Baroness Mair Eluned Morgan: Ie, yn hollol, ac mae hynny'n digwydd eisoes. Felly, dyna pam ein bod wedi bod yn cynnal yr uwchgynadleddau hyn, sydd fwy neu lai wedi’u trefnu gan weithrediaeth y GIG, sydd ar ffurf gysgodol ar hyn o bryd. Ond roedd gennyf ddiddordeb mawr yn eich pwynt eich bod am inni ganolbwyntio ein holl bwerau gwario ar y materion sydd o bwys, sef datrys yr anghydfod cyflog. Mae llawer o'ch cyd-Aelodau...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Lywydd. Nid oeddwn yn siŵr beth oedd Plaid Cymru yn gobeithio'i gyflawni drwy wneud i Lywodraeth Cymru ddatgan argyfwng iechyd yng Nghymru, felly, rwy’n falch fy mod bellach yn ymwybodol o dri phrif bwynt yr hyn roeddech am inni ganolbwyntio arno, ac rwy'n ddiolchgar amdanynt. Felly, un ohonynt oedd helpu i ganolbwyntio ar ddod o hyd i ffyrdd arloesol o fynd i’r afael...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Carolyn. Yn sicr, rydyn ni'n ymwybodol iawn nad yw'n ymwneud â chyflog yn unig; mae llawer o faterion eraill yn ymwneud â hyn, a dyna pam roeddwn i'n falch iawn o fod wedi cael fy nghyflwyno â'r prosiect lles staff ddydd Llun, gan gynrychiolwyr y mudiad undebau llafur, dim ond yn nodi'r mathau o bethau yr hoffen nhw ein gweld ni'n ymdrin â nhw. Ac felly, yn amlwg, mi fydda...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Yn gyntaf oll, ar fater gweithwyr asiantaeth, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n rhoi hyn mewn cyd-destun. Felly, mae 65 y cant o'r hyn rydyn ni'n ei wario yn y GIG yn cael ei wario'n uniongyrchol ar staffio, ac, o hynny, mae tua 6 y cant yn cael ei wario ar weithwyr asiantaeth. Mae hynny'n ormod, ac mae angen i ni ei ostwng. Ond beth oedd yn glir i mi—. Fe...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Russell, a diolch am eich dealltwriaeth bod hon yn drafodaeth anodd iawn ac yn gyfnod anodd iawn i bawb sy'n gweithio yn y GIG. Fe wnaethoch chi ofyn am yr hyder ym mhroses y corff adolygu cyflogau. Rwy'n credu bod yna bethau all newid. Rwy'n amlwg yn awyddus iawn i glywed beth mae undebau'r GIG yn ei feddwl o ran yr hyn y gellid ei wella, ond un peth sy'n amlwg iawn i mi yw,...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn dilyn fy nghyfarfod ar 12 Ionawr gydag undebau llafur y GIG. Ysgrifennais at yr undebau ar 6 Ionawr cyn y cyfarfod, gan eu gwahodd i drafod pecyn o fesurau sydd â'r nod o ddod o hyd i ffordd o gynnig rhywfaint o dâl ychwanegol i'r gweithlu fel eu bod yn teimlo eu bod yn gallu dileu eu...
Baroness Mair Eluned Morgan: Dwi'n meddwl bod rhai o'r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud ar y llawr yma heddiw yn rhai sy'n bwysig i'w hystyried, yn arbennig, dwi'n meddwl, y ffaith, pan fydd hi'n anodd i hofrennydd gyrraedd rhywle bod angen mynd mewn cerbyd, ac mae hwnna lot yn fwy anodd mewn ardaloedd gwledig. Dwi'n siŵr bydd hynny hefyd yn cael ei ystyried yn ystod y drafodaeth a'r ymchwiliad a'r adolygiad yma....
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae pawb sy'n rhan o'r gwaith o gomisiynu a darparu'r gwasanaethau hanfodol hyn yn awyddus i wneud yn siŵr bod yr arian sydd ar gael iddyn nhw yn cael ei wario yn y ffordd orau posibl. Bydden nhw'n hoffi lleihau nifer y cleifion sydd ddim yn cael y gwasanaeth. Ar ben hynny, mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru eisiau gwneud y defnydd gorau o roddion y cyhoedd, ac mae wrthi ar hyn o bryd yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch, Lywydd, a diolch yn fawr am adael imi ymateb i'r ddadl wrthblaid hon. Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy mod yn cydnabod y bartneriaeth amhrisiadwy rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys Cymru, a elwir yn EMRTS, yn achub bywydau a gwella canlyniadau yng Nghymru. Mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth enfawr ar draws...
Baroness Mair Eluned Morgan: Yn ffurfiol.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cydnabod bod yr her staffio o ran gofal iechyd yn her fyd-eang, felly mae pobl ledled y byd yn chwilio am yr un bobl, yn enwedig pobl fel anesthetyddion. Felly, rydym ni mewn amgylchedd anodd a chystadleuol iawn. O ran buddsoddi yn y gogledd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn eich bod chi'n deall ein bod ni, mewn gwirionedd,...
Baroness Mair Eluned Morgan: Os yw'r cyfrifoldeb yn llwyr arnom ni ac mae yna ddisgwyl inni ofalu am bopeth, heb fod pobl yn cymryd cyfrifoldeb drostyn nhw eu hunain, dŷn ni ddim yn mynd i ymdopi. Os ŷch chi'n edrych ar y sefyllfa—[Torri ar draws.] Os ŷch chi'n edrych ar y sefyllfa o ran heneiddio yn y boblogaeth, fydd hi ddim yn bosibl yn y dyfodol inni roi'r ddarpariaeth sydd ei hangen. Felly, mae'n rhaid i ni...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Natasha, oherwydd rwy'n gwbl argyhoeddedig, os ydyn ni'n mynd i drawsnewid y ffordd rydyn ni'n darparu gofal, yn benodol, yna rydyn ni'n mynd i orfod dibynnu mwy ar dechnoleg, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynd i weld sut mae'r system Delta'n gweithio yn Hywel Dda wythnos nesaf. Felly, mae rhywfaint o'r dechnoleg hon eisoes yn cael ei defnyddio yn ein cymunedau, ac yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Diolch am hynny, achos rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod pobl yn deall, er bod yna rai enghreifftiau o bethau nad ydynt yn wych yn digwydd yn y GIG ar hyn o bryd, mae yna gannoedd ar filoedd o bethau gwych yn digwydd yn ein GIG ni hefyd, ac mae 376,000 o ymgyngoriadau'r mis yn ffigwr eithaf da; 400,000 o gysylltiadau mewn gwasanaethau meddygol cyffredinol mewn wythnos....
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Jest i'w wneud yn glir, beth rŷn ni'n ceisio'i wneud pan fo'n dod i GPs yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n deall bod yna lot o bobl sy'n gallu helpu, nid jest GPs. Felly, mae cynyddu'r niferoedd o bobl sy'n ffisiotherapyddion, sy'n fferyllwyr yn ein cymunedau ni, a mwy o advanced nurse practitioners—. Dwi'n gwybod bod enghreifftiau da iawn ym Mhen Llŷn, er enghraifft, o...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Wel, fel rwy'n dweud, rwy'n meddwl ein bod ni wedi dysgu llawer o wersi yn y gorffennol, a dyna pam y gwnaethom ni'r holl waith paratoi hwnnw llawer yn gynharach. Ac rwy'n credu y byddai'r sefyllfa wedi bod yn llawer gwaeth pe na fyddai'r canolfannau gofal sylfaenol brys ar gael i ni, pe na fyddai'r gwasanaeth 111 ar gael i ni, pe na fyddai'r SDEC ar gael i ni, pe na fyddai'r...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Wel, wrth gwrs, mae'n ddrwg iawn gen i glywed am yr achos unigol yna. Mae yna enghreifftiau lle mae pobl yn cael y gefnogaeth yn rhai o'n canolfannau gofal brys un diwrnod, lle maen nhw'n mynd i mewn, maen nhw'n cael apwyntiad, maen nhw'n gwybod pryd maen nhw'n mynd i mewn, maen nhw'n cael y cast ar yr un diwrnod. Mae'n ddrwg gen i nad yw hynny wedi digwydd yn yr achos hwn,...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Wel, rwy'n falch eich bod yn cydnabod bod llawer o bobl sy'n barod i'w rhyddhau. Mae'n ddiddorol iawn bod eich arweinydd yn dweud yn gynharach, 'A dweud y gwir, byddwch yn ofalus iawn ynghylch pryd rydych chi'n gofyn i bobl sy'n iach yn feddygol i'w rhyddhau adael.' Felly, mae'n ymwneud â risg, onid yw? Mae'n ymwneud â lle mae'r risg, a beth sy'n bwysig i ni yw ein bod ni'n...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Wel, mae hwn yn faes lle mae fy nghydweithiwr, Lynne Neagle, yn cymryd rhan flaenllaw o ran iechyd y cyhoedd. Wrth gwrs, mae gennym raglen o weithgarwch clir iawn—'Pwysau Iach: Cymru Iach'—lle rydyn ni'n ceisio annog pobl i sicrhau eu bod yn cymryd rhan, ac maen nhw'n deall beth yw bwyd iach a sut maen nhw'n ei ddefnyddio a sut maen nhw'n ei goginio. Rydyn ni wedi rhoi...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Dwi'n barod i roi rhestr ichi ynglŷn â ble yn union ŷn ni wedi ffeindio'r capasiti yna. Mae'r capasiti, wrth gwrs, yn ddibynnol ar ein gallu ni i gydweithio gyda llywodraeth leol yn yr ardal, felly dyna pam ŷn ni wedi bod yn gweithio gyda nhw yn ddiwyd, a gyda'r NHS yn yr ardal hefyd. Pan fo'n dod i step-down facilities, dwi'n meddwl yn gyffredinol mae'n well gan bobl gael...