Lord Dafydd Elis-Thomas: Ni allaf ateb cwestiynau a fyddai’n fy arwain i gyfeirio at etholiad cyfredol San Steffan. Rwy'n teimlo'n arbennig o analluog i wneud hyn, wrth gwrs, gan mai un o arglwyddi'r deyrnas wyf fi ac ni chaf bleidleisio yn yr etholiad. Ond dylwn ddatgan buddiant personol hefyd, neu fuddiant cymdogaethol, er nad yw'n fuddiant ariannol, yn Zip World ac yn y buddsoddiadau a wnaed gan fy ffrind a fy...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Wel, fel mae'n digwydd, mae'r ddau adroddiad perthnasol gennyf yma: yr un ar astudiaeth de-ddwyrain Cymru o dwnnel y Rhondda, ac wrth gwrs, yr un sy'n cyfeirio at yr astudiaeth gwmpasu ar gyfer y rhwydwaith beicio cenedlaethol gan ddefnyddio twneli rheilffordd. Byddai twnnel Aber-nant yn darparu cyswllt rhwng cymoedd Aberdâr a Merthyr Tudful; twnnel y Rhondda rhwng Cwm Afan a Chwm Rhondda;...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Un o fy mlaenoriaethau wrth gefnogi twristiaeth—. Nid wyf byth yn siŵr pa ffordd i edrych. [Chwerthin.] Rwyf i fod i annerch y Dirprwy Lywydd, os gwnewch chi oddef fy nghefn am funud. Un o fy mlaenoriaethau yw cefnogi twristiaeth ledled Cymru drwy farchnata, cyllid datblygu cyfalaf ar gyfer busnesau twristiaeth newydd a phresennol a chyllid refeniw ar...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Mae'n ddrwg gennyf eich siomi, ond nid oes gennyf uchelgais bersonol i greu mwy o sefydliadau cenedlaethol yn ystod y cyfnod sy'n weddill gennyf fel Gweinidog, ond yn wir, fe arhosaf am yr adroddiad sydd ar ei ffordd o law'r ymgynghorwyr. Comisiynwyd yr astudiaeth ddichonoldeb gan Elizabeth Oxborrow-Cowan Associates, sy'n fedrus ac yn wybodus iawn yn y maes hwn. Mae'r gwaith wedi cynnwys...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr iawn, Janet. Mae bob amser yn bleser ateb cwestiynau gan fy Aelod Cynulliad. Cynhaliwyd astudiaeth ddichonoldeb sy'n archwilio nifer o fodelau posibl ar gyfer archif genedlaethol i Gymru. Bydd yr astudiaeth hon a'r camau nesaf yn cael eu cyhoeddi ar ôl cyfnod etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig.
Lord Dafydd Elis-Thomas: This year, through Sport Wales, investment of £502,317 has been provided to Merthyr council and £1,378,900 to Caerphilly council to support them in developing sport and active recreation opportunities that meet local community needs. Organisations/clubs in Merthyr and Rhymney have also recently benefited from Sport Wales’s grant schemes.
Lord Dafydd Elis-Thomas: Felly, i grynhoi, dwi'n gobeithio mai cychwyn y drafodaeth ydyn ni heddiw, a dwi'n edrych ymlaen at gydweithio ymhellach efo Paul Davies ac Aelodau eraill o'r Cynulliad sydd yn amlwg â diddordeb, wedi aros yma am y drafodaeth yma heddiw, i sicrhau ein bod ni'n parhau i goffáu mewn modd priodol y rhai y mae ein rhyddid ni wedi dibynnu ar eu bywydau nhw.
Lord Dafydd Elis-Thomas: Roeddwn ar fai'n anghofio sôn am Patti Flynn, person y mae gennyf barch personol uchel iawn tuag ati. Ac yn wir, mae a wnelo nid yn unig â phwysigrwydd coffâd y gofeb ryfel i'r cymunedau du ac ethnig a gymerodd ran mor weithredol yn amddiffyn y Deyrnas Unedig a'n cymunedau ar yr adegau anodd hyn, ond â phwysigrwydd hynny i ni fel Llywodraeth, i gydnabod ein bod yn gymdeithas...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Gwnaf, wrth gwrs, Joyce.
Lord Dafydd Elis-Thomas: Mae gyda ni gofebau rhyfel, cymaint â 5,000, o bosib, ar draws Cymru, ac maen nhw ar wahanol ffurfiau—yn blaciau neu'n senotaffau bychain. Mae yna barciau, mae yna ysbytai, a neuaddau coffa hefyd, sydd yn rhan o'r hyn a fuddsoddwyd gan gymunedau yng Nghymru, gyda chefnogaeth gyhoeddus, i gofio'r rhai a gollwyd o'r cymunedau hynny yn y rhyfel byd cyntaf a’r ail ryfel byd, a pheidied ag...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr am y cyfle yma i ymateb i'r ddadl, a diolch i Paul Davies am ddewis y pwnc amserol yma i'w drafod heddiw. Mae Comisiwn y Cynulliad, wrth gwrs, yn gyfrifol am gofeb nodedig iawn sydd o flaen y Senedd hon, ac yn fan yno y byddaf i yn y gwasanaeth arferol gyda'r llynges fasnach, oherwydd rydw i'n parhau i werthfawrogi'r swydd anrhydeddus o fod yn llywydd anrhydeddus i'r llynges...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr iawn am hynny, Nick. Mae castell Rhaglan, fel y gwyddoch, yn un o'm hoff gestyll. Rwy'n credu ei fod mewn lleoliad trawiadol iawn, ac mae ei bensaernïaeth yn drawiadol iawn. Credaf mai'r hyn y mae angen inni ei wneud ym mhob un o'r achosion hyn, yn gyntaf oll, yw gwella'r mynediad i'r lleoliadau hyn, yn enwedig, fel yn achos y castell hwnnw, ei fod yn agos at briffordd gyflym...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Wel, diolch yn fawr am hwnna, Rhianon, ac rwy'n gwerthfawrogi eich angerdd dros osod cerddoriaeth Cymru wrth galon atyniad y wlad. Ac, ar un ystyr, rydych chi wedi rhagweld datganiad yn y dyfodol rwy'n gobeithio ei wneud ar sefydlu Cymru Greadigol. Gan fy mod yn credu, pan fydd Cymru Greadigol yn ategu Cyngor Celfyddydau Cymru, ac yn ategu'r cyfraniad arbennig a wneir i fywyd Cymru drwy'r...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Roeddwn yn credu ein bod yn dod ymlaen yn dda iawn, David, tan ddiwedd eich cyfraniad, felly dof at hynny'n fyr. Diolch am eich croeso i'r dull gweithredu thematig a'r ddealltwriaeth o hynny. Rwy'n talu teyrnged yma i'r bobl feddylgar sy'n breuddwydio am y dulliau hyn. Pan welais y gair 'epig' ar grib Pen y Gwryd am y tro cyntaf meddyliais, 'Mae hyn yn gam yn rhy bell', yn rhannol oherwydd ei...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr iawn, David. Pan ddaethom ni i edrych ar ymagwedd ranbarthol y Llywodraeth ac edrych arni yng nghyswllt anghenion twristiaeth, roeddwn yn awyddus iawn, fel rhywun a oedd wedi byw yng nghanolbarth Cymru ers dros 20 mlynedd ac sy'n dal i gynrychioli rhan bwysig iawn ohono ym Meirionnydd—. Canolbarth Cymru, gyda llaw, yw Meirionnydd, Ceredigion a Phowys, rhag ofn, er mwyn osgoi...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Wel, fanna mae'r gair yn cychwyn. Nawr te, dwi ddim yn gyfrifol am beth mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wneud i hyrwyddo yr hyn maen nhw'n ei alw yn 'Great Britain', na'u camddealltwriaeth hanesyddol nhw o beth mae'r gair yn ei feddwl. Ond fe ddywedaf i hyn: mae'n amlwg imi fod angen gwell dealltwriaeth o natur y Deyrnas Unedig fel gwladwriaeth aml-genhedlig ym mhob cyhoeddusrwydd sy'n...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr. Mi ddeliaf i yn gyntaf gyda chwestiwn y Grand-Bretagne o'i gyferbynnu â'r Bretagne lai, oherwydd fel y gŵyr pobl sydd yn gwybod eu hanes diwylliannol a hanes gwledydd, nid cyfeirio at ryw arddechogrwydd y mae'r ymadrodd 'Great Britain', ond bod y Brydain honno, Ynys y Cedyrn, a defnyddio term y Mabinogi, yn fwy na Llydaw, sef y Bretagne lai, a fanna mae'r gair yn cychwyn.
Lord Dafydd Elis-Thomas: Rwy'n siŵr eich bod wedi gwneud
Lord Dafydd Elis-Thomas: Sy'n dangos yn glir bod gennym y cyfle ar gyfer cerdded pellteroedd hir o'r math a bwysleisiwyd gennych. Rwyf hefyd yn cytuno â'r sylw o ran gwestai boutique. Mae gennym ni nifer sylweddol o westai ac rydym ni'n parhau i sicrhau bod ein harlwy twristiaeth wastad yn cynnwys—ym mhen eithaf yr arlwy hwnnw, rydym yn ceisio buddsoddi mewn cynyddu a datblygu ansawdd ein gwestai ledled Cymru.
Lord Dafydd Elis-Thomas: Rwy'n ddiolchgar iawn am y brwdfrydedd a ddangoswyd yn yr ymateb gan David Melding. Cytunaf mai Conwy mae'n siŵr yw un o'r cestyll mwyaf brawychus a godwyd erioed. Fel y gwyddoch chi, rwy'n un o ddinasyddion Sir Conwy, ond rhaid imi ddweud wrthych fod hwn, y mwyaf brawychus o gestyll bellach wedi'i fendithio â'r ymdrech ddiweddaraf mewn tapestri a ysbrydolwyd gan Cefyn Burgess a disgyblion...