Elin Jones: Rwy’n galw nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi’r Prif Weinidog, ac. yn gyntaf, arweinydd yr wrthblaid, Leanne Wood.
Elin Jones: Rwyf ar fin tarfu ar natur ddigymell y dadlau, a symud ymlaen at y busnes nesaf. Felly, diolch i chi am eich cyfraniad, a symudaf ymlaen nawr at y cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Elin Jones: Ac rwy’n gofyn i Sian Gwenllian ofyn y cwestiwn cyntaf yn y pumed Cynulliad.
Elin Jones: Ar hyn o bryd, nid wyf eisiau ailadrodd cyfraniad yr wythnos diwethaf, felly rwy’n meddwl y byddai'n well, er eich lles eich hun, i chi ddirwyn eich sylwadau i ben nawr ac i ni symud ymlaen at y busnes sydd dan sylw heddiw.
Elin Jones: Galw’r Cynulliad i drefn.
Elin Jones: Cyn i ni ddechrau heddiw, hoffwn wneud datganiad. Rwyf wedi derbyn nifer o gwynion ynghylch iaith a ddefnyddiwyd yn y Siambr yr wythnos diwethaf gan arweinydd grŵp UKIP. Mae ein Rheolau Sefydlog yn gwahardd ymddygiad anghwrtais ac amhriodol, ac iaith sy'n groes i'r drefn, yn wahaniaethol, yn sarhaus neu'n amharu ar urddas y Cynulliad hwn. Ar ôl adolygu'r Cofnod, nid oes gennyf unrhyw...
Elin Jones: Yn ogystal â chwestiynau i’r Prif Weinidog, gobeithiaf yr wythnos nesaf y byddwn mewn sefyllfa yn y cyfarfod i ethol aelodau i’r Pwyllgor Busnes a dechrau’r drefn arferol o fusnes y Cyfarfod Llawn. Erbyn hynny, mae’n bosibl y bydd y Prif Weinidog hefyd wedi penodi Gweinidogion Cymru. Bydd yr Aelodau a’r cyhoedd yn cael gwybod am yr agenda yn ffurfiol yn y ffordd arferol, a daw...
Elin Jones: Yr eitem nesaf yw cynnig heb rybudd i ddwyn ymlaen y cwestiynau i’r Prif Weinidog i’r Cyfarfod Llawn nesaf. Fy mwriad i yw galw’r cyfarfod hwnnw am 1.30 brynhawn dydd Mawrth nesaf, 24 Mai, yn amodol ar gymeradwyaeth Ei Mawrhydi o enwebiad y Prif Weinidog. Galwaf ar Jane Hutt i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Elin Jones: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes yna unrhyw wrthwynebiad? Os nad oes, felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog—mae’r bobl yma sydd yn symud y sgript yma’n symud yn rhy gyflym i’w Llywydd newydd nhw. Rheol Sefydlog 12.36 oedd hwnnw. Felly, derbyniwyd y cynnig.
Elin Jones: A gaf fi wneud y pwynt yma nad wyf yn credu bod unrhyw sylwadau rhagfarnllyd wedi’u gwneud gan unrhyw un yn y Siambr hon hyd yma?
Elin Jones: Gadewch i’r Aelod barhau â’i gyfraniad.
Elin Jones: Neil Hamilton, arweinydd grŵp UKIP.
Elin Jones: Andrew R.T. Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
Elin Jones: Leanne Wood, arweinydd yr wrthblaid.
Elin Jones: Symudwch ymlaen. Symudwch ymlaen at bwynt newydd o drefn. Symudwch ymlaen at bwynt newydd o drefn. [Torri ar draws.]
Elin Jones: Ac fe ddywedais i yn fy nyfarniad i nad oedd hi’n rhesymol i ni gynnal etholiad arall pan fo un o’r ymgeiswyr sydd wedi ei henwebu bellach ddim yn dymuno cael ei henwebu bellach. Felly, fe fyddai’n afresymol ohonom ni i gynnal y bleidlais yn yr amgylchiadau yna. Felly, rwy’n symud ymlaen, eto, i ddatgan bod Carwyn Jones wedi’i enwebu i’w benodi yn Brif Weinidog, ac, yn unol ag...
Elin Jones: Mae’r enwebiad wedi’i wneud nawr, ac rwy’n symud ymlaen. Felly, nid oes yna bwynt arall o drefn yn dod, rwy’n meddwl. Rwyf wedi gwneud fy nyfarniad ar y pwynt—
Elin Jones: Wel, rwyf wedi gwneud fy nyfarniad. Rwyf am ganiatáu un cyfle arall i chi herio hynny, ond dyna ni wedyn.
Elin Jones: Diolch am y pwynt o drefn. Rwyf wedi gwneud fy nyfarniad yn yr achos yma. Bydd yr Aelodau yn deall nad yw’r Rheolau Sefydlog yn mynd i fanylion ynghylch pob sefyllfa bosib, ac, mewn sefyllfaoedd o’r fath, fy nghyfrifoldeb i fel Llywydd yw dehongli’r Rheolau Sefydlog, a llywio’r Cynulliad yma orau y gallaf i. Byddai’n afresymol gorfodi unrhyw un nad yw bellach yn dymuno cael ei...
Elin Jones: Felly, dim ond un enwebiad sydd ar ôl, ac, yn sgîl hynny, yn fy marn i, ni fyddai’n rhesymol cynnal pleidlais arall drwy alw enwau pan fo un o’r ymgeiswyr yma am dynnu yn ôl.