Angela Burns: Yn ffurfiol, Llywydd.
Angela Burns: Ni ddywedais i, ar unrhyw adeg yn ystod fy nghyfraniadau, na ddylen nhw fod yn annibynnol ar Bowys. Nid wyf yn credu ei fod yn rheswm sylfaenol dros wneud y newidiadau hyn i'r corff llais y dinesydd. Fy marn bersonol i yw y gellid dehongli llawer o'r newidiadau i'r corff llais y dinesydd—yn wir, rwyf i yn eu dehongli—fel ymgais i'w ffrwyno: gadewch i ni geisio cael eu cefnogaeth. Rwyf i'n...
Angela Burns: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gadewch i mi ymdrin â hyn drwy ddewis ychydig o ddarnau bychain ohono. Mae arnaf eisiau dileu'r ddadl 'cynhelir gan Bowys', oherwydd rwy'n credu, a dweud y gwir, fod hynny'n anonest; taflu llwch i'r llygaid, os mynnwch chi. Nid oes gan Bowys unrhyw ysbytai—[Torri ar draws.] Nid wyf wedi gorffen fy mrawddeg, Kirsty Williams, rwy'n gwybod eich bod yn hoffi...
Angela Burns: Diolch, Llywydd. Hoffwn i gynnig gwelliannau 40, 19 ac 20 yn ffurfiol. Daw hyn i hanfod, i galon, y corff llais y dinesydd. Os siaradwch chi â dinasyddion, maen nhw eisiau corff llais, maen nhw eisiau bod â chorff cynrychioliadol sy'n lleol iddyn nhw, sy'n deall eu materion lleol, sy'n deall eu bwrdd iechyd lleol, rhywun y gallan nhw fynd ato'n rhwydd—ac, wrth gwrs, nid byrddau iechyd yn...
Angela Burns: Dim ond i ddweud bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r gwelliant hwn.
Angela Burns: Yn ffurfiol, Llywydd.
Angela Burns: Pwynt ardderchog, Helen Mary, ac wedi ei fynegi'n dda. Mae angen i ni sicrhau y gall y corff hwn wneud yr hyn y mae i fod i'w wneud. Nid ydym ni eisiau iddo gael ei lesteirio gan ddiffyg cyllid. Nid ydym ni eisiau iddo, yn y blynyddoedd i ddod, ddioddef marwolaeth araf yn sgil mil o doriadau. Mae e yma i gynrychioli'r dinesydd. Dyma eu hunig gwir lais sy'n perthyn iddyn nhw. Mae angen i chi...
Angela Burns: O diar, o diar, Llywydd, ni wnaeth imi heb a dweud mwy, rwy'n credu. Gwnaeth Rhun ap Iorwerth bwynt da iawn am y ffaith mai'r mathau hyn o gyrff yn aml yw'r rhai cyntaf i golli eu cyllid pan fydd pethau'n gwasgu, ac, yn y bôn, rheswm y Gweinidog dros beidio â dymuno sicrhau hynny—. Na, dywedodd Rhun ap Iorwerth hynny. Prif achos y Gweinidog dros beidio â gwneud yn siŵr bod digon o...
Angela Burns: Diolch, Llywydd. Cynigiaf welliannau 57 a 58 yn ffurfiol, a gyflwynwyd yn fy enw i. Mae hyn yn ymwneud â'r ddyletswydd i sicrhau adnoddau digonol, ac mae'r gwelliannau'n gofyn i Weinidogion Cymru sicrhau y darperir yr adnoddau digonol hynny ar gyfer y corff llais y dinesydd. Mae'r gwelliannau hyn wedi'u dwyn ymlaen o Gyfnod 2, gan fod y Gweinidog wedi dweud eu bod yn neilltuo adnoddau...
Angela Burns: Mae'r ffaith eich bod yn gwrthod y gwelliant hwn, Gweinidog yn broblem fawr imi. Yr hyn yr ydym yn ei ofyn yw, rydym yn gofyn i wirfoddolwyr, pobl sydd â rhywfaint o brofiad o ymdrin â sefydliadau mawr, ddod i wirfoddoli ar gyfer corff llais y dinesydd, a siarad ar ran y dinasyddion y maen nhw'n eu cynrychioli. Yn y bôn, ffordd arall o ddweud hyn yw eu bod yn dweud y gwirionedd wrth y rhai...
Angela Burns: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Hoffwn gynnig gwelliant 55 yn ffurfiol ynghylch yswiriant indemniad. Mae'n uchelgais llwyr, y mae'n briodol imi ei chefnogi, y dylai Llywodraeth Cymru gynyddu nifer y gwirfoddolwyr sy'n cofrestru i gefnogi a rhedeg ac i fod yn rhan o gorff llais y dinesydd. Fodd bynnag, rhaid inni hefyd fod yn barod i'w hamddiffyn. Byddai bod yn rhan o achosion llys yn ddiangen...
Angela Burns: Yn ffurfiol, Llywydd.
Angela Burns: Yn ffurfiol, Llywydd.
Angela Burns: Hoffwn wneud y pwynt fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi dadlau ers amser maith y dylai pob un o'n comisiynwyr gael eu penodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Angela Burns: Diolch yn fawr, Llywydd. Am syndod. A bod yn onest, rydym bellach wedi dod at wraidd y darn hwn o ddeddfwriaeth o ran corff llais y dinesydd. Mae ein cynghorau iechyd cymuned presennol yn sefydliadau eithriadol. Mae rhai ohonynt yn hollol ragorol yn y gwaith a wnânt. Mae rhai ohonynt wedi mynd allan yno ac wedi datgelu problemau gwirioneddol, wedi tynnu sylw atynt, wedi mynd i'r afael â...
Angela Burns: Nid wyf yn credu y gallwn anghytuno â chi'n fwy, mewn gwirionedd, Gweinidog. Flynyddoedd lawer yn ôl, gweithiais i arweinydd busnes doeth iawn a ddywedodd na fyddai byth yn fy niswyddo am wneud camgymeriad, ond byddai'n fy niswyddo am fethu â chymryd cyfrifoldeb am y camgymeriad; a dyma sydd gennym yma. Gadewch imi eich atgoffa am y sefyllfa ar hyn o bryd, oherwydd dyma'r gwelliannau olaf...
Angela Burns: Diolch, Llywydd. Hoffwn gynnig gwelliant 39, a gyflwynwyd yn fy enw i, yn ffurfiol. Mae'r gwelliant hwn, 39, yn unol ag argymhelliad 9 y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yng Nghyfnod 1, a argymhellodd fod y Gweinidog yn gwneud darpariaeth benodol ar gyfer goblygiadau diffyg cydymffurfio â dyletswydd gonestrwydd—gyda'r ddyletswydd didwylledd, uniondeb, gwirionedd. Cyflwynwyd...
Angela Burns: Yn ffurfiol, Llywydd.
Angela Burns: Diolch, Llywydd. Y cyfan a ddywedaf yw fy mod i'n anghytuno'n llwyr â'r Gweinidog. Fel yr amlinellais, mae cymaint sy'n digwydd yn y GIG, mae cymaint o ddatblygiadau, mae cymaint o newidiadau ym mhroffil y claf, mae angen i'n safonau gael eu gweithredu ar sail reolaidd iawn. Ac, unwaith eto, byddaf yn atgoffa pawb ein bod bob amser yn sôn am wrando ar y clinigwyr, gwneud yr hyn sydd orau yn...
Angela Burns: Diolch, Llywydd. Cynigiaf yn ffurfiol y gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i. Mae'r gwelliannau hyn yn ystyried pryderon y Gweinidog yng Nghyfnod 2 am oblygiadau ymestyn lefelau staffio diogel i'r holl staff clinigol. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi datgan, ym marn y pwyllgor, 'mae’n amhosibl gwahanu materion sy’n ymwneud...