Rebecca Evans: Rwy'n ddiolchgar iawn i Sam Rowlands am y cwestiynau a'r sylwadau yna. Rwy'n cysylltu fy hun yn llwyr â'i sylwadau agoriadol cychwynnol, a oedd ynghylch cydnabod a chymeradwyo ymdrechion pobl sy'n gwasanaethu bob dydd yn ein cymunedau fel cynghorwyr cymunedol, cynghorwyr tref, ac fel cynghorwyr sir hefyd. Rydym ni'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu holl waith.
Rebecca Evans: Diolch. Fel cynrychiolwyr etholedig, rydym ni mewn sefyllfa freintiedig. Mae'r bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu yn ymddiried ynom ni i wneud ein gorau glas drostynt. Ac er fy mod i'n sôn am lywodraeth leol heddiw, mae'r materion yn berthnasol i bob rhan o'n democratiaeth. Mae'r penderfyniadau y mae ein cynghorwyr yn eu gwneud yn cael effeithiau gwirioneddol ar ein cymunedau ledled Cymru. Mae...
Rebecca Evans: Hoffwn ddiolch yn fawr i'r Cadeirydd am y sylwadau hynny, a diolch hefyd i'r Cadeirydd a'r pwyllgor am edrych mor gyflym ar y rheoliadau ac ymdrin â nhw mor gyflym. Rwy'n ddiolchgar iddo am ei gydnabyddiaeth o'r cyd-destun penodol y gosodwyd y rheoliadau hyn ynddo. Diolch.
Rebecca Evans: Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022. Mae'r rheoliadau'n rhoi rhyddhad trosiannol i drethdalwyr gyda rhwymedigaethau uwch o ganlyniad i'r ailbrisiad ardrethu annomestig sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2023. Darperir rhyddhad mewn ffordd debyg i'r cynllun a ddefnyddiwyd gennym ni yn dilyn ailbrisiad 2017, ond gyda...
Rebecca Evans: Un o'r pethau rwy'n siomedig i beidio â gallu ei wneud yw gwneud dyraniadau cyfalaf sylweddol pellach. Roedd hynny'n destun gofid mawr, nad oedd cyfalaf pellach o ganlyniad i ddatganiad yr hydref. Bydd ein cyllideb gyfalaf 8.1 y cant yn is yn 2024-25 nag yn y flwyddyn bresennol. Ac, wrth gwrs, mae'r Sefydliad Dros Gydweithio a Datblygu Economaidd, Comisiwn Twf Economeg Llundain a Chomisiwn...
Rebecca Evans: Diolch, Llywydd, a diolch i bob cyd-Aelod am yr hyn a gredaf a fu'n gyfres adeiladol iawn o sylwadau a chynrychioliadau y prynhawn yma. Ac rwy'n gwybod, ar ôl i gyd-Aelodau gael cyfle i dreulio'r holl wybodaeth am y gyllideb, mae'n anochel y bydd llawer mwy o gwestiynau a sylwadau, felly rwy'n fwy na pharod i barhau â'r drafodaeth honno wrth i ni fwrw ymlaen i gyhoeddi'r gyllideb derfynol y...
Rebecca Evans: Rwy'n falch o wneud datganiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, a osodwyd y prynhawn yma. Mae hon yn gyllideb ddrafft sy'n wahanol i unrhyw un arall yr ydym ni wedi'i gosod ers dechrau datganoli. Mae wedi bod yn un o'r anoddaf a wnaethom ni erioed, gan adlewyrchu'r storm berffaith o bwysau economaidd a chyllidebol a wynebir yng Nghymru, ac nid ydym ni yn gyfrifol am...
Rebecca Evans: Hapus i fynd ymlaen i'r bleidlais.
Rebecca Evans: Diolch. Rwy'n cynnig y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ardrethi Annomestig (Personau y mae'n ofynnol iddynt Ddarparu Gwybodaeth a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2022. Mae'r rheoliadau yn diffinio trydydd partïon y gallai fod yn ofynnol gan awdurdodau lleol iddynt ddarparu gwybodaeth am eiddo annomestig a'r ffordd y ceir cyflwyno hysbysiad cysylltiedig. Bydd hyn yn cynorthwyo awdurdodau lleol...
Rebecca Evans: Mae rhaglenni ariannu presennol a newydd yr UE yn gorgyffwrdd dros ddwy flynedd, ac roedd Llywodraeth Cymru'n barod i ddechrau rhaglen fuddsoddi ôl-UE bron i ddwy flynedd yn ôl, ym mis Ionawr 2021, ac erbyn hynny, roeddem eisoes wedi gwneud gwaith dwys iawn gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a chyda'n partneriaid Cymreig ar greu'r model cryfaf posibl ar gyfer...
Rebecca Evans: Diolch. Rwy'n croesawu'r cynnig heddiw a hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ei waith ac am yr adroddiad ar drefniadau cyllido ôl-UE, ond hefyd i'r holl bartneriaid Cymreig sydd wedi dangos cymaint o ddiddordeb yn yr ymchwiliad yn ogystal a darparu tystiolaeth mor glir. Mae'n sicr yn gyfraniad amserol a phwysig i'r drafodaeth ar fater hollbwysig, gan fod dull Llywodraeth y DU o ymdrin â...
Rebecca Evans: Roeddwn yn falch o weld yr Aelod yn ein cynhadledd drethi, a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf. Rwy'n gobeithio iddo ei mwynhau gymaint ag y gwnes i. Roedd un o'r sesiynau a gynhaliwyd gyda chynrychiolwyr o'r Alban a Gogledd Iwerddon yn ddiddorol iawn, lle roeddent yn ystyried gwahanol risgiau a chyfleoedd y gwahanol fframweithiau cyllidol sydd gennym. Byddai datganoli'r trothwyon yn ein...
Rebecca Evans: Byddai datganoli trothwyon y dreth incwm yn cyflwyno cyfleoedd a risgiau, a byddem eisiau ystyried hyn fel rhan o'n strategaeth ehangach ar gyfer trethi datganoledig. Mae angen i Lywodraeth y DU ymgysylltu â ni i adolygu'r broses ar gyfer sicrhau bod rhagor o bwerau treth yn cael eu datganoli i Gymru.
Rebecca Evans: Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i weithredu ar yr argymhellion o'r adolygiad o'r partneriaethau strategol, a gytunwyd gan gyngor partneriaeth Cymru. Ond rydym o'r farn y dylai unrhyw newidiadau gael eu harwain yn lleol a'u llywio'n lleol. Rwy'n credu ein bod wedi gweld enghraifft dda o hynny yn y ffordd y mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yng Ngwent wedi dod at ei gilydd a gweithredu fel un ôl...
Rebecca Evans: Mae datganiad yr hydref yn cynyddu'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus. Mae'r arian sy'n cael ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei dorri mewn termau real, gan gyfyngu ar eu hadnoddau hyd yn oed ymhellach. Mae hyn yn gwneud gwaith byrddau gwasanaethau cyhoeddus i wella llesiant eu cymunedau yn heriol, ond yn bwysicach nag erioed.
Rebecca Evans: Hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth gyd-Aelodau yn gynharach mewn perthynas â thrafodaethau rwyf wedi bod yn eu cael gyda llywodraeth leol, maent yn llwyr gydnabod yr angen i ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn hynny eleni i reoli rhai o'r pwysau, a'r flwyddyn nesaf hefyd. A bod yn onest, rwy'n teimlo rhyddhad fod awdurdodau lleol mewn sefyllfa ariannol well i wynebu'r cyfnod anodd sydd...
Rebecca Evans: Rwyf wedi trafod cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol gydag arweinwyr fel rhan o'n trafodaethau parhaus ar bwysau a chyllid. Mae pob arweinydd wedi pwysleisio eu bod eisoes yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i reoli eu pwysau presennol a'u bod yn disgwyl y bydd yn rhaid iddynt barhau i wneud hynny y flwyddyn nesaf.
Rebecca Evans: Yn hollol, ac mae hynny'n rhywbeth roeddem yn pwyso ar Lywodraeth y DU i'w ddarparu cyn datganiad yr hydref a chyn y gyllideb cyn honno, mewn gwirionedd. Ond o ran trafodaethau gyda chwmnïau ynni, mae'r rheini'n tueddu i ddigwydd rhwng y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd; hwy fydd yn cael y trafodaethau uniongyrchol gyda'r cwmnïau ynni hynny. Efallai y gallwn...
Rebecca Evans: Wel, nid wyf am achub y blaen ar ganlyniad y trafodaethau cyllidebol parhaus sy'n digwydd yn gyffredinol ar hyn o bryd, ond rwyf am ddweud bod y pwysau ar addysg, fel y disgrifiodd yr Aelod, wedi cael ei ddwyn i sylw Llywodraeth Cymru yn amlwg iawn gan gydweithwyr llywodraeth leol, ac mae fy nghyd-Aelod, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, bob amser yn cyflwyno achos cadarn iawn dros ysgolion ac...
Rebecca Evans: Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr: mae angen i Lywodraeth y DU fod yn defnyddio ei holl ddylanwad ar y cwmnïau ynni i leihau effaith yr argyfwng costau byw ar y bobl fwyaf agored i niwed. Ac i dawelu meddwl yr Aelod—a gallwn glywed llawer o gefnogaeth i'r hyn a ddywedodd gan eraill yn y Siambr—fe gyfarfu'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol â chyflenwyr ynni yn gynharach yn y mis, ac fe wnaeth...