Julie Morgan: Diolch yn fawr am y cwestiynau hynny. Rwy'n falch o ddweud bod y grŵp cynghori gweinidogol a'r is-grwpiau y soniodd ef amdanyn nhw'n llawn pobl hŷn sy'n cynghori ein strategaeth, a bod popeth yr ydym ni'n ei wneud yn cael ei wneud ar y cyd â phobl hŷn. Y cwestiwn y gofynnodd ef i mi oedd pa mor bwysig yw ymgyrchu yn erbyn cam-drin pobl hŷn, er enghraifft. Dyna un o elfennau ein...
Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn i Jenny Rathbone am y sylwebaeth a'r cwestiwn diddorol hwnnw. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi ein bod ni eisiau gweld heneiddio'n iach. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n annog pobl hŷn i fod yn egnïol. Rwyf innau'n datgan buddiant hefyd, gan fy mod yn berson hŷn. Mewn gwirionedd, o dan ein strategaeth heneiddio'n iach, rydym ni'n ariannu teithiau cerdded Nordig,...
Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn. Diolch am eich croeso i'r cynllun, ac am eich geiriau cadarnhaol iawn. Rwy'n credu ei bod yn gwbl gywir, fel y dywedwch chi, ein bod ni'n gwneud yr hyn a allwn ni i'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ond rwy'n credu hefyd ei bod yn bwysig cofio'r cyfraniad y mae pobl hŷn yn ei wneud, oherwydd rwy'n credu bod llawer o bethau cadarnhaol y gallwn i dynnu sylw atyn...
Julie Morgan: Diolch i chi am y sylwadau hynny. Er mwyn ymdrin â'r hyn a allaf o'r holl bwyntiau hynny: dyhead a dim llawer o fanylion, rwy'n credu ein bod ni wedi nodi'n benodol yr arian yr ydym ni'n ei ddyrannu er mwyn sicrhau cymunedau sy'n addas ar gyfer pobl hŷn. Rydym ni wedi gwneud hyn ar y cyd â'r comisiwn pobl hŷn, ac mae pob awdurdod lleol yn bwrw ymlaen â chynlluniau i gyflwyno cymunedau...
Julie Morgan: Diolch. Cafodd 'Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio' ei chyhoeddi ar 7 Hydref, yn dilyn rhaglen helaeth o ymgysylltu â phobl hŷn a'u cynrychiolwyr. Mae'r strategaeth yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru sydd o blaid pobl hŷn, sy'n cefnogi pobl o bob oed i fyw a heneiddio'n dda. Mae'r strategaeth yn herio stereoteipiau, sy'n rhagfarnllyd ar sail...
Julie Morgan: Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Rydym wedi ymrwymo yn ein rhaglen lywodraethu i sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn cael y cyflog byw go iawn, a bydd hwnnw'n ymarfer drud. Os oes angen arian er mwyn iddo gael ei gyflawni, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu'r arian hwnnw, ond nid oes gennym amcangyfrif eto o faint fydd hynny, oherwydd rydym yn astudio'r hyn y mae'r fforwm gwaith...
Julie Morgan: Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, a hoffwn longyfarch RhCT ar y camau y maent yn eu cymryd, a'r awdurdodau lleol eraill sy'n cymryd camau tebyg. Ond mae'r cynnydd ledled Cymru yn dameidiog, a dyna pam ein bod yn mabwysiadu safbwynt cenedlaethol. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol mewn perthynas â chyflawni'r cyflog byw go iawn. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau...
Julie Morgan: Rydym wedi gofyn i'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol am ei gyngor wrth gyflawni ein hymrwymiad i gyflwyno'r cyflog byw go iawn i weithwyr gofal cymdeithasol. Cefais gyngor y fforwm yr wythnos diwethaf a byddaf yn ystyried y cyngor hwn yn ofalus cyn imi roi diweddariad pellach.
Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn. Hyd yma, rwy'n credu ei fod wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae Mr Heaney wedi bod yn gwneud ymarfer gwrando. Mae wedi bod yn ymwneud â sawl agwedd wahanol ar y system gofal cymdeithasol, mae wedi gwrando ar yr hyn y mae pobl yn ei deimlo am eu hamodau gwaith, am yr hyn y maent am ei wneud, am integreiddio ag iechyd, sut y gall y ddau gydweithio. A thrwy ei gael yn y...
Julie Morgan: Mae hyn yn amlwg yn berygl a all ddigwydd. Fel y gwyddoch, rydym wedi sefydlu'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, sydd wedi cynhyrchu eu hadroddiad yn ddiweddar ynghylch sut y byddwn yn cyflawni'r cyflog byw go iawn ac mae hwnnw'n cael ei ystyried gan swyddogion ar hyn o bryd. Gobeithio y byddwn yn gallu cyhoeddi rhywbeth ar hynny'n fuan. Felly, mae hynny ar fin digwydd. Ond wrth gwrs,...
Julie Morgan: Diolch yn fawr am y cwestiwn. Rydym yn derbyn bod problemau gwirioneddol ym maes gofal cymdeithasol ac mae'n anodd iawn recriwtio ar hyn o bryd. Y rheswm y mae mor anodd recriwtio yw bod swyddi mwy deniadol wedi dod ar gael yn ddiweddar yn y sector manwerthu neu yn y sector lletygarwch i rai gweithwyr gofal. Mae'n anodd iawn denu pobl i'r maes gofal cymdeithasol ar hyn o bryd. Ond rydym wedi...
Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn am y wybodaeth am yr adroddiad hwn. Mae'n swnio'n adroddiad hynod ddiddorol a chredaf y byddai pob un ohonom yn falch o'i ddarllen a gweld a allem fynd ar drywydd unrhyw rai o'r awgrymiadau. Cytunaf yn llwyr fod angen i bobl â dementia, pan fyddant yn gadael yr ysbyty neu ar unrhyw adeg mewn gwirionedd, gael lle ac amser a'r tîm integredig i gynllunio'n ofalus ar eu...
Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn, a diolch am y cynnig i'w drafod ymhellach; byddwn yn hapus iawn i wneud hynny. Hoffwn wneud y pwynt, yn y bôn, fod y broblem hon sydd gennym yng Nghymru gydag oedi cyn rhyddhau cleifion o'r ysbyty a'r system gofal cymdeithasol yn broblem sydd i’w gweld ledled y DU. Clywais ar Radio 4 y bore yma am y problemau mawr y maent yn eu cael yn Lloegr, felly nid yw hyn yn...
Julie Morgan: Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn pwysig hwnnw. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod bod hwn yn gyfnod anodd i iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn gwybod pa mor niweidiol yw hi i bobl aros yn yr ysbyty am gyfnodau hirach nag sydd angen. Felly, rydym yn parhau i weithio'n agos iawn gyda phartneriaid iechyd a gofal i gefnogi prosesau rhyddhau effeithiol ac rydym wedi darparu cyllid...
Julie Morgan: Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol sylweddol i gefnogi prosesau rhyddhau cleifion a llif cleifion gwell, gan gynnwys yn ardal Cwm Taf Morgannwg. Rydym hefyd yn gweithio i fynd i'r afael â phroblemau gweithlu a chapasiti cyfredol ym maes gofal cymdeithasol i gynorthwyo’r broses o ryddhau cleifion yn gyflymach, gan gynnwys drwy'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal.
Julie Morgan: The most recent update to Welsh Government’s care home visiting guidance, published on 8 October, was shared electronically with all registered care home providers by Care Inspectorate Wales. This was accompanied by a joint letter from the chief medical officer and the chief social care officer summarising the key changes.
Julie Morgan: This additional funding of £42 million has been made available to provide targeted services delivered locally across Wales, including Clwyd South. This funding will ease the pressure on social care settings through integrated winter planning, support for unpaid carers and funding for third sector early intervention and prevention.
Julie Morgan: Our current priorities for social care are set out in the social care recovery framework. There is much good practice in the Cynon Valley to learn from, including the Back to Community Life programme, which started in the Cynon Valley.
Julie Morgan: O ran comisiynu, mae ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ganfod a darparu lleoliadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. I'r perwyl hwn, mae pob un o'n hawdurdodau lleol yn aelodau o Gonsortiwm Comisiynu Plant Cymru. Mae'r swyddogaeth ganolog hon, a ddatblygwyd gan awdurdodau lleol, yn symleiddio'r broses gomisiynu yng nghyd-destun...
Julie Morgan: Diolch. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jane am ei chynnig deddfwriaethol, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Credaf y gallwn ymfalchïo fel Senedd ein bod gymaint o ddifrif ynghylch ein cyfrifoldebau i blant sy'n derbyn gofal gan ein hadrannau gwasanaethau cymdeithasol ac mor dosturiol ein hagwedd tuag atynt, a chredaf fod y cyfraniadau heddiw wedi dangos hynny. Mae'r Bil y...