Adam Price: Rhaid i mi ddweud wrth y Prif Weinidog, a gyda gofid, nad wyf yn clywed gwrthwynebiad ganddo; rwy'n clywed ildiad. Beth pe bai Llafur yn colli etholiad cyffredinol nesaf San Steffan, a'r un ar ôl hynny? Beth pe bai Boris Johnson yn Brif Weinidog ymhell i'r 2030au, fel yr adroddwyd yn ddiweddar? Beth ydym ni'n ei wneud wedyn? Nawr, rydych chi wedi dweud yn gyson fod yn rhaid i'r Deyrnas...
Adam Price: Sut y gallwn ni yng Nghymru—o leiaf y rheini ohonom sy'n poeni am ein democratiaeth yn y Senedd hon—ymateb yn awr mewn ffordd sy'n gwneud i San Steffan ailfeddwl a'i gwadnu hi? Nid yw llythyr yn mynd i weithio; rhoddwyd cynnig ar hynny o'r blaen. Ni allwn droi at y Goruchaf Lys i'n hamddiffyn fwy nag y gall blaengarwyr yn yr Unol Daleithiau, oherwydd maen nhw eisoes wedi dyfarnu bod gan...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Dywedodd Michael Gove y llynedd, ar ôl eich anogaeth chi, Prif Weinidog, fod Llywodraeth San Steffan eisiau ailsefydlu'r berthynas â'r gwledydd datganoledig. Gwyddom yn awr beth yr oedden nhw'n ei olygu wrth hynny, wrth gwrs—maen nhw eisiau iddi fod yn berthynas pryd y maen nhw'n rheoli ac yr ydym ni yn eilradd, eu Senedd nhw sydd oruchaf a'n Senedd ni'n wasaidd. Wrth...
Adam Price: Yn wyneb yr argyfwng costau byw cynyddol a diffyg twf yn yr economi, chwyddiant ar y naill law a diffyg twf ar y llaw arall ar yr un pryd fel y cafwyd yn y 1970au yn dychwelyd, mae gennym Lywodraeth yn San Steffan sy'n credu mai'r ymateb priodol i'r argyfwng hwn yw torri cyflogau gweithwyr ymhellach fyth—dychwelyd at ddogma'r 1930au. Nid yw'n syndod bod athrawon a nyrsys yn ystyried...
Adam Price: O ran datganoli rheilffyrdd, rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni gael safbwynt clir ar hynny yma yng Nghymru, ond hefyd gan Blaid Lafur y DU hefyd, sydd wedi bod yn amwys ar y gorau, ac, mewn gwirionedd, wedi cefnogi rheilffordd integredig yn y DU yn yr etholiad diwethaf. Nawr, yn argyfwng rheilffyrdd San Steffan, mae'n ymddangos bod cystadleuaeth rhwng gwleidyddion i weld pwy all fod y mwyaf...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Rhaid i mi ddweud, yn yr wythnos pan fo miloedd o hediadau wedi'u canslo ac mae'r rhwydwaith rheilffyrdd wedi dod i stop ac mae prisiau petrol wedi codi eto, mae dewis y Torïaid i godi trafnidiaeth yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ac yn eu cynnig yr wrthblaid yr wythnos hon yn ddewis dewr iawn. Maen nhw'n dweud nad yw'r rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru yn addas i'r diben....
Adam Price: Mae San Steffan, wrth gwrs, bellach yn mentro dechrau rhyfel masnach dros brotocol Gogledd Iwerddon, a fydd nid yn unig yn plymio Gogledd Iwerddon i ansicrwydd gwleidyddol ond hefyd yn ychwanegu ymhellach at y boen economaidd y mae teuluoedd eisoes yn ei dioddef ledled y Deyrnas Unedig. Nawr, o ystyried yr argyfwng costau byw hwnnw a'r heriau yr ydym yn eu hwynebu ym mhob sector o'r economi,...
Adam Price: Yn wir. Mae'r Prif Weinidog yn hollol gywir. Wrth gwrs, gwnaeth hyd yn oed corff cynghori'r Llywodraeth ei hun, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yr union ragolwg hwn, sydd wedi ei gadarnhau gan y dystiolaeth a gyflwynwyd. Mae'r ffigurau cynnyrch domestig gros rhanbarthol diweddaraf yn dangos mai Llundain a Gogledd Iwerddon yw'r unig rannau o'r DU sydd wedi tyfu y tu hwnt i lefelau cyn y...
Adam Price: Diolch yn fawr, Llywydd. Mae cynnyrch domestig gros wedi gostwng yn y DU am yr ail fis yn olynol, gostyngiad cychwynnol o 0.1 y cant ym mis Mawrth ac yna cwymp annisgwyl o 0.3 y cant ym mis Ebrill. Byddai rhai'n cyfeirio at COVID a'r rhyfel yn Wcráin fel y prif resymau, ond nid yw hynny'n esbonio pam mae'r DU yn gwneud cymaint yn waeth na gwledydd eraill. Yn ôl y Sefydliad ar gyfer...
Adam Price: Rwyf wedi gwrando gyda diddordeb, fel y gwnaf bob amser, ar yr Aelodau Ceidwadol, ond a gaf fi ofyn, os mai eich barn chi yw nad yw'n ddilys cyflwyno newid i'r system etholiadol heb refferendwm, pam na chyflwynodd eich Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan y cymal hwnnw yn Neddf Cymru 2017? Yr hyn a wnaethoch oedd dweud ei fod yn amodol ar ddwy ran o dair o'r Aelodau o'r Senedd hon yn...
Adam Price: Mae pêl-droed wedi rhoi'r cyfle anhygoel hwn i Gymru. Mae potensial enfawr yma i ysbrydoli, i gysylltu pobl, i newid bywydau, i weddnewid cymunedau, i adeiladu'r genedl, ond mae'n rhaid i ni fuddsoddi, onid oes, i wneud y gorau o hynny. Bydd diddordeb enfawr mewn pêl-droed ymhlith bechgyn a merched—ac mae angen i ni gefnogi'r tîm menywod i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA yn Awstralia a Seland...
Adam Price: Rwy'n credu bod y ffaith, hyd yn oed ar yr achlysur tyngedfennol hwn, mai'r peth cyntaf a wnaeth chwaraewyr Cymru oedd cysuro chwaraewyr Wcráin a chymeradwyo cefnogwyr Wcráin, rwy'n credu ei fod yn crynhoi'r gorau o'n gwerthoedd Cymreig o dosturi a rhyngwladoldeb. Byddai'r prif weithredwr, Noel Mooney, pe gallem ni ond botelu'r ynni Celtaidd hwnnw, yn fwy poblogaidd na Guinness. Dywedodd...
Adam Price: Diolch yn fawr iawn. Nos Sul yma, roedd rhai ohonom ni, fel y Llywydd, oedd â'r anrhydedd anhygoel i fod yno, ond hefyd y miliynau oedd yn gwylio ar y teledu, wedi gweld hanes yn cael ei ysgrifennu mewn gwirionedd, nid yn unig i bêl droed Cymru, ond, rwy'n credu, ar lefel ehangach i Gymru gyfan. Beth ŷch chi'n meddwl, Prif Weinidog, fydd gwaddol cyrraedd Cwpan y Byd, dim ond am yr eildro...
Adam Price: Diolch. [Torri ar draws.] Ie, dilynwch hynny, ie. Ymhlith ei rhagflaenwyr, ni all Elisabeth II honni mai hi sydd wedi treulio'r cyfnod hwyaf yng Nghymru—fe all dau Harri ac un Edward, a aned yma mewn gwirionedd, frwydro am y goron benodol honno—ond y hi, yn ddi-os, yw'r frenhines Brydeinig sydd wedi ymweld â Chymru amlaf, ac mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio at rai o'r achlysuron hynny....
Adam Price: Prif Weinidog, mae achos cyntaf o'r frech mwnci yn yr Alban ddoe yn dod â chyfanswm niferoedd y DU i fyny i 57. Er bod arbenigwyr iechyd wedi pwysleisio bod y risg yn parhau'n isel ac y gellir rheoli'r clefyd, i rai, bydd y lluosi anarferol hwn o'r feirws yn gyfarwydd ac yn ymddangos fel adlais o ddechrau 2020. Mae asiantaeth Cyd-raglen y Cenhedloedd Unedig ar HIV/AIDS wedi mynegi pryder bod...
Adam Price: Pan ofynnwyd iddyn nhw beth yw'r heriau wrth addysgu disgyblion am wrth-hiliaeth yn yr adroddiad, ymatebodd 51 y cant o athrawon mai eu diffyg hyder nhw oedd yr her, a honnodd 61 y cant mai diffyg amser yn yr ystafell ddosbarth ydoedd. Mae addysgwyr o dan bwysau eithafol, ac mae llwyth gwaith wedi'i godi fel problem, er enghraifft o ran cadw athrawon. Mae addysg gwrth-hiliaeth yn cael ei...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, bu'n rhaid i Raheem Bailey, bachgen 11 oed a ddylai fod yn teimlo'n ddiogel yn ei ysgol ei hun, gael triniaeth i dynnu ei fys yn dilyn achos o fwlio. Mae ei fam, Shantal, wedi esbonio sut y bu Raheem yn dioddef cam-drin hiliol a chorfforol. Nawr, er bod achos Raheem, yn naturiol, wedi ein syfrdanu ni i gyd yng Nghymru ac wedi arwain at lif o gefnogaeth iddo o...
Adam Price: Edrychwn ymlaen at weithio gydag ef yn gadarnhaol i sicrhau'r weledigaeth honno ar gyfer Cymru cyn gynted â phosibl. Heddiw yw'r Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia, Rhyngffobia a Thrawsffobia, ac ar y diwrnod hwn mae'n bleser gwirioneddol dalu teyrnged i Jake Daniels, am fod yr unig ddyn i chwarae pêl-droed yn broffesiynol ar hyn o bryd sy'n agored am fod yn hoyw. Rwy'n...
Adam Price: Yn hytrach nag un o achosion yr argyfwng costau byw, gweithwyr y sector cyhoeddus yw ei ddioddefwyr, fel pob gweithiwr arall. Siawns nad torri eu swyddi, ond codi eu cyflogau gwirioneddol—yn enwedig i'r rhai ar y cyflogau isaf—ddylai fod y pwyslais brys yn awr. Felly, beth allwn ni yng Nghymru ei wneud i helpu i sicrhau bod hyn yn digwydd? Mae'r Senedd a Llywodraeth Cymru ill dau wedi...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, nododd Prif Weinidog y DU ei fwriad i ddiswyddo 91,000 o weithwyr, mwy nag un o bob pump o gyfanswm gwasanaeth sifil y DU, dros y tair blynedd nesaf. Byddai hyn yn golygu colli dros 6,000 o swyddi yma yng Nghymru. A yw Llywodraeth y DU wedi rhannu manylion eu cynigion â chi ynglŷn â ble y bydd eu bwyell yn disgyn yma yng Nghymru, neu ai'r cyntaf y...