Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Suzy Davies: Yr eitem nesaf yw eitem 11, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Tân, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Hannah Blythyn.
Suzy Davies: Gweinidog, a gaf i ofyn i chi ddod â'ch sylwadau i ben? Rydym ni ychydig dros amser. Diolch.
Suzy Davies: Diolch yn fawr i bawb. Galwaf nesaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, i ymateb i'r ddadl.
Suzy Davies: Diolch yn fawr, a nesaf galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Suzy Davies: Diolch yn fawr. Galwaf nawr ar Jenny Rathbone i siarad ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Jenny Rathbone.
Suzy Davies: Byddwn ni'n parhau â gweddill yr agenda heddiw, a dechreuaf drwy alw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.
Suzy Davies: Diolch, Llywydd. Diolch yn fawr iawn i chi, Gweinidog, am eich datganiad chi hefyd. Mae cryn dipyn ynddo, ac rwy'n siŵr na fyddaf i'n gallu ymdrin â phopeth yn llawn heddiw. A gaf i eich llongyfarch hefyd am allu rhoi'r datganiad hwn ar yr agenda o fewn oriau i'r adroddiad gael ei ryddhau o'r gwaharddiad? Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n defnyddio eich galluoedd dewiniol chi gyda...
Suzy Davies: Yn amlwg, cafodd ei gyhoeddi ar ôl i mi gyflwyno fy nghwestiwn. Ond rwy'n credu bod angen rhywfaint o eglurhad arnom ni, i fyfyrwyr yn benodol, ond nid yn unig, am y gwahaniaeth rhwng tai amlfeddiannaeth, sy'n dai â chyfleusterau a rennir ond tenantiaethau unigol, a thai a rennir— ffrindiau'n rhannu llety, os hoffech chi. Oherwydd, beth bynnag yw'r agweddau cyfreithiol, bydd y ddau grŵp...
Suzy Davies: 9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyngor COVID-19 a roddir i drigolion mewn tai amlfeddiannaeth? OQ55630
Suzy Davies: Diolch. Mae honno’n neges dda a chryf i brifysgolion, felly rwy'n sicr yn gobeithio eu bod yn ei chlywed, oherwydd ar ryw adeg, wrth gwrs, byddwn yn craffu arnoch mewn perthynas â gwariant y £27 miliwn hwnnw, ac rwy'n siŵr y byddwch am gael y sicrwydd hwnnw yn yr adroddiadau a gewch yn ôl gan brifysgolion maes o law. Ar fater cysylltiedig—fe fyddwch yn ymwybodol o hyn—mynegwyd...
Suzy Davies: Diolch. Credaf y byddai'n ddefnyddiol hefyd pe bai colegau mewn ardal benodol yn barod i siarad â rhai o'r penaethiaid mewn ysgolion yn eu hardal ynglŷn â rhai o'r syniadau da y maent wedi'u cael. Mae addysg bellach ac addysg uwch wedi derbyn dros £20 miliwn yr un o bot COVID Llywodraeth Cymru, er gwaethaf y bwlch cyllido a ragwelir o fwy na £400 miliwn ar gyfer addysg uwch. Nodwyd...
Suzy Davies: Sori am hynny.
Suzy Davies: Ie, Weinidog, roeddwn yn gwrando ar eich ymateb i Jayne Bryant a'r sylw hwnnw nad yw ysgolion a cholegau yn fectorau ar gyfer lledaeniad COVID. Serch hynny, rydym wedi gweld niferoedd sylweddol yn cael eu hanfon adref o rai ysgolion—200 mewn un achos, dros 400 mewn un arall. Rydych yn dweud eich bod yn monitro'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, ond a ydych wedi dysgu unrhyw beth eto ynglŷn...
Suzy Davies: Diolch. Rwyf ond yn codi'r pwynt na chysylltwyd â rhai yn y sector tan yr wythnos hon, er gwaethaf casgliadau’r adolygiad, sydd i fod i gael eu cyhoeddi erbyn diwedd mis Hydref, felly nid wyf yn siŵr pryd y mae'r un interim i fod i gael ei gyhoeddi. Mae'r hyn a ddywedant yn bwysig os yw’r paratoadau ar gyfer yr haf yn mynd i fod yn ymarferol. Mae grŵp rhanddeiliaid haf 2021 Cymwysterau...
Suzy Davies: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt yr adolygiad annibynnol o'r trefniadau ar gyfer dyfarnu graddau yn haf 2020, a'r ystyriaethau ar gyfer haf 2021? OQ55603
Suzy Davies: Diolch, Gweinidog, am eich sylwadau agoriadol, a diolch i Mick Antoniw hefyd—rwy'n credu bod y pwyntiau hynny wedi'u gwneud yn dda. Unwaith eto, rwy'n tybio, Gweinidog, eich bod yn cyflwyno'r rheoliadau hyn i sicrhau nad yw staff mewn ysgolion yn torri'r gyfraith, ac, o gofio eich bod eisoes wedi dweud nad yw hyn yn negyddu'r angen i staff ysgol wneud eu gorau glas er mwyn cyflwyno'r...
Suzy Davies: O, mae'n ddrwg gen i.
Suzy Davies: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae fy holl ranbarth dan gyfyngiadau symud bellach, felly byddant yn ddiolchgar iawn o glywed am y £60 miliwn yr ydych yn cyfeirio ato. Ond mae gen i rai cwestiynau penodol iawn gan y sector twristiaeth, ac rydych chi eisoes wedi ateb y cyntaf ohonynt. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i chi am eich ateb i Helen Mary Jones na fydd o reidrwydd angen i'r busnesau...