Mike Hedges: Diolch am eich haelioni, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn innau hefyd ddiolch i John Griffiths am roi munud i mi yn y ddadl hon. Yn draddodiadol, mae dau lwybr cyfreithlon allan o dlodi. Un ohonynt yw drwy ddawn yn y byd chwaraeon a'r llall yw drwy addysg, ond nid yw'r byd addysg yn cynnig cyfle cyfartal, ac mae wedi mynd yn llai cyfartal wrth i dechnoleg ddatblygu. Gallwn ddefnyddio pob llyfr a oedd...
Mike Hedges: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu hawliau'r gymuned fyddar?
Mike Hedges: Y 'super Swans'. [Chwerthin.]
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am roi munud imi yn y ddadl hon? Rwy'n falch iawn o weld Cymru'n cyrraedd rowndiau terfynol cwpan y byd, ond mae pêl-droedwyr yn dechrau chwarae pan fyddant yn yr ysgol gynradd, fel arfer yn eu hysgol a'r clwb lleol. Heb yr athrawon sy'n rhoi o'u hamser a'r rhai sy'n hyfforddi ac yn rhedeg timau pêl-droed iau, ni fyddai gennym dîm cenedlaethol llwyddiannus....
Mike Hedges: Diolch, Mark Isherwood, am wneud y datganiad hwn yn y Senedd heddiw. Credaf ei bod yn bwysig fod materion o’r fath yn cael eu trafod yn gyhoeddus gerbron y Senedd. Mae’r pwyllgor cyfrifon cyhoeddus wedi craffu ar gyfrifon nifer o wahanol sefydliadau cyhoeddus yn flynyddol ers blynyddoedd lawer. Mae'r gwaith yn bwysig iawn, er nad yw fel arfer yn hawlio sylw'r penawdau. Mae'r gwaith hwn...
Mike Hedges: Rwy’n siarad fel rhywun sy’n cefnogi datganoli’n gryf, ac rwy’n falch iawn fod pwerau wedi’u datganoli i ddinasoedd mawr Lloegr. Ond a yw’r Gweinidog yn cytuno â mi nad yw datganoli anghymesur yn gweithio, fod uchafiaeth San Steffan yn golygu y gall ddiystyru cyfraith Cymru yn ogystal ag ymyrryd â chyfraith Cymru, fod arnom angen setliad datganoli yr ydym yn cytuno arno, gyda...
Mike Hedges: Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Fel llawer o Aelodau'r Senedd, roeddwn yn frwd fy nghefnogaeth i gyflwyno'r fersiwn Gymreig o gyfraith Lucy, a gyflwynwyd gennych yn y Senedd ddiwethaf. Rwyf fi, fel llawer o'r Aelodau yma, yn cefnogi'r ymgyrch Justice for Reggie, sy'n galw am reoleiddio gwerthiant cŵn ar-lein, gyda rheoleiddio pob gwefan lle y caiff anifeiliaid eu gwerthu, er mwyn ei...
Mike Hedges: 6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd deddfwriaeth Cymru o ran diogelu cŵn? OQ58244
Mike Hedges: Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr. Rwyf i a fy etholwyr hefyd yn siomedig bod Llywodraeth y DU wedi dewis mynd ar drywydd ei haddewidion diogelwch adeiladu ar sail Lloegr yn unig. Onid oeddem ni'n arfer cael llawer o femoranda cydsyniad deddfwriaethol ganddyn nhw? Mae gennyf i ddwy ardal yn fy etholaeth sydd ag adeiladau wedi'u heffeithio. Rwy'n cytuno â'r egwyddor y dylai datblygwyr...
Mike Hedges: Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar lygredd. Yn Nwyrain Abertawe, mae Afon Tawe yn dioddef o garthion sy'n cael eu rhyddhau'n rheolaidd o orsaf bwmpio Trebannws. Ymhellach i mewn i'r etholaeth, mae gennym blastig yn cael ei losgi oddi ar wifren a'r llygredd sy'n gysylltiedig â hynny. Mae gennym blaladdwyr sy'n llygru pridd ac afonydd. Yn olaf, mae gennym ocsidiau nitrogen a...
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw? Yn rhy aml, mae'r unig drafodaeth ar ofal cymdeithasol yn ymwneud â'i effaith ar ryddhau cleifion o'r ysbyty. Mae'n bwysicach o lawer na hynny; mae gofal cymdeithasol yn bwysig nid yn unig ar gyfer rhyddhau cleifion o'r ysbyty, ond ansawdd bywyd y bobl sy'n ei dderbyn, ac os caf fi ddweud, mae'n ymwneud ag atal pobl rhag gorfod mynd i'r...
Mike Hedges: 2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y prinder gweithwyr cymorth gofal yng Nghymru? OQ58157
Mike Hedges: Rwy'n diolch i'r Gweinidog am roi'r datganiad hwn gerbron heddiw. Busnes costus iawn yw bod yn dlawd. Rydych chi'n talu mwy am ynni gyda thalebau rhagdalu, rydych chi'n fwy tebygol o fyw mewn tŷ sydd ag inswleiddio gwael iawn, rydych chi'n mynd i'r gwely yn gynnar i osgoi costau gwresogi, ac yn y gaeaf rydych chi'n deffro i weld rhew o'ch anadl chi ar y tu mewn i'ch ffenestri chi. Mae rhent...
Mike Hedges: Yn gyntaf, rwy'n gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar yr arholiadau Safon Uwch, UG a TGAU eleni, ac yn arbennig, TGAU Cymraeg ail iaith; TGAU Ffrangeg, a oedd yn cynnwys cwestiwn ar bwnc y cafodd ysgolion wybod ei fod wedi ei ddileu; Safon UG mathemateg bur; Safon Uwch ffiseg, y cafodd yr athrawon wybod na fydden nhw'n synoptig, ond yr oedden nhw'n synoptig; a Safon UG cemeg, lle'r...
Mike Hedges: Hoffwn ddiolch i Rhys ab Owen am gyflwyno’r cwestiwn amserol hwn gan y credaf ei fod yn fater gwirioneddol bwysig. Rwy’n siomedig iawn, ond nid wyf am ddweud fy mod yn synnu, fod dyddiad gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi’i ohirio. A wnaiff y Gweinidog gynhyrchu cod gwirfoddol gan gynnwys gweithredu cap rhenti nes y bydd y Ddeddf yn weithredol? Mae gan landlordiaid...
Mike Hedges: Ydw.
Mike Hedges: Yng nghynllun pensiwn yr Aelodau, gwneir penderfyniadau gan yr ymddiriedolwyr pensiwn yn dilyn cyngor proffesiynol. Y cynrychiolwyr presennol ar y bwrdd ymddiriedolwyr pensiwn yw Nick Ramsay a minnau, yn cynrychioli'r Aelodau, ac yn amlwg, byddwn yn hapus i ateb cwestiynau ar gynllun yr Aelodau gan unrhyw Aelod sy'n dymuno eu codi. Mae gan y Comisiwn ddau gynrychiolydd ar gynllun pensiwn yr...
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch ichi, Weinidog? Mae’r rhan fwyaf o bobl hŷn ar incwm sefydlog o bensiwn y wladwriaeth, pensiynau preifat a’r pensiwn atodol. Wrth i chwyddiant godi, ac ynni a bwyd yn arbennig yn bethau sy’n effeithio’n anghymesur ar bobl hŷn, a yw’r Gweinidog yn cytuno â mi fod angen cymorth ychwanegol a chynyddu'r pensiwn atodol, ac a wnaiff y Gweinidog bwyso ar Lywodraeth San...
Mike Hedges: 4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y gyfradd chwyddiant bresennol ar bobl hŷn yng Nghymru? OQ58138
Mike Hedges: Rwyf i'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog yn fawr iawn. Mae caffael yn un o'r dulliau mwyaf pwerus sydd gan Lywodraeth Cymru wrth benderfynu ar y math o Gymru y byddwn ni'n ei gael. Mae rhaglen gaffael fawr iawn, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru, ond gan y sector cyhoeddus cyfan a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys iechyd a llywodraeth leol. Rwyf i, fel llawer o Aelodau yn y fan...