Mr Neil Hamilton: 7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo masnach ryngwladol? OAQ55036
Mr Neil Hamilton: Onid yw hi'n glir o'r cwestiynau yr ydym ni wedi eu cael heddiw, o bob rhan o'r Tŷ, bod datganoli yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf o Lywodraeth Lafur wedi methu'n llwyr, a bod hon yn neges sydd wedi treiddio drwodd at bobl Cymru, oherwydd bu cynnydd sylweddol yn y gefnogaeth yn y pôl piniwn YouGov diweddaraf, ar gyfer annibyniaeth lawn ar y naill law, a hefyd, ar gyfer diddymu'r Cynulliad ar...
Mr Neil Hamilton: 7. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch statws cyfansoddiadol Cymru o fewn y Deyrnas Unedig? OAQ55041
Mr Neil Hamilton: Nid wyf yma i amddiffyn y Llywodraeth Geidwadol. Nid wyf yn Aelod Ceidwadol o'r Cynulliad hwn. Rwyf am gadw at y gwasanaeth iechyd. Mae iechyd yn amsugno hanner cyllideb Llywodraeth Cymru, ac mae'n tyfu, ac mae'n rhwym o dyfu am fod yr anghenion yn tyfu'n gyflymach na'r dull o fynd i'r afael â hwy, ac mae hynny'n wir am y boblogaeth gyfan ledled y Deyrnas Unedig. Felly, mae'n rhaid inni dyfu...
Mr Neil Hamilton: Wel, yn amlwg, pe bai gennym fwy o arian, byddem yn gallu gwneud mwy o bethau. Rwy'n derbyn hynny'n llwyr wrth gwrs. Ond mae'r syniad y gallai Llywodraeth y DU anwybyddu'r gwaddol ariannol a gafodd gan y Llywodraeth Lafur yn 2010 yn hurt. Edrychwch ar y ffigurau. Ers i Gordon Brown dynnu'r breciau oddi ar wariant cyhoeddus yn 2001, aeth popeth yn gawl potsh. Ni lwyddodd y Llywodraeth Lafur i...
Mr Neil Hamilton: Mae fel pe na bai argyfwng ariannol 2010-11 erioed wedi digwydd. Ar un olwg, mae'r Aelodau'n iawn, wrth gwrs, fod y GIG yn cael ei thanariannu ym mhobman. Bob blwyddyn, mae'n rhaid iddo gystadlu, o ystyried ei fod yn fonolith wedi'i wladoli, pan ddaw'r gyllideb a chylch gwariant y Llywodraeth. Rhaid iddo gystadlu â'r holl flaenoriaethau gwariant eraill sydd gan Lywodraethau. Felly, mae'n...
Mr Neil Hamilton: Na wnaf, rwyf am wneud y pwynt hwn yn gyntaf cyn i mi ildio. Fe ildiaf, ond rwyf am wneud y pwynt hwn yn gyntaf. Ydy, mae Cymru'n gwneud yn wael o fformiwla Barnett. Rwy'n derbyn hynny'n llwyr. A phe bai'n seiliedig ar anghenion, byddai gan Gymru lawer mwy o arian a byddai gennym fwy o arian i'w roi i'r gwasanaeth iechyd. Ond mae'r syniad fod Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn mynd i roi...
Mr Neil Hamilton: Wel, rydym newydd glywed yr economeg ffantasïol arferol gan y Blaid Lafur fel pe bai'r arian—[Torri ar draws.] Wel, rwy'n credu y dylwn gyrraedd o leiaf bum brawddeg cyn inni gael ymyriad. [Torri ar draws.] Mae angen i mi wneud rhywfaint o gynnydd yn awr.
Mr Neil Hamilton: Wel, mae'n amlwg fod Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn gorfod gofalu amdani ei hun, ac fe wnaiff, ond mae ein buddiannau'n digwydd cyd-daro yn yr enghraifft benodol hon. Bydd ein llaw yn gryfach gyda'r UE os byddwn wedi dod i gytundeb gyda'r Unol Daleithiau, ac mae digonedd o wledydd eraill yn ciwio i wneud y cytundebau hynny hefyd. Rwyf braidd yn siomedig felly nad yw Llywodraeth Boris...
Mr Neil Hamilton: Gwnaf.
Mr Neil Hamilton: Wel, rwy'n ofni bod yr Aelod—[Torri ar draws.] Rwy'n ofni bod yr Aelod yn camgymryd yn arw, oherwydd er mai chwip y Llywodraeth oeddwn i ar y pryd, treuliais gymaint o amser yn ceisio perswadio Teresa Gorman i bleidleisio dros y Llywodraeth nes i mi fethu'r bleidlais ei hun. [Chwerthin.] Ac felly fi oedd yr unig aelod o'r Llywodraeth na phleidleisiodd dros gytuniad Maastricht. Felly, rwy'n...
Mr Neil Hamilton: Wel, rwy'n codi i gefnogi'r cynnig a gafodd ei gyflwyno mor gadarn gan Darren Millar y prynhawn yma. Ac i mi, dydd Gwener fydd penllanw gwaith oes, gan i mi ymuno â'r gynghrair a wrthwynebai'r farchnad gyffredin ym mis Gorffennaf 1967 yn fachgen ysgol yn Rhydaman, a bu'n elfen sydd wedi rhedeg drwy fy holl fywyd gwleidyddol, sydd, fel y gŵyr yr Aelodau, wedi wynebu troeon annisgwyl yn...
Mr Neil Hamilton: —ei gyflwyno er gwaethaf canlyniadau ymgynghoriad y Llywodraeth ei hun. Felly, fy nghwestiwn i'r Gweinidog yw hwn: sut y gall Cymru wledig gael unrhyw ffydd yn y Llywodraeth hon y bydd, mewn gwirionedd, yn seilio ei pholisi ar dystiolaeth pan fydd yr holl dystiolaeth sydd gennym yn dangos ei bod yn gwneud y gwrthwyneb?
Mr Neil Hamilton: Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Yn y 12 mis hyd at fis Hydref 2019, lladdwyd 12,742 o wartheg. Dyna'r ffigur uchaf a gofnodwyd; mae'n cymharu â 917 yn unig yn ôl yn 1996. Clywais y Prif Weinidog, ychydig ddyddiau'n ôl, yn honni bod y cynnydd hwn yn nifer y gwartheg sy'n cael eu lladd yn arwydd mewn gwirionedd fod polisi'r Llywodraeth yn llwyddo. Yn bersonol, nid wyf yn gweld bod...
Mr Neil Hamilton: 8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen ddileu TB Llywodraeth Cymru? OAQ55003
Mr Neil Hamilton: Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Hoffwn godi achos etholaeth y gallai fod wedi'i weld. Roedd un o fy etholwyr yn teithio ar drên o Birmingham i Aberystwyth, a bu'n rhaid iddo fynd allan yn Amwythig oherwydd un methiant ar y rheilffordd o Amwythig i'r Trallwng, ond collodd y bws a ddarparwyd yn lle'r gwasanaeth y cysylltiad trên yn y Trallwng ac felly bu'n rhaid iddo barhau'r daith...
Mr Neil Hamilton: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Trafnidiaeth Cymru yn ymateb i unrhyw achosion o darfu ar reilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ54967
Mr Neil Hamilton: Wel, fe wnaethom ni gyflawni canlyniadau'r refferenda ym 1997 a 2011. Ac rwy'n berffaith hapus i weld y Blaid Lafur yn ymrwymo i fynd yn ôl i'r UE pan fyddwn wedi gadael; yr hyn nad oedd ganddi'r hawl foesol i'w wneud oedd ceisio rhwystro canlyniad y refferendwm cyn iddo gael ei gyflawni mewn gwirionedd. Mae'n safbwynt gwbl anrhydeddus i bleidiau eraill ddweud, 'Rydym yn well ein byd y tu...
Mr Neil Hamilton: Na. Nid wyf yn credu fy mod i am dreulio llawer o amser yn dadlau faint o angylion sy'n gallu dawnsio ar ben pin. Mae'r mathau hyn o weithgareddau academaidd o flaen yr Aelod ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr; sedd a gollwyd, wrth gwrs, yn etholiad San Steffan ychydig wythnosau yn ôl. Nid yw'n ymddangos bod y ffeithiau hyn wedi taro ar ymwybyddiaeth Aelodau Llafur, ac Aelodau Plaid Cymru o bosibl,...
Mr Neil Hamilton: Yn ei haraith angerddol yn gynharach, soniodd Lynne Neagle am y Bil hwn yn sathru ar ddemocratiaeth. Ond wrth gwrs, nid yw'n sathru ar ddemocratiaeth, mae'n cyflawni democratiaeth. Yn ystod y traethawd athrawiaethol yr ydym ni newydd wrando arno, cyfeiriodd Carwyn Jones at ddatganiad Arbroath i ddweud yng nghyfraith yr Alban fod sofraniaeth yn gorffwys yn nwylo'r bobl. Wel, penderfynodd y...