Mr Simon Thomas: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mr Simon Thomas: Deallaf y pwynt y mae'n ei wneud, ond a yw'n derbyn bod popeth a ddisgrifiwyd yma yn union yr un fath â'r hyn sy'n digwydd gyda Llywodraeth y DU yn cynhyrchu ei pholisi, gyda'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gweithio arno wedyn i lunio rhagamcanion, ac felly, dyna'r ffordd y mae polisi'n ysgogi'r rhagamcanion? Nid yw hynny'n golygu bod Bangor neu'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn...
Mr Simon Thomas: Wel, ie, mae hynny'n bwynt hollol deg, a dyna pam rŷm ni wedi gofyn am ddatganoli rhai o'r trethi yma, a dyna pam mae gwelliant Plaid Cymru yn sôn yn benodol am gyfraddau treth yn mynd law yn llaw gydag effeithiau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, achos mae mwy i bolisi trethu na beth yw'r gyfradd ar gyfer eiddo penodol. Yr effaith rŷch chi'n moyn i'r trethi yma ei gyrru sydd yn...
Mr Simon Thomas: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliannau 2 a 3 yn enw Plaid Cymru. A jest i fod yn glir, er fy mod i'n Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, rydw i'n siarad heddiw ar ran Plaid Cymru ac yn absenoldeb, wrth gwrs, aelod arall Plaid Cymru o'r pwyllgor, sef Steffan Lewis. Mae'n dda gen i siarad ar y mater yma. Rydw i'n falch ein bod ni'n cael trafodaeth ar y dreth ddatganoledig gyntaf....
Mr Simon Thomas: A chithau hefyd yn gorff cyhoeddus, wrth gwrs, o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, ac, o dan ddyletswyddau'r Ddeddf yma, er mwyn cyrraedd y nodau llesiant, mae’n rhaid i chi ymwneud â’ch ffwythiannau mewn ffordd sy’n hyrwyddo datblygiad cynaliadwy ym mhob agwedd. Mae hynny wedi’i ymgorffori yn y Ddeddf a hefyd yn Neddf Cymru, sydd wedi’i newid gan y Ddeddf. Nawr, nid...
Mr Simon Thomas: Mae gwersi amlwg i bob rhan o Gymru yn yr hyn sydd wedi digwydd yn y Barri. Mae'n syfrdanol, a dweud y gwir, fod prosiect mor fawr mewn ardal mor adeiledig gyda'r fath effeithiau posibl ar iechyd wedi cael sêl bendith, neu wedi cyrraedd mor bell, heb i asesiad o'r effaith amgylcheddol gael ei gynnal. Rwy'n ddiolchgar am y llythyr a gefais gennych y bore yma ynglŷn â hyn, sydd fwy...
Mr Simon Thomas: Ni chlywais unrhyw sôn am sicrwydd ysgrifenedig. Mae heddiw yn Ddiwrnod Ewrop. Rydym yn dal i fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd ac mae gennym fynediad at gyfiawnder amgylcheddol tra byddwn yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n deall nad yw'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru yn cytuno â dadansoddiad Plaid Cymru neu bobl eraill—gan nad Plaid Cymru yn unig sy'n dweud hyn—rwy'n deall...
Mr Simon Thomas: Diolch i'r Gweinidog am yr hyn y mae wedi'i esbonio hyd yma, ond y drafferth, wrth gwrs, yw bod Llywodraeth Cymru wedi ildio ei hawliau i ddiogelu amgylchedd Cymru yn y cytundeb rhynglywodraethol. Rydych yn sôn am fframweithiau'r DU—[Torri ar draws.] Nid y Cynulliad hwn, nid Llywodraeth Cymru, ond Michael Gove fydd yn penderfynu pa rai o reoliadau'r UE a gaiff eu trosglwyddo ai...
Mr Simon Thomas: Nid ydych chi'n ei ddeall ac roeddech yn arfer bod yn Weinidog yr amgylchedd, ac nid oes syniad gennych beth sy'n cael ei wneud i Gymru. Dim syniad. Felly, gadewch imi ofyn i'r Gweinidog presennol, yn hytrach na'r un blaenorol a wnaeth gymaint o lwyddiant o Cyfoeth Naturiol Cymru, a yw'n gyfforddus fod y grym hwn gan Michael Gove. Pa sicrwydd ysgrifenedig sydd ganddi na fydd Llywodraeth y...
Mr Simon Thomas: Diolch, Lywydd. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog—? Roeddwn yn rhan o ymweliad y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig â San Steffan yr wythnos diwethaf, a chefais gyfle i holi Michael Gove yn uniongyrchol ynglŷn â'r corff amgylcheddol newydd y mae Llywodraeth y DU wedi addo ei sefydlu i gynnal safonau amgylcheddol yr UE a safonau amgylcheddol eraill os ydym yn gadael yr...
Mr Simon Thomas: Rwy'n credu, yn gyntaf, dim ond i ddweud, fodd bynnag, bod yr adroddiad Eunomia yn eithaf radical yn ei ffordd. Mae'n cynnwys llawer o syniadau newydd, mae'n cynnwys ffeithiau a ffigurau syfrdanol. Felly, cynwysyddion diodydd: mae 40 y cant o'r sbwriel ar lawr gwlad yn gynwysyddion diodydd yn y bôn. Pe gallem ni gynyddu ein cyfradd ailgylchu, sy'n amrywio rhwng 65 a 70 y cant o ran gwahanol...
Mr Simon Thomas: A gaf i ddweud wrth David Melding, os daw i'r Ship Inn yn Aberporth, y gymuned di-blastig gyntaf yng Nghymru, bydd ei sawsiau yn cael eu gweini iddo mewn potiau bach hyfryd, nid yn y codenni bach ofnadwy yna—
Mr Simon Thomas: Mae'n dangos bod y cyhoedd o'n blaenau ni mewn sawl ffordd yn hyn o beth ac maen nhw'n dymuno gweld newidiadau sylweddol, a gwn fod y Gweinidog, cyn iddi wneud ei datganiad heddiw, wedi bod i ymweld â'r siop bwyso yng Nghrucywel, sy'n enghraifft ardderchog—Natural Weigh—o sut y mae rhai busnesau hefyd yn ymateb i hyn. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â'r Llywodraeth yn dweud wrth bobl beth...
Mr Simon Thomas: Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad. Roedd nifer o gwestiynau ynglŷn â’r datganiad yma’n cael eu codi yn sioe Nefyn ddoe. Nid oes yn y datganiad yr atebion i gyd, ond o leiaf gall pobl edrych ymlaen at haf arall o ymgynghori dros y manylion yma. Nawr, wrth gwrs, cyn belled ag y mae Plaid Cymru yn y cwestiwn, byddwch chi’n ymwybodol ein bod ni’n anghytuno yn sylfaenol...
Mr Simon Thomas: rheolaeth arwyddocaol ar ein polisïau a'n gweithredoedd'
Mr Simon Thomas: pan, i bob pwrpas, rŷch chi wedi ildio’r rheolaeth yna i benderfyniadau sy’n cael eu cymryd, yn gyntaf, gan y Llywodraeth yn San Steffan, ac, yn ail, yn cael eu harwain gan Lywodraeth San Steffan, ac nid drwy'r broses rŷm ni wedi bod yn ei thrafod fan hyn ac sydd wedi cael ei gosod allan yn adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig—o gydweithio fel...
Mr Simon Thomas: Heddiw, arweinydd newydd y tŷ, am y tro, pro tem, mae Tŷ'r Arglwyddi, wrth gwrs, ar ei gyfle realistig olaf ar Gyfnod Adrodd i ddiwygio Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), a ger eu bron mae gwelliant pwysig iawn yn enw arglwydd Llafur, yr Arglwydd Alli, sy'n cefnogi aros yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd fel un o amcanion negodi Llywodraeth y DU. Nawr, dyna union nod, nod ddatganedig,...
Mr Simon Thomas: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ymghynhgoriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar ddyfodol gwasanaethau iechyd?
Mr Simon Thomas: Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad ac am y cyfle i drafod nifer o faterion tebyg yn y gorffennol, gyda'r Gweinidog yn ogystal. A gaf i ddechrau gyda'r pwynt y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet bennu arno? Mae'n dda gen i glywed ei fod e'n ffyddiog bod pethau wedi gwella ym Mhowys, ond o edrych ar dri pheth, a dweud y gwir—yr adroddiad ar wasanaethau plant, yr adroddiad heddiw...
Mr Simon Thomas: Diolch am y datganiad, Gweinidog. Rydw i jest eisiau ffocysu ar un agwedd o'r datganiad, sef ynni. Mae'r datganiad, yn hytrach na'r ymgynghoriad, yn ei wneud yn glir bod ynni yn ganolog i ddatblygiad yn ôl lleoliad, fel rŷch chi wedi amlinellu. Yn benodol, mae lot o sôn yn yr ymgynghoriad, yn y papur, ynglŷn ag ynni adnewyddol, sydd yn nwylo Llywodraeth Cymru, wrth gwrs. Ond mae hefyd yn...