnau, mentraf ddweud, a chafwyd euogfarnau yn y llys, cawsom ddau Adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru hefyd, un ar Blas Madoc yn benodol ac un ar Cymunedau yn Gyntaf...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Rhaglen Cartrefi Clyd
( 1 Chw 2017)

Mark Isherwood: Croesawaf gyfeiriad Huw Irranca-Davies at adroddiad, canfyddiadau ac argymhellion Age Cymru. Fe gyfeirioch at yr ymgynghoriad ar gynllun tlodi tanwydd seiliedig ar alw ar gyfer y dyfodol, ond mae Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru wedi mynegi pryderon y bydd cyflwyno gofynion oedran yn y meini prawf cymhwysedd a gynigir yn atal llawer o gartrefi mewn tlodi tanwydd sy’n gymwys ar hyn o bryd rhag...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ( 1 Chw 2017)

Mark Isherwood: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am reoli coetiroedd yng Nghymru?

9. 7. Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2015-2016, gan gynnwys Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru ar Gydraddoldeb 2016 (31 Ion 2017)

Mark Isherwood: Diolch. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn pobl yn gyfreithiol rhag gwahaniaethu yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach ar sail, fel y clywsom, oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Dywed yr adroddiad cydraddoldeb blynyddol hwn fod gwerthusiad Llywodraeth Cymru o'r cynllun...

9. 7. Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2015-2016, gan gynnwys Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru ar Gydraddoldeb 2016 (31 Ion 2017)

Mark Isherwood: Mae grant byw'n annibynnol Cymru yn helpu pobl anabl i fyw'n annibynnol. Bythefnos yn ôl, dywedodd y Prif Weinidog wrthyf fod y penderfyniad i drosglwyddo hyn i awdurdodau lleol yn dilyn cyngor gan grŵp cynghori rhanddeiliaid Lywodraeth Cymru. Ond mae sefydliad aelodaeth Anabledd Cymru yn cynghori na chafodd y dewis a ffafriwyd ganddynt o gronfa byw'n annibynnol Cymru ei gynnwys ar gyfer...

4. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (31 Ion 2017)

Mark Isherwood: Galwaf am ddatganiad unigol ar ganser ceg y groth, gan gydnabod mai Wythnos Atal Canser Ceg y Groth oedd hi’r wythnos diwethaf. Roedd yn tynnu sylw at y ffaith, er ei bod yn bosibl atal canser ceg y groth i raddau helaeth, mae nifer y menywod sy'n cael diagnosis o’r clefyd yng Nghymru yn bryderus o uchel, ac mae'r nifer sy'n mynd i gael sgrinio serfigol ar ei isaf ers 10 mlynedd. Mae mwy...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cau Banciau yng Ngogledd Cymru
(31 Ion 2017)

Mark Isherwood: Fel y dywedodd HSBC wrthyf pan gefais gyfarfod â nhw y llynedd i drafod cau’r banciau yn Sir y Fflint, ac fel yr atebodd NatWest i mi wrth i mi eu gwrthwynebu ac ysgrifennu atynt am gau’r gangen yn Nhreffynnon, ac fel y mae’r Yorkshire Building Society yn ei ddweud nawr, y newid o ddefnyddio gwasanaethau mewn banc i ddefnydd digidol yw’r rheswm am hyn. Wrth gwrs, mae hynny—fel y...

9. 7. Dadl UKIP Cymru: Practisau Cyffredinol (25 Ion 2017)

Mark Isherwood: A wnewch chi gydnabod—[Anghlywadwy.]—nad oes angen i chi fynd yn ôl ymhellach na phum mlynedd at yr adeg yr oedd Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn anelu ymgyrchoedd at Aelodau’r Cynulliad yn eu rhybuddio y buasem yn cyrraedd y fan hon, fod 90 y cant o gysylltiadau cleifion yn gysylltiadau ag ymarfer cyffredinol ac eto fod cyllid fel cyfran o...

7. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gwaed Halogedig (25 Ion 2017)

Mark Isherwood: Wel, fel y clywsom, yn y 1970au a’r 1980au, cafodd cynhyrchion gwaed a ddarparwyd i gleifion gan y GIG eu halogi â HIV neu hepatitis C. Cafodd tua 4,670 o gleifion sydd â’r anhwylder ceulo gwaed, hemoffilia, eu heintio, ac mae dros 2,000 wedi marw yn y DU o effeithiau’r firysau ers hynny, ac fel y clywsom, roedd 70 ohonynt yng Nghymru. Mae Llywodraethau olynol yn y DU wedi gwrthod...

6. 4. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Ymchwiliadau a Gwaith Ymgysylltu ar gyfer y Dyfodol (25 Ion 2017)

Mark Isherwood: Os caf ofyn dau gwestiwn yn ymwneud â’ch datganiad: rydych yn cyfeirio at ymchwiliad y pwyllgor i’r canlyniadau addysgol ar gyfer Sipsiwn/Teithwyr a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig. Tybed a allwch ddweud wrthyf a gymeroch dystiolaeth gan Ysgol Uwchradd John Summers yn Sir y Fflint, sydd wedi chwarae rhan fawr ac arweiniol wrth ymgysylltu â’r gymuned Sipsiwn/Teithwyr leol a gwella...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.