Canlyniadau 1561–1580 o 2000 ar gyfer speaker:Jane Hutt

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 2 Mai 2017)

Jane Hutt: Wel, rwy'n falch eich bod wedi tynnu ein sylw ni at hyn y prynhawn yma, Mohammad Asghar, oherwydd fy mod yn siŵr eich bod wedi clywed, ac yn cydnabod hynny eto, bod Prif Weinidog Cymru wedi croesawu'r newyddion gwych am fuddsoddiad ac ymgysylltiad Qatar yn ein maes awyr yng Nghaerdydd, y gwnaethom ni, wrth gwrs, nid yn unig ei sicrhau a’i gynnal, ond yr ydym yn ei ddatblygu. Felly,...

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 2 Mai 2017)

Jane Hutt: Wel, rydym nawr yn dechrau gweld budd o’r ffaith ein bod wedi rhoi’r gorau i gymhorthdal y cyfrif refeniw tai, gyda thai cyngor newydd yn cael ei hadeiladu. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn, Mike Hedges, eich bod wedi tynnu’n sylw ni at hyn heddiw i gael sylwadau ac ymateb gan Lywodraeth Cymru. Yn rhan o'r cytundeb tai â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru,...

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 2 Mai 2017)

Jane Hutt: Wel, rwyf innau hefyd, Mark Isherwood, wedi codi’r pryderon hyn ar ran fy etholwragedd i hefyd. Ac mae’n amlwg fod mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus o hyn wedi bod yn ddiweddar, o ganlyniad, er enghraifft, i Aelodau Seneddol hefyd. Mae Owen Smith AS, mi wn, wedi codi hyn yn benodol. Felly, rwy'n credu bod y mater y cyfeiriwch ato o ran y GIG, bod y driniaeth ar gael yng Nghymru, a'r ffaith...

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 2 Mai 2017)

Jane Hutt: Rwy’n diolch i Vikki Howells am y cwestiwn hwn. Yn wir, dim ond yr wythnos ddiwethaf oedd hi pan gefais gyfarfod â Kay Clarke, ymgyrchydd blaenllaw yn y Barri. Cyfarfûm â hi am y tro cyntaf pan ddaeth hi yma i gymryd rhan mewn gwrthdystiad ar risiau'r Senedd, ac rwy’n credu, Vikki, eich bod chi fel Aelod Cynulliad dros Gwm Cynon wedi eu croesawu nhw. Ac rwyf innau ar ôl hynny, fel...

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 2 Mai 2017)

Jane Hutt: Rwy’n diolch i Bethan Jenkins am y cwestiwn a’i sylwadau cadarnhaol iawn. Rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno â chi. Roedd hi’n rhyfeddol cael gweld y ffordd y daeth Josh Griffiths a Matthew Rees at ei gilydd ar y diwedd dros y llinell derfyn ym Marathon Llundain, a chlywed y lleisiau Cymreig hynny, a chydnabod y cyfeillgarwch a'r gefnogaeth oedd yn wirioneddol yn rhywbeth...

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 2 Mai 2017)

Jane Hutt: Rwy'n credu ein bod wedi trafod ar sawl achlysur y materion hyn sy’n ymwneud â chyfrifoldebau awdurdodau lleol o ran casglu gwastraff. Ac, wrth gwrs, cafwyd digon o gyfle i godi'r materion hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod, o ran cyfraddau ein llwyddiant, mae’r awdurdodau lleol hynny—ac ni fyddaf o...

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 2 Mai 2017)

Jane Hutt: Wel, fe hoffwn innau hefyd ategu fy llongyfarchiadau i, a diolch i Julie Morgan am dynnu ein sylw at hyn y prynhawn yma—llongyfarchiadau i'r tîm hwnnw o fenywod a ddaeth â'r Sea Dragon i Mermaid Quay a chyfarfod â llawer o Aelodau’r Cynulliad—ond yn arbennig gan dynnu sylw at eu cenadwri wyddonol ac ymgyrchol o ran y gwaith y maen nhw’n ei wneud wrth gasglu data am y plastig yn ein...

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 2 Mai 2017)

Jane Hutt: Mae'r materion hyn wedi eu codi, mae’n amlwg, gydag enghreifftiau penodol o anawsterau a phwysau, ac ymatebodd y Prif Weinidog i’r mater a gododd o ran y feddygfa yn Rhondda fu ar gau am ddiwrnod. Rwy'n credu ei bod yn bwysig yng nghyd-destun recriwtio i ddweud eto bod ein hymgyrch genedlaethol a rhyngwladol i ddenu meddygon teulu a'r gweithlu gofal sylfaenol ehangach yn dechrau dwyn...

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 2 Mai 2017)

Jane Hutt: Diolchaf i Andrew R.T. Davies am y cwestiwn yna, ac rwy’n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun taliadau sylfaenol. Erbyn 27 Ebrill roedd dros 98.9 y cant o’r ceisiadau wedi eu talu, sef swm o tua £219 miliwn. Mae hyn bellach yn cynnwys taliadau trawsffiniol a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Mae perfformiad cynllun taliadau sylfaenol 2016 Cymru yn debyg i Ogledd Iwerddon ac...

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 2 Mai 2017)

Jane Hutt: Diolch, Llywydd. Mae gen i un newid i’w adrodd i fusnes yr wythnos hon. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn gwneud datganiad am rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn ddiweddarach y prynhawn yma. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y mae wedi’i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r...

5. 5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod ( 5 Ebr 2017)

Jane Hutt: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr, Simon Thomas, ac i bawb, am gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Mae’r ddadl wedi rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru roi’r newyddion diweddaraf—yn wir, mae’r newyddion diweddaraf wedi cael ei fwydo’n ôl a’i fynegi gan yr Aelodau heddiw. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig atgoffa ein hunain a chofnodi ein bod wedi cyhoeddi ein strategaeth wastraff ar...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Allyriadau Carbon
( 5 Ebr 2017)

Jane Hutt: Wel, credaf fod hwn yn gynnig deddfwriaethol diddorol iawn, ac efallai y bydd yn cael ei atgyfodi mewn dadl maes o law. Hoffwn roi ymateb cadarnhaol iawn ar y cam hwn i’r hyn rydych yn ei gynnig, ac edrych yn benodol ar sut y mae eraill wedi cyflawni hyn—eraill yn y sector cyhoeddus, yn enwedig—nid ledled y DU yn unig, ond y tu hwnt hefyd.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Allyriadau Carbon
( 5 Ebr 2017)

Jane Hutt: Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn nodi targed cyfreithiol i leihau allyriadau 80 y cant fan lleiaf erbyn 2050. Ar hyn o bryd, rydym yn datblygu rheoliadau i sefydlu targedau interim a chyllidebau carbon cychwynnol a fydd yn gymorth i ysgogi’r newid i economi carbon isel.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Beiciau Modur oddi ar y Ffyrdd
( 5 Ebr 2017)

Jane Hutt: Gall defnyddio cerbydau’n anghyfreithlon ac yn anghyfrifol oddi ar y ffyrdd gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd naturiol, yn ogystal ag ar fwynhad a diogelwch defnyddwyr eraill, rheolwyr tir, a chymunedau lleol yng Nghymru.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Beiciau Modur oddi ar y Ffyrdd
( 5 Ebr 2017)

Jane Hutt: Arweiniodd ymgyrch ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Heddlu De Cymru ym mis Tachwedd at ddal 22 o feicwyr modur yn rhan o’r ymgyrch mewn mannau ledled Cymru lle y gwyddys bod hyn yn digwydd yn aml. Mae’r heddlu’n cydweithio’n agos â Cyfoeth Naturiol Cymru i dargedu pobl sy’n defnyddio beiciau sgramblo yn anghyfreithlon ar dir sy’n agored i’r cyhoedd.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cymorthdaliadau Ffermio’r UE
( 5 Ebr 2017)

Jane Hutt: Wel, mae eglurder ynglŷn â threfniadau ariannu yn y dyfodol yn fater allweddol sydd wedi cael ei godi yn y cyfarfodydd trafod a’r gweithdai Brexit, a ddechreuodd yn syth ar ôl canlyniad y refferendwm. O ran cydnerthedd ar gyfer y cyfnod pontio ar ôl gadael yr UE, credaf fod hyn yn hanfodol i ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd, tirfeddianwyr a phawb sy’n byw yn ein cymunedau. Y cynlluniau...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cymorthdaliadau Ffermio’r UE
( 5 Ebr 2017)

Jane Hutt: Diolch i Leanne Wood am ei chwestiwn, gan ei fod yn mynd â ni’n ôl at bwyntiau pwysig sydd wedi cael eu trafod dros y dyddiau a’r wythnosau diwethaf. Yn wir, mae’r Prif Weinidog hefyd wedi mynegi ei bryderon ein bod yn dal i fod heb gael unrhyw ymrwymiad hirdymor gan Lywodraeth y DU i sicrhau cyllid yn lle’r cyllid hanfodol sy’n dod i Gymru ar hyn o bryd o’r Undeb Ewropeaidd. A...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cymorthdaliadau Ffermio’r UE
( 5 Ebr 2017)

Jane Hutt: Diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn, oherwydd mae’n bwysig, mae diogelu’r cyflenwad bwyd yn bwysig i ni yng Nghymru, a chredaf fy mod wedi crybwyll bod trafodaethau o gwmpas y bwrdd yn ymgysylltiad allweddol—rhanddeiliaid allweddol yn gweithio gyda’i gilydd i gyflwyno cynnig i’r cynllun datblygu gwledig fel rhan o’r cynllun datblygu cadwyni cyflenwi a chydweithio, a fydd yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cymorthdaliadau Ffermio’r UE
( 5 Ebr 2017)

Jane Hutt: Mae’n amlwg fod angen i Lywodraeth y DU roi ymrwymiad hirdymor i sicrhau cyllid yn lle’r cyllid hanfodol sy’n dod o’r UE i Gymru ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid ar senarios ôl-Brexit posibl, ac mae ein hymgysylltiad â’r trafodaethau o amgylch y bwrdd yn rhan hanfodol o’r gwaith hwn.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Allforio Anifeiliaid Byw
( 5 Ebr 2017)

Jane Hutt: Mae hwnnw’n gwestiwn defnyddiol, oherwydd credaf ei fod yn ategu fy mhwynt ynglŷn â’r hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud o ran sefydlu’r strwythur partneriaeth newydd hwnnw gyda’r rhai sy’n gyfrifol am gamau gorfodi effeithiol, sef penaethiaid y safonau masnach. Ac i gydnabod hefyd fod yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn cynnal archwiliadau ar sail risg o...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.